
Byddwn ni'n cyhoeddi ffrynt newydd yn ei hymgyrch dai yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" yn Nefyn y penwythnos hwn. Disgwylir i gannoedd ddod at y dref fach yng Ngwynedd am 1.30pm brynhawn Sadwrn ar gyfer rali yn dilyn gorymdaith trwy'r dref, ac am gyfarfod cyhoeddus lle bydd Antur Aelhaearn yn lansio Cynllun Tai Cymunedol.
Rydyn ni'n cynnal y rali yn Nefyn er mwyn diolch i'r Cyngor Tre lleol am ei waith arloesol yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am rymoedd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, a bydd cynghorydd lleol - Iwan Rhys Evans - yn siarad yn y rali am ei anhawster i gael hyd i gartref yn ei gymuned ei hun.
Bwriad y rali fydd cadw'r pwysau ar y Llywodraeth a phleidiau gwleidyddol i baratoi'r ffordd ar gyfer Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai yn fuan yn nhymor y Senedd newydd y flwyddyn nesaf. Mae drafft y Gymdeithas o Ddeddf Eiddo, ac hefyd argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg, yn galw am rymuso cymunedau lleol i drefnu eu datblygiadau tai yn ôl anghenion pobl yr ardal, gan adeiladu ar esiampl Antur Aelhaearn a chymunedau eraill. Bydd y Gymdeithas yn datgan yn y rali fod yn rhaid rhoi mwy o sylw i'r sector tai cymdeithasol ac amodau codi tai fforddiadwy, gan fod ymchwil yn dangos fod mwyafrif helaeth trigolion lleol wedi'u prisio allan o'r farchnad dai agored.
Yn y rali, bydd Walis George, ar ran y Gymdeithas ddweud fod "cymunedau wedi colli hyder yn y system gynllunio ac yn ddrwgdybus o ddatblygwyr tai a chymdeithasau tai"
Bydd yn mynd rhagddi i gyhoeddi bod Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi galwad Cynghorau Cymuned Aberdaron a Thudweiliog a Chyngor Tref Nefyn i sefydlu a gweithredu Polisïau Gosod a Gwerthu Lleol a fydd yn cymryd y Gymraeg i ystyriaeth gan ddweud:
"Rydym yn croesawu barn gyfreithiol ddiweddar a roddwyd i Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cadarnha'r hawl i ystyried y Gymraeg mewn polisïau gosod tai cymdeithasol. Galwn ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i weithredu ar fyrder a sefydlu Polisïau Gosod Lleol sy’n blaenoriaethu siaradwyr Cymraeg lleol yn Llŷn a chymunedau Cymraeg eraill."
Trwy ddiffiniad, cynyddu nifer yr aelwydydd Cymraeg yn y gymuned ddylai fod un o brif amcanion polisi tai ar gyfer cymuned Gymraeg at y dyfodol.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn dilyn y rali, rhoddir y polisi tai yng nghyd-destun ehangach datblygu cymunedau Cymraeg cynaliadwy at y dyfodol. Bydd cyfraniad at y cyfarfod gan Haydn Wyn Jones (prif weithredwr rhwydwaith Cymunedoli), a bydd yn talu teyrnged at Selwyn Williams "Pensaer Cymunedoli" a fu farw yn gynharach y mis hwn.
Mae mwy o wybodaeth am y rali i'w gweld trwy bwyso yma