Llythyr at Gynghorwyr Caerdydd - Y Cynllun Datblygu Lleol a'r Gymraeg

Annwyl Gynghorydd,

Ysgrifennwn atoch chi ynglŷn â’r bleidlais dros y Cynllun Datblygu Lleol gan Gyngor Caerdydd ddydd Iau yma, 28ain Ionawr.

Gofynnwn i chi bleidleisio yn erbyn y Cynllun oni cheir cadarnhad gan fwrdd gweithredol y cyngor eu bod am fabwysiadu atodlen ynghylch y Gymraeg a chynllunio yn y ddinas sy’n mynd i’r afael â sut y gall y Cynllun Datblygu Lleol gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn lleol, nawr ac yn y dyfodol.

Wedi darllen y Cynllun, mae’n amlwg i ni fod y meddylfryd yn parhau fod y Gymraeg ddim yn rhan bwysig o fywyd a “gwead cymdeithasol” Caerdydd. Er bod ambell i fan newid i eiriad y Cynllun Datblygu Lleol, nad oes newid o ran ei sylwedd: nid oes yr un rhan ohono a fyddai’n arwain at gamau ychwanegol i hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy’r gyfundrefn gynllunio yn y brifddinas.

Dadleuwn nad yw’r Arolygydd wedi cyflawni ei ddyletswydd mewn ffordd foddhaol chwaith. Nid yw wedi cymryd i ystyriaeth y newidiadau cyfreithiol a ddaeth i rym yn ddiweddar drwy’r Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n cryfhau statws y Gymraeg.

Credwn y dylai fod atodlen sy’n amlinellu sut y bydd y system gynllunio yn y sir yn cyfrannu at gryfhau cyflwr y Gymraeg.  Mae nifer o bethau all fod yn rhan o atodlen o’r fath - o enwau lleoedd Cymraeg  i sicrhau bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan o ddatblygiadau tai, a diwallu anghenion lleol am dai - buasai aelodau o’r Gymdeithas yn hapus i gyfrannu at y broses o lunio atodlen o’r fath.

Yn ein cyfarfod gyda’r Arweinydd Phil Bale ar y 27ain Hydref 2015 yr oedd yn agored i’r syniad o greu atodlen ac o gydweithio gydag aelodau a swyddogion y Gymdeithas i gyflawni hyn. Hoffwn i chi ymwrthod a’r Cynllun Datblygu Lleol heb sicrwydd y bydd yr atodlen yma yn cael ei lunio dros y misoedd nesaf.

Mae Caerdydd yn cael ei drawsnewid o flaen ein llygaid, o’r ‘Central Square’ i’r ‘Tramshed’, i’r degau ar filoedd o dai newydd. Mae mabwysiadu atodlen i’r Cynllun Datblygu yn cynnig cyfle i roi sylw mwy teilwng i’r iaith yn ein prifddinas.

Yn gywir,

Carl Morris,

Cadeirydd, Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg