Strategaeth ar gyfer y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Strategaeth ar gyfer y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sylwadau Cymdeithas yr iaith Gymraeg

Canolbwynt gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw gofalu am bobl fel unigolion a gosod y defnyddiwr ynghanol y gofal hwnnw. Yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl egluro’n effeithiol beth yw eu hanghenion gofal, yn enwedig pan fyddant yn sâl neu mewn gofid. Bryd hynny, mae gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn aml yn fwy na mater o ddewis yn unig - mae’n fater o angen, yn enwedig i rheini sydd fwyaf bregus o ran eu gallu a’u hyder i gyfathrebu drwy’r Saesneg (fel yr henoed, pobl â dementia neu sydd wedi cael strôc, neu blant bach nad ydynt yn siarad ond Cymraeg (Misell, 2000; Madoc-Jones, 2004; Prys, 2010; Iaith, 2012; Owen a Morris, 2012; Comisiynydd y Gymraeg, 2014; Alzheimer’s Society Cymru / Comisiynydd y Gymraeg, 2018; Hughes, 2018). Mae’n fater o angen hefyd i’r siaradwyr Cymraeg hynny sy’n byw eu bywydau trwy’r Gymraeg ac yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain trwy eu hiaith gynhenid. Am hynny, mae darparu  gwasanaethau dwyieithog yn allweddol ar gyfer sicrhau diogelwch ac ansawdd i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth, fel y dengys y dystiolaeth ryngwladol ehangach (Jacobs et al., 2006; Bowen, 2015)

Yn sgil yr egwyddorion hyn, gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn ei Fframwaith Strategol Mwy na geiriau (LLC, 2012, 2016) yw y bydd siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal sy’n bodloni eu hanghenion fel rhan naturiol o’u gofal, gyda  phwyslais cynyddol ar weithredu ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau Cymraeg. Golyga hyn fod angen newid diwylliant ymhlith sefydliadau wrth symud y cyfrifoldeb am sicrhau gwasanaethau addas oddi ar ysgwyddau’r defnyddiwr i’r darparwr. Wrth gyflwyno Safonau’r Gymraeg i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, daw'r amcanion hyn yn ofynion statudol, gyda phwyslais ar baratoi gweithlu yng Nghymru sy’n ffit i bwrpas ar gyfer y cyd-destun dwyieithog, ac sydd â’r sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth iaith briodol. Mae’n anochel, felly, bod Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi sylw penodol i’r gofynion ieithyddol hyn, yn unol â chyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru:

‘Er mwyn i’r gweithlu iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol allu cyflawni’r Cynnig Rhagweithiol, mae’n hanfodol eu bod yn adlewyrchu lefelau digonol o sgiliau Cymraeg a sensitifrwydd. Bydd buddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol drwy gynllunio strategol ... yn sicrhau’r capasiti i ddarparu’r gwasanaethau lle mae fwyaf eu hangen.’ (LLC 2016, 3.21)
 
Ceir enghraifft o gynllunio strategol o’r fath yng Nghanada lle bu ymdrech sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gyflwyno ‘cynnig rhagweithiol’  o wasanaethau drwy'r Ffrangeg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn taleithiau fel New Brunswick , Ontario a Manitoba. Datblygwyd  fframwaith defnyddiol, ar sail tystiolaeth, gan Société Santé en français (SSF, 2015) ar gyfer cynllunio a datblygu gweithlu dwyieithog. Mae’n argymell 6 cam penodol sy’n cynnwys:

Deall anghenion y gymuned ddwyieithog
Cynllunio gwasanaethau ar eu cyfer
Addasu arferion recriwtio ac asesu cymhwysedd iaith yn y ddwy iaith
Sefydlu arferion ar gyfer croesawu ac integreiddio staff
Hyfforddi a  darparu adnoddau sy’n cynyddu eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn gofal
Gwerthuso llwyth gwaith a bodlonrwydd staff a chleifion

Mae pob un o’r camau hyn yn haeddu’r sylw pennaf wrth gynllunio gweithlu ar gyfer y sector iechyd a gofal yng nghyd-destun dwyieithog Cymru. Yn unol â gofynion y safonau iaith ac  amcanion Mwy na geiriau (LLC, 2012, 2016), byddai hyn yn golygu:
Wrth gomisiynu llefydd ar raglenni addysg a hyfforddiant proffesiynol, cyflwyno cwotâu ar gyfer recriwtio nifer digonol o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar gyfer gweithlu’r dyfodol.
Archwilio anghenion ieithyddol y gymuned ddwyieithog  a chynllunio gwasanaethau ar eu cyfer
Archwilio a dynodi  sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu presennol
Adnabod y bylchau o ran sgiliau iaith Gymraeg ar draws y disgyblaethau
Targedu swyddi gwag  / newydd a gosod y Gymraeg yn hanfodol / dymunol fel bo’n briodol
Targedu hyfforddiant iaith Gymraeg ar gyfer y gweithlu presennol
Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith hanfodol ar draws y gweithlu cyfan
Darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg er mwyn paratoi ymarferwyr ar gyfer y sefyllfa ddwyieithog.

Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n denu pobl i weithio yn y sector?

Fel yr amlinellir uchod, rhaid anelu at godi ymwybyddiaeth ar draws y sector a thu hwnt am  bwysigrwydd iaith fel rhan annatod o’r gofal  er mwyn sicrhau diogelwch ac ansawdd gwasanaeth. Mae angen darbwyllo pob sefydliad a phob aelod staff nad rhywbeth ychwanegol yw diwallu anghenion iaith defnyddwyr gwasanaeth; mae’n hollol sylfaenol ar gyfer cynnal gofal o safon, gan atgyfnerthu egwyddorion craidd datblygiadau deddfwriaethol a pholisi diweddar yng Nghymru, megis:

Gofal sy'n gosod y cleient yn ganolog
Cynnal parch, urddas a lles unigolion
Gwrando ar lais y defnyddiwr gwasanaeth
Cydweithio gyda  defnyddwyr i sefydlu tystiolaeth ar gyfer arfer da a pholisi
Gofal darbodus

Mae’n bwysig felly marchnata negeseuon positif ynglŷn â gwerth sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y gweithlu yng Nghymru, ar bob lefel, gan ledaenu’r neges yn eang trwy’r ysgolion, colegau, prifysgolion, sefydliadau cysylltiol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Ceir enghreifftiau o ymgyrchoedd llwyddiannus o’r fath gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, e.e. Cynllun Llysgenhadon a Doctoriaid Yfory, lle caiff darpar fyfyrwyr gael gwybod hefyd am ysgoloriaethau’r Coleg ar gyfer rheini sy’n astudio trwy’r Gymraeg.

Ac ystyried bod modd dysgu iaith, dylid hefyd dwyn sylw pobl at y llu o gyfleoedd sydd bellach ar gael i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg i wahanol raddau, a’r gwersi sydd ar gael o fewn oriau gwaith. Dylid cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a manteision eu rhaglenni, gan gynnwys ei chynllun Cymraeg Gwaith. Mae nifer o staff y GIG ar hyd a lled Cymru wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg a’i ddefnyddio’n llwyddiannus gyda chleifion o ddydd i ddydd. Gall hanesion o’r fath fod yn hwb i unrhyw ymgyrch farchnata. Yn yr un modd, mae angen argyhoeddi'r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg bod hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gael lle mae modd iddynt ddysgu am eu cyfraniad allweddol hwythau hefyd tuag at roi’r ‘cynnig rhagweithiol’ ar waith.

Felly, wrth ddenu pobl i weithio yn y sector, mae’n rhaid gosod negeseuon clir ynghylch gweithio mewn cyd-destun dwyieithog, e.e.

Yng Nghymru, mae gan gleifion a defnyddwyr gwasanaeth hawl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyrchu gwasanaethau.
Mae darparu gwasanaethau dwyieithog yn allweddol ar gyfer sicrhau diogelwch ac ansawdd.
Gall pawb gyfrannu at roi’r ‘cynnig rhagweithiol’ ar waith, beth bynnag fo'u sgiliau iaith.
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gael a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg a’i defnyddio yn y gweithle.
 Mae adnoddau iaith ar gael i gefnogi defnydd y Gymraeg yn y sector.

Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n recriwtio pobl i weithio yn y sector?

Wrth recriwtio staff cofrestredig ar gyfer y gweithlu, er mwyn sicrhau cyflenwad digonol sy’n siarad Cymraeg, dylid mabwysiadu fframwaith sgiliau iaith, e.e. fel yr amlinellir ym mhecyn adnoddau  Cyngor Gofal (2014) Sgiliau Iaith Gymraeg eich Gweithlu: eu defnyddio’n effeithiol. Mae’r adnoddau yn galluogi rheolwyr i ganfod pa sgiliau iaith Gymraeg sydd ganddynt eisoes yn y gweithlu a sut i recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi / weithleoedd penodol.  Mae’r pecyn yn cynnwys 4 adran fel a ganlyn:

Trosolwg  polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â defnydd y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal.
Canllawiau ar gyfer datblygu Cynllun Sgiliau Iaith ar gyfer y gwasanaeth
Canllawiau ar gyfer asesu a chofnodi sgiliau iaith Cymraeg y staff
Canllawiau ynghylch materion recriwtio

Ceir canllawiau mwy manwl ar gyfer ystyried y Gymraeg wrth recriwtio gan Gomisiynydd y Gymraeg (2016). http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20160308%20%20GC%20C%20Cyngor%20Recriwtio%20-%20CYMRAEG%20(T).pdf.

Fel rhan allweddol o’r broses recriwtio, mae angen:

Asesu gofynion ieithyddol pob swydd.
Nodi’r gofynion hyn yn y deunydd marchnata, hysbyseb a’r swydd ddisgrifiad.
Cynnig ffurflen gais a chyfweliad yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Dylid defnyddio’r un egwyddorion a chanllawiau wrth fynd ati i recriwtio myfyrwyr ar gyfer y proffesiynau iechyd a gofal, gan gynllunio ar gyfer sicrhau cyflenwad digonol o siaradwyr Cymraeg ar gyfer gweithlu’r dyfodol.

Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n cadw pobl sy'n gweithio yn y sector?

Ac ystyried yr angen i baratoi gweithlu yng Nghymru sy’n ffit i bwrpas ar gyfer y cyd-destun dwyieithog, ac sydd â’r sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth iaith briodol, dylid sicrhau cyfleoedd (fel yr amlinellir uchod) ar gyfer:
Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
Hyfforddiant dysgu Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau dwys
Hyfforddiant defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys cynllun sabothol
Dylid sicrhau hefyd bod adnoddau iaith ar gael i gefnogi defnydd y Gymraeg yn y sector, e.e. mynediad at adnoddau electronig, megis Cysill, Cysgair, Porth Termau a geiriaduron ar-lein.
Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen ym maes dysgu a datblygiad ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector?
Ac ystyried yr angen am weithlu sy’n ffit i bwrpas ar gyfer y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru, mae’n holl bwysig bod nifer digonol o siaradwyr Cymraeg yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi ar gyfer y disgyblaethau iechyd a gofal a bod y rhaglenni ar gael trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog. Am hynny, mae’n rhaid i strategaeth gweithlu iechyd a gofal Cymru roi sylw teilwng i’r Gymraeg ar draws y disgyblaethau; a chynllunio ar gyfer ei defnydd, yn unol â Mwy na geiriau (LLC, 2016) a strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr (LLC, 2017).

Darparir addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol drwy bartneriaethau rhwng sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr yn bennaf, gyda’r holl raglenni’n cael eu cymeradwyo gan y cyrff rheoleiddio priodol, e.e. Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Ymhellach, mae Cymwysterau Cymru yn arwain datblygiad cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a ddarparir gan sefydliadau addysg bellach.  Er mwyn sefydlu gweithlu addas i Gymru, mae dyletswydd ar yr holl gyrff i sicrhau y bydd cyflenwad digonol o siaradwyr Cymraeg yn mynychu’r fath raglenni; y bydd yr hyfforddiant ar gael ac yn cael ei ddarparu yn Gymraeg; ac y bydd yn eu paratoi’n effeithiol ar gyfer ymarfer mewn amgylchedd dwyieithog.

Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hanfodol o ran cefnogi’r datblygiadau hyn.  Gydag iechyd a gofal yn flaenoriaeth i’w cynllun academaidd (CCC, 2017), ceir buddsoddiad sylweddol yn y disgyblaethau o fewn y sector addysg uwch ac, yn fwy diweddar, addysg bellach; ac mae ysgoloriaethau’r Coleg yn hwb i ddenu myfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg.
Er hynny, ac ystyried maint y galw am weithwyr a gofalwyr cymdeithasol cyfrwng Cymraeg, bratiog yw’r hyfforddiant dwyieithog cyfredol ar draws Cymru a bregus yw sefyllfa rhai rhaglenni o’r fath. Mae diffyg cynllunio gweithlu’r colegau a’r prifysgolion yn peryglu dyfodol y ddarpariaeth ac mae angen mwy o waith o ran argyhoeddi myfyrwyr am fanteision astudio trwy’r Gymraeg.

Mae gwaith datblygu’r gweithlu cyfredol yn mynd rhagddi mewn rhai sefydliadau er mwyn cynyddu’r hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, dysgu Cymraeg, a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg, yn unol â strategaeth Mwy na geiriau a Safonau’r Gymraeg. Serch hynny, ac ystyried y pwysau gwaith cynyddol o fewn y gweithlu, mae’n anodd  rhyddhau staff i fynychu cyrsiau. Mae angen rhoi sylw ar frys felly i’r modd y gellir cynyddu’r adnoddau, gan wneud y fath hyfforddiant yn orfodol i bawb.
Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n hyrwyddo adleoli, arweinyddiaeth a rheolaeth dda yn y sector?
Mae arweinyddiaeth gref yn allweddol ar gyfer rhoi’r ‘cynnig rhagweithiol’ ar waith. Am hynny, mae angen arfogi staff i ddatblygu eu hyder, ymrwymiad a'u cymhelliant o ran sicrhau gwasanaethau Cymraeg, neu i fod yn bencampwyr iaith. Gall y rhain fod yn unigolion ar unrhyw lefel o’r sefydliad sy’n fedrus o ran cychwyn, hwyluso a gweithredu newid. Ceir pecynnau gwybodaeth defnyddiol gan Lywodraeth Cymru (2015):
https://gweddill.gov.wales/docs/dhss/publications/150928activeofferhealt...
https://gweddill.gov.wales/docs/dhss/publications/150928activeoffersocia...

Yng Nghanada, mae Consortium national de formation en santé (CNFS) (2012) yn cynnig fframwaith arweiniol ar gyfer hyfforddi staff ar y ‘cynnig rhagweithiol’ yn ogystal â chyfres o adnoddau pwrpasol <https://www.reseaudumieuxetre.ca/en/health-service-providers/active-offer-information-kit/active-offer-poster/>.

Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector?

Dengys tystiolaeth fod y gallu i siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr; a bod mwy o alw nag erioed gan gyflogwyr mewn sectorau penodol,  fel gofal iechyd a gofal plant, am staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Mae angen lledaenu’r negeseuon hyn ar draws ein gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru, ac yn enwedig ymhlith ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r sector iechyd a gofal a chynyddu cyfleoedd. Yn ei hymgyrch recriwtio ar gyfer GIG Cymru, ‘Gwlad Gwlad: hyfforddi, gweithio, byw’ https://hyfforddigweithiobyw.cymru/, mae angen i AaGIC roi sylw teilwng i’r Gymraeg fel sgil gwerthfawr ar gyfer gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; a dangos y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu’r Gymraeg ac astudio a gweithio trwy  gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Pa newidiadau ydych chi'n credu sydd eu hangen yn y modd rydyn ni'n cefnogi iechyd a llesiant ein pobl yn y sector?

Am resymau hanesyddol, mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo nad yw ei sgiliau’n ddigon da i’w defnyddio yn eu gwaith. Gall hyn arwain at ddiffyg hyder a hyd yn oed achosi straen.  Mae adnoddau iaith yn bwysig i gefnogi staff sy’n gweithio mewn sefyllfa ddwyieithog, e.e. mae angen Cysill a Cysgair ar bob cyfrifiadur yn y gweithle; gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen; a phwynt cyswllt i drafod materion ieithyddol.

Sut gallwn ni fod yn monitro cynllun ar gyfer gweithlu'r dyfodol yn fwy effeithiol?

Dulliau meintiol

Casglu data o ran proffil ieithyddol ein cymunedau a phroffil ieithyddol ein staff, yn unol â Safonau’r Gymraeg a Fframwaith Strategol Mwy na geiriau (LLC 2012, 2016).
Casglu data o ran nifer y swyddi lle mae’r Gymraeg yn ddymunol / hanfodol.
Casglu data o ran nifer y myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn unol â gofynion Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Casglu data o ran nifer aelodau’r gweithlu sy’n mynychu gwersi iaith Gymraeg.
Casglu data o ran gallu darparwyr i roi’r ‘cynnig rhagweithiol’ ar waith, yn unol â Safonau’r Gymraeg a Fframwaith Strategol Mwy na geiriau (LLC 2012, 2016).
Dulliau ansoddol

Archwilio profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth o wasanaethau Cymraeg.
Archwilio canfyddiadau defnyddwyr o’u gallu i roi’r ‘cynnig rhagweithiol’ ar waith.
Dulliau ‘siopwr cudd’ i archwilio’r ddarpariaeth gyfredol.

Heb enwi na dadlennu pwy ydy unrhyw unigolyn, rhowch enghraifft fer o'ch profiad o'r hyn ydych chi wedi ei weld fel arfer dda wrth gynorthwyo a/neu ddatblygu'r gweithlu yn y sector?

Siaradwr Cymraeg ymhlith dosbarth o fyfyrwyr nyrsio anabledd dysgu yn dewis astudio trwy’r Gymraeg mewn prifysgol sydd wedi derbyn nawdd ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Y myfyriwr yn derbyn ysgoloriaeth lawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ennill tystysgrif sgiliau’r Gymraeg ar ddiwedd y rhaglen.  Ar ôl graddio, derbyn swydd gan fwrdd iechyd a oedd yn awyddus i recriwtio siaradwr Cymraeg er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth. Yr unigolyn yn datblygu i fod yn bencampwr iaith ar gyfer y maes a’r ardal gan ledaenu arfer da o ran darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Heb enwi na dadlennu pwy ydy unrhyw unigolyn, rhowch enghraifft fer o'ch profiad sy'n arddangos y sialensiau rydyn ni'n eu hwynebu wrth gynorthwyo a datblygu'r gweithlu yn y sector?
Seicolegwyr clinigol – diffyg cynllunio ieithyddol wrth recriwtio myfyrwyr i’r rhaglen, gan arwain at ddiffygion o ran y nifer sy’n gymwys i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg wedi iddynt gofrestru. Prinder, yn enwedig, ym maes gofal dementia, sy’n effeithio ar y gallu i gynnal asesiadau cyfrwng Cymraeg. Felly er bod rhai profion dementia bellach wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg, eu safoni a’u dilysu’n ieithyddol, mae prinder seicolegwyr clinigol sy’n siarad Cymraeg yn amharu ar y modd y caiff y profion hyn eu defnyddio, gan effeithio’n niweidiol ar y broses asesu ymysg siaradwyr Cymraeg sy’n cyrchu’r gwasanaeth.

Oes yna ffynonellau eraill o wybodaeth am y gweithlu y dylen ni fod yn eu hystyried?

Alzheimer’s Society Cymru / Comisiynydd y Gymraeg (2018) Gofal Dementia Siaradwyr Cymraeg. Caerdydd: Alzheimer’s Society Cymru / Comisiynydd y Gymraeg. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adrod...

Bowen, S. (2015) The impact of language barriers on patient safety and quality of care. Ottawa:  Société Santé ên français.
https://santefrancais.ca/wp-content/uploads/SSF-Bowen-S.-Language-Barrie...

Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2017) Cynllun Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Caerdydd: Coleg Cymraeg Cenedlaethol http://www.colegcymraeg.ac.uk/en/media/main/2015colegcymraeg/dogfennau/C...

Comisiynydd y Gymraeg (2014) Fy Iaith: Fy Iechyd. Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol. Caerdydd: Comisiynydd y Gymraeg. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adrod...

Comisiynydd y Gymraeg (2016) Recriwtio: ystyried y Gymraeg. Caerdydd: Comisiynydd y Gymraeg.
http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20160308%20%20GC%20C%20Cyngor%20Recriwtio%20-%20CYMRAEG%20(T).pdf

Consortium national de formation en santé (CNFS) (2012) Reference Framework: training for active offer of French language health Services. Ottawa, Ontario: CNFS. http://cnfs.net/wp-content/uploads/2015/06/Reference_Framework_CNFS_Trai...

Consortium national de formation en santé (CNFS) (2012) Reference Framework: training for active offer of French language health Services. Ottawa, Ontario: CNFS. http://cnfs.net/wp-content/uploads/2015/06/Reference_Framework_CNFS_Trai...

Cyngor Gofal (2014) Sgiliau Iaith Gymraeg eich Gweithlu: eu defnyddio’n effeithiol. Caerdydd: Cyngor Gofal. https://gofalcymdeithasol.cymru/cms_assets/file-uploads/Welsh-Language-S...

Hughes, S.A. (2018) Iechyd meddwl a’r Gymraeg: mae’n amser deffro. Gwerddon Fach 28/11/2018. https://golwg360.cymru/gwerddon/534234-iechyd-meddwl-gymraeg-maen-amser-...

Iaith (2012) Profiad Siaradwyr Cymraeg o’r Gwasanaethau Iechyd a Gofal. Caerdydd:  Cyngor Gofal a Llywodraeth Cymru.
https://www.iaith.cymru/uploads/general-uploads/profiad_siaradwyr_cymrae...

Jacobs, E.A., Chen, A.H., Karliner, L.S., Agger-Gupta, N., Mutha, S. (2006) The Need for More Research on Language Barriers in Health Care: A Systematic Review and Proposed Research Agenda. Milbank Quarterly. 84(1):111–33.
https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC2690153/

Llywodraeth Cymru (2012) Mwy na geiriau: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. https://gov.wales/docs/dhss/publications/121121narrativecy.pdf

Llywodraeth Cymru (2015) Mwy na geiriau: pecyn gwybodaeth gweithredu’r ‘cynnig rhagweithiol’ – iechyd. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
https://gweddill.gov.wales/docs/dhss/publications/150928activeofferhealt...

Llywodraeth Cymru (2015) Mwy na geiriau: pecyn gwybodaeth gweithredu’r ‘cynnig rhagweithiol’ – gwasanethau cymdeithasol a gofal cymdeithsol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
https://gweddill.gov.wales/docs/dhss/publications/150928activeoffersocia...

Llywodraeth Cymru (2016) Mwy na geiriau: Fframwaith Strategol Olynol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. https://gov.wales/docs/dhss/publications/160317morethanjustwordscy.pdf

Llywodraeth Cymru (2017) Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
https://gov.wales/docs/dcells/publications/170711-welsh-language-strateg...

Madoc-Jones. I. (2004) Linguistic sensitivity, indigenous peoples and the mental health system in Wales. International Journal of Mental Health Nursing 13:216-224.
https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/j.1440-0979.2004.00337.x

Martin, C., Woods, B. a Williams, S. (2018) Language and culture in the caregiving of people with dementia in care homes – what are the implications for well-being? A scoping review with a Welsh perspective. Journal of Cross-Cultural Gerontology.
DOI: 10.1007/s10823-018-9361-9

Misell, A. (2000) Y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd: Ehangder, Natur a Digonolrwydd Darpariaeth Gymraeg yn y Gwasanaeth iechyd Gwladol yng Nghymru. Caerdydd: Cyngor Defnyddwyr Cymru.

Owen, H.D. a Morris, S. (2012) Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Cymraeg. Gwerddon 10 – 11:83-112.
http://www.gwerddon.cymru/en/media/main/gwerddon/rhifynnau/erthyglau/Rhi...

Prys, C. (2010) The Use of Welsh in the Third Sector in Wales. Contemporary Wales, 23 (1):184-200.
https://www.ingentaconnect.com/content/uwp/cowa/2010/00000023/00000001/a...

Société Santé ên français (SSF) (2015) Framework for the recruitment and retention of bilingual human resources. Ottawa, Ontario: SSF. http://hhrstrategy.ca/