Annwyl John Whittingdale AS Ysgrifennaf atoch wedi i’n haelodau weld copiau o’r llythyrau dyddiedig 3ydd Gorffennaf 2015 rhyngddoch chi a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Mae’r llythyr yn awgrymu eich bod wedi dod i benderfyniad rydych chi’n ystyried sy’n ‘ddigonol’ i ariannu S4C hyd at 2020/21 gan i chi ddweud: “The BBC’s grant to S4C may be reduced by an equivalent percentage reduction in funding to the percentage reduction made to BBC funding over the period 2018/19 - 2020/21. It will be up to the Government to decide how to make up the shortfall.” Nodwn felly fod eich llythyr yn gwneud addewid cyfreithiol na all lefel ariannu S4C rhwng 2018/19 a 2020/21 gwympo o dan gyfraniad y BBC i S4C yn 2016/17. Fodd bynnag, gan ystyried cyfraniad presennol y Llywodraeth, nid yw’n glir a fyddai hynny’n diogelu cyllideb gyffredinol y sianel ai peidio. Hoffem wybod beth yw lefel y gyllideb rydych wedi, mae’n debyg, penderfynu sy’n ddigonol i’r sianel rhwng 2016/17 a 2020/21, yn ogystal â gweld copi o’r asesiad a arweiniodd at eich casgliad yn unol â’ch dyletswyddau cyfreithiol, ac sy’n seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad yr ydych wedi cytuno i’w gynnal o dan y cytundeb gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC a’ch Adran. Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd S4C i'r Gymraeg a diwylliannau Cymru. Ers 2010, daw cyfran helaeth o'r gyllideb sy'n weddill drwy ffi'r drwydded - trefniant sy'n bygwth annibyniaeth y sianel - gan fod y Llywodraeth wedi lleihau ei cyfraniad gan 93%. Mae cyllideb y sianel wedi ei thorri oddeutu 40%, gydag effaith sylweddol ar allu S4C i ddarparu gwasanaeth teledu cynhwysfawr o safon. Mae’n rhaid i chi sylweddoli bod S4C wedi cael ei sefydlu yn dilyn ymgyrch dorfol hir, a bod nifer o bobl wedi aberthu eu rhyddid er mwyn ei sefydlu. Nid sianel gyffredin mohoni, ond yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Fel y gwyddoch, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i bennu ffigwr ariannol rydych yn ysytyried sy’n ‘ddigonol’ o dan adran 61 o’r Ddeddf Darlledu 1990 fel y’i diwygiwyd gan adran 31 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. Hoffem dderbyn cadarnhad felly eich bod wedi penderfynu na all cyllideb S4C, dros holl gyfnod y Senedd nesaf, gwympo o dan lefel cyfraniad y BBC i’r sianel yn 2016/17. Hoffem wybod hefyd: a ydych chi dal yn agored i adfer cyllideb y sianel i’r lefelau y buodd yn eu derbyn yn 2009? Credwn fod y ffordd rydych wedi dod i’r penderfyniadau hyn yn gwbl anfaddeuol, ac yn gwbl annemocrataidd gan nad ydych wedi ymgynghori ag S4C na phobl Cymru yn eu cylch. Credwn fod y broses hon yn cryfhau’r achos dros fformiwla ariannu mewn statud fel bod sicrwydd clir ynglŷn â sefyllfa ariannol y sianel. Mae’n hollbwysig eich bod yn sicrhau annibyniaeth ariannol, strategol a golygyddol i S4C. Yn 2010, fe ddywedoch fel Llywodraeth mai dirwasgiad oedd y rheswm am wneud y toriadau. Nawr bod y dirwasgiad drosodd, galwaf arnoch i ddychwelyd cyllideb y sianel i lefelau 2009. Galwn arnoch felly i adfer y buddsoddiad yn S4C i'r lefelau a roddwyd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu'r sianel mewn statud, a fyddai'n cynyddu, fan leiaf, yn unol â chwyddiant; fel ei bod yn annibynnol ar unrhyw ddarlledwr arall, yn ariannol, yn strategol ac yn olygyddol. |
Yr eiddoch yn gywir,
Jamie Bevan
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Aelodau Seneddol o Gymru, Y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, Gweinidog Diwylliant Ken Skates AC, Cadeirydd S4C Huw Jones, Andrew RT Davies AC, Leanne Wood AC, Kirsty Williams AC, Paul Davies AC, Suzy Davies AC, Bethan Jenkins AC, Simon Thomas AC, Aled Roberts AC