Radio yng Nghymru
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros hanner ganrif.
2. Safbwynt
2.1. Yn gryno, nid oes tystiolaeth bod Llywodraeth Prydain wedi ystyried effaith dadreoleiddio pellach ar y Gymraeg o gwbl. Galwn ar i'r pwyllgor ystyried hwn yn fanwl. Er nad oes sôn am y Gymraeg yn y ddogfennaeth, ymddengys bydd cynigion Llywodraeth Prydain yn niweidiol iawn i anghenion y Gymraeg a Chymru gan eu bod yn caniatáu:
-
llai o ddarlledu cynnwys lleol;
-
diddymu goblygiadau i gadw at unrhyw amodau o ran darlledu canran o oriau, cynnwys a/neu gerddoriaeth yn Gymraeg;
-
peidio â darparu newyddion neu raglenni sy'n craffu ar sefydliadau democrataidd cenedlaethol Cymru sef y Senedd a Llywodraeth Cymru.
2.2. Mae darlledu yn Gymraeg yn bwysig iawn i gyflwr y Gymraeg am sawl reswm megis:
-
cyflawni amcan strategaeth iaith y Llywodraeth o gynyddu defnydd y Gymraeg ym mywydau beunyddiol pobl ar lawr gwlad;
-
bodloni hawliau pobl, o ba gefndir bynnag, i fyw eu bywydau yn Gymraeg, ei mwynhau a chael mynediad at ddysgu neu wrando arni;
-
cefnogi pobl o bob cefndir i ddysgu'r Gymraeg;
-
drwy ddarparu swyddi Cymraeg yn uniongyrchol drwy waith gyda darlledwyr, ond yn ogystal drwy'r diwydiant creadigol yn ehangach;
-
mae incwm o freintiau darlledu yn bwysig iawn i gynnal diwylliant cerddorol Cymraeg hyfyw;
-
cynnal ymdeimlad cymunedol ym mhob rhan o'r wlad
2.3. Ar bob un o'r meincnodau uchod, byddai cynigion y Llywodraeth yn niweidiol i'r Gymraeg gyda llai o ddarlledu Cymraeg a Chymreig. Credwn fod Llywodraeth Prydain yn mynd yn y cyfeiriad hollol anghywir o safbwynt Cymru ac felly yn erfyn ar i'r Cynulliad ofyn am ddatganoli pwerau rheoleiddio i Gymru fel mater o flaenoriaeth er mwyn gwyrdroi'r patrymau presennol a chynllunio ar gyfer twf yn narpariaeth Gymraeg yn lle caniatáu dirywiad pellach.
2.4. Credwn ymhellach fod sicrhau rheoleiddio cadarn o ran cynnwys Cymraeg ac o Gymru yn bwysig iawn i gynaliadwyedd democratiaeth Gymreig. Mae Cymru yn dioddef o gyfryngau cymharol wan yn barod, byddai unrhyw ddadreoleiddio pellach yn gwaethygu'r sefyllfa'n bellach gan leihau gwybodaeth. Yn ôl arolwg ICM yn 2014, mae llai na hanner boblogaeth Cymru yn ymwybodol bod iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru – pryderwn yn fawr am gynaliadwyedd democratiaeth Gymreig os yw'r anwybodaeth hynny'n parhau.
2.5. Pryderwn yn fawr fod llai a llai o ddarlledu yn Gymraeg ar radio lleol a masnachol. Rydym wedi ymgyrchu yn erbyn toriadau i allbwn Cymraeg a lleol gorsafoedd megis Radio Ceredigion a Radio Sir Gar, ond mae Ofcom wedi profi'n wrthwynebus i neu heb y gallu i amddiffyn darlledu Cymraeg. Er enghraifft, ym mis Mai 2011, gwnaed cais gan gwmni Town and Country Broadcasting i Ofcom i leihau’r nifer o oriau darlledu Cymraeg ar Radio Ceredigion. Yn dilyn ymgyrch, gwrthododd Ofcom y cais ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, yn 2012, gwrthododd Town and Country adnewyddiad awtomatig o’i drwydded gan lwyddo wedyn i adennill y drwydded gan Ofcom gyda llai o oriau o ddarlledu Cymraeg. Yn achos Radio Ceredigion, dechreuodd fel menter leol a chymunedol ond prynwyd gan gwmni mwy sydd wedi cwtogi ar gynnwys Cymraeg a lleol er mwyn gwneud elw a hynny ar draul anghenion a buddiannau'r gymuned. Mae hyn yn stori gyffredin iawn yn y maes oherwydd strwythur y farchnad a diffyg rheoleiddio.
2.6. Gwrthwynebwn ddadreoleiddio’r farchnad radio ar lefel ideolegol yn ogystal ag oherwydd effaith newidiol ar y Gymraeg. Ar lefel ideolegol, mae dad-reoleiddio marchnadoedd yn debygol o gynyddu elw cwmnïau mawrion ar draul cymunedau a gweithwyr yn lleol. Rydym yn gweld marchnad radio sy'n caniatáu, ac, yn wir, cynnig cymhelliant cynyddol i ganoli gwasanaethau i ffwrdd o gymunedau. Mae hynny'n cael effeithiau negyddol cymunedol, economaidd ac ieithyddol.
2.7. Ymhellach, mae'n haelodau ni yn pryderu'n gynyddol am fonopoli'r BBC yn narpariaeth darlledu cyhoeddus, yn enwedig yn Gymraeg. Pryderwn yn fawr fod y BBC, yn cymryd camau bwriadus i draflyncu S4C dros amser. Wrth reswm, croesawn fel cam yn y cyfeiriad iawn Radio Cymru 2, er nad yw'n wasanaeth llawn na pharhaol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn y dylai fod dybryd angen mwy o blwraliaeth yn y byd darlledu Cymraeg a bod angen i ddarlledwr annibynnol o'r BBC ddarparu gwasanaethau newyddion a radio cenedlaethol yn Gymraeg.
Casgliadau
3.1. Am y rhesymau yr amlinellir uchod, credwn y dylai:
-
Senedd a Llywodraeth Cymru ddadlau o blaid datganoli grymoedd darlledu o San Steffan i Gymru er mwyn normaleiddio'r Gymraeg a chryfhau democratiaeth Cymru drwy radio lleol a masnachol yn ogystal â llwyfannau cyfryngol eraill
-
y pwyllgor fynnu ystyriaeth ac atebion gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain o effaith y newidiadau arfaethedig i reoleiddio radio ar y Gymraeg;
-
ystyried ffyrdd amgen i gryfhau darpariaeth Gymraeg, cymunedol a gwasanaethau cenedlaethol Cymreig os nad yw pwerau darlledu eu datganoli i Gymru, megis pwyso am drwyddedau darlledu penodedig Cymraeg, yn enwedig wrth edrych ar wasanaethau DAB bach newydd; a
-
cyrff eraill, megis S4C, ddarparu gwasanaethau newyddion a radio er mwyn sicrhau cynnydd yn narpariaeth Gymraeg ar y radio
Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith
Chwefror 2018