Made in North Wales TV – 3% Cymraeg

Annwyl Brif Weithredwr Ofcom,

Ysgrifennwn er mwyn mynegi pryder y bydd cyn lleied o oriau darlledu Cymraeg ar sianel deledu lleol "Made in North Wales TV" sy'n dechrau darlledu ddiwedd y mis, ac am ddiffygion eraill darpariaeth Gymraeg y gwasanaeth newydd  

Nid yw'n dderbyniol bod Ofcom wedi cytuno i drwyddedu'r cwmni er gwaetha'r ffaith mai dim ond 30 munud o'r rhaglenni a gynhyrchir gan y cwmni fydd yn Gymraeg bob wythnos. Wrth ddadansoddi cynllun y gwasanaeth a gytunwyd yn wreiddiol gan Ofcom, amcangyfrifwn y bydd y sianel deledu yn darlledu am gyfanswm o 99 awr yr wythnos, gydag, ar y mwyaf, dim ond 3 awr, neu 3%, o'r oriau darlledu yn rhai Cymraeg, sef slot 30 munud wedi ei ail-ddarlledu 6 gwaith. Yn wir, bydd y canran o raglenni gwreiddiol lleol yn isel iawn hefyd, gyda chyn lleied â 16% o oriau darlledu'r sianel yn rhai lleol (6 awr 42 munud gwreiddiol yr wythnos a 9 awr o ail-ddarllediadau yr wythnos).   

Ymhellach, ymddengys bod holl bresenoldeb y gwasanaeth newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ar-lein, a'i brandio yn uniaith Saesneg; ac mae hynny'n destun pryder mawr i ni. Nid yw'n ymddangos bod y cwmni yn gofyn am staff gyda sgiliau Cymraeg wrth hysbysebu eu swyddi ychwaith.  

Mae'r ddarpariaeth hon yn sarhaus i'r Gymraeg a'r gymuned leol y dylai'r sianel ei gwasanaethu, gan sefydlu sianel deledu Saesneg arall yn yr ardal ar ben y cannoedd sydd eisoes ar gael. Erfyniwn arnoch i ail-edrych ar y sefyllfa hon. Credwn y dylai Ofcom annog partneriaethau rhwng S4C a'r sianeli teledu lleol yng Nghymru, er mwyn cynyddu'n sylweddol y ganran o gynnwys Cymraeg y maent yn ei ddarlledu.  

Yn ogystal, credwn ei fod yn annerbyniol y bydd rhaglenni yn cael eu creu yn stiwdios y cwmni yn Lerpwl, yn hytrach nag yn yr ardal leol y mae'r sianel i'w gwasanaethu. Yn amlwg felly, dyw'r gymuned leol ddim yn mynd i elwa'n economaidd nag yn ddiwylliannol fel y dylen nhw o'r gwasanaeth newydd. Pryderwn ymhellach na fydd Made Television yn cadw at ymrwymiad a wnaed gan yr ymgeisydd llwyddiannus gwreiddiol - Bay TV Clwyd - i ddefnyddio a manteisio ar adnoddau a sgiliau myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr.  

Mae'r problemau hyn yn rhan o batrwm o ymddygiad gan Ofcom, sy'n ffafrio anghenion busnesau mawrion yn hytrach na'r gymuned leol a'r Gymraeg. Nid oes ffydd gennym fod y system yn gwneud unrhyw beth o sylwedd i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae caniatáu cyn lleied o gynnwys Cymraeg a chynnwys a gynhyrchwyd yn lleol ar y gwasanaethau teledu lleol hyn, yn debyg i'r hyn rydym wedi gweld ar radio masnachol lleol dros y degawdau diwethaf. Mae'r sefyllfa yn gwbl annerbyniol.   

Mae problem gyda "Made in North Wales TV" yn amlygu problemau strwythurol ehangach. O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu.  

Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus; mae'r BBC wedi penderfynu dod â'r arbrawf Radio Cymru Mwy i ben; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd bod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Bydd y problemau democrataidd hyn yn dwysau os yw Ofcom yn caniatáu i deledu lleol ar gyfer Cymru gael ei gynhyrchu yn Lloegr.  

Rydym o'r farn fod angen sefydlu Awdurdod Darlledu i Gymru sydd gyda phwerau i sicrhau bod, fan leiaf, hanner oriau darlledu sianeli teledu lleol yng Nghymru yn Gymraeg. Os nad yw'r darparwyr preifat yn gallu cyflawni hyn, credwn y dylid defnyddio adnoddau a chynnwys S4C i sicrhau'r ddarpariaeth. Rydym wedi amlinellu ein cynigion cychwynnol yma:  http://cymdeithas.cymru/dogfen/darlledu-yng-nghymru-ii-papur-trafod  

Diolch ymlaen llaw am eich ymateb i'n cwynion uchod.  

Yr eiddoch yn gywir, 

Aled Powell 

Is-Gadeirydd, Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg