Llythyr Starbycs

Annwyl Gyfaill,

Ysgrifennwn atoch ar ran Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith i holi ynglŷn â’r newyddion diweddar bod un o’ch staff wedi dweud wrth gwsmer am siarad Saesneg neu adael ar ôl archebu yn Gymraeg yn eich siop goffi.
Hoffem wybod pa gamau sydd mewn lle fel na fyddai'r math hyn o beth yn digwydd.

Awgrymwn yn gryf y dylai eich staff dderbyn hyfforddiant ieithyddol sylfaenol yn Gymraeg fel y byddant yn barod i wasanaethu cyhoedd Aberystwyth yn nwy iaith y dref. Credwn fod hyn yn rhan annatod o’ch cyfrifoldeb corfforaethol tuag at ddinasyddion Cymru.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych yn fuan.

Yr eiddoch yn gywir,
Cell Pantycelyn