Safonau a Gweinyddiaeth Fewnol - Llythyr at y Comisiynydd

Annwyl Gomisiynydd,

Cyn ein cyfarfod gyda chi ar 26ain Hydref, hoffwn amlinellu ein safbwynt ar yr hysbysiadau cydymffurfio a gyhoeddoch ar y 5ed o Hydref. 

Mae'r hysbysiadau yn anodd iawn i'w deall, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed am yr ymgyrch farchnata fydd gennych i godi ymwybyddiaeth ohonynt, a'r gyllideb y byddwch chi'n ei wario ar yr ymgyrch honno yn ein cyfarfod, er mwyn bod y cyhoedd yn ymwybodol o'u hawliau newydd.

Rydyn ni wedi ceisio edrych ar y manylion y gorau y gallwn ni, a hoffem ofyn nifer o gwestiynau yn eu cylch. 

Diffyg Cefnogaeth i gyrff symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg

Cafwyd llwyddiant aruthrol yn sir Gaerfyrddin yn ddiweddar wrth i'r cyngor fabwysiadu, gyda chefnogaeth eang o bob plaid, argymhellion y gweithgor ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir. Yn sgil yr adroddiad, bwriad y cyngor yw symud at weinyddu'n fewnol yn bennaf drwy'r Gymraeg. 

Fodd bynnag, sylwn nad oes amserlen i'r cyngor i gydymffurfio â Safonau 23, 25 a 40, a bod Safon 84 yn ddibynnol ar asesiad o'r galw am gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, mae hyd yn oed eithriad i Safon 41 sy'n golygu nad oes rhaid i holl bapurau i'r cabinet fod yn Gymraeg.

Drwy beidio â gofyn i Sir Gaerfyrddin, dros amser, i gyrraedd yr un lefel â Chyngor Gwynedd rydych yn tanseilio'r cytundeb trawsbleidiol yn y sir. Mae cynghorwyr o bob plaid yn y sir wedi gweithio yn galed i fabwysiadu polisïau blaengar, ond rydych chi wedi gadael nhw i lawr drwy weithredu'n erbyn eu hewyllys.

Nid yn unig bod hyn yn golled i drigolion yn y sir o ran yr hyn gallan nhw ddisgwyl gan y cyngor yn Gymraeg, ond mae'n mynd yn groes i nod statudol y Comisiynydd, sef i fanteisio ar gyfleoedd i gynyddu defnydd o'r Gymraeg.

Pam nad ydych wedi defnyddio'r hyblygrwydd amser sydd gyda chi drwy'r Safonau i gynorthwyo'r cyngor i symud at ei nod o weinyddu'n fewnol yn Gymraeg?

Nodwn hefyd yn Sir Ceredigion, lle mae arweinydd y Cyngor Sir wedi datgan ei bod am symud at weinyddu'n fewnol yn Gymraeg, a chyda chynifer o staff sy'n siarad Cymraeg, nad yw Safonau 23 a 25 wedi eu gosod ar y cyngor hwnnw ychwaith.

Dim amserlen i gyrraedd Safon 10 

Pam nad yw'r Comisiynydd am weld pob awdurdod lleol yn symud at sefyllfa lle yr ymdrinnir â phob galwad ffôn yn Gymraeg? 

Pan basiwyd y Safonau yn y Cynulliad, rhoddwyd y rhyddid i chi osod y Safonau ar wahanol lefelau a dywedwyd ar y pryd y byddai amserlen hyblyg yn sicrhau bod gwella parhaus gan awdurdodau. Hoffem wybod pam nad oes rhaid i gynifer o sefydliadau gydymffurfio â Safon 10 felly. 

Dogfennau Cymraeg - Safon 40 

Pryderwn yn fawr nad ydych wedi gosod Safon 40 ar nifer fawr iawn o'r cyrff, sy'n golygu bod yr holl ddogfennau ar gyfer y cyhoedd yn gorfod bod yn Gymraeg. Sut y gallwch chi gyfiawnhau hyn yng ngoleuni'r ffaith bod yr holl gyrff hyn wedi bod yn gweithio tuag gyfartaledd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg am tua 20 mlynedd yn barod?

A allwch chi esbonio sut mae'r penderfyniad i eithrio cynghorau sir fel Sir Gaerfyrddin o'r gofyniad yna yn cyd-fynd â'ch prif nod statudol? 

Cyrsiau Addysg a Gwersi Nofio - Safon 84

Hyd y gwelwn, mae dyletswydd pob corff, heblaw am Gyngor Sir Gwynedd, i gynnig cyrsiau addysg yn Gymraeg, megis gwersi nofio Cymraeg, yn unol â Safon 84 yn ddibynnol ar asesiad o'r 'galw' am y cwrs yn Gymraeg fel yr amlinellir yn Safon 86. Hoffwn wybod sut mae geiriad yr hysbysiad cydymffurfio yn cyd-fynd â'ch prif nod statudol. Ymhellach, un o bwrpasau'r Safonau yw creu hawliau clir a mwy cyson i'r cyhoedd ar draws y wlad. Hoffwn wybod sut y bydd ffurf yr hysbysiad cydymffurfio hyn yn glir i'r cyhoedd o ran ein hawliau i gyrsiau'n Gymraeg. 

Edrychwn ymlaen at eich ymateb. 

Yr eiddoch yn gywir,

Manon Elin James

Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg