Annwyl Aelodau’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Prifysgol Aberystwyth
Ysgrifennwn atoch i’ch annog i dderbyn adroddiad Bwrdd Prosiect Pantycelyn.
Mae Neuadd Pantycelyn yn ganolbwynt i gymuned Cymraeg y Brifysgol, ac mae ei heffaith dros y blynyddoedd wedi bod yn un trawsnewidiol. Trwy gynnal cymuned Gymraeg ei hiaith yn gymdeithasol a thrwy weithgareddau diwylliannol Cymraeg yn yr adeilad, mae Neuadd Pantycelyn wedi denu myfyrwyr i Brifysgol Aberystwyth. Mae wedi magu hyder siaradwyr Cymraeg, galluogi pobl o du allan i Gymru i ddysgu Cymraeg, cynnal cymuned Cymraeg hyfyw ac wedi galluogi mwy o fyfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg, a’u galluogi i ryngweithio.
Yn ddiweddar, rydym wedi gweld y diwylliant Cymraeg a nifer y myfyrwyr Cymraeg yn disgyn, sydd yn drychineb cenedlaethol. Mae’r niferoedd o fyfyrwyr sydd yn ymaelodi ag UMCA, a’r nifer o fyfyrwyr sy’n mynychu digwyddiadau Cymraeg wedi disgyn yn aruthrol ers cau Pantycelyn.
Hefyd, roedd Pantycelyn yn cynyddu’r nifer o fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg. Mae’r ffigyrau swyddogol yn dangos mai Pantycelyn yn annog mwy o fyfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â denu myfyrwyr Cymraeg i’r Brifysgol. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dod a llawer o arian mewn i’r Brifysgol. Yn sicr, mae angen gwrthdroi hyn.
Gan hynny, mae’n hollbwysig i’r Brifysgol buddsoddi mewn Pantycelyn yn fuan, gan ei hail-agor, er mwyn iddi gynnal diwylliant hyfyw Cymraeg unwaith eto.
Er ein bod yn awyddus i weld y cynlluniau yn cael eu mabwysiadu, rydym yn pryderu am gost y llety. Mae’r rhent yn ymddangos yn uchel, ac mae eisiau sicrhau bod yr holl fyfyrwyr Cymraeg yn gallu aros yno. Mae hyn ond yn fater o gyfartaledd ariannol, yn enwedig gan fod Pantycelyn wedi bod gyda’r rhataf o neuaddau preswyl y Brifysgol dros y blynyddoedd.
Yn fwy na hynny rydyn ni’n cael ar ddeall fod ffigyrau gweddol isel o fyfyrwyr Cymraeg wedi dewis byw ar Fferm Penglais er bod llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg, a bod hynny oherwydd y gost.
Dydyn ni ddim am weld myfyrwyr yn cael eu prisio allan o unrhyw lety felly mi fyddem ni yn gwerthfawrogi ymroddiad i gadw cost byw ym Mhantycelyn yn fforddiadwy. O safbwynt ymarferol, rydym yn ystyried fod rhai o’r costau yn adroddiad Lawrays yn ymddangos yn uchel o gymharu â’n disgwyliadau, ac mae mwy nag un swm o arian wrth gefn. Os oes arian ar ôl felly, gofynnwn fod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio er mwyn lleihau’r rhent?
Ond mae adnewyddu Neuadd Pantycelyn yn bwysig iawn, ac rydym yn eich annog i dderbyn argymhellion y bwrdd prosiect. Wrth ystyried yr uchod, rydym yn gobeithio y byddech yn cefnogi’r cynlluniau i ail-agor Neuadd Pantycelyn erbyn Medi 2019.
Diolch yn fawr iawn
Cell Pantycelyn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg