Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) a sefydliadau addysg - pryder

Annwyl Brif Weinidog, 

Ysgrifennaf atoch er mwyn gofyn i chi ail-ystyried cynnwys a thynnu yn ôl Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) sy'n ymwneud â sefydliadau addysg a phrifysgolion. Yn hynny o beth, cytunwn â'r sylwadau a wnaed gan undebau myfyrwyr mewn llythyr ar y cyd atoch chi yr wythnos hon. 

Fel y gwyddoch, croesawom eich ymrwymiad i sicrhau bod y Safonau yn adeiladu ar gynlluniau iaith, ac na fyddant yn cynnig lefel is o wasanaethau na'r hen gynlluniau: 

"Rwyf hefyd yn cytuno y dylai’r safonau sy’n cael eu gosod ar gyrff cyhoeddus, fel isafswm, sicrhau bod y lefel o wasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig gan gyrff ar hyn o bryd yn parhau ... Mae’n hollbwysig bod y safonau yn cynnig her i bob corff i wella eu gwasanaethau Cymraeg ..."  

Fodd bynnag, rydym wedi cychwyn astudio cynnwys y Safonau, a chredwn fod Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) yn cynrychioli cam yn ôl ar y gyfundrefn o gynlluniau iaith mewn dwy ffordd bwysig. 

Yn gyntaf, ac o arwyddocâd sylweddol, mae'r Safonau yn cyfyngu unrhyw hawliau sydd gan ddefnyddwyr prifysgolion, sef y Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, i'r rhestr o weithgareddau a restrir ym mharagraff 29 ar dudalen 42 y Safonau.  

Nid oes trafod wedi bod ynghylch hyn o gwbl, ac nid yw'n rhan o gynnwys na bwriad Mesur y Gymraeg i gyfyngu hawliau pobl i'r rhestr fer o weithgareddau hynny. Yn wir, mae'n cynrychioli cyfyngiad sylweddol i'r hawliau a geir yn y Safonau a allai arwain at ddryswch a chanlyniadau anfwriadol a rhyfedd.  

Fel y gwyddoch, rydym yn credu y bu llawer iawn gormod o oedi wrth weithredu'r Safonau, ac mae gwendidau'r Mesur ei hun yn rhannol gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, mae gennym bryderon mawr fod geiriad y Safonau hyn yn creu ansicrwydd ynghylch hawliau pobl i'r Gymraeg ac yn cynrychioli cam yn ôl o gynlluniau iaith. 

Dadleuodd swyddog y Llywodraeth gyda ni ar y ffôn mai cyfraith cystadleuaeth sy'n gyfrifol am y cyfyngiad difrifol ar hawliau iaith fel yr amlinellir ym mharagraff 29 ar dudalen 42 Safonau'r Gymraeg (Rhif 3). Hoffem wybod: a fu'r Llywodraeth yn ymwybodol o'r broblem honno cyn i Gomisiynydd y Gymraeg gychwyn ymchwiliad Safonau i mewn i'r sector y llynedd? Yn ogystal, a yw'r rheolau'n ymestyn i golegau addysg bellach hefyd? Os nad ydynt, pam fod y Safonau hyn wedi eu cyfyngu yn yr un modd hefyd.  

Yn ail, mae'r Safonau arfaethedig yn diddymu'r disgwyliad y dylai fod gan bob myfyriwr fynediad at lety cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, yng nghynlluniau iaith presennol Prifysgol Caerdydd ac Aberystwyth, ceir ymrwymiad bod dyletswydd i gynnig llety cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Byddai'r Safonau yn dileu'r disgwyliad hwnnw, waeth pa mor wan mae'r geiriad a gweithrediad ar y cymal hwnnw wedi bod dros y blynyddoedd. Sylweddolwn fod cyfeiriad at lety yn y Safonau Llunio Polisi, ond nid yw hynny'n gyfystyr â darparu'r un dyletswyddau â'r cynlluniau presennol.  

Mae'n bwysig nodi y cynhaliwyd ymchwiliad gan y Comisiynydd ynghylch set gyntaf y Safonau, felly nid oes cyfle wedi bod i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allanol i ystyried y newidiadau hyn a gynigir yn y trydydd set. Tybed oni ellid fod wedi dibynnu ar Gomisiynydd y Gymraeg i gynnwys manylion o'r fath mewn hysbysiadau cydymffurfio?  

Ar faterion eraill, pryderwn fod y rheoliadau hyn yn cynnig hepgor Safonau sy'n sicrhau darpariaeth Gymraeg i bobl sy'n mynd i gyfarfodydd yn ymwneud â'u llesiant personol.  Bwriad y Safonau hyn oedd diogelu'n bellach hawliau pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus i'r Gymraeg, megis pobl ifanc a phobl gyda dementia.  

Credwn mai gwasanaethau fel yr heddlu, colegau a phrifysgolion yw'r union fath o sefyllfaoedd lle mae angen hawl ychydig yn ehangach ei natur er mwyn amddiffyn hawliau iaith pobl fregus mewn rhagor o sefyllfaoedd. 

Heb drafodaeth gyhoeddus felly, mae'r Llywodraeth, ers pasio'r set gyntaf o Safonau, wedi hepgor y cymalau canlynol o'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad ddydd Sadwrn: 

Safon 25: Os byddwch yn gwahodd unigolyn (―A‖) i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi— (a) gofyn i A a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a (b) os yw A yn eich hysbysu ei fod yn dymuno hynny, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).  

Safon 26: Os byddwch yn gwahodd unigolyn (―A‖) i gyfarfod, a bod y cyfarfod yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu A y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.  

Safon 26A: Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod— (a) os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (―A‖) a wahoddwyd, a (b) os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu. 

 Safon 26B: Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod— (a) os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (―A‖) a 15 wahoddwyd, a (b) os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu. 

Yn achos yr heddlu, mae'r Safonau yn diddymu'r hawliau uchod, ac yn lle hynny yn cyfyngu'r hawl i gyfweliadau ffurfiol. A fydd hyn yn cynnwys sefyllfa lle mae'r heddlu yn holi person ifanc neu hen bobl uniaith Gymraeg yn anffurfiol?  

Yn achos sefydliadau addysg, eto mae'r Safonau yn diddymu'r hawliau uchod, ac yn lle hynny yn cyfyngu'r hawl i gwynion, achosion disgyblu neu gymorth i fyfyrwyr yn unig.  

Gwyddom fod pryderon wedi eu lleisio gan sefydliadau ynghylch amwysedd y Safonau 'cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant', ond credwn y gellid delio â'r problemau hynny yn hysbysiadau cydymffurfio'r Comisiynydd yn hytrach na'r rheoliadau eu hunain.  

Yn gyffredinol, credwn fod y gwendidau hyn yn deillio o natur llawer iawn rhy benodol y Safonau – mater mae'r Llywodraeth wedi ei rybuddio amdano ar sawl achlysur. Fel yn nrafftiau cynnar y Safonau, nid oedd sôn am ddarparu rhai gwasanaethau yn Gymraeg yn y Safonau gan fod gweision sifil wedi anghofio amdanynt yn absenoldeb egwyddor ehangach oedd yn gyrru'r Safonau. Wrth ystyried diwygio Mesur y Gymraeg yn y Cynulliad nesaf, awgrymwn fod y problemau hyn yn cryfhau'r achos dros sefydlu hawl cyffredinol i'r Gymraeg. Byddai sefydlu'r hawl hwn yn osgoi effaith anfwriadol natur benodol iawn geiriad y Safonau sy'n creu mannau gwan a fydd yn gadael pobl heb hawl i wasanaethau Cymraeg lle byddai'n rhesymol eu disgwyl.  

Yn y cyfamser, credwn, yn anffodus, fod rhaid tynnu Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) yn ôl a'i hailystyried yng ngoleuni y pwyntiau uchod a'r pwyntiau a wnaed gan yr undebau myfyrwyr. 

Yr eiddoch yn gywir, 

Manon Elin 

Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg