Un Continwwm o Ddysgu’r Gymraeg - cynigion ar gyfer y cwriclwm

[agor fel PDF]

Un Continwwm o Ddysgu’r Gymraeg - 

Maes Profiad a Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg

Bydd pob disgybl yn symud i fyny’r un continwwm dysgu Cymraeg a Saesneg, pa sefydliad addysg bynnag y maent yn ei fynychu, fel y nodir yn y diagram uchod. Fodd bynnag, deallwn wrth ddechrau cyflwyno’r cwricwlwm newydd, y bydd cynnydd disgyblion yn arafach wrth symud i fyny’r un continwwm dysgu Cymraeg o fewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg. 

Erbyn 2022, bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 3 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16. Erbyn 2027, bydd disgwyliadau yn codi a bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 4 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16.  Bydd disgwyl i bob disgybl sydd wedi mynychu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, neu sydd wedi trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg, gyrraedd cam cynnydd 5 waeth beth yw cyfrwng dysgu eu lleoliad/ysgol/ffrwd uwchradd. Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn cymell lleoliadau cyfrwng Saesneg i anelu at sicrhau bod rhai disgyblion eraill yn cyrraedd cam cynnydd 5. Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol er mwyn normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ffurfiol ac anffurfiol ynghyd â gweinyddiaeth ysgolion nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg penodedig ar hyn o bryd. 

Caiff y disgwyliadau o ran ble mae disgyblion yn y lleoliadau yn cyrraedd ar yr un continwwm eu hadolygu, a bydd y disgwyliadau’n cynyddu’n bellach dros amser. 

2. Newidiadau Arfaethedig i Gwricwlwm drafft y Llywodraeth 

Geiriad y Drafft Presennol: 

Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - Canllawiau Statudol Drafft

Awgrym y Gymdeithas

Cynnydd o fewn y maes dysgu a phrofiad hwn (tudalen 10)

Ar gyfer y datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, mae deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg/Saesneg, Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac ar gyfer ieithoedd rhyngwladol. Caiff y disgwyliadau ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg eu hadolygu a’u cynyddu dros amser wrth i’r carfanau cyntaf ddysgu drwy Gwricwlwm i Gymru 2022 ac wrth i ddysgu proffesiynol wella galluoedd. 

Cafodd y deilliannau cyflawniad eu datblygu ar sail continwwm neu fframwaith cynnydd mewn ieithoedd, gan ddechrau gyda dim iaith neu heb fawr ddim iaith a gweithio tuag at ruglder. Dylai’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir mewn un iaith gefnogi’r broses o feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn ieithoedd eraill, ni waeth pa un sy’n cael ei dysgu gyntaf. Bydd angen i leoliadau ac ysgolion gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd rhyngwladol. 

Bydd angen i ysgolion ystyried y deilliannau cyflawniad Cymraeg sydd fwyaf addas i’w dysgwyr. Yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae’n bosibl hefyd mai’r cynnydd yn y Gymraeg a ddangosir yn y deilliannau cyflawniad Cymraeg/Saesneg fydd yr un mwyaf addas i rai dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd, er enghraifft, wedi mynychu cylch meithrin neu sy’n trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg. Efallai y bydd angen i ysgolion dwyieithog hefyd ystyried y deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg a Saesneg a’r deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg.

Cynnydd o fewn y maes dysgu a phrofiad hwn (tudalen 10)

Ar gyfer y datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, mae deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg/Saesneg, ac ar gyfer ieithoedd rhyngwladol. 

Yn unol â pholisi’r Llywodraeth o sefydlu un continwwm o ddysgu’r Gymraeg a fydd yn disodli Cymraeg Ail Iaith, bydd pob disgybl yn cael eu dysgu ar hyd yr un continwwm o ddysgu’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r un continwwm yn cydnabod, yn y lle cyntaf, bydd cynnydd disgyblion yn debygol o fod yn arafach ar hyd yr un continwwm mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg. Caiff y disgwyliadau hyn eu hadolygu a’u cynyddu dros amser wrth i’r carfanau cyntaf ddysgu drwy Gwricwlwm i Gymru 2022 ac wrth i ddysgu proffesiynol wella eu sgiliau yn ogystal. 

Cafodd y deilliannau cyflawniad eu datblygu ar sail un continwwm neu fframwaith cynnydd mewn ieithoedd, gan ddechrau gyda dim iaith neu heb fawr ddim iaith a gweithio tuag at ruglder. Dylai’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir mewn un iaith gefnogi’r broses o feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn ieithoedd eraill, ni waeth pa un sy’n cael ei dysgu gyntaf. Bydd angen i leoliadau ac ysgolion gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd rhyngwladol. 

Bydd y cynnydd yn y Gymraeg a ddangosir yn y deilliannau cyflawniad Cymraeg/Saesneg yn addas i bob dysgwr. Fodd bynnag, deallwn ar ddechrau cyflwyno’r cwricwlwm newydd, bydd cynnydd disgyblion yn arafach wrth symud i fyny’r un continwwm dysgu Cymraeg o fewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg. Bydd pob disgybl yn symud i fyny’r un continwwm dysgu Cymraeg a Saesneg, pa sefydliad addysg bynnag y maent yn ei fynychu, fel y nodir yn y diagram uchod. 

Erbyn 2022, bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 3 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16. Erbyn 2027, bydd disgwyliadau yn codi a bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 4 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16.  Bydd disgwyl i bob disgybl sydd wedi mynychu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, neu sydd wedi trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg, gyrraedd cam cynnydd 5 waeth beth yw cyfrwng dysgu eu lleoliad/ysgol/ffrwd uwchradd. Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn cymell lleoliadau cyfrwng Saesneg i anelu at sicrhau bod rhai disgyblion eraill yn cyrraedd cam cynnydd 5. Bydd hefyd disgwyl i ddisgyblion sydd wedi mynychu cylch meithrin, neu sy’n trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg, symud yn gyflymach i fyny’r un continwwm dysgu. Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol er mwyn normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ffurfiol ac anffurfiol ynghyd â gweinyddiaeth ysgolion nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg penodedig ar hyn o bryd.

Tudalen 29 -

Mae angen i bob dysgwr gael cefnogaeth i feithrin eu sgiliau trawsieithu.

Tudalen 29 - 

“Mae angen i bob dysgwr gael cefnogaeth i feithrin eu sgiliau trawsieithu, ac mae angen cydnabod sgiliau trawsieithu fel sgil ychwanegol i sgil datblygiad un iaith neu iaith arall.”

Tudalennau 34 -37 (gwrando a darllen)

Dileer tudalennau 34-37 a mewnosod yn lle ar ddiwedd tudalen 33:

“Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg 

“Erbyn 2022, bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 3 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16. Erbyn 2027, bydd disgwyliadau yn codi a bydd disgwyl i bob disgybl sy’n mynychu lleoliad cyfrwng Saesneg gyrraedd o leiaf cam cynnydd 4 ar yr un continwwm dysgu Cymraeg hwnnw erbyn oedran 16.  Bydd disgwyl i bob disgybl sydd wedi mynychu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, neu sydd wedi trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg, gyrraedd cam cynnydd 5 waeth beth yw cyfrwng dysgu eu lleoliad/ysgol/ffrwd uwchradd. Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn cymell lleoliadau cyfrwng Saesneg i anelu at sicrhau bod rhai disgyblion eraill yn cyrraedd cam cynnydd 5. Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol er mwyn normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ffurfiol ac anffurfiol ynghyd â gweinyddiaeth ysgolion nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg penodedig ar hyn o bryd. 

“Caiff y disgwyliadau o ran ble mae disgyblion yn y lleoliadau yn cyrraedd ar yr un continwwm eu hadolygu, a bydd y disgwyliadau’n cynyddu’n bellach dros amser.” 

Tudalennau 56-60 (Siarad ac ysgrifennu) 

Dileer tudalennau 56-60 a mewnosod yn lle ar ddiwedd tudalen 55:

Tudalennau 75 i 76 (llenyddiaeth) 

Dileer tudalennau 75-76 a mewnosod yn lle ar ddiwedd tudalen 74: