AT AELODAU PWYLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU CYMUNEDAU SY'N DYSGU - Cyngor Ceredigion
Annwyl Gyfeillion
Ar agenda eich cyfarfod Ddydd Iau yma 26/9 y mae penderfyniad Cabinet y Cyngor Sir i fynd at Ymgynghoriad Statudol ar gynnig i gau pedair ysgol wledig Gymraeg yn y sir - y cyfan ohonynt ar Restr Swyddogol y Llywodraeth o Ysgolion Gwledig y mae rhagdyb yn erbyn eu cau. Hoffem dynnu eich sylw at rai ffeithiau newydd ynghylch y mater.
1) Yn ystod y drafodaeth yn y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar Fedi 3ydd i drafod y mater, gofynnwyd i'r Swyddog Corfforaethol Barry Rees a oedd yn sicr fod proses y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Atebodd Mr Rees iddo dderbyn sicrwydd gan y Llywodraeth eu bod yn cydymffurfio. Gwnaeth Cymdeithas yr Iaith gais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael gweld pob neges neu gofnod rhwng Mr Rees neu gydweithwyr ac unrhyw un yn gweithredu'n uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r Llywodraeth neu ar ei rhan a allai fod yn sail i ddatganiad Mr Rees fod sicrwydd o'r fath wedi bod.
Nid yw Cyngor Ceredigion wedi ymateb eto i'r cais, ond daeth ymateb prydlon iawn gan y Llywodraeth ar ffurf nifer o negeseuon ebost gyda swyddog(ion) heb eu henwi o'r Llywodraeth. Yn yr unig neges berthnasol, dywed swyddog di-enw:
"Please note that these are personal points and I can't make any legal comments. I've only been able to have a quick look but hope this helps".
Nid oedd y swyddog wedi gweld y dossier o dystiolaeth y mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei chyflwyno i ddangos nad yw'r Cyngor wedi gweithredu'n unol â'r Cod. Hyd y gwelwn, nid yw geiriau swyddog y Llywodraeth yn sail ddiogel o gwbl i Mr Rees roi'r fath sicrwydd i aelodau'r Cabinet a aeth ymlaen i bleidleisio wedyn o 6 i 2 mewn dwy achos ac o 5 i 2 yn y ddwy achos arall i awdurdodi Ymgynghoriad Statudol ar gynnig i gau pedair ysgol.
2) Nid yn unig y credwn fod y Cyngor wedi torri'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, sydd â grym statudol iddo, ond credwn hefyd fod y Cyngor, wrth drefnu eich agenda, yn torri ei bolisi ei hun o ran y dull o drin Adolygu Ysgolion.
Mae "Llawlyfr Trefniadaeth Ysgolion" y cyngor, dyddiedig 15.06.21, yn gosod allan senario "Adolygu'r Ysgol (hynny yw cau'r ysgol - sic)".
Yn dilyn cyfarfod Cabinet i benderfynu y dylid cynnal Ymgynghoriad Statudol ar Gynnig i gau ysgol, dywedir mai'r cam nesaf (cyn dechrau'r Ymgynghoriad) yw "Cam 3 - Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu – Mae hwn yn cynnwys 17 Cynghorydd a fydd yn craffu ar y cynnig ac yn cynnig unrhyw opsiynau eraill."
OND mae'r adroddiad sydd yn sail i'r pwynt hwn ar eich agenda yn datgan mai pwrpas cyflwyno'r mater yw "er gwybodaeth" yn unig, sef na ddylech chi drafod y mater na chynnig unrhyw opsiynau eraill. Nid oes unrhyw argymhelliad gan swyddogion i chi gan na ddisgwylir i chi drafod y mater, ddim ond derbyn yn ufudd. Mae patrwm ymddygiad yma. Yn union fel na bu unrhyw ymgais ddifrifol i drafod gwahanol opsiynau gyda rhan-ddeiliaid cyn bod ffurfio cynnig pendant i gau ysgol, nawr nid oes bwriad i roi cyfle i chwithau gynnig opsiynau eraill. Ond mae llawlyfr y cyngor ei hun yn rhoi'r hawl hwn i chwi, a gofynnwn i chwi arfer yr hawl.
3) Y gwir syml yw fod nifer o opsiynau amgen nas gwerthuswyd gan y swyddogion. Heblaw am opsiynau cau'r ysgolion ac opsiwn cynnal y staus quo, rhoddir ym mhob un o'r Papurau Cynnig un neu ddau opsiwn arall o "ffedereiddio" ysgol gan ddefnyddio dadleuon generig pam nad dyma'r ateb mewn ymarferiad "ticio blwch".
Rhoddwn enghraifft y Papurau Cynnig i gau Ysgolion Llanfihangel-y-Creuddyn a Llangwyryfon. Yn y ddau bapur y cynnig yw i gau'r ysgol a danfon y disgyblion at Ysgol Llanilar. Ond rhoddir y rhain fel dau opsiwn ar wahan. Nid edrychir ar yr opsiwn amlwg (o ran archwilio) o greu ffederasiwn 4 ysgol rhwng Llanilar, Llanfihangel-y-Creuddyn, Llangwyryfon a Llanfarian er ei bod y amlwg fod rhagor o arbedion potensial a rhagor o botensial i ehangu profiadau addysgol o greu ffederasiwn rhwng 3 neu 4 ysgol nag a geid trwy geisio eu trin fel dwy ffederasiwn ar wahan. Yn yr un yn ffordd edrychid ar Ffederasiwn rhwng Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Talybont (sydd ag agos at 50% o leoedd gwag) ond nid at Ffederasiwn rhwng yr ysgol yn y Borth ac Ysgol Rhydypennau (sydd yn llawn a lle gallai fod potensial defnyddio'r gofod ychwanegol yn Y Borth a chyfleusterau awyr agored).
Nid ymdriniwyd yn llawn chwaith ag opsiwn yn cwmpasu Ysgolion Ponterwyd, Pontarfynach a Phontrhydfendigaid. Nid yw'n ddigonol fod swyddogion yn datgan y gall pobl gynnig opsiynau yn ystod yr Ymgynghoriad Statudol gan fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn datgan yn gwbl glir fod angen gwerthuso pob opsiwn rhesymol "tra bod cynnig yn dal ar gam ffurfiannol" h.y. CYN ffurfio cynnig i gau ysgol - a hynny gan fod dyletswydd statudol i ddechrau o safbwynt rhagdyb YN ERBYN cau ysgol. Gofynnwn i chwi gofnodi yn eich trafodaeth eich bod o'r farn y dylid gwerthuso'n llawn yr opsiynau CYN mynd at ymgynghoriad statudol.
4) Ymhellach, gwnaeth y swyddogion hyd yn oed rybuddio aelodau'r Cabinet eu hunain na ddylid mynd at ymgynghoriad statudol heblaw am eu bod wedi eu bodloni mai dyma'r opsiwn gorau a bod pob opsiwn rhesymol arall wedi ei werthuso. Felly galwn arnoch, ar ran yr ysgolion a'r cymunedau hyn sy'n cael eu cam-drin yn y broses, i anfon yn ôl at y Cabinet eich barn na ddylid mynd at ymgynghoriad statudol ar y pedwar cynnig i gau'r ysgolion hyn gan fod y Cabinet wedi pleidleisio trwy fwyafrif i awdurdodi hyn:
a) ar sail cam-arweiniad fod neges wedi dod gan y Llywodraeth fod y broses yn cydymffurfio a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, neu fod lle i amau hyn.
b) gan nad oedd yr opsiynau rhesymol eraill wedi eu gwerthuso CYN ffurfio'r cynnig i gau'r ysgolion sy'n sail i'r Papurau Cynnig.
Mae lliaws o resymau eraill pam na ddylid mynd at ymgynghoriad statudol costfawr ar sail mor sigledig e.e.
y ffaith na bydd yr Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg ac ar y cymunedau wedi'u cwblhau cyn dechrau'r broses
bod nifer o'r ffeithiau sylfaenol ynghylch niferoedd disgyblion yn anghywir
bod y Cod yn mynnu y dylid ystyried darpariaeth addysgol fesul ardal, nid pigo ar ysgolion unigol, y dylai ystyriaethau addysgol ddod yn gyntaf yn hytrach nag ymgais i arbed mymryn o arian mewn blwyddyn ariannol arbennig.
Ond mae'r ddau bwynt cyfreithiol uchod yn ddigon o reswm i atal y broses.
Rydym ni'n deall nad oes grym gyda chi fel pwyllgor eich hunain i atal y broses o fynd at ymgynghoriad statudol, ond fe allwch dystio i'r gwirionedd mai dyna y dylid ei wneud. Y farn gynyddol yw naill ai y bydd Llywodraeth Cymru'n atal y broses er mwyn integriti eu Cod statudol o sicrhau rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig ar eu rhestr, neu y byddai mwyafrif yr aelodau etholedig yn sicr o bleidleisio'n erbyn y cynigion ar derfyn y broses. Gallwch chwi geisio arbed gwariant sylweddol ar ymgynghoriad statudol di-bwynt a dadansoddi'r holl ymatebion, a galw yn hytrach am drafodaeth gadarnhaol a chynhwysol ar sut i ddatblygu addysg wledig mewn cyfnod anodd, gan lawn gydnabod na bydd sicrwydd y gellir achub pob ysgol mewn trefn ddatblygol, ond bydd pawb wedi cael gwrandawiad teg yng nghyd-destun rhagdyb yn erbyn cau.
Ffred Ffransis
ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith
23/09/2024