Newsnight - Cwyn

Annwyl Tony Hall a Rhodri Talfan Davies, 

Ysgrifennaf atoch er mwyn cwyno am driniaeth Newsnight o'r Gymraeg ynghyd â'r ffaith eich bod yn cynnal corfforaeth ddarlledu Brydeinig sy'n hybu agweddau gwrth-Gymraeg a gwrth-Gymreig. 

Gwyddom eich bod wedi cael nifer fawr o gwynion am raglen Newsnight a ddarlledwyd ar nos Fercher 9fed Awst. Hoffem alw am ymddiheuriad llawn am gynnwys y rhaglen ac am adolygiad swyddogol o sut mae'r BBC yn ymdrin â'r Gymraeg ar ei rhaglenni Saesneg. Hoffem yn ogystal alw arnoch i ddarlledu rhaglen arall sy'n cynnwys cynrychiolwyr allai drin a thrafod materion y Gymraeg yn deg.   

Drwy gynnal trafodaeth anghytbwys a hynod anghynrychioladol, credwn i'ch rhaglen dorri eich canllawiau golygyddol. Yn benodol, credwn fod y rhaglen wedi darlledu trafodaeth sy'n groes i baragraff 4.4.18 o'r canllawiau. Ymhellach, hoffem dderbyn copi o unrhyw gwynion rydych chi wedi eu derbyn gan staff y BBC am raglen Newsnight. 

Er gwybodaeth i chi, cefais i alwad ffôn gan ymchwilydd y rhaglen yn holi a oedd modd i mi ymddangos arni. Esboniais i safbwynt Cymdeithas yr Iaith ar bapur gwyn Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y diwrnod hwnnw. Dywedais y byddwn yn fodlon cymryd rhan gan gynnig mynd i stiwdio'r BBC ym Mangor, i stiwdio'r BBC ar faes yr Eisteddfod neu gynnal cyfweliad dros y ffôn. Ni chlywais yn ôl ganddynt.  

Credwn fel mudiad fod darlledu'r rhaglen Newsnight wedi bod yn sarhad arall mewn cyfres o raglenni'r BBC sydd wedi trin Cymru a'r Gymraeg fel cocyn hitio hawdd. Dyma rai enghreifftiau lled-ddiweddar eraill o raglenni sydd wedi bod yn wallus ac yn rhagfarnllyd yn eu triniaeth o'r Gymraeg:  

Mawrth 2014 Holodd rhaglen BBC Radio Wales ar Twitter: “A ydy’r iaith Gymraeg yn eich cynddeiriogi chi?” 

Awst 2016 – ymchwilydd rhaglen Radio 5 Live yn gofyn am rywun i ymddangos i ddadlau y dylai'r Gymraeg farw   

Mai 2016 – BBC 'Week in Week Out' yn gwneud honiadau anghywir am gost deddfwriaeth iaith    

Chwefror 2017 'Any Questions' a ddarlledwyd o Dywyn. Caniatawyd i aelod o'r gynulleidfa ofyn y cwestiwn canlynol yn ystod y rhaglen: "Which would the panel choose as a priority for funding in Wales – the Welsh language or care budget?" 

Y llynedd, yn dilyn ein cwynion am y rhaglen "Week in Week Out", buom mewn cyfarfod â Rhodri Talfan Davies gan ddadlau bod angen hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar eich holl staff a chynnal adolygiad er mwyn datrys y materion hyn.  

Er gwaethaf cwynion a phrotestiadau am y patrwm o driniaeth ragfarnllyd o'r Gymraeg gennych fel darlledwr, nid oes ffydd gennym y byddwch yn newid. Mae problem ddyfnach a mwy strwythurol nag y gallwch chi, fel pobl sy'n cael eu cyflogi gan ddarlledwr canoledig Prydeinig, eu datrys. Credwn fod rhai o'r problemau hyn yn deillio o natur darlledwr Prydeinig ei strwythur. Datganoli darlledu i Gymru, gan ddefnyddio'r pwerau hynny i weddnewid ein strwythurau darlledu er mwyn adlewyrchu gwerthoedd a dyheadau pobl Cymru, yw'r unig ateb parhaol i'r problemau hyn 

Yr eiddoch yn gywir,

Heledd Gwyndaf, 

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg