Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7)
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
1.Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
1.2. Gofynnwn i'r pwyllgor roi sylw penodol i'r gymhariaeth rhwng y rheoliadau arfaethedig hyn a:
(i) Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 ar gyfer awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru;
(ii) Rheoliadau ymgynghorol Safonau'r Gymraeg ar gyfer y maes iechyd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2016;
(iii) Argymhellion adroddiad ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y maes iechyd (Mehefin 2015);
(iv) Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg "Fy Iaith, Fy Iechyd" (2014); ac
(v) Egwyddorion strategaeth 'Mwy na Geiriau...' Llywodraeth Cymru
1.3. Mae Safonau'r Gymraeg ar gyfer sectorau eraill eisoes wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran gwella darpariaeth Gymraeg cyrff megis cynghorau sir. Oherwydd potensial y system Safonau i wella'r ddarpariaeth Gymraeg yn sylweddol, credwn y dylai'r Llywodraeth flaenoriaethu'r gwaith o'u hymestyn i'r holl sectorau y mae ganddi rym i wneud dan Fesur y Gymraeg 2011, gan gynnwys cwmnïau trên, ynni a thelathrebu.
1.4. Pryderwn, fodd bynnag, y bydd penderfyniadau Gweinidog y Gymraeg o ran union fanylion y set benodol hon o Safonau – gan ei bod wedi ildio i hunan-fuddiannau cyrff yn hytrach na blaenoriaethu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth – yn golygu colli cyfle unigryw i wella hawliau pobl ar lawr gwlad i wasanaethau iechyd.
2. Crynodeb
2.1 Credwn fod y rheoliadau'n gwbl annigonol i fodloni hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â'r gwasanaeth iechyd. Mae'r rheoliadau wedi'u gwanhau'n sylweddol o gymharu â'r Safonau sydd eisoes yn weithredol ar gyfer awdurdodau lleol, a hyd yn oed y rheoliadau ymgynghorol ar gyfer y maes iechyd a gyhoeddwyd yn 2016. Credwn ymhellach fod y rheoliadau yn anwybyddu argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ynghyd ag egwyddorion strategaeth 'Mwy na Geiriau...'.
2.2. Hoffem dynnu sylw'r pwyllgor at y ddau brif wendid yn y Rheoliadau arfaethedig:
(i) Mae gofal iechyd sylfaenol wedi'i eithrio o'r rheoliadau (paragraff 9, tudalen 9) – mae darparwyr fel fferyllfeydd a meddygfeydd, yn cael eu heithrio o'r Safonau er mai nhw yw prif bwynt cyswllt – ac yn aml, unig bwynt cyswllt – y cyhoedd â'r gwasanaeth iechyd;
(ii) Ni fydd hawl gan bobl i dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymgynghoriadau clinigol, yn Gymraeg mewn ysbytai – boed drwy wasanaeth cymorth cyfieithu neu staff sy'n medru'r iaith – sef y prif wasanaeth a ddarperir gan wasanaethau iechyd;
2.2. Nid yw'r Safonau felly yn creu unrhyw hawl i dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymgynghoriadau clinigol, yn Gymraeg yn unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd, a byddai unrhyw ddarpariaeth Gymraeg yn parhau i fod yn hollol wirfoddol. Byddai hynny'n golygu colli cyfle unigryw, unwaith-mewn-degawd o bosibl, i gynyddu defnydd o'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd mewn ffordd a fyddai'n gwneud gwir wahaniaeth i gleifion.
2.3. Mae llawer o gymalau yn y Safonau y byddai'r Gymdeithas yn dymuno eu gwella, ond mewn ysbryd adeiladol, gofynnwn i'r pwyllgor argymell bod y Llywodraeth yn diwygio'r rheoliadau presennol drwy ychwanegu Safonau penodol a fyddai'n:
(i) gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd i osod amodau o fewn eu cytundebau gyda chyrff gofal iechyd sylfaenol annibynnol i ddarparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn dangos bod y Llywodraeth wedi derbyn yr egwyddor o osod amodau mewn cytundebau eisoes, ond byddai gosod hyn fel Safon yn sicrhau cydymffurfiaeth go iawn wedi'i reoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg yn hytrach nag addewid penagored ac aneglur y Llywodraeth i gynnig gweithredu y tu allan i gyfundrefn y Safonau;
(ii) rhoi hawl i unigolion dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymgynghoriadau clinigol, yn Gymraeg;
3. Sylwadau
Gwanhau'n sylweddol ar setiau a drafftiau blaenorol y Safonau
3.1. Mae'r Safonau yn wannach o lawer na Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, yn ogystal â'r drafft ymgynghorol ar gyfer y maes iechyd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2016.
3.2. Mae'r Safonau wedi'u gwanhau'n sylweddol mewn sawl ffordd, yn benodol gan eu bod:
-
Yn dileu'r hawl i gymorth Cymraeg mewn ymgynghoriadau clinigol yn gyfan gwbl1, felly er y bydd rhaid cofnodi dewis iaith y claf, ni fydd rhaid gwneud unrhyw drefniant i'w trin yn Gymraeg;
-
Yn dileu hawl y Comisiynydd i osod Safon i sicrhau gwasanaeth ffôn cyflawn Cymraeg, hyd yn oed mewn rhai ardaloedd neu sefyllfaoedd yn unig2;
-
Yn dileu unrhyw hawliau i'r cyhoedd dderbyn dogfennau neu daflenni yn Gymraeg3, megis manylion ymgynghoriadau, taflenni gwybodaeth, canllawiau, cardiau a llyfrynnau. Ymddengys bod y gwanhau hwn yn seiliedig ar gasgliadau ymgynghoriad ar Fil arfaethedig y Gymraeg nad ydynt yn gyhoeddus eto;
-
Yn gwanhau'r hawl i gyrsiau addysg a hyfforddiant drwy'r Gymraeg gan ragdybio y bydd pob cwrs yn Saesneg ac mai eithriadau'n unig fydd cyrsiau Cymraeg lle bo 'angen', sy'n gwbl groes i egwyddor y 'cynnig rhagweithiol' a argymhellir yn 'Mwy na Geiriau...' a hysbysiadau cydymffurfio cyrff eraill lle mae rhagdybiaeth y bydd cwrs yn Gymraeg. Mae'r Safonau hefyd yn lleihau ymhellach y nifer o gyrsiau sy'n ddarostyngedig i'r hawl hon4;
-
Yn eithrio cyrff iechyd o unrhyw ddyletswyddau i ohebu yn Gymraeg ynghylch ymgynghoriad clinigol5;
-
Yn atal cyrff allanol rhag gweithredu yn Gymraeg drwy ddileu unrhyw hawliau cyrff i wasanaethau Cymraeg6;
-
Yn eithrio gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau cartref gofal yn benodol o unrhyw ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg7;
Gofal Iechyd Sylfaenol – eithriad cwbl annerbyniol
3.3. Er bod sôn yn y memorandwm esboniadol am ba mor bwysig yw Gofal Sylfaenol, ac er gwaetha'r pryder a fynegwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad nad yw Gofal Sylfaenol wedi'i gynnwys, mae'r modd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb i hynny yn y rheoliadau yn gwbl annigonol. Mae’r safonau hyn yn diystyru hawliau siaradwyr Cymraeg yn llwyr mewn perthynas â gofal sylfaenol. Mae angen safonau sy’n gwarchod hawliau defnyddwyr ar hyd eu llwybr gofal – o’r cysylltiad cyntaf â'r gwasanaeth iechyd. Meddygon teulu, optegwyr, deintyddion a fferyllwyr yw prif gyswllt y cyhoedd, ac yn aml ein hunig gyswllt, â’r gwasanaeth iechyd, felly byddai creu dyletswyddau iaith ym maes iechyd heb osod dyletswyddau ar y gwasanaethau hyn yn hollol annerbyniol.
3.4. Mae cwynion di-ri am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg elfennol ym maes gofal sylfaenol, o ddiffyg gwasanaeth derbynfa Cymraeg, diffyg staff sy'n siarad Cymraeg i ddiffyg arwyddion a gwefannau Cymraeg. Fel dywedodd Comisiynydd y Gymraeg yn ei hymholiad swyddogol cyntaf "Fy iaith, fy iechyd: ymholiad i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol":
"Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion."
3.5. Cafwyd argymhelliad clir gan Gomisiynydd y Gymraeg ar sail ei hymholiad i faes iechyd:
"Casgliad 14: Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau’r cyhoedd gyda’r gwasanaeth iechyd, cred Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r sefydliadau iechyd a fu’n destun i’r ymchwiliad safonau hwn. Daw’r Comisiynydd felly i’r casgliad bod angen safonau ychwanegol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd."
ond mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu'r argymhelliad yn llwyr wrth lunio ac ail-lunio'r rheoliadau.
3.6. Rydyn ni fel mudiad yn derbyn ymholiadau a chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, am eu bod wedi methu â derbyn gwasanaeth yn Gymraeg. Mae’n anodd iawn i bobl gwyno am ddiffyg hawl i wasanaeth yn Gymraeg oherwydd maent gan amlaf yn ceisio cefnogaeth y gwasanaethau yma pan fyddant mewn angen ac yn teimlo’n fregus ac mewn perygl.
3.7. Mae sawl astudiaeth a darn ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw gallu cyfathrebu yn eich dewis iaith, yn enwedig mewn sefyllfa o geisio cyfleu problem neu anhawster. Yn wir, mewn cyd-destun fel iechyd, mater o angen yn hytrach na dewis yw gwasanaeth yn eich iaith mewn gwirionedd. Mae sawl enghraifft anffodus o asesiad anghywir a thriniaeth anaddas yn digwydd oherwydd nad yw’r person sy’n ymateb i angen y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth wedi gallu darparu’r gwasanaeth yn Gymraeg. Gall gwasanaeth iechyd yn Gymraeg arwain at fudd sylweddol i iechyd y claf.
3.8. Mae iaith yn elfen allweddol o ofal. Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd pan fônt ar eu mwyaf bregus, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Dylai’r Safonau gydnabod y ffaith bod gwasanaethau Cymraeg yn y maes hwn yn hawl sylfaenol i bobl Cymru.
3.9. Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod mwyafrif y darparwyr gofal sylfaenol ledled Cymru yn gweithredu fel pe na bai unrhyw orfodaeth na chanllawiau yn eu cymell i weithredu gydag ystyriaeth i anghenion iaith siaradwyr Cymraeg. Yn aml iawn nid oes staff dwyieithog yn cael eu penodi, ac nid yw arwyddion sylfaenol yn ddwyieithog hyd yn oed.
3.10. Prin bod y Safonau'n gwneud unrhyw beth i newid y sefyllfa o ran gwasanaeth wyneb yn wyneb, oherwydd y penderfyniad i wanhau'r rheoliadau presennol sydd eisoes yn weithredol ar gyfer cynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
3.11. Noder bod Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) a basiwyd gan y Cynulliad yn unfrydol yn 2015 ac sydd bellach yn weithredol ar bob un awdurdod lleol, parc cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn datgan bod trydydd parti sy'n gweithredu ar ran corff, megis cwmni yn gweithredu ar ran cyngor, yn gorfod cydymffurfio â'r Safonau yn yr un ffordd â'r corff sy'n ddarostyngedig i'r Safonau ei hunan8. Yn gwbl groes i'r egwyddor hon, mae'r Rheoliadau hyn ym maes iechyd yn eithrio darparwyr gofal sylfaenol o'r un gofyniad sylfaenol. Felly, mae cwmni preifat sy'n gwneud gwaith ar ran neu drwy gytundeb gyda chyngor sir, megis un sy'n darparu gofal yn y cartref, yn gorfod cydymffurfio â'r Safonau. Fodd bynnag, ni fyddai cwmni sy'n darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd yn gorfod cydymffurfio gan fod eithriad penodol yn Safonau arfaethedig y Gymraeg (Rhif 7). Credwn fod rhaid newid y cam gwag hwn cyn pasio'r rheoliadau yn y Senedd.
3.12. Erbyn hyn, ymddengys fod y Llywodraeth wedi derbyn ei bod yn gyfreithiol bosibl gosod dyletswyddau cyfreithiol ar ddarparwyr gofal sylfaenol, gan fod eu cyfiawnhad dros beidio â'u cynnwys wedi newid. Yn 2016, dywedasant mewn cyfarfod gyda ni y byddai cynnwys darparwyr gofal sylfaenol fel trydydd parti yn y rheoliadau yn 'anghyfreithlon'9, gan na all Byrddau Iechyd fod yn gyfreithiol gyfrifol am y cytundebau na'r meddygfeydd. Yn ogystal, nodwyd y canlynol mewn dogfen ymgynghori yn 2016:
"Gallai'r dull hwn arwain at ddiffyg eglurder i'r cyhoedd a darparwyr gofal sylfaenol gan na fyddai safonau'r Gymraeg ond yn berthnasol i wasanaethau y mae darparwyr gofal sylfaenol yn eu darparu ar ran y byrddau iechyd lleol. Gan fod llawer o ddarparwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith preifat, ni fyddai'r amgylchiadau pan fyddai disgwyl iddynt gydymffurfio â safonau yn glir bob amser – gallai unigolyn gael cymysgedd o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau preifat yr un pryd."
3.13. Erbyn hyn, nid yw'r Llywodraeth yn defnyddio'r un dadleuon cyfreithiol. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan: "Nid ydym o'r farn y byddai'n rhesymol gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol a fyddai'n eu dal yn gyfrifol am fethiant ar ran un o'r darparwyr gofal sylfaenol annibynnol i gydymffurfio â'r safonau."
3.14. Ymhellach, mae'r Llywodraeth bellach yn cynnig gwneud yr hyn roeddent yn dadlau y byddai'n 'anghyfreithlon' ei wneud drwy ddadlau dros: "nifer fach o ddyletswyddau ... drwy gontractau gofal sylfaenol neu gytundeb telerau gwasanaeth rhwng darparwr gofal sylfaenol a bwrdd iechyd lleol." Maent yn cynnig gwneud hynny y tu allan i'r gyfundrefn Safonau, gan arwain at ansicrwydd ac anallu i sicrhau'r hawliau mewn cyfundrefn ddeddfwriaethol.
3.15. Y cwestiwn amlwg sy'n codi felly yw: nawr bod y Llywodraeth yn derbyn bod modd i Fwrdd Iechyd Lleol osod amod o ran darpariaeth Gymraeg drwy gontract gyda darparwyr gofal sylfaenol a'u gorfodi, beth yw'r ddadl yn erbyn gwneud hynny drwy gyfundrefn y Safonau?
3.16. Argymhellwn fod y pwyllgor yn gofyn i'r Llywodraeth ddiwygio'r Safonau er mwyn cynnwys Safon benodol ychwanegol sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar bob Bwrdd Iechyd Lleol i osod amodau darpariaeth Gymraeg mewn cytundebau gyda darparwyr gofal sylfaenol. Heb y sicrwydd hwnnw, ni fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau oherwydd:
-
Bydd hawl cleifion i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol drwy'r Gymraeg yn gwbl ddibynnol ar gamau gwirfoddol ar ran y cyrff iechyd, ac felly mewn gwirionedd ni fydd y mwyafrif yn cael gwasanaethau o'r fath yn Gymraeg.
-
Na fydd yn rhoi'r gallu i amddiffyn hawliau cleifion i wasanaethau gofal sylfaenol yn nwylo cyfundrefn reoleiddio annibynnol sy'n cael ei chynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg;
-
Nad oes eglurder ynghylch beth fydd yr amodau yn y cytundebau arfaethedig hyn;
-
Nad oes amserlen ynghylch pryd y daw'r cytundebau mae'r Llywodraeth yn sôn amdanynt i rym;
-
Nad ydym yn ymddiried yn y Llywodraeth na'r Byrddau Iechyd i weithredu ar y mater.
3.17. Nid yw Safonau 65–68 yn creu unrhyw hawl i unigolyn dderbyn gwasanaeth gofal iechyd sylfaenol o unrhyw fath, er enghraifft mewn meddygfa teulu, drwy'r Gymraeg.
3.18. Noder ymhellach bod y memorandwm esboniadol yn datgan y bydd disgwyl i ddarparwr gofal sylfaenol gydymffurfio â'r Safonau os ydynt yn cael 'eu darparu'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd'. Er bod hwn yn gam bach yn y cyfeiriad cywir, prin iawn yw'r enghreifftiau o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd (e.e. nyrsys ardal a meddygfeydd dros dro) ond byddai cynnwys gofal sylfaenol yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar brofiadau cleifion ledled Cymru.
3.19. Mae eithrio cyrff annibynnol sy’n darparu gofal sylfaenol yn gosod gormod o risg i gleifion o ran:
-
Asesu effeithiol a dibynadwy
-
Pennu archwiliadau
-
Cyfeirio
-
Cynnal diagnosis
-
Penderfyniadau o ran triniaethau / gofal
-
Dilyniant
3.20. Yn ogystal, mae angen ystyried effaith colli cyfle hanesyddol a gynigir gan y set hon o Safonau, wedi i gynlluniau iaith fethu â chreu'r hawliau hyn ers chwarter canrif. Drwy fethu â chynnwys gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol y tro hwn, caiff gwasanaethau Cymraeg eu dal yn ôl am flynyddoedd eto i ddod. Byddai creu hawliau i gleifion drwy gyfundrefn y Safonau wrth ymwneud â meddygfa, hyd yn oed ar lefel eithaf sylfaenol, yn cael effaith gadarnhaol iawn ar newid agweddau yn y maes.
Gofal Iechyd Wyneb yn Wyneb mewn Ysbytai – Dim Hawliau (Safonau 23–24 a 110–110A)
3.21. Ymddengys fod arwyddocâd iaith fel rhan o ofal iechyd ac egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’ wedi'u hanghofio yn y rheoliadau hyn. Mae cyfundrefn y Safonau’n rhoi cyfle i ddarparu platfform cryfach ar gyfer adeiladu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyd y llwybr gofal, ond nid yw'r Llywodraeth wedi manteisio ar y cyfle yn y rheoliadau arfaethedig.
3.22. Mae cynghorau sir, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i Safonau sy'n rhoi'r hawl i bobl gael cyfarfodydd yn Gymraeg os yw'r "cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant"10 – boed hynny drwy drwy gyfieithu ar y pryd neu staff sy'n medru'r iaith. Roedd y rheoliadau ymgynghorol ar gyfer y maes iechyd a gyhoeddwyd yn 2016 yn cynnwys Safon a oedd yn gwarantu, wedi i unigolyn fynegi dymuniad i ddefnyddio'r Gymraeg, "darparu cymorth Cymraeg i A mewn ymgynghoriadau clinigol o hynny ymlaen (oni bai eich bod yn cynnal neu’n darparu’r ymgynghoriad clinigol yn Gymraeg)".
3.23. Mewn gwrthgyferbyniad trawiadol â'r Safonau hynny ar gyfer cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill, nid yw Safonau 23, 23A a 24 yn y rheoliadau arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn creu'r un hawl i glaf dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Nid bai cyfundrefn y Safonau yw hyn, ond diffyg ewyllys gwleidyddol y Gweinidog sy'n gyfrifol amdanynt.
3.24. Noder bod Safon 23A yn gosod dyletswydd i gofnodi dewis iaith claf, ond mewn nifer fawr o achosion, dylai dewis iaith y claf eisoes fod wedi'i gofnodi gan ddarparwr gofal sylfaenol. Dylid adnabod dewis neu angen iaith claf cyn iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty er mwyn cael trefnu ar ei gyfer. Mae strategaeth 'Mwy na Geiriau...' yn rhoi dyletswydd ar feddygon teulu i gofnodi dewis iaith wrth gyfeirio cleifion at wasanaethau eilaidd. Dylid gosod y ddyletswydd o fewn y cytundebau felly.
3.25. Cyfeirir drwyddi draw at gleifion mewnol, ond nid oes sôn am gleifion allanol, felly ymddengys na fyddai gan gleifion allanol unrhyw hawliau i dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg.
3.26. Argymhellwn y dylid ychwanegu Safon benodol sy’n cadarnhau hawliau cleifion, mewnol ac allanol, i gael derbyn ymgynghoriad clinigol, triniaeth a gofal drwy’r Gymraeg.
3.27. Nid yw Safon 110 yn rhoi hawl i gleifion gael ymgynghoriad drwy'r Gymraeg ychwaith. Yn hytrach, yr unig ofyniad yw gofyn i gyrff amlinellu eu cynlluniau o ran gweithio tuag at hynny. Mae ychwanegu dyletswydd i gyhoeddi cynllun i osod allan sut y bydd Bwrdd Iechyd yn darparu ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg yn waith papur ychwanegol nad yw'n creu dim hawliau i'r unigolyn. Yn ogystal, mae'n gwbl groes i rethreg y Llywodraeth ynghylch y Bil arfaethedig ar y Gymraeg sy'n honni ei bod am 'leihau biwrocratiaeth'. Pe bai'r Llywodraeth yn creu'r hawl fel rydym yn ei argymell ym mhwynt 3.17 uchod, gellid cadw Safon debyg i Safon 110 – sy'n ymdrin â chynnig cynnal ymgynghoriad yn y Gymraeg – er mwyn esbonio sut y dylai corff fynd ati i gynllunio ar gyfer rhoi’r dewis ar waith, er enghraifft drwy gyfeirio’r claf at staff sy’n siarad Cymraeg.
3.28. Yn fwy cyffredinol, mae diffyg manylder o fewn y Safonau Cyflenwi Gwasanaethau o ran asesu, cofnodi a lledaenu gwybodaeth ynghylch dewis neu angen iaith cleifion a rhoi’r cynnig rhagweithiol ar waith. Wedi’r cyfan, dyma'r man allweddol i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n fregus.
Sylwadau Eraill
3.29. Mae llawer iawn o fanylion yn y memorandwm esboniadol am gostau. Fodd bynnag, nid oes dim cyfeiriad at y gwerth sy'n cael ei ychwanegu tuag at y gwasanaeth wrth allu cyfathrebu â phobl yn eu dewis iaith (gan gyfeirio at adroddiad y Comisiynydd o brofiadau pobl).
3.30. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan bod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi eu hychwanegu at Atodlen 6, ond nid ydynt i'w gweld yn Atodlen 6 y rheoliadau sydd wedi'u cyflwyno gerbron y Cynulliad.
3.31. Nid ydym wedi gweld esboniad ynghylch pam y dilëwyd "Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG" o Atodlen 6 ac felly o unrhyw ddyletswydd i gydymffurfio â'r Safonau.
4. Hyfforddiant i wella cynllunio gweithlu'r gwasanaethau iechyd
4.1. Mae nifer o faterion sydd y tu hwnt i sgôp y rheoliadau hyn ond sy'n effeithio ar allu'r gwasanaeth iechyd i ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe hoffem dynnu sylw'r pwyllgor atynt.
4.2. Er y bydd effaith gadarnhaol yn deillio o'r Safonau ynghylch recriwtio, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r systemau hyfforddi. Dylai'r pwyllgor ystyried y darlun ehangach a'r angen am hyfforddi gweithlu sy'n medru'r Gymraeg.
4.3. Argymhellwn felly y dylid:
-
Gosod cwotâu ar ysgolion meddygol a cholegau hyfforddi eraill o ran hyfforddi meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill sy'n medru'r Gymraeg
-
Sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor i gynyddu darpariaeth hyfforddiant meddygol yn Gymraeg
5. Casgliadau
5.1. Mae'n amlwg bod y Safonau wedi cael eu hysgrifennu o safbwynt y rhai sy'n rhoi'r gwasanaeth, nid y rhai sy'n eu derbyn. Nid yw'r rhain yn dderbyniol i gleifion, ond maent yn dderbyniol iawn i ddarparwyr gwasanaeth gan eu bod mor wan. Mae'n warthus bod pryderon y cyrff a nodir yn y memorandwm esboniadol wedi cael eu derbyn, tra bod pryderon y cyhoedd, sef defnyddwyr y gwasanaeth, wedi cael eu hanwybyddu.
5.2. Ni allwn gefnogi'r rheoliadau hyn yn eu ffurf bresennol gan nad ydynt yn creu hawliau i bobl mewn dau faes sy'n gwbl greiddiol i ddarpariaeth iechyd drwy'r Gymraeg, sef gofal iechyd sylfaenol a gofal iechyd wyneb yn wyneb mewn ysbytai.
5.3. Mae nifer o fân newidiadau pellach yn y Safonau sy'n gwanhau hawliau pobl ar lawr gwlad nad ydym wedi cyfeirio atyn nhw yn ein hymateb, ond maen nhw bron yn ddieithriad yn gwanhau hawliau pobl i'r Gymraeg o gymharu â Safonau sydd eisoes mewn grym ac o gymharu â'r Safonau drafft ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gyhoeddwyd yn 2016.
5.4. Am y rhesymau hyn, credwn y byddai pasio'r Safonau annigonol hyn yn colli cyfle unigryw, efallai unwaith-mewn-degawd, i gryfhau hawliau pobl i'r Gymraeg mewn maes cwbl hanfodol. Argymhellwn fod y pwyllgor yn gofyn i'r Llywodraeth ychwanegu Safonau penodol at y rheoliadau presennol sydd:
(i) yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd i osod amodau o fewn eu cytundebau gyda chyrff gofal iechyd sylfaenol annibynnol i ddarparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg
(ii) yn rhoi hawl i unigolion dderbyn gofal iechyd wyneb yn wyneb, gan gynnwys ymgynghoriadau clinigol, yn Gymraeg;
5.5. Oherwydd y newid yn nadleuon y Llywodraeth, mae'n amlwg nad oes rheswm cyfreithiol bellach dros beidio â derbyn ein hargymhellion uchod; diffyg ewyllys gwleidyddol yn unig fyddai'n gyfrifol. Erfyniwn arnoch i sicrhau'r newidiadau hyn er lles cleifion a'u hawliau i driniaeth yn Gymraeg ac i sicrhau gwell gwasanaethau iechyd i bobl Cymru yn y dyfodol.
Is-Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith
Mawrth 2018
1 c.f. Safon 25(c) yn Rheoliadau ymgynghorol 2016
2 c.f.: Safon 10 yn Rheoliadau ymgynghorol 2016
3 c.f . Safon 37-44 yn Rheoliadau ymgynghorol 2016 a Safon 82 Rheoliadau 2018 arfaethedig sy'n rhestru hawliau i ddogfennau i weithwyr dderbyn dogfennau penodol
4 gweler paragraff 56, tudalen 45
5 gweler paragraff 33, tudalen 37
6 gweler para 34, tuadlen 38
7 gweler paragraffau 9 a 10, tudalen 9, Rheoliadau 2018 arfaethedig
8 paragraff 5, tudalen 6, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015: "mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff."
10 Safonau 25-26B, tudalen 14-15, Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015