Ymateb - Adolygiad o weithgaredd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

[Cliciwch yma i agor fel PDF] 

DATBLYGIAD Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Rhagarweiniad

Nodir yn y ddogfen hon sylwadau gan Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG) a gynigir i sylw’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan y Gweinidog Addysg i adolygu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r dyfodol.

Mae dwy ran i’r ddogfen. Yn rhan A amlinellir gweledigaeth CYIG ynglŷn â datblygiad y Coleg Cymraeg. Yn dilyn, ar sail y weledigaeth, cynigir sylwadau yn rhan B ar yr ystyriaethau penodol y gofynnir i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen adrodd yn eu cylch.
Mae’r ddogfen hon yn gwneud defnydd o gasgliadau trafodaethau blaenorol ymysg aelodau CYIG, myfyrwyr a darlithwyr yn y sector addysg uwch a phellach ac aelodau’r Corff Cysgodol Annibynnol a sefydlwyd i hyrwyddo addysg uwch Cymraeg a Chymreig ac i gefnogi datblygiad y Coleg Cymraeg. Ar sail y trafodaethau hyn cynigir yn y ddogfen hon feirniadaeth adeiladol ar gynlluniau a gweithgareddau’r Coleg a datblygiad y Coleg i’r dyfodol. Cydnabyddir yr hyn a gyflawnwyd gan y Coleg Cymraeg yn ystod y cyfnod ymsefydlu o bum mlynedd ond dadleuir ei bod yn bryd yn awr i gymryd camau ymlaen yn natblygiad y Coleg.

 

  1. GWELEDIGAETH YNGLŶN Â DATBLYGIAD Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

    1) Strwythur a swyddogaeth

Mae'n ddealladwy pam bod y Coleg wedi'i sefydlu yn ôl y strwythur 
presennol a chyda'r swyddogaeth o ddarparu ystod eang o gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgogiad dros sefydlu'r Coleg oedd i sicrhau dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg o ysgolion cynradd trwy addysg uwchradd hyd at addysg uwch lle bu darpariaeth yn dameidiog iawn. Sefydlwyd strwythur y Coleg er mwyn 
defnyddio adnoddau'r Sefydliadau Addysg Uwch presennol gan geisio 
cydlynu a rhoi ymdeimlad o gyfeiriad.

Wedi cyfnod 5 mlynedd cyntaf y Coleg mae’n amserol edrych ar ddatblygiad a chyllido’r Coleg i’r dyfodol. Yn y cyfnod ers sefydlu’r Coleg cafwyd nifer o ddatblygiadau pwysig o ran addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mewn sawl maes academaidd, ar draws colegau Cymru, gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddarlithwyr sy’n gallu dysgu’n Gymraeg a datblygwyd ystod o fodiwlau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu hefyd peth cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau neu rhai elfennau neu fodiwlau yn Gymraeg. Credwn bod y cychwyn hwn yn sail addawol ar gyfer datblygiad y Coleg. Yma canolbwyntir ar y potensial i adeiladu ar y sylfaen hwn ar gyfer y dyfodol a chynigir sylwadau ac argymhellion ar gyfer datblygiad y Coleg.

2) Potensial datblygol

Mae'n ddealladwy paham y sefydlwyd y Coleg yn ôl y model presennol, ond credwn fod llawer mwy o botensial wrth ddatblygu'r Coleg ac, o ychwanegu at ei swyddogaethau a'i nod, ni fydd y strwythur presennol yn addas na'r dulliau cyllido presennol yn briodol a digonol. Byddai angen buddsoddiad llawer mwy sylweddol hyd yn oed i gynnal y ddarpariaeth bresennol gan fod y setliad blynyddol dros dro ar hyn o bryd yn barhad o gwtogiad difrifol llynedd. Mae’r Coleg yn awr yn defnyddio dyraniadau sylweddol o arian wrth gefn i gyllido ei weithgareddau ac, yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy. Byddai angen llawer mwy o gyllid i ddatblygu’r meysydd newydd a amlinellwn isod, ond gallasai’r cyllid ddod o wahanol gronfeydd a ffynonellau.

 

3) Ehangu swyddogaeth

Mae angen rhoi mwy o sylw i’r gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol. Hyn yn cynnwys y colegau sy’n ymwneud yn bennaf ag addysg bellach a’r Brifysgol Agored.

Yn gynyddol mae pwyslais ar ddysgu trwy’n bywydau ac mae’r Coleg mewn sefyllfa unigryw i roi sylw arbennig i’r maes hwn ac i’r holl berthynas rhwng coleg a chymuned yng Nghymru.

Yn gyffredinol mae’n amlwg bod twf a photensial dulliau digidol o ddysgu yn enfawr. Mae natur ryng-golegol y Coleg yn golygu bod angen a chyfle neilltuol i ddatblygu'r elfen hon.

Credwn fod angen ehangu swyddogaeth y Coleg i dderbyn cyfrifoldeb dros "addysg bellach" a "galwedigaethol" cyfrwng Cymraeg, ac yn wir gyfanwaith addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Credwn fod angen hyn nid yn unig oherwydd fod y ddarpariaeth Gymraeg yn dameidiog iawn yn y meysydd hyn, ond yn ogystal oherwydd fod yr hen ffiniau rhwng sectorau addysg "uwch" a "phellach" erbyn hyn yn gynyddol amherthnasol. Erbyn heddiw mae llawer o sefydliadau addysg "bellach" yn cynnig cyrsiau uwch, ac mae disgwyl i sefydliadau addysg uwch hefyd gyfrannu at ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn lleol a rhanbarthol.

 

4) Trefn arloesol

Yn hyn o beth, gall rôl newydd i'r Coleg Cymraeg fod yn gynllun peilot ar gyfer creu trefn addysg ôl-16 newydd yng Nghymru a fuasai’n cydlynu addysg uwch, pellach, gydol oes, cymunedol, gyrfaol a mewn swydd. Mae hyn yn gwneud mwy a mwy o synnwyr wrth i’r hen ffiniau rhwng sectorau addysg leihau a chan bod addysg gydol ein hoes yn dod yn fwy a mwy anhepgor. Rhaid herio'r hen gyfundrefnau fod cyfnod helaeth o hyfforddiant mewn sefydliad academaidd ac wedyn parasiwtio 
myfyrwyr i mewn i weithleoedd gyda chymwysterau. Gall fod yn hytrach 
gyrsiau sylfaen, ac wedyn bwyslais ar hyfforddiant yn y swydd, ac addysg gydol oes. Naturiol fydd trosglwyddo'r meysydd hyn - gor-olwg dros hyfforddiant mewn swydd , addysg gymunedol ac addysg gydol oes - hefyd i'r Coleg. Ar sail hyn, nid yn unig y byddai cynnwys cyrsiau (o ran creu cyrsiau perthnasol i anghenion Cymru yn lle cyfieithu'n unig) yn newid, ond byddai holl natur a diben y cyrsiau'n newid.

 

5) Addysg bellach

Buasai ymestyn i gynnwys maes "addysg bellach" yn golygu gwedd newydd ar waith y Coleg gan fod mwyafrif helaeth myfyrwyr addysg bellach sy’n oedolion yn rhan amser ac mewn gwaith. Ar gyfer myfyrwyr iau, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy profiadol a blaengar na sefydliadau addysg uwch o ran cydweithio ag ysgolion. Fe ddeuai felly diwylliant cydweithio a chydlynu yn norm.

Buasai diwylliant a thraddodiad "addysg bellach" hefyd yn cryfhau perspectif y Coleg o ran ei ymwneud â chymunedau a’i ymlyniad at ddatblygu a gwasanaethu cymunedau Cymru. Hyn yn cymharu’n ffafriol a thueddiadau mwy elitaidd y traddodiad addysg uwch.

6) Addysg Gyfun ôl-16
Credwn y dylai'r Llywodraeth alluogi'r Coleg i ddatblygu'n gorff addysg blaengar gan fabwysiadu egwyddor addysg gyfun ar draws maes addysg ôl 16. Galwn ar y Llywodraeth i roi i'r Coleg gyfrifoldeb dros yr hyn a adwaenir yn "addysg bellach" trwy gyfrwng y Gymraeg. Buasai hyn yn hybu dilyniant ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Gallasai hefyd fod yn esiampl i'r maes addysg yn gyffredinol yng Nghymru o ran cyfuno a chydlynu addysg uwch ac addysg bellach. Buasai hyn yn gymorth i ddiddymu'r ffin ddosbarth rhwng rheolwyr cyrff cyhoeddus, sy'n dueddol o ddod o gefndir addysg uwch, a gweithwyr sy'n dod at eu swyddi trwy addysg "alwedigaethol". Gallai gweithwyr sydd â phrofiad mewn meysydd arbennig ddychwelyd at addysg uwch er mwyn dod yn rheolwyr.

Gan fod y niferoedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig dylid cyfuno darpariaeth ôl 16 gan greu trefn flaengar y gallasai'r holl drefn addysg yng Nghymru ei hefelychu. Mae cynsail hanesyddol i hyn gan fod yr ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf ymhlith yr ysgolion cyfun cyntaf; hyn o reidrwydd oherwydd bod niferoedd disgyblion yn gyfyngedig ar y dechrau. Y dull gorau o sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw trwy roi iddo swyddogaeth heriol newydd fel hyn ynghyd â mabwysiadau’r camau datblygiad a nodwyd eisoes.

7) Esiampl flaengar

Mae'n amlwg y byddai angen strwythur llawer mwy soffistigedig i 
hyrwyddo a rheoli datblygiad o'r fath, ond gall fod yn ddatblygiad 
cyffrous gan sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg yn flaengar ac yn arwain y ffordd. Yn wir, gosodir gwledydd cymharol fach fel Ffindir yn aml fel enghreifftiau da i'r byd o ran datblygu cyfundrefnau addysgol arloesol. Dylai fod yr un uchelgais i weld Cymru'n arwain y byd. Naturiol yw cychwyn gydag addysg cyfrwng Cymraeg gan fod y niferoedd yn llai a'r angen i gydlynu a datblygu modelau newydd yn fwy o fater o frys o safbwynt pragmataidd. Er mwyn hyrwyddo a rheoli datblygiadau o’r fath mae’n amlwg nad yw strwythur a threfniadaeth presennol y Coleg yn addas a digonol. Bydd angen buddsoddiad sylweddol, ond sylweddol hefyd fydd y cyfraniad at fywyd Cymru a thuag at ddatblygu trefn addysg newydd a fydd yn fwy cost effeithlon ac yn fwy effeithiol o ran adfywiad economaidd a diwylliannol
.

 

8) Swyddi.

Er bod rhaid gochel rhag gor-gyfeirio addysg at ofynion byd gwaith mae lle i ystyried cyflogadwyaeth myfyrwyr yn ogystal ag anghenion Cymru o ran llenwi swyddi. Mae nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn galw am ddatblygu gweithlu gyda sgiliau arbennig, a dylai fod cyfrifoldeb arbennig gan y Coleg yn hyn o beth. Gallai’r Coleg dderbyn cyfrifoldeb am gynllunio gweithluoedd Cymraeg mewn nifer o feysydd, megis addysg, gofal, gwaith cymdeithasol, gwasanaethau llywodraeth, datblygiad economaidd a chymunedol. Yn ogystal, dylai’r Coleg gymryd cyfrifoldeb am addysg gychwynnol athrawon gan ei fod yn faes mor ganolog i strategaeth iaith y Llywodraeth.

 

9) Adfywiad economaidd a chymdeithasol

Dylid ystyried y Coleg Cymraeg, ar ei newydd wedd, yn beiriant 
cymdeithasol-economaidd pwysig o ran adfywio cymunedau Cymru mewn perthynas â llywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill. Caiff miliynau lawer eu gwario bob blwyddyn gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar dalu ymgynghorwyr preifat i wneud astudiaethau dichonoldeb i brosiectau newydd neu i asesu effeithiau datblygiadau neu anghenion cymunedau. Mae'r rhain yn amrywio o ymchwil i mewn i ddatblygiadau addysgol, i fyd cynllunio, i'r amgylchedd ac i ddatblygu economaidd a phob maes o ddiddordeb cyhoeddus. Does dim rheswm paham na ddylai model newydd o’r Coleg weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cyhoeddus o ran astudiaethau o'r fath. Yn wir, byddai gorolwg academaidd ar y fath astudiaethau yn fwy gwrthrychol a dibynadwy na mympwy'r sector breifat.

10) Ymchwil.

Tenau yw’r sôn am ymchwil a’r berthynas rhwng ymchwil a dysgu yn nogfennau ymgynghorol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae angen pwerdy ymchwil Cymraeg a Chymreig. Dylid sefydlu adran ymchwil yn y Coleg felly. Dylid datblygu strategaeth ymchwil fydd yn cynnwys ymwneud ag anghenion ymchwil cyrff a chymunedau yng Nghymru, cydweithio rhwng colegau yng Nghymru a chyda colegau ar draws Ewrop a thu hwnt a chynlluniau cyfnewid rhyngwladol ymchwilwyr.

Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus eraill, i roi cyfran deg o brosiectau ymchwil o ran polisi cyhoeddus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel bod yr ymchwil hwn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ffynhonnell incwm atodol i'r Coleg.

Dylai perspectif a photensial y Coleg fod yn ehangach na 
chystadlu mewn marchnadle sefydliadau addysg uwch Prydeinig. Er mwyn medru cyfrannu at ragoriaeth rhyngwladol, mae angen pwysau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cyfran teg o'r arian ymchwil a ddyrennir gan gyrff Prydeinig yn dod at brosiectau ymchwil gwahanol adrannau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
 

11) Rhesymoli adnoddau

Mae pob rheswm, gan gynnwys cydlynu a gwneud y defnydd gorau o 
adnoddau, yn pwyntio tuag at ehangu maes gwaith y Coleg yn y modd a amlinellir yma. Mae hyn yn enwedig o berthnasol o ystyried potensial adnoddau addysgol digidol Cymraeg a Chymreig. Mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn cael eu rhwystro rhag cynnig pynciau yn Gymraeg ar hyn o bryd oherwydd y diffyg adnoddau sydd ar gael yn y Gymraeg a’r oedi ychwanegol cyn eu derbyn o gymharu ag adnoddau cyfrwng Saesneg. Wrth reswm, mae gan y Coleg y potensial i oresgyn nifer o’r problemau hyn.

 

12) Cyllido addas

Bydd yr holl ddatblygiadau hyn yn agor ffynonellau cyllido newydd i'r 
Coleg Cymraeg. Dylid sianelu cyllid cyhoeddus o nifer o wahanol gyfeiriadau. 

Dylai’r cyllid fod yn ddibynnol ar fudd y gwaith a gyflawnir gan y Coleg yn hytrach na fformiwla ‘cyllid yn dilyn myfyrwyr unigol’. Gan y bydd llawer o fyfyrwyr yn dilyn modiwlau yn Gymraeg ac yn Saesneg nid yw model cyllido o’r fath yn addas.
Ar hyn o bryd mae trefn gyllido colegau ac adrannau o fewn colegau yn milwrio yn erbyn cydweithio rhwng colegau a rhwng adrannau yn y colegau ac yn llesteirio datblygiad addysg aml a thraws ddisgyblaethol. Mae gan y Coleg y potensial i ddefnyddio grym cyllido i hybu cydweithrediad ar draws adrannau a cholegau. Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed cynyddol ar gyfer datblygiad yn y canran o addysg uwch (a phellach) cyfrwng Cymraeg, a rhoi'r canran hwnnw o'r gyllideb yn uniongyrchol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hyn yn sicrhau ei ddyfodol ac yn ei alluogi i gynllunio ymlaen mewn modd strategol.

13) Swyddogaeth addysg Gymreig

Ni fu fawr o sôn yng Nghynllun Academaidd y Coleg, nag ychwaith yn gyffredinol gan y Coleg, am gynnwys addysg a bod y Gymraeg yn cynnig persbectif diwylliannol gwahanol a gwerthfawr. Nid oes gweledigaeth glir ynglŷn ag addysg Gymraeg a Chymreig. Mae angen datblygu a mynegi sail athronyddol a phwrpas yr addysg. Nid yw’n ddigon cynllunio addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y Gymraeg cyplysir, yn naturiol, iaith a diwylliant. Dylai’r weledigaeth fod yn llawer mwy na Chymraeg fel cyfrwng. Yn hytrach, mae angen mynegiant o weledigaeth ynglŷn â phersbectif diwylliannol Cymreig ar gynnwys a swyddogaeth addysg uwch. Dylid datgan yn glir mai swyddogaeth y Coleg yw gwasanaethu Cymru gan gynnig addysg sydd nid yn unig yn y Gymraeg ond yn Gymreig hefyd.

 

14) Creu cyrsiau newydd

Nid yw darparu atodiadau cyfrwng Cymraeg i gyrsiau a gynlluniwyd ar sail paradeim Eingl-Americanaidd yng ngholegau eraill Cymru yn mynd i sicrhau addysg Gymreig. Er mwyn datblygu addysg Gymreig mae angen cynllunio cyrsiau o’r newydd yn Gymraeg o bersbectif diwylliannol gwahanol ar sail gweledigaeth athronyddol glir. Mae’r ffaith bod y Coleg yn gorff ffederal yn golygu bod gan y Coleg gyfle euraidd i ddatblygu cyrsiau traws-golegol yn seiliedig ar baradeim Cymreig. Mewn geiriau eraill mae gofyn i’r Coleg ddatblygu, dilysu a pherchenogi ei raglenni, graddau a’i gyrsiau ei hun. Bellach, gyda’r twf yn nifer y darlithwyr sy’n alluog i ddysgu’n Gymraeg, mae modd a chyfle i’r Coleg ddod a darlithwyr o wahanol adrannau a cholegau ynghyd i lunio cyrsiau ar sail gweledigaeth a pharadeim Cymreig.

Galwn ar y Coleg i fynd ati rhag blaen i lunio rhaglen i greu cymuned o ddarlithwyr Cymraeg, ar draws y colegau, i greu cyrsiau Cymreig gwreiddiol yn berthnasol i anghenion Cymru.

 

15) Hunaniaeth

Dim ond i raddau y mae’r Coleg wedi datblygu ei hunaniaeth fel coleg a chorff academaidd. Mae myfyrwyr a darlithwyr yn ystyried eu hunain yn perthyn i'w prifysgol, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac yn y blaen, yn hytrach nag i'r Coleg Cymraeg safle Aber, safle Bangor ac ati. Ystyrir y Coleg fel adain Gymraeg Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW)) sydd, i bob pwrpas, yn sicrhau fod yr un cyrsiau ar gael yn Gymraeg â sy’n bodoli yn Saesneg. Yn nogfen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2013 pwyswyd ar y Coleg Cymraeg i ddatblygu cymuned o ddarlithwyr Cymraeg a fyddent yn datblygu cyrsiau Cymreig a blaengar eu natur. Ymddengys mai atodol neu ymylol yw ymdrechion y Coleg i ddatblygu'n gymuned - o blith staff a myfyrwyr. Os pwyllgor cyllido'n bennaf yw'r "Coleg", gallai gael ei danseilio gydag unrhyw newidiadau mewn dulliau a lefelau cyllido.

16) Paradeim Cymreig

Haerllugrwydd fuasai i un neu ddau o academyddion geisio datblygu a diffinio paradeim Cymreig. Yn hytrach, mae llunio paradeim Cymreig yn dasg esblygol i’w gyflawni ar y cyd. Gellir rhagweld esblygiad o’r fath yn digwydd, i raddau, wrth i addysgwyr Cymraeg gyd drafod a datblygu cyrsiau Cymreig o’r newydd ond mae hyn am fod yn broses araf sy’n rhy bwysig i’w adael i hap a damwain. Mae angen i’r Coleg fynd ati’n fwriadol i hybu datblygiad paradeim Cymreig fel sail athronyddol addysg Gymreig. Mater yw hyn o greu llwyfan pwrpasol i academyddion ddod at ei gilydd i drafod ystyr a chynllunio cyfeiriad addysg uwch Cymraeg a Chymreig. Fel un cam yn y broses hon awgrymir y dylai’r Coleg gynnal cynhadledd genedlaethol ar yr union fater o sail athronyddol addysg Gymreig i’r dyfodol. Mae dadleuon cryf o blaid datblygu addysg uwch llawer mwy amlddisgyblaethol, integredig, eclectig a dilechdidol ac y mae’r Gymraeg a Chymreigrwydd yn adnoddau diwylliannol gwerthfawr i’r perwyl hwn. Mae cyfrifoldeb a chyfle arbennig i’r Coleg arwain ar hyn.

I grynhoi, tueddodd lladmeryddion addysg Gymraeg bwysleisio’r Gymraeg fel cyfrwng gan feddwl mewn termau addysgol pur amddiffynnol a cheidwadol. Nid yw’r fath feddylfryd yn tycio ymhlith trwch myfyrwyr Cymraeg heddiw a ni fydd llewyrch ar addysg uwch Cymraeg os mai dim ond y cyfrwng a newidir. Y weledigaeth a fuasai’n ysbrydoli myfyrwyr ac a gynigir fel sail cynllunio academaidd y Coleg yw addysg Gymreig. Nid yn unig cyfrwng gwahanol ond cynnwys gwahanol wedi’i ddatblygu’n ymwybodol ar sail paradeim academaidd gwahanol yn codi o bersbectif diwylliannol gwahanol. Cynnwys gwerth chweil i fyfyrwyr Cymraeg; gwerth ei gyfieithu ar gyfer gweddill y byd.

 

17) Persbectif rhyngwladol.

O gymryd bod y Coleg yn llwyddo gyda’r weledigaeth o ddatblygu addysg Gymreig drwy gyfrwng y Gymraeg yna cam â gweddill pobloedd Cymru a’r byd fuasai eu hamddifadu o’r fath bersbectif diwylliannol gwerthfawr. Felly, dylid annog eraill i ystyried sut i drosglwyddo’r fath weledigaeth a phersbectif academaidd drwy gyfrwng ieithoedd eraill.

Dylai cynlluniau y Coleg gynnwys gweledigaeth ryngwladol. Yn hyn o beth mae cynnal deialog gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill yn greiddiol. Mae angen cyfleoedd ymarferol i staff dysgu, ymchwilwyr a myfyrwyr y Coleg ddatblygu a gweithredu ar bersbectif academaidd rhyngwladol.

 

18 ) Monitro a mesur cynnydd.

Yn Adran 8 o’r ddogfen ymgynghorol ar Gynllun Academaidd y Coleg ymdrinnir â ‘Gweithredu’r Cynllun a Mesur Llwyddiant’. I fesur cynnydd yn llwyddiannus mae angen mesur cychwynnol (base line) cywir ac ystyrlon. Bu colegau Cymru yn amwys ynglŷn â’u diffiniad o astudio yn Gymraeg ac yn ‘greadigol’ wrth fesur y nifer o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Arweiniodd hyn at orliwio camarweiniol yn y gorffennol, yn aml er mwyn cyfiawnhau ‘r ffaith eu bod yn derbyn cyllid arbennig tuag at ddatblygu cyrsiau “dwyieithog”, ac mae’n bwysig bod y Coleg yn osgoi’r demtasiwn i barhau gyda’r ymarfer hwn. Bydd sefydlu mesur cywir, ystyrlon a chadarn o’r sefyllfa gychwynnol ac o’r cynnydd yn hanfodol i sicrhau gwir ddarlun o lwyddiant.

Gan gymryd bod dulliau cywir o fesur cynnydd yna buasai modd cyhoeddi mesuriadau syml a chryno o dwf addysg uwch Cymraeg. Da fuasai medru datgan yn gyhoeddus ffigyrau clir a dibynadwy yn dangos y cynnydd yn nhermau nifer o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym mhob maes neu ddisgyblaeth ym mhob coleg. Mae’n bwysig fod pobl o’r tu allan yn gweld mesur syml ac ystyrlon o gynnydd.

 

 

B. YMATEB I YSTYRIAETHAU PENODOL Y GRŴP GORCHWYL A GORFFEN

Gofynnwyd i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen adrodd ar 5 o ystyriaethau penodol, fel ag y nodir isod. Yn dilyn o’r weledigaeth a amlinellwyd uchod mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG) yn cynnig y sylwadau canlynol ar yr ystyriaethau penodol hyn.

Ystyriaeth 1

A yw model a strwythur presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn briodol ac yn addas at y diben o hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg AU o 2017 ymlaen. Os nad ydyw, dylid diffinio rôl, gweithgareddau a strwythur y Coleg (neu endid arall) i’r dyfodol, gan roi ystyriaeth lawn i werth am arian a chynaliadwyedd.

 

Mae'n ddealladwy pam bod y Coleg wedi'i sefydlu yn ôl y strwythur 
presennol a chyda'r swyddogaeth o ddarparu ystod eang o gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgogiad dros sefydlu'r Coleg oedd i sicrhau dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg o ysgolion cynradd trwy addysg uwchradd hyd at addysg uwch lle bu darpariaeth yn dameidiog iawn. Sefydlwyd strwythur y Coleg er mwyn 
defnyddio adnoddau'r Sefydliadau Addysg Uwch presennol gan geisio 
cydlynu a rhoi ymdeimlad o gyfeiriad.

Wedi cyfnod 5 mlynedd cyntaf y Coleg mae’n amserol edrych ar ddatblygiad a chyllido’r Coleg i’r dyfodol. Yn y cyfnod ers sefydlu’r Coleg cafwyd nifer o ddatblygiadau pwysig o ran addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mewn sawl maes academaidd, ar draws colegau Cymru, gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddarlithwyr sy’n gallu dysgu’n Gymraeg a datblygwyd ystod o fodiwlau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu hefyd peth cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau neu rhai elfennau neu fodiwlau yn Gymraeg. Credwn bod y cychwyn hwn yn sail addawol ar gyfer datblygiad y Coleg ac y mae cryn botensial i adeiladu ar y sylfaen hwn ar gyfer y dyfodol.

Mae'n ddealladwy felly paham y sefydlwyd y Coleg yn ôl y model presennol, ond credwn fod llawer mwy o botensial wrth ddatblygu'r Coleg ac, o ychwanegu at ei swyddogaethau a'i nod, bydd angen strwythur addas a dulliau cyllido priodol i gymryd lle’r drefn presennol.

Mae angen rhoi mwy o sylw i’r gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol. Hyn yn cynnwys y colegau sy’n ymwneud yn bennaf ag addysg bellach a’r Brifysgol Agored.

Yn gynyddol mae pwyslais ar ddysgu trwy’n bywydau ac mae’r Coleg mewn sefyllfa unigryw i roi sylw arbennig i’r maes hwn ac i’r holl berthynas rhwng coleg a chymuned yng Nghymru. Yn gyffredinol mae’n amlwg bod twf a photensial dulliau digidol o ddysgu yn enfawr. Mae natur ryng-golegol y Coleg yn golygu bod angen a chyfle neilltuol i ddatblygu'r elfen hon.

Credwn fod angen ehangu swyddogaeth y Coleg i dderbyn cyfrifoldeb dros "addysg bellach" a "galwedigaethol" cyfrwng Cymraeg, ac yn wir gyfanwaith addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Credwn fod angen hyn nid yn unig oherwydd fod y ddarpariaeth Gymraeg yn dameidiog iawn yn y meysydd hyn, ond yn ogystal oherwydd fod yr hen ffiniau rhwng sectorau addysg "uwch" a "phellach" erbyn hyn yn gynyddol amherthnasol. Erbyn heddiw mae llawer o sefydliadau addysg "bellach" yn cynnig cyrsiau uwch, ac mae disgwyl i sefydliadau addysg uwch hefyd gyfrannu at ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn lleol a rhanbarthol.

Gallasai rôl newydd i'r Coleg fod yn gynllun peilot ar gyfer 
creu trefn addysg ôl-16 newydd yng Nghymru a fuasai’n cydlynu addysg uwch, pellach, gydol oes, cymunedol, gyrfaol a mewn swydd. Mae hyn yn gwneud mwy a mwy o synnwyr wrth i’r hen ffiniau rhwng sectorau addysg leihau a chan bod addysg gydol ein hoes yn dod yn fwy a mwy anhepgor. Naturiol fuasai trosglwyddo'r meysydd hyn - gor-olwg dros hyfforddiant mewn swydd , addysg gymunedol ac addysg gydol oes i'r Coleg. Ar sail hyn, nid yn unig y byddai cynnwys cyrsiau (o ran creu cyrsiau perthnasol i anghenion Cymru yn lle cyfieithu'n unig) yn newid, ond byddai holl natur a diben y cyrsiau'n newid.

Buasai ymestyn i gynnwys maes "addysg bellach" yn golygu gwedd newydd ar waith y Coleg gan fod mwyafrif helaeth myfyrwyr addysg bellach sy’n oedolion yn rhan amser ac mewn gwaith. Ar gyfer myfyrwyr iau, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy profiadol a blaengar na sefydliadau addysg uwch o ran cydweithio ag ysgolion. Fe ddaw felly diwylliant cydweithio a chydlynu yn norm.

Buasai diwylliant a thraddodiad "addysg bellach" hefyd yn cryfhau perspectif y Coleg o ran ei ymwneud â chymunedau a’i ymlyniad at ddatblygu a gwasanaethu cymunedau Cymru.

 

Credwn y dylai'r Llywodraeth alluogi'r Coleg i ddatblygu'n gorff addysg blaengar gan fabwysiadu egwyddor addysg gyfun ar draws maes addysg ôl 16. Galwn ar y Llywodraeth i roi i'r Coleg gyfrifoldeb dros yr hyn a adwaenir yn "addysg bellach" trwy gyfrwng y Gymraeg. Buasai hyn yn hybu dilyniant ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Gallasai hefyd fod yn esiampl i'r maes addysg yn gyffredinol yng Nghymru o ran cyfuno a chydlynu addysg uwch ac addysg bellach.

Gan fod y niferoedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig dylid cyfuno darpariaeth ôl 16 gan greu trefn flaengar y gallasai'r holl drefn addysg yng Nghymru ei hefelychu. Mae cynsail hanesyddol i hyn gan fod yr ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf ymhlith yr ysgolion cyfun cyntaf; hyn o reidrwydd oherwydd bod niferoedd disgyblion yn gyfyngedig ar y dechrau. Y dull gorau o sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw trwy roi iddo swyddogaeth heriol newydd fel hyn ynghyd â mabwysiadau’r camau datblygiad a nodwyd eisoes.

Mae'n amlwg y byddai angen strwythur llawer mwy soffistigedig i 
hyrwyddo a rheoli datblygiad o'r fath, ond gall fod yn ddatblygiad 
cyffrous gan sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg yn flaengar ac yn arwain y ffordd. Yn wir, gosodir gwledydd cymharol fach fel Ffindir yn aml fel enghreifftiau da i'r byd o ran datblygu cyfundrefnau addysgol arloesol. Dylai fod yr un uchelgais i weld Cymru'n arwain y byd. Naturiol yw cychwyn gydag addysg cyfrwng Cymraeg gan fod y niferoedd yn llai a'r angen i gydlynu a datblygu modelau newydd yn fater o frys ond yn sialens haws o safbwynt pragmataidd. Er mwyn hyrwyddo a rheoli datblygiadau o’r fath mae’n amlwg y bydd angen datblygu strwythur a threfniadaeth addas i gymryd lle’r drefn bresennol. Bydd angen buddsoddiad a fydd yn golygu cyfraniad at fywyd Cymru a thuag at ddatblygu trefn addysg newydd a fydd yn fwy cost effeithlon ac yn fwy effeithiol o ran adfywiad economaidd a diwylliannol.

Dylid ystyried y Coleg, ar ei newydd wedd, yn beiriant 
cymdeithasol-economaidd pwysig o ran adfywio cymunedau Cymru mewn perthynas â llywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill. Caiff miliynau lawer eu gwario bob blwyddyn gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar dalu ymgynghorwyr preifat i wneud astudiaethau dichonoldeb i brosiectau newydd neu i asesu effeithiau datblygiadau neu anghenion cymunedau. Mae'r rhain yn amrywio o ymchwil i mewn i ddatblygiadau addysgol, i fyd cynllunio, i'r amgylchedd ac i ddatblygu economaidd a phob maes o ddiddordeb cyhoeddus. Does dim rheswm paham na ddylai model newydd o’r Coleg weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cyhoeddus o ran astudiaethau o'r fath.

 

Tenau yw’r sôn am ymchwil a’r berthynas rhwng ymchwil a dysgu yn nogfennau ymgynghorol y Coleg. Mae angen pwerdy ymchwil Cymraeg a Chymreig. Dylid datblygu strategaeth ymchwil fydd yn cynnwys ymwneud ag anghenion ymchwil cyrff a chymunedau yng Nghymru, cydweithio rhwng colegau yng Nghymru a chyda colegau ar draws Ewrop a thu hwnt a chynlluniau cyfnewid rhyngwladol ymchwilwyr.

Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus eraill, i roi cyfran deg o brosiectau ymchwil o ran polisi cyhoeddus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel bod yr ymchwil hwn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ffynhonnell incwm atodol i'r Coleg.

Dylai perspectif a photensial y Coleg fod yn ehangach na 
chystadlu mewn marchnadle sefydliadau addysg uwch Prydeinig. Er mwyn medru cyfrannu at ragoriaeth rhyngwladol, mae angen pwysau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cyfran teg o'r arian ymchwil a ddyrennir gan gyrff Prydeinig yn dod at brosiectau ymchwil gwahanol adrannau’r Coleg Cymraeg.

 

Mae pob rheswm, gan gynnwys cydlynu a gwneud y defnydd gorau o 
adnoddau, yn pwyntio tuag at ehangu maes gwaith y Coleg yn y modd a amlinellir yma. Mae hyn yn enwedig o berthnasol o ystyried potensial adnoddau addysgol digidol Cymraeg a Chymreig.

Nid yw darparu atodiadau cyfrwng Cymraeg i gyrsiau a gynlluniwyd ar sail paradeim Eingl-Americanaidd yng ngholegau eraill Cymru yn mynd i sicrhau addysg Gymreig. Er mwyn datblygu addysg Gymreig mae angen cynllunio cyrsiau o’r newydd yn Gymraeg o bersbectif diwylliannol gwahanol ar sail gweledigaeth athronyddol glir. Mae’r ffaith bod y Coleg yn gorff ffederal yn golygu bod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyfle euraidd i ddatblygu cyrsiau traws-golegol yn seiliedig ar baradeim Cymreig. Mewn geiriau eraill mae gofyn i’r Coleg ddatblygu, dilysu a pherchenogi ei raglenni, graddau a’i gyrsiau ei hun. Bellach, gyda’r twf yn nifer y darlithwyr sy’n alluog i ddysgu’n Gymraeg, mae modd a chyfle i’r Coleg ddod a darlithwyr o wahanol adrannau a cholegau ynghyd i lunio cyrsiau ar sail gweledigaeth a pharadeim Cymreig.

Galwn ar y Coleg i fynd ati rhag blaen i lunio rhaglen i greu cymuned o ddarlithwyr Cymraeg, ar draws y colegau, i greu cyrsiau Cymreig gwreiddiol yn berthnasol i anghenion Cymru.

O gymryd bod y Coleg yn llwyddo gyda’r weledigaeth o ddatblygu addysg Gymreig drwy gyfrwng y Gymraeg yna cam â gweddill pobloedd Cymru a’r byd fuasai eu hamddifadu o’r fath bersbectif diwylliannol gwerthfawr. Felly, dylid annog eraill i ystyried sut i drosglwyddo’r fath weledigaeth a phersbectif academaidd drwy gyfrwng ieithoedd eraill.

Dylai cynlluniau y Coleg gynnwys gweledigaeth ryngwladol. Yn hyn o beth mae cynnal deialog gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill yn greiddiol. Mae angen cyfleoedd ymarferol i staff dysgu, ymchwilwyr a myfyrwyr y Coleg ddatblygu a gweithredu ar bersbectif academaidd rhyngwladol.

 

Ystyriaeth 2

Beth yw’r opsiynau ar gyfer cyllido’r Coleg i’r dyfodol.

 

Er mwyn ychwanegu at swyddogaethau a nod y Coleg, bydd angen strwythur addas a threfn gyllido briodol I gymryd lle’r sefyllfa ar hyn o bryd. Byddai angen buddsoddiad llawer mwy sylweddol hyd yn oed i gynnal y ddarpariaeth bresennol gan fod y setliad blynyddol dros dro ar hyn o bryd yn barhad o gwtogiad difrifol llynedd. Mae’r Coleg yn awr yn defnyddio dyraniadau sylweddol o arian wrth gefn i gyllido ei weithgareddau ac, yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy. Byddai angen llawer mwy o gyllid i ddatblygu’r meysydd newydd a amlinellwn isod, ond gallasai’r cyllid ddod o wahanol gronfeydd a ffynonellau.

 

Cadarnhaodd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, a gyhoeddwyd ar 18 Hydref, bod y gyllideb ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn awr yn un o gyfrifoldebau Is-adran y Gymraeg. Mae £5.4m wedi ei ddyrannu i gefnogi gweithgareddau’r Coleg gyda £0.330m ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy CCAUC i gefnogi’r Cynllun Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn drefniant dros dro i’r Coleg nes bydd y grŵp adolygu wedi adrodd ar ei ganfyddiadau, ac mae’r trefniant ariannol hwn yn seiliedig ar gwtogiad sylweddol y flwyddyn gynt.

Felly, trefniant cyllido dros dro sydd yn ei le ar hyn o bryd. Oherwydd holl natur addysg uwch a phellach mae’n amlwg bod angen sicrhau cyllid tymor hir sefydlog er mwyn cynllunio datblygiad y Coleg i’r dyfodol. Mae hefyd angen ffynonellau cyllido newydd I ddatblygu’r meysydd y cyfeiriwn atynt yn y ddogfen hon.

Mae'n amlwg y byddai angen strwythur llawer mwy soffistigedig a chyllid digonol i hyrwyddo’r datblygiadau sy’n cael eu hargymell yn y ddogfen. Buasai’r datblygiadau yn gyffrous gan sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg yn flaengar ac yn arwain y ffordd. Bydd y buddsoddiad yn sylweddol, ond sylweddol hefyd fydd y cyfraniad at fywyd Cymru a thuag at ddatblygu trefn addysg newydd a fydd yn fwy cost effeithiol ac yn fwy effeithlon o ran adfywiad economaidd a diwylliannol.

Mae angen ystyried cyflogadwyaeth myfyrwyr yn ogystal ag anghenion Cymru o ran llenwi swyddi. Mae nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn galw am ddatblygu gweithlu gyda sgiliau arbennig, a dylai fod cyfrifoldeb arbennig gan y Coleg yn hyn o beth. Gallai’r Coleg dderbyn cyfrifoldeb am gynllunio gweithluoedd Cymraeg mewn nifer o feysydd, megis addysg, gofal, gwaith cymdeithasol, gwasanaethau llywodraeth, datblygiad economaidd a chymunedol.

Dylid ystyried y Coleg, ar ei newydd wedd, yn beiriant 
cymdeithasol-economaidd pwysig o ran adfywio cymunedau Cymru mewn perthynas â llywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill. Caiff miliynau lawer eu gwario bob blwyddyn gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar dalu ymgynghorwyr preifat i wneud astudiaethau dichonoldeb i brosiectau newydd neu i asesu effeithiau datblygiadau neu anghenion cymunedau. Mae'r rhain yn amrywio o ymchwil i mewn i ddatblygiadau addysgol, i fyd cynllunio, i'r amgylchedd ac i ddatblygu economaidd a phob maes o ddiddordeb cyhoeddus. Does dim rheswm paham na ddylai model newydd o’r Coleg weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cyhoeddus o ran astudiaethau o'r fath.

 

Mae angen pwerdy ymchwil Cymraeg a Chymreig. Dylid datblygu strategaeth a chyllid ymchwil fydd yn cynnwys ymwneud ag anghenion ymchwil cyrff a chymunedau yng Nghymru, cydweithio rhwng colegau yng Nghymru a chyda colegau ar draws Ewrop a thu hwnt a chynlluniau cyfnewid rhyngwladol ymchwilwyr.

Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus eraill, i roi cyfran deg o brosiectau ymchwil o ran polisi cyhoeddus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel bod yr ymchwil hwn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ffynhonnell incwm atodol i'r Coleg.

Dylai perspectif a photensial y Coleg fod yn ehangach na 
chystadlu mewn marchnadle sefydliadau addysg uwch Prydeinig. Er mwyn medru cyfrannu at ragoriaeth rhyngwladol, mae angen pwysau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cyfran teg o'r arian ymchwil a ddyrennir gan gyrff Prydeinig yn dod at brosiectau ymchwil gwahanol adrannau’r Coleg.

 

Mae pob rheswm, gan gynnwys cydlynu a gwneud y defnydd gorau o 
adnoddau, yn pwyntio tuag at ehangu maes gwaith y Coleg yn y modd a amlinellir yma. Mae hyn yn enwedig o berthnasol o ystyried potensial adnoddau addysgol digidol Cymraeg a Chymreig.

Buasai’r holl ddatblygiadau hyn yn agor ffynonellau cyllido newydd i'r 
Coleg. Dylid sianelu cyllid cyhoeddus o nifer o wahanol gyfeiriadau. Dylai’r cyllid fod yn ddibynnol ar fudd y gwaith a gyflawnir gan y Coleg yn hytrach na fformiwla ‘cyllid yn dilyn myfyrwyr unigol’. Gan y bydd llawer o fyfyrwyr yn dilyn modiwlau yn Gymraeg ac yn Saesneg nid yw model cyllido o’r fath yn addas. Ar hyn o bryd mae trefn gyllido colegau ac adrannau o fewn colegau yn milwrio yn erbyn cydweithio rhwng colegau a rhwng adrannau yn y colegau ac yn llesteirio datblygiad addysg aml a thraws ddisgyblaethol. Mae gan y Coleg y potensial i ddefnyddio grym cyllido i hybu cydweithrediad ar draws adrannau a cholegau. Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed cynyddol ar gyfer datblygiad yn y canran o addysg uwch (a phellach) cyfrwng Cymraeg, a rhoi'r canran hwnnw o'r gyllideb yn uniongyrchol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hyn yn sicrhau ei ddyfodol ac yn ei alluogi i gynllunio ymlaen mewn modd strategol.

 

Ystyriaeth 3

A yw’r berthynas rhwng y Coleg a sefydliadau AU yng Nghymru yn gynaliadwy i’r dyfodol?

 

Mae'n ddealladwy pam bod y Coleg wedi'i sefydlu yn ôl y strwythur 
presennol a chyda'r swyddogaeth o ddarparu ystod eang o gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgogiad dros sefydlu'r Coleg oedd i sicrhau dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg o ysgolion cynradd trwy addysg uwchradd hyd at addysg uwch lle bu darpariaeth yn dameidiog iawn. Sefydlwyd strwythur y Coleg er mwyn 
defnyddio adnoddau'r Sefydliadau Addysg Uwch presennol gan geisio 
cydlynu a rhoi ymdeimlad o gyfeiriad.

Wedi cyfnod 5 mlynedd cyntaf y Coleg mae’n amserol edrych ar ddatblygiad a chyllido’r Coleg i’r dyfodol. Yn y cyfnod ers sefydlu’r Coleg cafwyd nifer o ddatblygiadau pwysig o ran addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mewn sawl maes academaidd, ar draws colegau Cymru, gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddarlithwyr sy’n gallu dysgu’n Gymraeg a datblygwyd ystod o fodiwlau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu hefyd peth cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau neu rhai elfennau neu fodiwlau yn Gymraeg. Credwn bod y cychwyn hwn yn sail addawol ar gyfer datblygiad y Coleg. Yn amlwg mae potensial i adeiladu ar y sylfaen hwn ar gyfer datblygiad y Coleg I’r dyfodol.

 

Mae angen rhoi mwy o sylw i’r gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol. Hyn yn cynnwys y colegau sy’n ymwneud yn bennaf ag addysg bellach a’r Brifysgol Agored.

Credwn fod angen ehangu swyddogaeth y Coleg i dderbyn cyfrifoldeb dros "addysg bellach" a "galwedigaethol" cyfrwng Cymraeg, ac yn wir gyfanwaith addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Credwn fod angen hyn nid yn unig oherwydd fod y ddarpariaeth Gymraeg yn dameidiog iawn yn y meysydd hyn, ond yn ogystal oherwydd fod yr hen ffiniau rhwng sectorau addysg "uwch" a "phellach" erbyn hyn yn gynyddol amherthnasol. Erbyn heddiw mae llawer o sefydliadau addysg "bellach" yn cynnig cyrsiau uwch, ac mae disgwyl i sefydliadau addysg uwch hefyd gyfrannu at ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn lleol a rhanbarthol.

 

Gallasai rôl newydd i'r Coleg fod yn gynllun peilot ar gyfer 
creu trefn addysg ôl-16 newydd yng Nghymru a fuasai’n cydlynu addysg uwch, pellach, gydol oes, cymunedol, gyrfaol a mewn swydd. Mae hyn yn gwneud mwy a mwy o synnwyr wrth i’r hen ffiniau rhwng sectorau addysg leihau a chan bod addysg gydol ein hoes yn dod yn fwy a mwy anhepgor. Naturiol fydd trosglwyddo'r meysydd hyn - gor-olwg dros hyfforddiant mewn swydd , addysg gymunedol ac addysg gydol oes - hefyd i'r Coleg. Ar sail hyn, nid yn unig y byddai cynnwys cyrsiau (o ran creu cyrsiau perthnasol i anghenion Cymru yn lle cyfieithu'n unig) yn newid, ond byddai holl natur a diben y cyrsiau'n newid.

Dylid ystyried y Coleg, ar ei newydd wedd, yn beiriant cymdeithasol-economaidd pwysig o ran adfywio cymunedau Cymru mewn perthynas â llywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill. Caiff miliynau lawer eu gwario bob blwyddyn gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar dalu ymgynghorwyr preifat i wneud astudiaethau dichonoldeb i brosiectau newydd neu i asesu effeithiau datblygiadau neu anghenion cymunedau. Does dim rheswm paham na ddylai model newydd o’r Coleg weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cyhoeddus o ran astudiaethau o'r fath. Yn wir, byddai gorolwg academaidd ar y fath astudiaethau yn fwy gwrthrychol a dibynadwy na mympwy'r sector breifat.

Mae angen pwerdy ymchwil Cymraeg a Chymreig. Dylid sefydlu adran ymchwil gan y Coleg a datblygu strategaeth ymchwil fydd yn cynnwys ymwneud ag anghenion ymchwil cyrff a chymunedau yng Nghymru, cydweithio rhwng colegau yng Nghymru a chyda colegau ar draws Ewrop a thu hwnt a chynlluniau cyfnewid rhyngwladol ymchwilwyr.

Mae CYIG yn galw ar Lywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus eraill, i roi cyfran deg o brosiectau ymchwil o ran polisi cyhoeddus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel bod yr ymchwil hwn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ffynhonnell incwm atodol i'r Coleg.

Dylai perspectif a photensial y Coleg fod yn ehangach na 
chystadlu mewn marchnadle sefydliadau addysg uwch Prydeinig. Er mwyn medru cyfrannu at ragoriaeth rhyngwladol, mae angen pwysau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cyfran teg o'r arian ymchwil a ddyrennir gan gyrff Prydeinig yn dod at brosiectau ymchwil gwahanol adrannau’r Coleg.

 

Nid yw darparu atodiadau cyfrwng Cymraeg i gyrsiau a gynlluniwyd ar sail paradeim Eingl-Americanaidd yng ngholegau eraill Cymru yn mynd i sicrhau addysg Gymreig. Er mwyn datblygu addysg Gymreig mae angen cynllunio cyrsiau o’r newydd yn Gymraeg o bersbectif diwylliannol gwahanol ar sail gweledigaeth athronyddol glir. Mae’r ffaith bod y Coleg yn gorff ffederal yn golygu bod gan y Coleg gyfle euraidd i ddatblygu cyrsiau traws-golegol yn seiliedig ar baradeim Cymreig. Mewn geiriau eraill mae gofyn i’r Coleg Cymraeg ddatblygu, dilysu a pherchenogi ei raglenni, graddau a’i gyrsiau ei hun. Bellach, gyda’r twf yn nifer y darlithwyr sy’n alluog i ddysgu’n Gymraeg, mae modd a chyfle i’r Coleg ddod a darlithwyr o wahanol adrannau a cholegau ynghyd i lunio cyrsiau ar sail gweledigaeth a pharadeim Cymreig.

Galwn ar y Coleg i fynd ati rhag blaen i lunio rhaglen i greu cymuned o ddarlithwyr Cymraeg, ar draws y colegau, i greu cyrsiau Cymreig gwreiddiol yn berthnasol i anghenion Cymru.

 

Dim ond i raddau y mae’r Coleg wedi datblygu ei hunaniaeth fel coleg a chorff academaidd. Mae myfyrwyr a darlithwyr yn ystyried eu hunain yn perthyn i'w prifysgol, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac yn y blaen, yn hytrach nag i'r Coleg Cymraeg safle Aber, safle Bangor ac ati. Ystyriwyd y Coleg fel adain Gymraeg Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW)) sydd, i bob pwrpas, yn sicrhau fod yr un un cyrsiau ar gael yn Gymraeg â sy’n bodoli yn Saesneg. Pwysir ar y Coleg i ddatblygu cymuned o ddarlithwyr Cymraeg a fyddent yn datblygu cyrsiau Cymreig a blaengar eu natur.

 

 

Ystyriaeth 4

A ddylid ymestyn cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16 (addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith), ac os felly, dylid cynnig opsiynau posib ar sut i symud mlaen gyda hyn.

 

Mae angen rhoi mwy o sylw i’r gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol. Hyn yn cynnwys y colegau sy’n ymwneud yn bennaf ag addysg bellach a’r Brifysgol Agored.

Yn gynyddol mae pwyslais ar ddysgu trwy’n bywydau ac mae’r Coleg mewn sefyllfa unigryw i roi sylw arbennig i’r maes hwn ac i’r holl berthynas rhwng coleg a chymuned yng Nghymru. Yn gyffredinol mae’n amlwg bod twf a photensial dulliau digidol o ddysgu yn enfawr. Mae natur ryng-golegol y Coleg yn golygu bod angen a chyfle neilltuol i ddatblygu'r elfen hon.

Credwn fod angen ehangu swyddogaeth y Coleg i dderbyn cyfrifoldeb dros "addysg bellach" a "galwedigaethol" cyfrwng Cymraeg, ac yn wir gyfanwaith addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Credwn fod angen hyn nid yn unig oherwydd fod y ddarpariaeth Gymraeg yn dameidiog iawn yn y meysydd hyn, ond yn ogystal oherwydd fod yr hen ffiniau rhwng sectorau addysg "uwch" a "phellach" erbyn hyn yn gynyddol amherthnasol. Erbyn heddiw mae llawer o sefydliadau addysg "bellach" yn cynnig cyrsiau uwch, ac mae disgwyl i sefydliadau addysg uwch hefyd gyfrannu at ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn lleol a rhanbarthol.

 

Gallasai rôl newydd i'r Coleg fod yn gynllun peilot ar gyfer 
creu trefn addysg ôl-16 newydd yng Nghymru a fuasai’n cydlynu addysg uwch, pellach, gydol oes, cymunedol, gyrfaol a mewn swydd. Mae hyn yn gwneud mwy a mwy o synnwyr wrth i’r hen ffiniau rhwng sectorau addysg leihau a chan bod addysg gydol ein hoes yn dod yn fwy a mwy anhepgor. Rhaid herio'r hen gyfundrefnau fod cyfnod helaeth o hyfforddiant mewn sefydliad academaidd ac wedyn parasiwtio 
myfyrwyr i mewn i weithleoedd gyda chymwysterau. Gall fod yn hytrach 
gyrsiau sylfaen, ac wedyn bwyslais ar hyfforddiant yn y swydd, ac addysg gydol oes. Naturiol fydd trosglwyddo'r meysydd hyn - gor-olwg dros hyfforddiant mewn swydd , addysg gymunedol ac addysg gydol oes - hefyd i'r Coleg. Ar sail hyn, nid yn unig y byddai cynnwys cyrsiau (o ran creu cyrsiau perthnasol i anghenion Cymru yn lle cyfieithu'n unig) yn newid, ond byddai holl natur a diben y cyrsiau'n newid.

Buasai ymestyn i gynnwys maes "addysg bellach" yn golygu gwedd newydd ar waith y Coleg gan fod mwyafrif helaeth myfyrwyr addysg bellach sy’n oedolion yn rhan amser ac mewn gwaith. Ar gyfer myfyrwyr iau, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy profiadol a blaengar na sefydliadau addysg uwch o ran cydweithio ag ysgolion. Fe ddaw felly diwylliant cydweithio a chydlynu yn norm.

Buasai diwylliant a thraddodiad "addysg bellach" hefyd yn cryfhau perspectif y Coleg o ran ei ymwneud â chymunedau a’i ymlyniad at ddatblygu a gwasanaethu cymunedau Cymru. Hyn yn cymharu’n ffafriol a thueddiadau mwy elitaidd y traddodiad addysg uwch.

Credwn y dylai'r Llywodraeth alluogi'r Coleg i ddatblygu'n gorff addysg blaengar gan fabwysiadu egwyddor addysg gyfun ar draws maes addysg ôl 16. Galwn ar y Llywodraeth i roi i'r Coleg gyfrifoldeb dros yr hyn a adwaenir yn "addysg bellach" trwy gyfrwng y Gymraeg. Buasai hyn yn hybu dilyniant ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Gallasai hefyd fod yn esiampl i'r maes addysg yn gyffredinol yng Nghymru o ran cyfuno a chydlynu addysg uwch ac addysg bellach. Buasai hyn yn gymorth i ddiddymu'r ffin ddosbarth rhwng rheolwyr cyrff cyhoeddus, sy'n dueddol o ddod o gefndir addysg uwch, a gweithwyr sy'n dod at eu swyddi trwy addysg "alwedigaethol". Gallai gweithwyr sydd â phrofiad mewn meysydd arbennig ddychwelyd at addysg uwch er mwyn dod yn rheolwyr.

Gan fod y niferoedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig dylid cyfuno darpariaeth ôl 16 gan greu trefn flaengar y gallasai'r holl drefn addysg yng Nghymru ei hefelychu. Mae cynsail hanesyddol i hyn gan fod yr ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf ymhlith yr ysgolion cyfun cyntaf; hyn o reidrwydd oherwydd bod niferoedd disgyblion yn gyfyngedig ar y dechrau. Y dull gorau o sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw trwy roi iddo swyddogaeth heriol newydd fel hyn ynghyd â mabwysiadau’r camau datblygiad a nodwyd eisoes.

 

Ystyriaeth 5

Beth yw rôl y Coleg mewn ymateb i argymhellion adolygiad Diamond a datblygiadau polisi diweddar eraill. 

Yn gyffredinol mae’r argymhellion a wneir yn y ddogfen hon yn mynd i’r un cyfeiriad ag adolygiad Diamond ac yn gydnaws â’r polisiau sydd ymhlyg yn adroddiad Diamond.

 

Mae angen rhoi mwy o sylw i’r gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol. Hyn yn cynnwys y colegau sy’n ymwneud yn bennaf ag addysg bellach.

Yn gynyddol mae pwyslais ar ddysgu trwy’n bywydau ac mae’r Coleg mewn sefyllfa unigryw i roi sylw arbennig i’r maes hwn ac i’r holl berthynas rhwng coleg a chymuned yng Nghymru.

Yn gyffredinol mae’n amlwg bod twf a photensial dulliau digidol o ddysgu yn enfawr. Mae natur ryng-golegol y Coleg yn golygu bod angen a chyfle neilltuol i ddatblygu'r elfen hon.

Credwn fod angen ehangu swyddogaeth y Coleg i dderbyn cyfrifoldeb dros "addysg bellach" a "galwedigaethol" cyfrwng Cymraeg, ac yn wir gyfanwaith addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Credwn fod angen hyn nid yn unig oherwydd fod y ddarpariaeth Gymraeg yn dameidiog iawn yn y meysydd hyn, ond yn ogystal oherwydd fod yr hen ffiniau rhwng sectorau addysg "uwch" a "phellach" erbyn hyn yn gynyddol amherthnasol. Erbyn heddiw mae llawer o sefydliadau addysg "bellach" yn cynnig cyrsiau uwch, ac mae disgwyl i sefydliadau addysg uwch hefyd gyfrannu at ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn lleol a rhanbarthol.

Gallasai rôl newydd i'r Coleg fod yn gynllun peilot ar gyfer 
creu trefn addysg ôl-16 newydd yng Nghymru a fuasai’n cydlynu addysg uwch, pellach, gydol oes, cymunedol, gyrfaol a mewn swydd. Mae hyn yn gwneud mwy a mwy o synnwyr wrth i’r hen ffiniau rhwng sectorau addysg leihau a chan bod addysg gydol ein hoes yn dod yn fwy a mwy anhepgor.

 

Gosodir gwledydd cymharol fach fel Ffindir yn aml fel enghreifftiau da i'r byd o ran datblygu cyfundrefnau addysgol arloesol. Dylai fod yr un uchelgais i weld Cymru'n arwain y byd.

 

Mae pob rheswm, gan gynnwys cydlynu a gwneud y defnydd gorau o 
adnoddau, yn pwyntio tuag at ehangu maes gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y modd a amlinellir yma.

 

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Rhagfyr 2016