Annwyl Brif Weinidog
Ysgrifennwn atoch er mwyn gosod y newidiadau rydym am eu gweld yn y rheoliadau Safonau Iaith a ddaw gerbron y Cynulliad am gydsyniad yn fuan. Rydym yn gytun ein bod am sicrhau twf o ran defnydd o'r Gymraeg.
Rydym wedi ystyried y rheoliadau a gyhoeddwyd gennych ar 7 Tachwedd. Deallwn eich bod wrthi'n ystyried newidiadau i'r Safonau drafft hynny yn dilyn ymgynghoriad. Credwn y dylech addasu’r Safonau sy’n deillio o Fesur y Gymraeg 2011 yn y meysydd canlynol fel bod cyrff yn gallu cael eu grymuso i wella dros y blynyddoedd nesaf yn hytrach nag aros yn eu hunfan.
Mae angen i gyrff gynllunio'r gweithlu llawer yn well er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig yn Gymraeg. Mae'r Llywodraeth ei hunan wedi cydnabod hyn yn y maes iechyd yn ddiweddar. Mae angen Safonau llawer cadarnach felly ynghylch polisïau recriwtio, gan nad oes dim byd sy'n symud cyrff ymlaen yn y safonau fel y maent. Dim ond drwy feddu ar nifer digonol o weithwyr sy’n medru’r Gymraeg y gall sefydliadau ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg, a darparu gwasanaeth Cymraeg digonol.
Mae angen Safon neu Safonau penodol sy'n rhoi dyletswydd ar sefydliadau i osod amodau iaith wrth gontractio gwaith allan i gwmnïau preifat a chyrff eraill, er mwyn rhoi eglurder am y dyletswyddau fydd ar y cyrff hynny. Gwneir llawer iawn o wariant cyhoeddus drwy gontractio, ac fe ddaw hyn yn bwysicach wrth i waith awdurdodau lleol, er enghraifft, gael ei roi i gwmnïau preifat a gwirfoddol.
Yn yr un modd, mae angen Safon neu Safonau penodol sy'n rhoi dyletswydd ar sefydliadau i osod amodau iaith priodol wrth roi grantiau i unrhyw un arall. Fel y gwyddoch, mae dylanwad pellgyrhaeddol i grantiau, ac mae'n hanfodol felly bod grantiau yng Nghymru yn cael eu dyrannu gyda golwg ar hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg. Er mwyn cyd-fynd â strategaeth iaith eich Llywodraeth, dylid dilyn cyngor diweddar Comisiynydd y Gymraeg a chreu safon a fyddai’n rhoi amodau iaith ar gontractau ac ar grantiau.
Credwn yn ogystal bod angen i'r Safonau roi eglurder i’r cyhoedd ynghylch yr hawliau sy’n deillio o’r Safonau. Fel bod modd i bobl ddeall eu hawliau newydd, gellid creu safon sy’n ei gwneud yn ofynnol esbonio’r hawliau cyffredinol sy’n deillio o’r safonau mewn cyfrwng neu gyfryngau priodol. Dim ond os bydd pobl a gweithwyr ar lawr gwlad yn deall eu hawliau newydd y bydd pethau'n newid.
Mae angen Safon neu Safonau a fyddai'n cymryd camau pendant yn achos rhai cyrff i symud at weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym hefyd yn pryderu am y man gwan anfwriadol a fyddai'n cyfyngu gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg cyrff i'w prif dderbynfeydd, oni bai bod cyfarfod personol wedi ei drefnu ymlaen llaw. Gwendid byddai anwybyddu lleoedd eraill y darperir gwasanaethau gan gyrff, megis dros y cownter neu mewn cyd-destun arall.
Byddwn yn falch o glywed eich bod yn fodlon sicrhau'r newidiadau uchod, a fyddai'n fanteisiol nid yn unig i ddefnyddwyr y Gymraeg ond hefyd yn rhoi cymorth ac eglurder i gyrff wrth iddynt gyflawni'r gwelliannau i'w gwasanaethau. Bydd sicrwydd o’r fath yn fodd o ddiogelu ein cefnogaeth i’r Safonau yn y Cynulliad.
Yr eiddoch yn gywir
Simon Thomas AC
Suzy Davies AC
Aled Roberts AC