Annwyl Ellen ap Gwynne a Bronwen Morgan,
Par: Strategaeth Iaith Ceredigion
Rydym yn falch o weld fod y Cyngor Sir, trwy ei Strategaeth Iaith 2015-17 yn gweld fod ganddi gyfrifoldeb i hybu'r iaith o fewn y Sir. Ond credwn fod angen i strategaeth o'r fath fod yn fwy penodol a chynhwysfawr.
Gan ei bod hi bron yn ddiwedd 2016 erbyn hyn, carwn wybod pa gynnydd a wnaed ar y Cynllun Gweithredol os gwelwch yn dda.
Carwn hefyd wneud y pwyntiau canlynol parthed y ddogfen uchod a'r trefniadau i greu Strategaeth am y 3 blynedd ganlynol 2017-2020:
• Mae angen lleisiau cymunedol wrth lunio strategaethau o'r math hyn a dylid ymgynghori yn drwyadl ar y strategaeth 2017-2020, gan sicrhau fod mudiadau sydd ag aelodau ar draws y sir yn cael cyfle i gyfrannu i'r gwaith o lunio strategaeth
• Mae angen datgan fod bwriad gan y Cyngor Sir a holl sefydliadau y Bwrdd Gwasanaethau Lleol i ddatblygu'r Gymraeg i fod yn brif iaith gwaith a dylai'r Cynllun Gweithredu nodi sut y bydd hynny'n cael ei wireddu
• Dylai'r holl sefydliadau sicrhau fod sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn orfodol ar gyfer eu holl swyddi gan gychwyn gyda gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau uniongyrchol i'r cyhoedd a dylai'r Cynllun Gweithredu nodi sut mae'r holl sefydliadau yn mynd i hybu a chefnogi eu gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
• Dylid hefyd gynnwys y sector breifat a masnachol yn y Strategaeth. Dylai'r Cynllun Gweithredu nodi sut fydd y Cyngor Sir yn sicrhau fod y Gymraeg yn weledol ar y stryd fawr ac yn adlewyrchu Cymreictod Ceredigion.
• Credwn y dylai Cyngor Ceredigion ddilyn esiampl Catalonia a sicrhau cynllun ymarferol i dargedu gweithwyr yn y maes arlwyo i sicrhau fod ganddynt yr eirfa priodol i allu cyfathrebu gyda chwsmeriaid
• Dylai'r strategaeth nodi sut mae'r Cyngor Sir a'r holl sefydliadau yn cefnogi diwydiannau a busnesau lleol drwy bwrcasu a chomisiynu gwaith yn lleol
• Dylai'r Strategaeth gyfeirio at sut mae'r Sir yn mynd i gefnogi'r rhai sydd â sgiliau Cymraeg ac sy'n awyddus i weithio mewn meysydd arbenigol, megis y sector gofal a gwaith cymdeithasol, i dderbyn hyfforddiant a chymwysterau priodol, datblygu'n broffesiynol a dychwelyd neu aros yng Ngheredigion i weithio
• Dylai'r Strategaeth nodi sut mae'r Cyngor Sir yn mynd i sicrhau fod pobl ifainc sydd wedi derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac sydd yn aros yn y sir i weithio yn gallu parhau i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden Cymraeg
Rydym i gyd yn dymuno gweld y Gymraeg yn dod yn brif iaith y sir a byddem yn hapus i drafod sut i gyrraedd hynny drwy'r strategaeth hon a chamau eraill.
Rhanbarth Ceredigion,Cymdeithas yr Iaith