Annwyl John Whittingdale AS,
Yn dilyn ein llythyr ar 6ed Gorffennaf, ysgrifennwn atoch eto yn dilyn eich sylwadau wrth ymateb i gwestiwn brys yn San Steffan. Nid yw’n ‘rhesymol’ mewn unrhyw ffordd i gwtogi ar gyllideb S4C, yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Mae’r sianel eisoes wedi dioddef toriadau sy’n peryglu ei bodolaeth fel darlledwr annibynnol. Rydych yn dadlau y dylai S4C ysgwyddo'r toriadau yn yr un ffordd â'r BBC, ond mae’n rhaid i chi dderbyn nad yr un yw natur toriadau i S4C - mae’r sianel wedi dioddef cwtogiadau o oddeutu 40% i’w chyllideb eisoes, gyda’r Llywodraeth yn arbed 93% o’r hyn oedd yn arfer ei gwario - ymhell tu hwnt i’r hyn rydych yn ei ystyried gyda’r BBC. Mae'r gymhariaeth felly’n un annheg a thwyllodrus.
Cawsom ymateb i’n gohebiaeth ddiweddar, gan eich Gweinidog yn Swyddfa Cymru Alun Cairns AS, yn awgrymu y byddai’r holl faterion hyn yn cael eu trafod yn agored ar yr un pryd ag ymgynghoriad ar adnewyddu siarter y BBC. Ar 25ain Mehefin 2015, dywedodd y Gweinidog Mr Cairns hynny wrthym yn gwbl glir:
“Fel rhan o'r adolygiad gwariant diwethaf, cytunodd y Llywodraeth y dylid ystyried darlledu ieithoedd lleiafrifol fel rhan o’r adolygiad o’r Siarter sydd ar y gweill. Byddwn yn eich annog i gyflwyno sylwadau cynnar i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, cyn gynted ag y bydd y broses o adolygu’r Siarter yn cychwyn.”
Gawn ni ofyn felly ai dyna yw polisi Llywodraeth Prydain o hyd? Mae eich sylwadau ddoe yn awgrymu eich bod wedi dod i gytundeb sy’n cynnig gwneud toriadau pellach i S4C heb unrhyw ymgynghoriad o gwbl.
Cafodd proses penderfynu tebyg yn ôl yn 2010 ei beirniadu’n hallt gan bob plaid - a oes unrhywbeth wedi ei dysgu? Rydym yn condemnio’n llwyr y broses rydych wedi ei defnyddio i ddod i’r cytundeb hwn, heb ymgynghori ag S4C, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru na phobl Cymru’n fwy cyffredinol.
Mae’n cadarnhau unwaith eto nad yw’r Gymraeg o unrhyw bwys o gwbl i’ch Llywodraeth. Yn wir, rydych yn trin S4C ac felly'r Gymraeg a phobl Cymru gyda dirmyg. Nid mater o danseilio yw hwn, ond mater o anwybyddu: mae’n debyg bod y Gymraeg yn hollol amherthnasol i'ch Llywodraeth.
Ymhellach, ym mis Chwefror 2015, fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, fe feirniadoch chi’r BBC yn yr adroddiad “Future of the BBC” am beidio â mynnu ymgynghoriad llawn:
“We were surprised in 2010 that the BBC Trust did not hold its ground and insist on more time and some consultation about the settlement instead of agreeing to the Government’s demands…”
Ychwanegodd y Pwyllgor, o dan eich cadeiryddiaeth, y dylai:
“The process for agreeing the future shape, funding and constitution of the BBC must be as thorough, open and democratic as possible. For this to happen, we recommend that the Government seek cross-party support for establishing an independent review panel now on the 2017 Charter, along the same lines as the previous Burns’ model, led by a figure similar to Lord Burns, so that the vital preparatory work and research to inform Charter Review can begin without further delay...”
Mae’n ymddangos bod nifer o’ch sylwadau yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o natur S4C, sydd, yn gyfreithiol, yn sianel deledu’n unig a ddim yn cynnig ystyr mor eang o wasanaethau â’r BBC. Roedd sylwadau o’ch ochr o’r Siambr ddoe yn awgrymu bod gwasanaethau ar-lein y BBC yn rhy uchelgeisiol a bod lle i ac achos i wneud toriadau iddynt. Tra bod y BBC yn gwario £174 miliwn ar bresenoldeb anferth â chynnwys a gwasanaethau amrywiol ac eang ar-lein, gwna S4C dim ond yr hyn sy’n anghenrheidiol - 'necessary and conducive' yn ôl y ddeddf - i’w phwrpas fel darlledwr, megis cyhoeddusrwydd ar-lein. Prin iawn yw’r achosion ble mae S4C yn cystadlu â’r sector breifat ar-lein: nid oes unrhyw wasanaeth masnachol yn y Gymraeg sy’n darparu newyddion dyddiol, er enghraifft.
Pe byddai toriad bellach i gyllideb S4C, yn wahanol i’r BBC, byddai rhaid i’r sianel dorri ei gwasanaethau craidd, hynny yw, yn ei allbwn darlledu. Ni ellir dadlau felly bod modd na rheswm i S4C gwneud yr un toriadau â’r BBC. Hoffwn dderbyn cydnabyddiaeth gennych fod S4C yn achos arbennig yn hynny o beth.
Felly, gofynnwn i chi weithredu’r pwyntiau canlynol:
1. Fformiwla ariannu statudol ar gyfer S4C
Adfer y buddsoddiad yn S4C i'r lefelau a roddwyd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu'r sianel mewn statud, a fyddai'n cynyddu, fan leiaf, yn unol â chwyddiant; fel ei bod yn annibynnol o unrhyw ddarlledwr arall, yn ariannol, yn strategol ac yn olygyddol.
2. Ardoll ar gwmnïau mawrion
Sicrhau bod Llywodraeth Y Deyrnas Gyfunol yn cynnal ymchwil ynglŷn â chodi ardoll newydd ar elw darlledwyr masnachol, cwmnïau telathrebu mawrion preifat a hysbysebion er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus, gan gynnwys darlledu Cymraeg.
3. Datganoli darlledu
Datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â'r arian a phwerau trethu cysylltiedig, gan weithredu ar argymhellion ail ran Comisiwn Silk fel cam cychwynnol tymor byr.
4. Darlledwr Cymraeg aml-blatfform newydd
Sefydlu darlledwr aml-blatfform newydd a fyddai'n gallu cynhyrchu cynnwys gan weithredu ar-lein yn bennaf, ond ar radio a theledu yn ogystal, er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc.
Fel mudiad, rydym yn gwrthwynebu eich agenda o lymder fel mater o egwyddor, a deallwn na fyddwn ni byth yn cytuno ar y mater hwnnw. Er hynny, rydym yn awyddus iawn i gwrdd â chi i drafod ariannu S4C cyn gynted â phosibl.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eglurhad gennych ar y pwyntiau uchod cyn gynted â phosibl.
Yr eiddoch yn gywir,
Aled Powell,
Cadeirydd Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg