Annwyl Meri Huws,
Yn dilyn ein cyfarfod diweddaraf gyda chi, cafwyd trafodaeth ymysg aelodau ein grŵp hawliau yn mynegi nifer o bryderon ynghylch eich cynlluniau ar gyfer y safonau iaith a materion eraill.
Fel rydym wedi dweud wrthoch droeon, rydym yn dal i feddwl bod nifer o gyfleoedd yn cael eu colli i addysgu’r cyhoedd am sut mae’r gyfraith wedi newid, yn benodol ynghylch y rhyddid i’w siarad a’i statws swyddogol.
Mae nifer o achosion wedi dod i law yn ddiweddar am ymyrraeth â rhyddid pobl sy’n dymuno siarad Cymraeg ymysg ei gilydd. Credwn fod nifer o’r achosion hyn yn deillio o anwybodaeth y cyhoedd o’r sefyllfa gyfreithiol. Fel rydym wedi dweud wrthoch, credwn y dylech wneud defnydd llawer helaethach o’ch pwerau statudol, a hynny yn gyhoeddus. Er enghraifft, credwn ei bod yn rhyfedd tu hwnt y bu’n rhaid i ni hysbysu'r wasg am y ffaith eich bod yn cynnal eich ymchwiliad cyntaf ynghylch ymyrraeth â’r rhyddid i siarad Cymraeg i mewn i gwmni yswiriant Swinton.
Ymhellach, hoffwn awgrymu eich bod yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am y newid a ddaeth yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sy'n diogelu rhyddid pobl i siarad Cymraeg ymysg ei gilydd. Credwn hefyd y dylech hysbysu cwmnïau mawr am statws y Gymraeg a'i fod yn anghyfreithlon iddynt wahardd staff rhag siarad Cymraeg. Byddai ymgyrch gyhoeddusrwydd o'r math yn gallu atal nifer o'r achosion rhag codi ac felly cynyddu defnydd yr iaith ar lawr gwlad.
Safonau Iaith - Cwmnïau Ynni, Post a Thelathrebu
Nodwn gyda chryn bryder eich methiant i enwi cwmnïau ynni, post a thelathrebu yn eich “rhaglen cynnal ymchwiliadau safonau” a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Nodwn mai’r Swyddfa Post yw’r unig gwmni post a enwyd gennych yn y rhaglen ar hyn o bryd. Credwn ei fod yn fater brys felly i chi enwi’r holl gwmnïau sy’n darparu gwasanaethau post - boed yn dosbarthu post neu redeg siopau gwasanaethau post.
Fel y gwyddoch, codon ni’r pwynt hwn yn ein cyfarfod diweddaraf gyda chi. Nid ydym yn derbyn eich rheswm y bu’r gwaith o enwi’r cwmnïau hyn yn ormodol i’w gyflawni erbyn mis Ionawr eleni. Noder mewn amgylchiadau lle bu rheswm dilys, rydyn ni wedi derbyn bod angen mwy o amser yn y broses: oherwydd salwch aelod allweddol o staff yn Llywodraeth Cymru, er enghraifft, derbynion ni y byddai angen rhagor o amser arnyn nhw i lunio’r safonau drafft.
Nodwn fod gennych chi’r grym i gynnal ymchwiliad gydag ond 14 diwrnod o rybudd. Rydym yn galw arnoch i gynnal ymchwiliad cyn gynted â phosib i safonau ar gyfer y cwmnïau ynni, post a thelathrebu. Mae’r sectorau hyn yn cael dylanwad mawr ar fywydau pobl, ac, yn achos cwmnïau ffôn a thelathrebu, dylanwad enfawr a chynyddol ar fywydau pobl ifanc yn enwedig - grŵp demograffig lle cydnabyddir bod argyfwng ieithyddol difrifol. Erfyniwn arnoch i ddwyn ymlaen yr amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau am gwmnïau ynni, post a thelathrebu fel bod safonau iaith y sectorau hyn mewn grym ymhell cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Ymhellach, hoffwn wybod a yw’n fwriad gennych enwi rhagor o gyrff sydd wedi derbyn dros £400,000 o arian cyhoeddus mewn un flwyddyn ariannol. Nodwn nad yw Undeb Rygbi Cymru na nifer o gyrff chwaraeon eraill sy’n derbyn llawer o arian cyhoeddus wedi eu henwi yn y rhaglen a gyhoeddwyd gennych.
Noder y byddwn yn cyhoeddi’r galwadau yn y llythyr hwn maes o law.
Yn gywir,
Siân Howys
Cadeirydd Grŵp Hawliau
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru