Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

[agor fel PDF] 

Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Ymateb Cymdeithas yr Iaith 

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

1.2. Mae effeitholrwydd y system addysg i greu siaradwyr newydd yn gwbl ganolog ac allweddol i strategaeth iaith y Llywodraeth: nid oes modd fforddio peidio â chyflawni yn y maes hwn. Mae tynged holl strategaeth y Llywodraeth yn y fantol. 

1.3. Nid oes amheuaeth bod y system addysg bresennol yn gwbl anaddas i gyflawni’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. Ar sail y ‘twf’ ers 2010, byddai’n cymryd: 

  • 1,560 o flynyddoedd i sicrhau bod pob plentyn 7 mlwydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg; a 

  • 352 o flynyddoedd i gyrraedd targed y Llywodraeth o 40% o blant 7 mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

1.4. Cyflwynwn argymhellion a sylwadau manwl ar y rheoliadau arfaethedig is-law. Fodd bynnag, credwn fod angen dybryd i’r Llywodraeth gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn unol ag argymhelliad ei phanel o arbenigwyr ei hun, Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion a’r panel i wneud eu gorau glas o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth.

1.5. Ymhellach, mae’r newidiadau angenrheidiol i’r rheoliadau hyn yn codi cwestiynau eraill am bolisi addysg y Llywodraeth, yn benodol cwestiynau ynghylch y cymhellion ariannol a chamau i gynllunio’r gweithlu sydd eu hangen. Galwn ar y Llywodraeth i gyhoeddi camau gweithredu pendant a newidiadau sylweddol yn y meysydd hyn, a hynny’n fuan.

2. Prif Sylwadau

2.1. Mae’n prif argymhellion a sylwadau ar y rheoliadau arfaethedig fel a ganlyn:

  • Rydym yn croesawu’r cynnig i ddileu’r gofyniad i ‘fesur y galw’ am addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn lle hynny, symud at system o osod targedau penodol yn seiliedig ar gyflawni nod strategaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr;

  • Rydym yn gweld bod manteision o symud at gynllunio dros gyfnod hirach, ond wrth symud i gyfnod o 10 mlynedd, bydd rhaid cael rhagor o gamau gorfodi a chymellion er mwyn sicrhau cyflawniad yn ystod tymor y cynllun. Ar ôl 5 mlynedd, credwn fod angen arolygiad ffurfiol annibynnol gan Estyn o bob cynllun er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gyfredol ac y bydd yn cyflawni’r targedau; 

  • Pryderwn nad oes mecanwaith newydd na gwahanol ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg. Mae rhoi sylw i hyn yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o hanner y disgyblion sy’n mynd i ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Nid ydym yn argyhoeddig bod y rheoliadau fel y maent yn ddigonol er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth;

  • Pryderwn am y nifer uchel o ‘ddatganiadau sy’n nodi’ yn y rheoliadau, sy’n debyg iawn i’r geiriad yn rheoliadau 2013 a sefydlodd y gyfundrefn bresennol sydd wedi methu. Credwn y dylid adeiladu ar y targed ar gyfer blwyddyn 1 drwy osod targedau meintiol tebyg ar gyfer deilliannau allweddol eraill;

  • Credwn y dylai fod llai o ddyletswyddau yn gyffredinol. Er enghraifft, cwestiynwn werth gofyn am gynllun gan awdurdod lleol yn ymwneud â nifer o faterion nad oes ganddynt rym na chyfrifoldeb drostyn nhw. Mae modd dadlau y byddai’n fwy effeithiol canolbwyntio ar gyflawni ar lai o dargedau pendant lle mae dylanwad a chyfrifoldeb clir gan awdurdod lleol;

  • Yn atodlen 3, yn lle ‘datganiadau sy’n nodi’, credwn y dylai fod targedau pendant ar gyfer: 

    • darparu mwy o addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob un ysgol yn lle'r ddyletswydd arfaethedig yn rheol 11, Atodlen 3;

    • sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn sefyll cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn lle'r ddyletswydd arfaethedig yn rheol 12, Atodlen 3.

  • Pryderwn yn ogystal bod y targedau o ran twf addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynghorau unigol yn rhy isel am sawl rheswm, gan gynnwys:

    • bod targedau twf addysg cyfrwng Cymraeg mor isel yn golygu bod y Llywodraeth yn llwyr ddibynnol ar lwyddiant i gael hanner y disgyblion sy’n gadael ysgolion Saesneg i fod yn siaradwyr Cymraeg, ac nad oes unrhyw dargedau meintiol na mecanwaith cadarn ar gyfer cyflawni’r targed uchelgeisiol hwn;

    • bod y cynnig i newid prif darged y Cynlluniau Strategol i flwyddyn 1 (pan fo mwyafrif y plant naill ai'n 5 neu'n 6 mlwydd oed) yn hytrach na’r hen ddeilliant 7 mlwydd oed. Mewn gwirionedd, byddai’r newid yn gostwng y targedau twf addysg cyfrwng Cymraeg cenedlaethol;

    • mae’r targedau cenedlaethol presennol yn cymryd yn ganiataol na fydd cwymp yng nghanran y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg o un cyfnod addysg i’r llall. Er bod mynd i’r afael â diffyg dilyniant yn hanfodol, nid yw’n realistig rhagdybio y bydd y diffyg dilyniant presennol yn diflannu’n llwyr, felly dylai’r Llywodraeth osod targedau twf uwch ar gyfer oedrannau iau er mwyn gwneud yn iawn am y cwymp anochel mewn grwpiau oedran hŷn.  

  • Credwn y dylai’r targed blwyddyn 1 fod oddeutu’r un ffigyrau â’r hyn sydd yn y dadansoddiad ystadegol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith er mwyn bod yn sicr o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Byddai hynny’n golygu bod 50% yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 a 77% erbyn 2050. Mae modd darllen y dadansoddiad manwl yma: https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Targedau%20Addysg%20Lleol2.pdf 

  • Pryderwn ymhellach nad yw’r rheoliadau yn mynd i fod yn ddigonol i wella darpariaeth nifer o gynghorau yn y Gorllewin, yn enwedig Gwynedd a Môn, gan nad oes cynigion na thargedau meintiol ar gyfer normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ym mhob ysgol nac ychwaith o ran canran y grwpiau oedrannau hŷn sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg;

  • Mae angen cymhellion a chamau gorfodi clir er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar eu targedau a’u hamcanion;

  • Dylai’r canllawiau amlinellu’n fanwl y cymorth a’r camau polisi cadarn newydd a weithredir gan y Llywodraeth ac asiantaethau eraill er mwyn eu cynorthwyo a’u cymell i gyflawni ar y targedau yn y rheoliadau. 

2.2. Yn sgil y newidiadau i’r rheoliadau, mae angen cyfres o newidiadau strwythurol parhaol i bolisïau’r Llywodraeth, gan gynnwys:

  • cydnabyddiaeth ariannol i awdurdodau lleol a/neu ysgolion sy’n cyrraedd eu targedau ac yn ehangu dysgu cyfrwng Cymraeg; 

  • cronfa cyfalaf ariannol flynyddol ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfrwng Cymraeg er mwyn cymell newid;

  • datganiad a meini prawf clir ynglŷn â sut mae Band C rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn mynd i gymell a chynorthwyo twf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg;

  • datganiad am ragor o gamau gorfodi a chyfundrefn atebolrwydd er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y targedau a’r dyletswyddau yn y rheoliadau;

2.3. Ymhellach, dylai fod datganiad clir am becyn o newidiadau i gynllunio’r gweithlu trwy gamau polisi, gan gynnwys:

(i) Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canrannau'r bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

(ii) Sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod pob gweithiwr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant;

(iii) Rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle, gan gynnwys: 

a) cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i Gymru;  

b) rhaglen hyfforddiant gloywi Iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi ar hyn o bryd, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;

c) rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r mwyafrif i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd; 

ch) atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid, grwpiau cefnogi ysgol/ardal. 

(iv) Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith;

2.4. Yn ogystal, mae angen datganiad bod y Llywodraeth yn mynd i baratoi cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau amlwg yn y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol yn unol â chasgliadau’r Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg mewn Addysg. O ganlyniad i’r adroddiadau a thrafodaethau ynghylch y rheoliadau hyn ac eraill, credwn fod consensws am yr angen i ddeddfu er mwyn gwella meysydd megis y canlynol:

  • symud i system o dargedau lleol pendant yn lle cynlluniau lleol;

  • pwerau gorfodi a chymell er mwyn cyrraedd y targedau; 

  • nod deddfwriaethol i ddisodli mesur y galw;

  • gosod dyletswyddau ynghylch darpariaeth blynyddoedd cynnar;

  • gosod dyletswyddau ynghylch addysg ôl-16;

  • trafnidiaeth am ddim i sefydliadau addysg cyfrwng Cymraeg;  

  • dyletswyddau a newidiadau ynghylch cynllunio’r gweithlu. 

2.5. Yn ein barn ni felly, dylai’r cynigion deddfwriaethol sylfaenol gynnwys cynigion i:

  • Sefydlu nod hirdymor yn y ddeddfwriaeth i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, fel y gwneir yng Nghatalwnia, wrth ddisodli ‘mesur y galw’.

  • Er mwyn gweddnewid y system o fewn ychydig ddegawdau i system debyg i un Catalwnia, disodli’r gyfundrefn bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a lunir gan awdurdodau lleol, cyfundrefn sydd wedi methu, gyda system sy’n gosod targedau clir, di-droi'n-ôl ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod hirdymor erbyn dyddiad(au) pendant;

  • Sefydlu cyfundrefn sydd â chymhellion ariannol clir – refeniw a chyfalaf – a fformiwla glir er mwyn sicrhau bod y targedau hynny’n cael eu cyflawni drwy awdurdodau lleol.

  • Gosod targedau o ran cynyddu nifer a chanran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu’n bennaf drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, yn unol ag argymhelliad adroddiad yr Athro Sioned Davies; 

  • Sefydlu hawl i drafnidiaeth yn rhad ac am ddim i ysgolion a meithrinfeydd Cymraeg.

  • Gosod dyddiad targed statudol ar gyfer darparu addysg blynyddoedd cynnar a chyfnod sylfaen yn Gymraeg yn unig ar draws Cymru gyfan.

  • Sefydlu ac ehangu canolfannau trochi ym mhob sir, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr un patrwm â’r gyfundrefn yng Ngwynedd, drwy wneud y canolfannau yn rhan o ddarpariaeth statudol i gynghorau lleol yn eu hardal 

  • Sefydlu targedau statudol o ran nifer y bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd er mwyn sicrhau cynnydd yn y ganran fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Sefydlu’r hawl i addysg cyn-ysgol leol yn Gymraeg a gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth gofal ac addysg cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg yn y sir i baratoi plant ar gyfer addysg statudol Gymraeg

  • Sefydlu’r hawl i astudio drwy’r Gymraeg mewn addysg ôl-16, gan gynnwys y brifysgol, mewn prentisiaeth ac yn y chweched dosbarth neu yn y coleg. 

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chonsortia addysg i gynllunio’n strategol a darparu rhaglenni dysgu proffesiynol fydd yn cynyddu nifer y gweithwyr addysg sy’n gwella eu sgiliau Cymraeg. Dylai hyn gynnwys cydnabyddiaeth o hawl gweithwyr addysg i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl yn y gwaith.

3. Sylwadau manwl ar y Rheoliadau a’r Canllawiau

Ymestyn Cyfnod y Cynlluniau i 10 mlynedd

3.1. Cydnabyddwn fod y cynlluniau 3 blynedd presennol wedi methu, yn rhannol oherwydd bod oes y cynllun yn rhy fyr i gynllunio a chyflawni newid. Felly, mae dadl rhesymegol dros ymestyn oes y cynllun. Fodd bynnag, o dan y ddeddfwriaeth syflaenol bresennol, Deddf Safonau a Threfnidiaeth Ysgolion 2013, yr unig rym sydd gan y Llywodraeth i herio perfformiad cynghorau ar ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yw’r pwerau o dan adran 85 i wrthod cyllun arfaethedig y cyngor. Y tu hwnt i hynny, does dim pwerau statudol i annog, i gymell nac i orfodi newid. Wrth ymestyn cyfnod y cynllun felly, mae’r gallu i ymyrryd er mwyn sicrhau bod cynghorau’n cyflawni yn lleihau - gan mai unwaith mewn degawd y bydd cyfle i wneud hynny yn hytrach na phob tair blynedd.

3.2. Nodwn y cynigion i symleiddio’r adrodd blynyddol ar y cynlluniau. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith monitro yn golygu newid heb fod camau gorfodi neu gymell penodol. Credwn mai ffactorau eraill, megis diffyg targedau, cymhellion strwythurol a chamau gorfodi cadarn, sydd wrth wraidd y methiant i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach nag oes y cynllun. Fodd bynnag, byddem yn cefnogi ymestyn y cynllun i 5 neu 10 mlynedd pe bai cynllun neu newid deddfwriaethol i sicrhau bod grymoedd gan Estyn a Gweinidogion Cymru fel rhan o fecanwaith er mwyn sicrhau twf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Hyd yn oed os na fydd y Llywodraeth yn cyflwyno newid deddwriaethol, credwn, ar ôl 5 mlynedd, y dylai Estyn gynnal arolygiad ffurfiol llawn o bob cynllun strategol awdurdod addysg er mwyn sicrhau bod y targedau’n cael eu cyflawni. Gallai arolygiad o’r fath arwain at amryw o ganlyniadau megis rhoi awdurdod mewn mesurau arbennig. 

3.3. Pryderwn fod cynllun 10 mlynedd yn gyfnod rhy hir heb fecanwaith cadarn sy’n sicrhau atebolrwydd allanol annibynnol, cymhellion clir a gweithredu parhaus. Yn absenoldeb pwerau gorfodi a chymell ychwanegol, credwn y byddai’n well symud i gynlluniau 5 mlynedd neu gynlluniau 10 mlynedd gydag adolygiad ffurfiol yn y bumed flwyddyn fyddai’n cynnig cyfle pendant i’r Llywodraeth ymrryd. Wedi dweud hynny, wrth ystyried system ddelfrydol, nid ydym yn argyhoeddig mai cynlluniau sydd eu hangen, ond yn hytrach targedau lleol di-droi'n-ôl ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod hirdymor.

Cychwyn y Cynlluniau newydd yn 2021

3.4. O aros gyda chyfundrefn o gynlluniau am y tro, cydnabyddwn fod manteision o roi rhagor o amser i gynghorau lunio’r cynlluniau ac felly nid ydym yn gwrthwynebu’r cynnig hwn. Fodd bynnag, mae angen cydnabod bod heriau penodol gyda’r cynllun hwn:

(i) nid yw’r amserlen yn cyd-fynd ag amserlen rhaglenni cyfalaf prif-ffrwd y Llywodraeth, sy’n groes i argymhelliad Adolygiad Brys o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;

(ii) ni fydd llawer o amser gan y Llywodraeth nesaf i gymeradwyo, addasu neu wrthod y cynlluniau wedi’r etholiadau yn 2021;

(iii) nid yw’n llesol i gynlluniau 2017-20 gael eu hymestyn tan ddiwedd Awst 2021. 

3.5. Er mwyn delio â her (i) uchod, argymhellwn fod cronfa cyfalaf addysg cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar gael nes bod Band C rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn weithredol. Yn ogystal, mae angen edrych ar gryfhau’r cymhellion o fewn Band C y rhaglen yn sylweddol er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.

3.6. O ran y diffyg amser i ystyried y cynlluniau newydd a’r cynnig i ymestyn y cynlluniau presennol tan ddiwedd Awst 2021, nid yw’n glir bod datrysiad amlwg. Awgrymwn y dylid defnyddio’r amser rhwng nawr a’r gyfundrefn newydd i ddarparu rhaglen o hyfforddiant mewn swydd ac ymwybyddiaeth iaith dwys ar gyfer prif swyddogion adran addysg y Llywodraeth, awdurdodau lleol a chonsortia.

3.7. Credwn fod y maes hwn yn enghraifft arall o’r angen am Ddeddf Addysg Gymraeg. Byddai Deddf newydd yn gallu symud o system sy’n pennu’r amseriad ar gyfer mabwysiadu a chymeradwyo cynlluniau i system sy’n gosod dyddiadau pendant i gyflawni ar dargedau twf, a mecanwaith ymrryd, cymell, monitro a gorfodi’n effeithiol er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn cyflawni.

Dileu ‘Mesur y Galw’ 

3.8. Rydym yn croesawu’r cynnig i ddileu’r gofyniad i ‘fesur y galw’ am addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn lle hynny, symud at system o osod targedau penodol yn seiliedig ar gyflawni nod strategaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Nid ydym yn derbyn y dylai addysg Gymraeg fod yn fater o ddewis; credwn ei bod yn hawl sylfaenol i bob un disgybl adael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg.

Targedau Blwyddyn 1

3.9. Mae cwestiynau pwysig i’w gofyn am y system sy’n dod yn lle’r gofyniad i fesur y galw.  Yn rhesymegol, nid oes gan y Llywodraeth opsiwn arall ond gosod targedau ar gynghorau er mwyn cwrdd ag amcanion ei strategaeth iaith ei hun. Er ein bod yn croesawu’r targed ar gyfer Blwyddyn 1 fel cam yn y cyfeiriad cywir:

(i) nid yw’r targedau a amlinellir yn nhabl 5, tudalen 33 y canllawiau arfaethedig yn ddigonol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr;

(ii) mae angen mwy o dargedau meintiol er mwyn sicrhau bod pob awdurdod yn cyflawni i’r graddau sydd ei angen, yn enwedig ar gyfer blynyddoedd hŷn a diwedd blwyddyn 3, diwedd blwyddyn 6 a diwedd blwyddyn 9 yn benodol;

(iii) nid yw targed ar gyfer Blwyddyn 1 yn unig o gymorth mawr i awdurdodau yn y Gorllewin, yn enwedig Ynys Môn a Gwynedd sydd angen cael eu herio ar ddeilliannau eraill, yn enwedig er mwyn mynd i’r afael â diffyg dilyniant.

3.10. Mae targed ar gyfer Blwyddyn 1 ar ei ben ei hun yn annigonol gan nad yw’n mynd i’r afael â diffyg dilyniant, sy’n broblem enfawr mewn rhai siroedd ac i’r iaith yn genedlaethol. Mae targedau ar gyfer blynyddoedd ysgol eraill yn hanfodol i lwyddiant y gyfundrefn. Mae perygl fel arall bod y rheoliadau hyn yn amherthnasol i’r ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf ond yn wynebu heriau enfawr. Oni bai bod targedau ar gyfer blynyddoedd hŷn, ni fydd y Llywodraeth yn gallu cyflawni ar yr addewid i ddileu unrhyw ddffyg dilyniant presennol mewn addysg Gymraeg. Mae’r diffyg dilyniant presennol yn effeithio ar 11% o ddisbylion yn genedlaethol, pobl ifanc sy’n colli eu gafael ar y Gymraeg oherwydd y gyfundrefn bresennol.  

Targedau annigonol er mwyn cyrraedd y miliwn

3.11. Nid yw’r targedau a amlinellir yn nhabl 5, tudalen 33 y canllawiau arfaethedig yn ddigonol i gyrraedd targed y miliwn o siaradwyr am y rhesymau canlynol:

  • mae targedau twf addysg cyfrwng Cymraeg mor isel yn golygu bod y Llywodraeth yn llwyr ddibynnol ar lwyddiant i gael hanner y disgyblion sy’n gadael ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg, ac nid oes unrhyw dargedau meintiol na mecanwaith cadarn ar gyfer cyflawni’r targed uchelgeisiol hwn;

  • mae’r cynnig i newid prif darged y Cynlluniau Strategol i flwyddyn 1 (pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 5 neu'n 6 mlwydd oed) yn hytrach na’r hen ddeilliant 7 mlwydd oed yn golygu, mewn gwirionedd, lleihau’r targedau twf addysg cyfrwng Cymraeg cenedlaethol, ac yn gwneud y targedau yn llai perthnasol i’r heriau sy’n wynebu ysgolion yn y Gogledd a’r Gorllewin;

  • mae’r targedau cenedlaethol presennol yn cymryd yn ganiataol na fydd cwymp yng nghanran y disgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o un cyfnod addysg i’r llall. Er bod mynd i’r afael â diffyg dilyniant yn hanfodol, nid yw’n realistig rhagdybio y bydd y diffyg dilyniant hwn yn diflannu’n llwyr, felly dylai’r Llywodraeth osod targedau twf uwch ar gyfer oedrannau iau er mwyn gwneud yn iawn am y cwymp anochel mewn grwpiau oedran hŷn.  

3.12. Credwn y dylai’r targed blwyddyn 1 fod yn llawer uwch, sef oddeutu’r un ffigyrau â’r hyn sydd yn ein dadansoddiad ystadegol ni er mwyn bod yn sicr o gyrraedd miliwn o siaradwyr, sef 50% yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 a 77% erbyn 2050. Nodwn yn benodol bod angen rhoi disgwyliad ar bob awdurdod, gan gynnwys Gwynedd a Môn, i wneud cynnydd. Manylir ar ein targedau amgen isod ochr yn ochr â thargedau arfaethedig y canllawiau:




Cyngor

Targed arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer 2030

Targed arfaethedig y Gymdeithas ar gyfer 2030

Ynys Môn

87%

91.7%

Gwynedd 

98%

99.5%

Conwy

35-39%

58.7%

Dinbych

35-39%

58.0% 

Powys

30-34%

50.4%

Ceredigion

87-93%

92.4%

Sir Benfro

30-34%

51%

Sir Gaerfyrddin

68-72%

84.1%

Castell Nedd Port Talbot

27-31%

49.4%

Wrecsam

21-25%

36.7%

Abertawe

24-28%

41.4%

Bro Morgannwg

23-27%

38.6%

Rhondda Cynon Taf

27-31%

51.3%

Merthyr Tudful

21-25%

36%

Caerffili

25-29%

49.7%

Caerdydd

25-29%

43%

Sir y Fflint

13-17%

20.4%

Penybont

15-19%

28.6%

Blaenau Gwent

9-13%

18.6%

Torfaen

18-22%

32.5%

Sir Fynwy

12-16%

20.7%

Casnewydd

11-15%

16.7%

Cymru Gyfan

32-35%

50.5%

 

3.13. Ni ellid gorbwyleisio pa mor dyngedfennol yw’r targedau hyn i lwyddiant strategaeth iaith Cymraeg 2050. Nid oes modd i’r Llywodraeth gymryd unhyw risg o fethu â chyrraedd targedau twf yn y ddarpariaeth. Pryderwn nad oes ymdrech i gynllunio ar sail modelu’r teybgolrwydd y caiff targedau amrwyiol eu cyrraedd. Er enghraifft, heb fod gweithredu sylweddol ar fyrder i fynd i’r afael â’r mater, dylai fod yn amlwg bod llawer iawn o ansicrwydd am allu’r Llywodraeth i gyrraedd ei tharged i gael hanner y disgyblion sydd mewn addysg ‘cyfrwng Saesneg’ yn siarad Cymraeg. Fodd bynnag, nid oes cydnabyddiaeth o hyn na chynigion clir yn y rheoliadau na’r canllawiau i fynd i’r afael â’r her.

3.14. Croesawn y cynnig i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw i’r canllawiau fel cam ymlaen. Rydym yn deall bod y geiriad yn cael ei gynnig o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol. Fodd bynnag, awgrymwn y dylai’r rheoliadau ddatgan bod angen ‘rhoi sylw dyledus’ i’r canllawiau yn hytrach na ‘rhoi sylw’ yn unig fel yn y geiriad presennol. Yn hyn o beth, mae’r cwestiwn yn y ddogfen ymgynghori ei hun yn anghyson â geiriad y rheoliadau drafft.   

Y datganiadau yn y rheoliadau

3.15. O edrych ar y rheoliadau yn gyffredinol, credwn:

  • y dylai fod llai o ddyletswyddau sy’n gofyn am ‘ddatganiadau sy’n nodi’, ac, yn hytrach, y dylid canolbwyntio ar dargedau meintiol neu weithredoedd penodol a gaiff effaith ar lawr gwlad, gan adeiladu ar y cynsail cadarnhaol yn rheoliad cyntaf yr atodlen, sef y targed Blwyddyn 1;

  • fod angen cryfhau pob un rheoliad sy’n cychwyn gyda ‘Datganiad sy’n nodi’, yn enwedig cymalau 7, 11 a 12 sy’n allweddol i ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050;  

  • fod angen i’r rheoliadau fod yn berthnasol i’r system ‘cyfrwng Saesneg’ bresennol: nid yw’r rheoliadau arfaethedig, ddim mwy na’r rhai blaenorol, yn gwneud ymdrech wirioneddol i fynd i’r afael â hyn, sy’n effeithio ar oddeutu 80% o’n pobl ifanc;

  • fod angen dyletswydd ychwanegol sy’n gosod targed i symud pob disbygl i fyny’r camau cynnydd ar hyd yr un continwwm dysgu Cymraeg a fydd yn ffurfio rhan o’r cwricwlwm newydd;

  • fod angen ychwanegu dyletswydd i gyhoeddi crynodeb o brif dargedau’r cynllun, a’u dosbarthu i bob llywodraethwr ysgol a rhanddeiliaid perthnasol.

3.16. Gweler yn y tabl isod argymhellion o ran sut i gryfhau a/neu ddynhau’r rheoliadau yn yr atodlen: 

 




Y rheoliad arfaethedig 

Geiriad Amgen y Gymdeithas

Sylwadau Pellach

1.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun. 

(2) Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013.

2. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant  Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

1.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun. 

(2) Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013. 

2. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant  Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

2A. Targed i gynyddu canran y disgbylion ymhob lleoliad addysg sy’n bodloni’r camau cynnydd disgwyliedig ar yr un continwwm dysgu Cymraeg;

Cytuno gyda thrywydd y geiriad hwn, a dylid defnyddio patrwm tebyg ar gyfer y rheoliadau eraill. Dylai fod targedau ar gyfer diwedd blwyddyn 3, diwedd blwyddyn 6 a diwedd blwyddyn 9. 

Dylid newid ‘rhoi sylw’ i ‘rhoi sylw dyledus’ er mwyn cryfhau’r pwysau ar awdurdodau lleol i fabwysiadu’r targed. 

Credwn y dylai’r targedau yn y canllawiau fod yn fwy uchelgeisiol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad ydynt yn ddigon uchelgeisiol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dim ond plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg mae datganiad 2 yn ymdrin â nhw, mae angen targedau meintiol ar gyfer y plant sydd mewn ysgolion 

cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd. Awgrymwn felly fod angen targed ar gyfer sicrhau bod pob disgybl yn symud ar hyd yr un continwwm sy’n disodli Cymraeg ail iaith. 

3.Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio data sy’n deillio o’i adolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ei ardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016(1)) er mwyn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

-

Mae’r ddyletswydd hon yn wan, ond rydym ar ddeall mai dyma’r gorau sy’n bosib o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol. 

Mae’r methiant i allu gosod dyletswyddau ystyrlon ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn enghraifft glir o’r angen am Ddeddf Addysg Gymraeg newydd.

4. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynyddu nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg

4.Targed i gynyddu nifer a chanran y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg

Credwn y dylid gosod targedau yn y maes yma, yn lle datganiad sy’n nodi yn unig.  

5. Datganiad sy’n nodi sut y bydd unrhyw geisiadau y mae’r awdurdod lleol yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwariant ar ysgolion a gynhelir yn ei ardal yn ystyried targed yr awdurdod lleol i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

5. Cynllun gweithredu sy’n amlinellu sut mae arian cyfalaf sydd gan yr awdurdod, gan gynnwys unrhyw geisiadau am grant gan Weinidogion Cymru ac unrhyw fudd cynllunio, yn sicrhau bod yr awdurdod yn cyrraedd y targedau ar gyfer blwyddyn 1 a thargedau ac amcanion eraill ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 

Credwn y dylai fod cynllun sy’n amlinellu sut mae holl arian cyfalaf sydd gan y cyngor, gan gynnwys unrhyw fudd cynllunio, yn sicrhau bod yr awdurdod yn cyrraedd yr holl dargedau ac amcanion yn ei gynllun. 

6. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd er mwyn sicrhau parhad mewn trefniadau ar gyfer personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i’r sir y maent yn byw ynddi.

Dileu

Credwn fod achos dros ddileu’r cymal hwn, ac yn ei le, cryfhau cymalau eraill. 

7. Datganiad sy’n nodi trefniadau’r awdurdod lleol o ran ei ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gwarcheidwaid.

7. Targed i sefydlu, o fewn y 5 mlynedd nesaf, o leiaf un ganolfan hwyrddyfodiaid ychwanegol sy’n weithredol o fewn ardal yr awdurdod. 

7A. Targed i gynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu canolfannau hwyrddyfodiaid; 

Mae gwir angen cryfhau’r cymal hwn fel bod dyletswydd ddiamwys ar bob sir i gynnal o leiaf un ganolfan ar gyfer hwyrddyfodiaid yn ogystal â chynyddu nifer y disgyblion sy’n eu mynychu. Mae hyn yn gam tuag at sicrhau bod mynediad i bob disgybl, o bob cefndir at ruglder yn Gymraeg fel rhan o broses o normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. 

8. Datganiad sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â’i fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg (os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol) i lunio cynllun yr awdurdod a goruchwylio ei weithredu a’i werthuso

Dileu

Nid oes angen dyletswydd gyfreithiol i wneud hyn, sy’n cyfeirio at broses yn hytrach na chyflawni’r targedau. Pryderwn y bydd datganiadau o’r fath yn tynnu sylw cynghorau i ffwrdd o gyflawni targedau. Wrth symud i system sy’n mynnu bod cynghorau’n cyrraedd targedau meintiol nid oes angen rheoliadau sy’n pennu proses nad yw’n addas ym mhob achos.

9.Datganiad sy’n nodi — 

(a) sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir; 

(b) sut y bydd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau ni waeth beth fo’u cefndir ieithyddol; 

(c) sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y manteision a all ddaw yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.

9. Cynllun sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod yn sefydlu, neu’n cynnal, addysg cyfrwng Cymraeg fel yr opsiwn di-ofyn i bob disgybl yn holl waith yr awdurdod, gan gynnwys yn eu prosesau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd addysg cyffredinol, prosesau derbyn.

9A. Cynllun i ehangu mynediad at addysg Gymraeg ymysg unrhyw grwpiau demograffeg sydd wedi'u tangynrychioli mewn addysg Gymraeg yn y sir.

Pryderwn fod geiriad y cymal hwn yn derbyn ac yn cadarnhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn eithriad yn hytrach na norm. Yn hynny o beth, mae’n anfon y neges anghywir i gynghorau sir. Yn ogystal, mewn ardadloedd lle mae’r mwyafrif eisoes yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg nid yw cyfeirio at addysg cyfrwng Cymraeg fel ‘opsiwn’ yn addas. Credwn fod y cymal felly yn colli cyfle i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau neu’n dod yn norm ym mhob rhan o’r wlad. Er mwyn normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, mae angen i awdurdodau ei wneud yn lwybr di-ofyn yn eu holl waith. 

Credwn fod angen cyfeiriad penodol at estyn allan i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, megis lleiafrifoedd ethnig a phlant o gefndiroedd difreintiedig, gan fod angen cymryd camau penodol mewn nifer o ardaloedd i herio patrymau hanesyddol o ran pwy sy’n cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.  

10. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod personau a addysgir yn Gymraeg yn parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.

10. Targed i gynyddu’r canran o ddisgyblion a addysgir yn Gymraeg sy’n parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.

Targed clir yn hytrach na gofyniad am ddatganiad yn unig sydd ei angen yma gan fod llwyddiant yn y maes yn hollol greiddiol i strategaeth iaith y Llywodraeth.  

11.Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir mewn unrhyw ysgolion a gynhelir ganddo ac sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

11. Targed i gynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

 

Eto, targed sydd ei angen yma. 

Nid yw’n glir pam bod cyfyngiad ar y rheoliad hwn i ysgolion dwyieithog. Mae angen i bob ysgol gynyddu canran yr addysg cyfrwng Cymraeg os yw targedau’r Llywodraeth yn mynd i gael eu gwireddu. 

12. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynyddu nifer a chanran y personau 15 oed a throsodd ym mhob lleoliad ysgol uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

12. Targed i gynyddu nifer a chanran y disgyblion 15 oed a throsodd ym mhob lleoliad ysgol uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Eto, targed sydd ei angen yma. 

13. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i barhau â’r addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ar gyfer personau 14 i 19 oed drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen

Dileu

Eto, nid ydym yn gweld diben y ddyletswydd anelwig hon, a bydd yn debygol o dynnu sylw awdurodau lleol oddi ar y targedau sydd o fewn eu maes gwaith. Mae angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn sefydlu hawliau a gosod dyletswyddau ystyrlon yn y sector ôl-16. 

14. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn darparu mwy o Gymraeg fel pwnc i bersonau sydd dros 15 oed ym mhob lleoliad ysgol uwchradd a gynhelir, gan gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen

14. Targed i ddarparu mwy o Gymraeg fel pwnc i ddisgyblion sydd dros 15 oed ym mhob lleoliad ysgol uwchradd a gynhelir. 

Eto, targed sydd ei angen yma. 

15. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg drwy gynyddu’r cyfleoedd i bersonau siarad Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhelir ganddo.

Dileu

Eto, nid ydym yn gweld bod datganiad o’r math yma yn ychwanegu at gynllunio twf addysg Gymraeg. Mae mentrau yn bodoli sy’n mynd i’r afael â hyn yn digwydd eisoes ac nid yw adrodd amdanynt mewn cynllun fel hwn yn mynd i wneud gwahaniaeth yn ein barn ni.  

16. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol 10 a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1) er mwyn llywio’r cynllun mewn perthynas â deilliannau ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

16. Cynllun sy’n amlinellu sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol 10 a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1) er mwyn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

Mae geiriad hwn yn wan, ac awgrymwn fod angen rheoliad cryfach sy’n mynd i’r afael â diffygion ac yn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

17. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i ymdrin â chynllunio’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ysgolion a gynhelir yn ei ardal, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill a darparwyr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol

17. Ymrwymiad i sicrhau bod unrhyw hyfforddiant a ariennir gan yr awdurdod yn gosod amod bod angen prif-ffrydio dysgu Cymraeg i bawb a bodloni anghenion iaith pob un gweithiwr addysg. 

Credwn fod un ddyletswydd ystyrlon y byddai modd ei gosod ar gynghorau, sef yr awgrym hwn am amod ar ariannu hyfforddiant. 

Fodd bynnag, yn gyffredinol, cyfrifoldeb y Llywodraeth ac asiantaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn bennaf yw hyfforddiant y gweithlu. Rydym yn deall bod awydd i beidio ag esgleuso’r maes hollbwysig hwn yn y rheoliadau. Fodd bynnag, awgrymwn y byddai’n well, yn hytrach na gosod dyletswyddau annelwig a di-rym yn y rheoliadau hyn, i’r Llywodraeth ddangos arweiniad a chyhoeddi strategaeth benodol ynghyd â chamau gweithredu pendant ar yr un adeg â chyhoeddi’r rheoliadau. Credwn mai cymylu’r dyfroedd fyddai canlyniad ychwanegu dyletswyddau ar gynghorau lle nad oes gwir ddylanwad ganddyn nhw.

18. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cymorth i— 

(a) gwella sgiliau Cymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal; 

(b) gwella sgiliau addysgu yr athrawon ysgol hynny a’r gweithwyr cymorth dysgu hynny mewn ysgolion, sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

Dileu

Gweler uchod

19. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

Dileu

Nid ydym yn gweld diben i’r ddyletswydd hon. 

20. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant i ddysgwyr yn unol â’r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(2).

Dileu

Nid oes diben i’r ddyletswydd wan hon - gan nad yw’n gwneud dim ond ail-adrodd dyletswydd ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr 2008. Nid oes tystiolaeth gennym fod y ddyletswydd hon wedi osgoi nac atal toriadau i drafnidiaeth ysgol, nac y bydd yn gwneud hynny.

Mae angen Deddf Addysg Gymraeg newydd er mwyn gwarantu trafnidiaeth am ddim i bob sefydliad addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

3.17. Erys cwestiynau ymarferol am weithrediad y system newydd, gan gynnwys y canlynol:

  • Beth sy’n digwydd os bydd un cyngor yn mynnu gosod ei tharged blwyddyn 1 yn is nag awgrym y Llywodraeth ar gyfer y twf isaf sydd ei angen? O dan yr amgylchiadau hynny, beth all y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y cynlluniau’n mynd i gyrraedd y nod? A fyddai angen gofyn i gyngor arall gyflawni twf uwch?

  • Beth yw’r pwerau gorfodi a chymell sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn cyrraedd y targedau?

  • Pam nad oes targed ar gyfer mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg? Wedi’r cwbl, o ran cynllun y Llywodraeth, mae’r targed i sicrhau bod hanner y plant sy’n dod allan o ysgolion ‘cyfrwng Saesneg’ presennol yn siarad Cymraeg erbyn 2050, cyn bwysiced â sicrhau bod 40% mewn addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn. 

3.18. Er y dylid gwneud popeth posib i wella’r rheoliadau hyn yn sgil y cwestiynau uchod, mae nifer o’r cwestiynau yn arwain at y casgliad bod Deddf Addysg Gymraeg newydd yn hanfodol er mwyn cyflawni amcanion y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr.

Adrodd ac adolygu’r Cynlluniau

3.19. Gwelwn fod manteision i ofyn i gynghorau adrodd yn flynyddol i’r Llywodraeth ar eu perfformiad. Fodd bynnag, nid oes diben adrodd er mwyn adrodd, ac nid ydym yn gweld bod adrodd, ynddo’i hunan, yn creu digon o gymhelliant i gyflawni ar dargedau cynllun.

3.20. Credwn fod angen i Estyn fod â rôl yn hyn o beth, gan gadw trosolwg a gwneud arolygiad ffurfiol ar ôl pum mlynedd. Yn ogystal, mae angen pwerau gorfodi a chymell ffurfiol er mwyn sicrhau bod cynghorau yn gwybod bod angen iddyn nhw gyflawni twf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl. 

4. Polisi Addysg Gymraeg Ehangach

4.1. Mae’r drafodaeth ynghylch y rheoliadau hyn wedi esgor ar gonsensws bod angen i’r Llywodraeth gymryd camau newydd a phendant mewn tri maes er mwyn sicrhau y gwelwn ni dwf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn, sef arian cyfalaf, cynllunio’r gweithlu a deddfwriaeth sylfaenol. 

4.2. Arian Cyfalaf

 

4.2.1. Credwn ei bod yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd bod yna gymhellion cryf, cadarn a hirhoedlog i sicrhau bod awdurdodau yn cyflawni ar y nod hirdymor a/neu dargedau cenedlaethol.

4.2.2. Rhoesom groeso i lwyddiant y gronfa a gyflwynwyd y llynedd i ddarparu 100% o arian cyfalaf ar gyfer prosiectau addysg cyfrwng Cymraeg, ond gresynwn at y ffaith nad yw wedi parhau. Rydym yn cytuno â Rhieni dros Addysg Gymraeg y dylid parhau â’r gronfa a’i hehangu ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, nid oes modd seilio trefn gyfreithiol wedi ei dylunio i weithio dros gyfnod o ddegawdau ar gynlluniau ariannol dewisol, mympwyol, dros dro.

4.2.3. Ymysg y cymhellion ariannol rydym yn eu ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod hirdymor a thargedau cenedlaethol: 

  • Dylid clustnodi arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ar gyfer adeiladau newydd i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. 

  • Ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r sefydliadau addysg yn y dalgylchoedd perthnasol, na gyda llai na 50% o’r addysg drwy’r Gymraeg. 

  • Yn y cyfamser, dylid ymestyn a chynyddu'r cynllun presennol i gynnig 100% o'r arian cyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau Cymraeg penodedig.

4.2.4. Credwn ymhellach fod modd ystyried, yn ogystal neu yn lle'r uchod: 

  • Lle nad yw awdurdod lleol yn cyrraedd eu targedau statudol i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylid trosglwyddo’r arian refeniw i gonsortia neu ysgolion unigol sy'n dangos cynnydd ar sail cynllun strategol 

  • Parhau â chronfa gyfalaf ar wahân sydd â maint digonol er mwyn cyrraedd targedau/nod hirdymor y ddeddfwriaeth 

  • Mabwysiadu rheol genedlaethol fel yr un a ffafrir gan gyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, sef na ddylid ond ariannu drwy gyfalaf ysgolion newydd sy'n ysgolion penodedig Gymraeg neu 'ddwyieithog' (sef 50%+ cyfrwng Cymraeg)

4.3. Cynllunio’r Gweithlu

 

4.3.1. Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn amlinellu camau polisi newydd er mwyn sicrhau bod cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg yn digwydd yn effeithiol. Credwn fod angen strategaeth benodol ar gyfer hyn a dylid ei chyhoeddi ar yr un adeg â chyhoeddi’r rheoliadau hyn. 

4.3.2. O fewn y strategaeth benodol, credwn y dylid gwneud y canlynol: 

(i) Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canrannau'r bobol sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

(ii) Sicrhau bod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yn anelu i gael pob gweithiwr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant;

(iii) Rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle, gan gynnwys: 

a) cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer y newydd-ddyfodiaid i Gymru;  

b) rhaglen hyfforddiant gloywi Iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;

c) rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r mwyafrif i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd; 

ch) atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid, grwpiau cefnogi ysgol/ardal. 

(iv) Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith;

4.3.3 Rydym wedi cyhoeddi dogfen lawn o gamau i wella cynllunio’r gweithlu addysg, yn seiliedig ar drafodaethau gydag arbenigwyr yn y maes. Mae hon i’w gweld yn 

https://cymdeithas.cymru/dogfen/cyrraedd-y-filiwn-o-siaradwyr-drwyr-gyfundrefn-addysg-polis-au-allweddol-gr-p-addysg-cymdeith 

4.4. Yr angen am Ddeddf Addysg Gymraeg 

 

4.4.1. Mae panel o arbenigwyr y Llywodraeth wedi bod yn glir am yr angen am Ddeddf Addysg Gymraeg er mwyn sicrhau bod y system yn cyflawni uchelgais y Llywodraeth. Fel yr ydym wedi’i ddweud uchod, mae manylion a mannau gwan y rheoliadau arfaethedig hyn yn cryfhau’r achos dros ddeddfwriaeth syflaenol yn ogystal. Gweler rhai o’n pwyntiau manwl am gynnwys y ddeddfwriaeth sydd ei hangen yn adran 2.4 a 2.5 uchod. 

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith

Medi 2019