Llythyr templed i anfon at archfarchnadoedd

Llythyr templed i aelodau anfon at archfarchnadoedd:

Annwyl Reolwr,

Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglŷn â’ch defnydd o’r Gymraeg yn eich siop yn _________.  

Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru yn sgil ‘Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.’ Yn benodol, mae’r Mesur yn sefydlu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ymhellach, mae’r ddeddfwriaeth honno yn sefydlu’r rhyddid i bobl yng Nghymru i siarad Cymraeg, ac yn gwneud atal pobl rhag siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn anghyfreithlon. Hoffem dderbyn cadarnhad nad oes gennych bolisi sy’n groes i’r rhyddid newydd a sefydlwyd gan y ddeddfwriaeth, gan obeithio fod gennych chi bolisi sy’n annog staff i siarad Cymraeg â’i gilydd, a gyda chwsmeriaid. Hoffwn dderbyn copi o’ch polisi ynghylch defnydd iaith staff. Hoffem hefyd dderbyn copi o’ch Cynllun Iaith Gymraeg, os oes gennych un, os gwelwch yn dda.

Wrth gofio hynny, gofynnwn i chi sicrhau:

  • Fod pob arwydd yn eich siop, ac yn y maes parcio, yn ddwyieithog

  • Eich bod yn cyflogi staff sy’n medru siarad Cymraeg, o leiaf at lefel sylfaenol ble y gallant weini cwsmeriaid

  • Fod yr holl ddeunydd hyrwyddo a marchnata yn ddwyieithog – hysbysebion yn y wasg, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thaflenni a phosteri yn y siop ei hun

  • Labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand eich cwmni

  • Cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog

  • Os oes gennych diliau hunan wasanaeth, eu bod yn ddwyieithog

Mae’n bwysig fod y Gymraeg yn weledol yn eich siop, a’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy sicrhau fod eich holl arwyddion yn ddwyieithog. Gofynnwn eich bod yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg, drwy roi’r Gymraeg naill ei yn gyntaf neu ar yr ochr chwith, fel ei bod yn amlwg. Dylid sicrhau fod y Gymraeg yn ramadegol gywir hefyd.

Fe’ch anogwn i fabwysiadu polisi cyflogaeth a chynnal ymgyrch recriwtio, a fydd yn sicrhau fod gennych nifer digonol o staff sy’n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg. Os oes angen, awgrymwn eich bod yn cynnig cyrsiau hyfforddi i’ch staff. Gall y cyrsiau yma naill ai fod i ddysgu Cymraeg, neu i godi hyder y staff hynny sydd eisoes yn medru’r Gymraeg.

Gan gymryd fod eisoes gennych staff sy’n medru’r Gymraeg, a ydych chi’n annog y staff i siarad Cymraeg â’ch cwsmeriaid, a gyda’i gilydd, ar lawr y siop? Tybed a ydych hefyd yn annog eich staff sy’n medru’r Gymraeg i wisgo bathodyn i ddynodi hynny? Drwy wneud hyn bydd yn gliriach i’ch cwsmeriaid fod pob croeso iddynt i siarad y Gymraeg.

Wrth ichi ohebu â chwsmeriaid, boed drwy e-bost, llythyr neu alwad ffôn, mi ddylech eu cyfarch yn ddwyieithog, cyn parhau yn newis iaith y cwsmer. Mae hyn yn dangos parch at eich cwsmeriaid, gan eu bod yn derbyn gohebiaeth yn eu dewis iaith nhw.

Hyderaf y byddwch yn cytuno fod dyletswydd arnoch, fel cwmni sy’n gwneud elw yng Nghymru, i gydnabod y Gymraeg yn iaith swyddogol, drwy gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn.

Diolch yn fawr i chi am gymryd yr amser i ddarllen y llythyr hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb i’n hawgrymiadau.

Yn gywir,

--- 

 I’m writing to you on behalf of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Welsh Language Society) about your use of the Welsh language in your store in ________.  

I’m sure you’re aware that the Welsh is an official language in Wales since ‘Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011’ (‘Welsh Language Measure (Wales) 2011’) was passed in 2011. This Bill establishes the principle that the Welsh should not be treated less favourably than the English.

Furthermore, this legislation establishes the freedom for people in Wales to speak Welsh, and to stop people speaking Welsh is illegal. I would like to receive confirmation that you don’t have a policy that is contrary to the freedom established by the new legislation, and hope that you have a policy that encourages staff to speak Welsh with each other, and with customers. We would like to receive a copy of your policy regarding the use of language by staff. We would also like to receive a copy of your Welsh Language Scheme, if you have one, please.

Bearing that mind, we’d like to ask you to ensure:

  • That every sign inside your store, and in your car park, is bilingual

  • That you employ staff who can speak Welsh, at least to a basic level where they can serve customers

  • That all of your marketing and promotional materials are bilingual – advertisements in the press, on social medias, and leaflets and posters in the store

  • Clear bilingual labels on all of your own brands’ products

  • Bilingual tannoy announcements

  • Bilingual self-service machines

It is important that the Welsh is visible in your store, and the best way of doing this is to ensure that all of your signs are bilingual. We ask that you give priority to the Welsh, by putting the Welsh either first, or to the left, so that it is obvious. The Welsh should also be grammatically correct.

We encourage you to adopt an employment policy and have a recruitment campaign, which will ensure that you have a sufficient number of staff who can deal with customers in Welsh in every store in Wales. If necessary, we suggest that you offer training courses for your staff. These courses could either be to learn Welsh, or to raise the confidence of those staff who can already speak Welsh.

Assuming that you already have staff who can speak Welsh, do you encourage these staff to speak Welsh with customers, and with each other on the shop floor? Do you encourage the staff who speak Welsh to wear a badge to show that they do? By doing this it is clearer to customers that they are welcome to speak Welsh.

When corresponding with customers, whether by e-mail, letter or phone call, you should greet your customers bilingually, then continue in the preferred language of the customer. This shows respect for your customers, as they receive correspondence in the language of their choice.

I’m sure you’ll agree that you have a duty, as a company who makes profit in Wales, to provide complete bilingual service to your customers.

Thank you for taking time to read this letter, and we look forward to hearing your response to our suggestions.