'One Central Square’ Caerdydd - Ble mae’r Gymraeg?

7/7/2016

Annwyl Paul McCarthy (Prif Weithredwr, Rightacres) a Laura Mason (Cyfarwyddwr Buddsoddiad, Legal & General Capital)

Ysgrifennwn er mwyn datgan ein gwrthwynebiad llwyr i’r driniaeth o’r Gymraeg yn y datblygiad newydd yn yr ardal o gwmpas gorsaf drên Caerdydd canolog gan gynnwys adeilad a enwyd yn uniaith Saesneg fel ‘One Central Square’ gennych.

Fel mynedfa i filoedd ar filoedd o bobl i Gaerdydd ac i Gymru bob dydd, mae’n siomedig tu hwnt nad oes croeso Cymraeg i Gaerdydd a Chymru yn y datblygiad. Yn wir, mae'n gwbl amharchus i statws y Gymraeg gan nad oes enw Cymraeg ar y datblygiad a’r adeiladau newydd; nad oes defnydd gweledol amlwg o'r Gymraeg, gan gynnwys arwyddion parhaol, paneli dros dro yn y sgwâr a gwefan Rightacres, y datblygwyr; ac nad yw’n rhoi sylw i wir anghenion y cymunedau cyfagos.

Er i ni gwrdd â chi fis diwethaf, nid yw’n ymddangos eich bod yn fodlon sicrhau bod holl enwau ac arwyddion y safle yn Gymraeg. Mae hynny’n groes i statws swyddogol y Gymraeg ac yn groes i ddymuniad honedig y Cyngor o weld y Gymraeg yn ffynnu yn ein prifddinas. Yn ogystal, roedd yn siom clywed nad oes cynllun gyda chi i ganiatáu defnydd gan grwpiau cymunedol o'r adeilad 'One Central Square'.

Gwyddom fod nifer o sefydliadau, gan gynnwys rhai sector gyhoeddus fel y BBC, yn mynd i leoli yn y datblygiad. Mae nifer o’r sefydliadau gyda dyletswyddau statudol i ystyried effaith eu holl benderfyniadau ar y Gymraeg, ac mae’n destun bryder nad ydynt eisoes wedi sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei barchu’n iawn yn y datblygiad hwn.

Gofynnwn i’r datblygwyr, tenantiaid a’r Cyngor weithredu fel bod y Gymraeg a’n cymunedau yn cael eu rhoi yng nghanol y datblygiad hwn, a hynny’n barhaol.

Yn gywir,

Carl Morris,

Cadeirydd, Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg