Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Ymgynghoriad ar y Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg
Pwyswch yma i lawrlwytho fel dogfen pdf
-
Cyflwyniad
-
Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru.
-
Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir, ac y dylai polisi addysg y Llywodraeth fod yn adlewyrchu hynny trwy anelu at roi’r iaith i bob plentyn yn y wlad.
-
Mae’r ffaith bod 80% o’n plant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg yn warth cenedlaethol, gyda’r anghyfartaledd ar ei waethaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a lleiafrifoedd ethnig. Am nad ydyn nhw’n dod yn rhugl yn Gymraeg, mae’n debygol y bydd y bobl ifanc yma’n cael eu hallgau o gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd am weddill eu bywydau.
-
Yn ogystal, mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd drwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu. Caiff hyn effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.
-
Dangosodd ffigurau o Gyfrifiad 2021 bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn, gyda gostyngiad penodol ymysg plant a phobl ifanc. Dangosodd ffigurau diweddaraf data CYBLD bod y ganran ar draws pob cyfnod dysgu sy’n derbyn addysg Gymraeg ddim ond wedi cynyddu 0.5% ers cynnal y Cyfrifiad diwethaf, sy’n dangos methiant llwyr y system presennol.
-
Mae effeithiolrwydd y system addysg i greu siaradwyr newydd yn gwbl ganolog ac allweddol i strategaeth iaith y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr: nid oes modd fforddio peidio â chyflawni yn y maes hwn. Mae tynged holl strategaeth y Llywodraeth yn y fantol, ac nid oes amheuaeth bod y system addysg bresennol yn gwbl anaddas i gyflawni’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen.
-
Mae’n amlwg ers blynyddoedd bod y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer addysg Gymraeg yn ddiffygiol, ac rydyn ni’n croesawu felly ymrwymiad y Llywodraeth i’w diwygio. Cyflwynwn ein sylwadau ac argymhellion ar y cynigion islaw.
-
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fyddai’n symud y system addysg yng Nghymru, dros amser, at fod yn system sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl.
-
Rydym wedi cydweithio gydag arbenigwyr ym maes addysg, a Chymrawd Cyfraith Cymru, Keith Bush CB, i lunio Deddf Addysg Gymraeg fyddai’n cyflawni’r nod hwn, yn ogystal â’r diwygiadau eraill sydd eu hangen. Anogwn y Llywodraeth i fabwysiadu’r cynigion yn y Bil hwnnw yn eu cyfanrwydd os yw o ddifrif am sicrhau bod pob person ifanc yn tyfu i fyny yn siaradwr Cymraeg hyderus. Cyflwynir fersiwn derfynol y Bil a’r nodiadau esboniadol fel atodlen i’r ymateb hwn, ac maent i’w gweld yn cymdeithas.cymru/dogfen/deddfaddysggymraeg
-
-
Prif sylwadau
-
Mae’n prif argymhellion a sylwadau ar y papur gwyn fel a ganlyn:
-
-
Mae’r cynigion yn y papur gwyn yn cynrychioli cam mawr i’r cyfeiriad cywir. Rydyn ni’n croesawu, yn benodol, y datganiad mai bwriad y ddeddf fydd sicrhau bod pob plentyn yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
-
Rydyn ni’n croesawu hefyd y cynigion i Weinidogion osod targedau ar awdurdodau lleol o ran tyfu addysg cyfrwng Cymraeg; cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ymhob ysgol a gosod isafswm o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol; gosod targedau ar gyfer y gweithlu addysg; dyletswydd i ddarparu canolfannau trochi a chyfundrefn i arolygu cynnydd awdurdodau lleol.
-
Fodd bynnag, nid yw’r cynigion yn y papur gwyn fel ag y maent yn mynd hanner ddigon pell tuag at ehangu mynediad i addysg Gymraeg i bob plentyn, ac ni fyddent yn sicrhau bod pob plentyn yn dod yn siaradwr hyderus.
-
Mae yna wendid rhesymegol sylfaenol yn athroniaeth y Llywodraeth, sef nad oes unrhyw weledigaeth glir o le'r Gymraeg yng Nghymru'r dyfodol. Mae'r papur yn derbyn bod cynyddu'r nifer o blant sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg yn nod dymunol. Ond teg yw gofyn pam. Os mai mater o ddewis unigolyn yw gallu yn y Gymraeg, pam ddylai'r Llywodraeth osod nod o gynyddu'r ganran sy'n medru Cymraeg? Ar y llaw arall, os yw gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn sgil hanfodol ar gyfer bod yn ddinesydd Cymreig yn y dyfodol, oni ddylai’r Llywodraeth osod nod fod bod pawb yn meddu ar y sgil hwnnw?
-
Mae’r papur gwyn yn datgan “yn sylfaenol, rydyn ni am i bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol” ond mae’r cynigion yn gwrth-ddweud y dyhead hwn gan eu bod yn golygu y bydd o leiaf 50% o ddisgyblion yn 2050 yn parhau i beidio derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ac nid oes chwaith gynllun clir a chredadwy i sicrhau y byddant yn dysgu’r Gymraeg fel arall gan nad oes sicrwydd y bydd un llwybr dysgu go iawn ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.
-
Mae sawl man gwan yn y cynigion y mae’n rhaid eu cryfhau cyn cyflwyno’r Bil i’r Senedd. Yn benodol:
-
Mae’r nod bod 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn rhy isel. Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau siaradwyr Cymraeg hyderus, ac felly dylid gosod nod bod 100% o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Dylai’r nod fod ar wyneb y Ddeddf derfynol, gyda thargedau statudol cenedlaethol a lleol dros amser yn nodi cerrig milltir ar hyd y daith.
-
Dylid datgan yn glir yn y Bil y bwriad y bydd pob ysgol, dros amser, yn cynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn symud ar hyd y continwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
-
Rhaid i’r taflwybr a gynigir a’r targedau a osodir ar awdurdodau lleol fod yn statudol. Yn ogystal, dylid cyflwyno cyfundrefn ariannu newydd i awdurdodau lleol, gyda chymhelliannau ariannol clir yn gysylltiedig â’r targedau lleol a chyfundrefn gadarn i sicrhau cyflawniad.
-
Rhaid cyflwyno un continwwm dysgu Cymraeg ac un cymhwyster TGAU Cymraeg iaith i bob disgybl, yn hytrach na chadw ‘Cymraeg ail iaith’ dan enw arall. Heb wneud hynny, fydd disgyblion sydd ddim mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ddim yn dod yn siaradwyr hyderus a bydd y drefn dysgu ac asesu yn tanseilio holl nodau ac athroniaeth y Bil.
-
Rhaid i’r targedau o ran cynyddu cyfran y gweithlu sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn dargedau statudol ac uchelgeisiol, gan osod dyletswyddau ar Weinidogion, awdurdodau lleol a cholegau hyfforddiant cychwynnol athrawon.
-
Mae’r cynnig i wahaniaethu rhwng gwahanol ardaloedd yn gam gwag ac yn wastraff adnoddau. Dylid sicrhau bod targedau pob awdurdod lleol yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol o ran addysg Gymraeg a’r hyn mae angen ei wneud i sicrhau cynnydd, ond rhaid datgan yn glir y nod mai Cymraeg fydd cyfrwng addysg pob ardal erbyn 2050.
-
Dylid gosod rheol yn y Bil y bydd pob ysgol newydd yng Nghymru yn ysgol Gymraeg.
-
Dylai’r ddeddf gynnwys targedau ynghylch darpariaeth addysg cyn ac ôl-statudol, a sicrhau bod y sectorau blynyddoedd cynnar ac addysg bellach yn symud at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bawb.
-
Wrth weithredu’r Ddeddf, rhaid sicrhau adnoddau, cyllid, hyfforddiant a chefnogaeth ddigonol i awdurdodau lleol, ysgolion a’r gweithlu addysg er mwyn cyflawni’r nodau yma. Dylai hyn gynnwys codi cyflogau gweithwyr addysg a gwella amodau gwaith er mwyn mynd i’r afael â phroblem denu a chadw gweithwyr yn y proffesiwn.
-
Pryderwn yn benodol am y diffygion ym mholisi’r Llywodraeth o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu addysg a chyflwyno un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb. Heb fod y mesurau hyn mewn lle, caiff holl amcanion y Bil eu tanseilio ac ni fydd modd cyflawni’r weledigaeth mae’r Gweinidog yn ei hamlinellu o wlad lle bydd pawb yn dod yn siaradwyr hyderus. Rhoddwn sylw penodol i’r meysydd hyn yn adrannau 5 a 6.
-
Pryderwn hefyd fod sawl agwedd o’r papur gwyn ei hun yn brin o fanylder, ac ambell i gynnig yn amwys. Ar y cyfan, nid yw’n gosod cynllun clir na fframwaith gryf ar gyfer dyfodol addysg Gymraeg, a rhaid ei gryfhau cyn cyflwyno Bil i’r Senedd.
-
Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith
-
Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith fersiwn terfynol ein Deddf Addysg Gymraeg, yn dilyn adborth a dderbyniwyd i ymgynghoriad ar fersiwn drafft a gyhoeddwyd fis Awst 2022. Mae’r ddeddf honno wedi’i hatodi fel rhan o’n hymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac ar gael i’w gweld yn cymdeithas.cymru/dogfen/deddfaddysggymraeg
-
Ein bwriad yw y gallai, ac y dylai, Llywodraeth Cymru fabwysiadu’r ddeddfwriaeth hon yn ei chyfanrwydd fel model ar gyfer ei Bil Addysg Gymraeg ei hun. Mae’n gosod cynllun clir a chyraeddadwy er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn yn y wlad.
-
Nod y ddeddf yw trawsffurfio’r gyfundrefn addysg i fod yn un drwyadl Gymraeg, dros gyfnod dichonadwy – sef erbyn 2050, er mwyn alinio gyda’r targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn honno. Elfen ganolog i hyn fyddai uno’r system addysg yng Nghymru, gan droi pob ysgol a choleg, dros gyfnod o amser, yn un sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cred y Gymdeithas mai dyma’r unig ffordd i sicrhau y bydd pob disgybl a myfyriwr yng Nghymru yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn hyderus ac felly yn medru cyfranogi’n llawn ym mywyd y genedl.
-
Cred y Gymdeithas hefyd ei bod yn hanfodol bod y Bil yn gosod dyletswyddau cyfreithiol clir ar awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Dylent ymgorffori targedau mesuradwy, y gall cydymffurfiaeth â hwy, pe byddai angen, gael ei phrofi gerbron y llysoedd.
-
Dyma amlinelliad o brif fesurau’r Ddeddf:
-
-
Gosodir nod statudol, sef sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn 1 Medi 2050. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘addysg’ yn cynnwys addysg mewn ysgolion a cholegau cyhoeddus a phreifat, addysg blynyddoedd cynnar, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac addysg neu hyfforddiant ffurfiol sy’n rhan o gynllun prentisiaeth.
-
Gosodir dyletswydd statudol ar bob awdurdod cyhoeddus ym maes addysg i weithio tuag at y nod statudol, yn gyffredinol a thrwy gyflawni unrhyw ofynion penodol a osodir arnynt gan fframwaith statudol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
-
Diddymir cyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a rhoddir fframwaith statudol o dargedau cenedlaethol a lleol yn ei lle.
-
Gosodir ar Weinidogion Cymru ddyletswydd i baratoi Fframwaith Addysg Gymraeg (‘y fframwaith statudol’) a fydd yn pennu’r camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) eu cymryd er mwyn cyflawni’r nod statudol. Bydd yn rhaid i’r fframwaith bennu camau ymarferol pendant, gyda thargedau clir a mesuradwy, a dyddiadau pendant ar gyfer cwblhau y camau hynny.
-
Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, arfer eu pwerau ariannol mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r graddau y mae’r sawl a fyddai’n elwa o’r grant neu gymorth ariannol arall wedi gweithredu, ac yn debygol o weithredu, yn unol â’i ddyletswydd i sicrhau cyflawni’r nod statudol a gofynion y fframwaith statudol.
-
Bydd y fframwaith yn newid darpariaeth addysg o fod yn un sy’n gwahaniaethu rhwng ysgolion a cholegau ar sail iaith addysg i un sy’n gosod ysgolion a cholegau ar lwybr sy’n arwain at un system Gymraeg unedig. Bydd hefyd yn gosod rheol y bydd pob ysgol newydd yn un cyfrwng Cymraeg.
-
Rhaid i’r fframwaith gynnwys darpariaeth benodol mewn perthynas ag addysg blynyddoedd cynnar (a darpariaeth ragarweiniol i addysg felly, fel grwpiau chwarae) gyda golwg ar sicrhau darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob plentyn.
-
Rhaid i’r fframwaith gynnwys darpariaethau manwl a thargedau i sicrhau cynllunio gweithlu effeithiol, gan gynnwys athrawon, staff cynorthwyol, darlithwyr a gweithwyr blynyddoedd cynnar. Bydd rhaid asesu’r nifer o staff bydd eu hangen i gyflawni’r nod statudol, y sgiliau y bydd eu hangen arnynt, a sut y bydd y staff hynny’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi. Bydd rhaglen lawn i ddatblygu sgiliau’r gweithlu presennol.
-
Bydd y fframwaith yn darparu ar gyfer sicrhau bod y drefn arholiadau bresennol, sy’n cynnig cymwysterau gwahanol ‘Cymraeg’ a ‘Chymraeg Ail Iaith’ yn dod i ben, ac yn sicrhau’r un cymhwyster Cymraeg ar gyfer pawb erbyn 2030 fan bellaf.
-
Bydd y fframwaith yn darparu ar gyfer rhwydwaith cynhwysfawr o ganolfannau trochi ar gyfer rhai sy’n ymuno â’r system addysg Gymraeg yn hwyr.
-
Cryfheir hawl disgyblion ysgol a myfyrwyr addysg bellach i allu teithio i ysgol neu goleg, gan estyn trefniadau teithio o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i gynnwys pawb sy’n gorfod teithio er mwyn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ac estyn trefniadau teithio i wneud addysg blynyddoedd cynnar yn Gymraeg yn hygyrch i bob plentyn.
-
Bydd disgwyl i Weinidogion Cymru gyflwyno’r fframwaith i’r Senedd, adrodd ar gynnydd yn flynyddol ac adolygu’r fframwaith bob pum mlynedd. Bydd Estyn yn arolygu cynnydd ysgolion ac awdurdodau lleol tuag at y nod.
-
Sylwadau manwl ar gynigion yr ymgynghoriad
Pennod 1: Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol a gwneud darpariaeth ynghylch deilliant ieithyddol i ddysgwyr drwy’r system addysg
Gwneud y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol
-
Cynnig Cymdeithas yr Iaith oedd gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rydym yn parhau i gefnogi’r targed. Mae’n amlwg bod gan y system addysg rôl allweddol i’w chwarae i gyrraedd y targed, ac nid yw’n cyflawni ar hyn o bryd.
-
Yn arwain at etholiad 2021 fe wnaethon ni gyhoeddi dogfen Mwy na Miliwn sy’n nodi:
‘Nid yw agenda ‘mwy na miliwn’ yn cyfeirio’n bennaf at dargedau ar gyfer creu mwy na miliwn o siaradwyr (er y bydd angen canolbwyntio ar hynny yn ogystal) ond yn hytrach at ddyfnhau’r agenda drwy ganolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r iaith yn ein cymunedau, ein gweithleoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig.’
-
Mae'n Maniffesto o 2022, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg yn ategu hynny:
‘Nid mater o ffigurau yn unig yw’r Gymraeg. Y gwir ddangosyddion fydd pobl ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg, yr iaith yn cael ei defnyddio yn naturiol ar draws pob maes a chymunedau Cymraeg hyfyw.’
-
Felly, credwn y dylai egwyddor bwysig a mwy sylfaenol lywio’r ddeddfwriaeth a ‘rhoi cyd-destun ac eglurder i’r hyn y mae’r Bil am gyflawni’, yng ngeiriau’r papur gwyn: sef hawl pob plentyn yn y wlad i ddod yn siaradwr Cymraeg.
-
Credwn felly mai’r prif nod ddylai fod ar wyneb y Bil yw datgan y bydd Cymru’n symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb erbyn dyddiad penodol, a chynigiwn 2050 ar gyfer y dyddiad hwnnw.
-
Nid yw’n glir yn y papur pa ‘ddarpariaethau’ fydd yn y Bil mewn perthynas â’r targed o filiwn, heblaw datganiad y ‘dylai Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol fod o dan ddyletswydd i roi sylw dyladwy i’r targed o filiwn o siaradwyr wrth arfer eu swyddogaethau yn y maes addysg’. Mae hyn yn amwys ac yn llawer rhy wan o ystyried yr uchelgais a’r gweithredu sydd ei angen.
-
Dangosodd dadansoddiad ystadegol interim a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith y byddai angen i 70% o ddisgyblion fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 er mwyn cyrraedd y miliwn. Mae’r dadansoddiad i’w weld yma. (Noder mai ar sail ffigurau Cyfrifiad 2011 mae’r dadansoddiad, ac rydym yn bwriadu ei ddiweddaru yn dilyn Cyfrifiad 2021).
-
Felly hyd yn oed os mai'r targed o filiwn fydd ar wyneb y Bil, nid yw anelu at addysg cyfrwng Cymraeg i 50% o ddisgyblion erbyn 2050, fel y cynigir yn y papur gwyn, yn ddigonol i gyrraedd y nod.
-
Addysg Gymraeg yw'r ffordd orau o sicrhau rhuglder. Sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yw un o egwyddorion sylfaenol y Bil, felly mae parhau i amddifadu 50% o ddisgyblion rhag derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn tanseilio'r egwyddor honno.
-
Heb gynllun clir a manwl, ac yn benodol, heb sefydlu un continwwm dysgu ac asesu go iawn, nid yw’n glir sut fydd disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn dod yn siaradwyr hyderus fydd yn rhan o’r miliwn mae'r Llywodraeth yn anelu ato.
Deilliant ieithyddol dysgwyr ar ddiwedd addysg statudol
-
Rydyn ni’n croesawu’r bwriad i anelu at lefel o ruglder a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn annibynnol. Mae lefel B2 yn fframwaith CEFR yn gam mawr ymlaen o’r lefelau o allu sy’n gyffredin yn y sector cyfrwng Saesneg o dan y drefn dysgu ac asesu bresennol.
-
Fodd bynnag, nid ydym o’r farn bod seilio’r ddeddfwriaeth ar ddeilliannau dysgu disgyblion yn gosod seilwaith digon clir ac uchelgeisiol fydd wir yn gyrru newid yn y system addysg i gyflawni’r weledigaeth.
-
Yn sicr ni ddylai’r deilliant yma fod ar wyneb y Bil, ac wedi’i gyfyngu i B2 CEFR. Os mai’r bwriad yn y pen draw yw bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus, yna mae’n hollbwysig i’r deilliant ieithyddol fod yn rhywbeth all esblygu dros amser a bod codi disgwyliadau a lefelau cyrhaeddiad yn barhaus, yn gyson gyda’r athroniaeth o gontinwwm ieithyddol. Rhaid sicrhau mai isafswm nid nod i anelu ato yn unig fydd unrhyw gyfeiriad at lefel o ruglder.
-
Gyda ffocws ar ddeilliannau ieithyddol disgyblion, mae peryg y bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu codi lefelau Cymraeg ysgolion Saesneg i lefel B2 a gadael ysgolion sydd eisoes yn cyrraedd B2 ar y lefel honno am mai dyna’r ‘nod’ ac nad oes cymhelliant i gynyddu lefelau y tu hwnt i hynny.
-
Byddai gosod nod o gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac anelu at sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn fwy clir o lawer. Addysg Gymraeg yw’r ffordd orau o sicrhau rhuglder felly byddai gwneud hynny’n sicrhau cyrhaeddiad uwch na lefel B2 ynddi’i hun.
Pennod 2: Continwwm sgiliau Cymraeg gydol oes
-
Rydyn ni’n croesawu rhoi sail statudol i’r continwwm a chryfhau’r fframwaith polisi cenedlaethol a’r ddarpariaeth o ran un llwybr dysgu.
-
Ar hyn o bryd, mae Cwricwlwm i Gymru’n cadw dau lwybr dysgu Cymraeg ac yn gwahaniaethu rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, yn groes i bolisi ac addewid y Llywodraeth i waredu ‘Cymraeg ail iaith’. Parhau i fethu 80% o ddisgyblion felly mae ein system addysg.
-
Cymraeg yw'r unig bwnc o fewn Cwricwlwm i Gymru sy'n cynnig dau lwybr dysgu i ddisgyblion ac yn rhoi nenfwd ar gyrhaeddiad y mwyafrif. Mae felly yn gwbl groes i holl athroniaeth ac amcanion Cwricwlwm i Gymru.
-
Rhaid felly i’r continwwm y bydd gweinidogion yn ei ddatgan fod yn un sy’n cael gwared ar y gwahaniaethu hwn rhwng gwahanol fathau o ysgolion. Dylai fod datganiad clir bod modd i bob disgybl deithio ar hyd y continwwm, ac y bydd disgwyl i bob ysgol godi safonau dros amser.
-
Mae cymwysterau’n allweddol yn hynny o beth, ond nid oes datganiad o fwriad yn y papur y bydd un cymhwyster cyfun Cymraeg. Yn wir, nid oes unrhyw gyfeiriad at gymwysterau o gwbl yn y papur, sy’n syfrdanol o ystyried ei rôl ganolog yn y system addysg.
-
Mae sefydlu un cymhwyster yn allweddol os ydyn ni wir eisiau sicrhau bod pob un yn gadael yr ysgol yn hyderus eu Cymraeg, gan y bydd hyn yn cymell newid yn y system a gwella cyrhaeddiad. Rhaid i’r Bil felly sefydlu un cymhwyster Cymraeg cyfun mewn statud erbyn 2030 fan bellaf. Fel arall, methiant fydd gweithrediad yr holl ddeddfwriaeth.
-
Rydyn ni’n manylu ymhellach ar sefydlu un cymhwyster Cymraeg yn adran 6, a gellir gweld ein cynigion ni ar gyfer un cymhwyster yn cymdeithas.cymru/dogfen/un-cymhwyster-cymraeg-iaith-i-bawb.
Pennod 3: Categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith
-
Ar y daith tuag at addysg cyfwng Cymraeg i bawb, credwn fod angen rhagor o eglurder ac uchelgais yn y system categoreiddio ysgolion er mwyn gyrru newid a chynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg, felly rydym yn croesawu’r bwriad i roi’r gyfundrefn ar sail statudol.
-
Cefnogwn yn gryf y cynnig i osod isafswm darpariaeth Gymraeg i bob ysgol. Bydd gwneud hynny yn helpu i sicrhau ein bod yn codi safonau a disgwyliadau pob disgybl, ac mi fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Dylid datgan yn glir yn y Bil mai’r bwriad fydd cynyddu’r isafswm dros amser.
-
Cefnogwn yn gryf hefyd y cynnig y bydd disgwyliad i bob ysgol gynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser ac y bydd dyletswydd ar ysgolion i gyhoeddi cynllun yn manylu sut y maent am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a dros pa gyfnod amser.
-
Dylid ystyried y categorïau fel continwwm, yn hytrach na diffiniadau statig, a bod disgwyl i bob ysgol symud ar hyd y continwwm tuag at fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â hwyluso a chymell symud i fyny categorïau, gyda chymhelliannau ariannol, adnoddau a chyngor.
-
Dylai’r ddyletswydd ar ysgolion i gynyddu ei darpariaeth Gymraeg fod yn un statudol, a dylid cyflwyno cymhelliannau ariannol, adnoddau a chyngor arbenigol i ysgolion i gymell symud i fyny’r categorïau. Nid yw’r cynigion ar hyn o bryd yn ddigon cryf na chlir yn hynny o beth.
-
Rydyn ni’n croesawu’r bwriad mai Gweinidogion fydd yn pennu disgrifiad pob categori ac mai awdurdodau lleol fydd yn cymeradwyo categori pob ysgol yn eu hawdurdod nhw yn unol â’r targedau a osodir arnynt, ac yna’n gosod disgwyliadau cynnydd ar bob ysgol a monitro cynnydd. Fel y nodir yn y cynigion, yr awdurdodau lleol eu hunain sy’n adnabod ac yn deall sefyllfa eu hysgolion orau. Er hynny, mae angen bod yn glir mai cynyddu darpariaeth Gymraeg a symud ysgolion at fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r nod, fel nad yw awdurdodau lleol yn parhau i atal twf addysg Gymraeg, fel mae nifer wedi gwneud.
-
Rhaid i’r Bil ddatgan yn glir y bydd y categori 1 cyfrwng Saesneg yn cael ei waredu erbyn dyddiad penodol, gan mai’r bwriad yw i ysgolion gynyddu eu darpariaeth Gymraeg ar hyd y categorïau. Rhaid hefyd gosod nod ar wyneb y Bil y bydd pob ysgol yn gategori cyfrwng Cymraeg 3P erbyn 2050.
-
Er ein bod yn derbyn y bydd taith pob ysgol ac awdurdod lleol tuag at gynyddu darpariaeth Gymraeg yn wahanol, rydyn ni’n gwrthwynebu syniadaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg o ‘ardaloedd sensitifrwydd ieithyddol’ ac unrhyw ddefnydd ohono wrth ystyried categorïau ysgolion gan y bydd hyn yn tynnu sylw oddi ar y prif nod ac yn gam gwag.
-
Bydd angen gweithredu dwys ym mhob ardal a bydd y ffocws yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd. Yn siroedd y gorllewin, er enghraifft, bydd y pwyslais ar symud pob ysgol bresennol at fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a bydd modd symud yn fwy cyflym tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Yn y de ddwyrain, ar y llaw arall, bydd pwyslais ar agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yn ogystal â symud ysgolion i fyny’r continwwm.
-
Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai pob disgybl ym mhob ardal dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r cynnig bod pennu dalgylchoedd penodol lle bydd cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn tanseilio holl athroniaeth y Bil a’r egwyddor bod y Gymraeg i bawb, beth bynnag eu cefndir.
-
Rydyn ni’n croesawu’r bwriad i bob ysgol greu cynllun cyflawni ar gyfer cynyddu ei darpariaeth Gymraeg, a’r elfennau a gynigir ar gyfer y cynllun hwnnw. Cynigiwn y dylai’r cynllun hefyd gynnwys asesiad o sgiliau ieithyddol staff, a chynlluniau i’w huwchraddio.
-
Cefnogwn y cynnig i’r awdurdod lleol ac Estyn gael cyfrifoldeb dros fonitro cynnydd ysgolion o ran eu cynllun cyflawni.
-
Mae’r cynigion yn nodi bod ysgolion newydd yn gyfle euraid i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Cytunwn gyda hynny, a chredwn y dylai fod cyfarwyddyd ar wyneb y Bil mai ysgol cyfrwng Cymraeg fydd pob ysgol newydd. Byddai proses o gynnal ‘asesiad effaith ieithyddol’ ar gyfer pob ysgol newydd yn gam gwag ac yn wastraff adnoddau — yn un peth, mae’n amlwg bydd unrhyw ysgol newydd cyfrwng Cymraeg yn cael effaith ieithyddol gadarnhaol, ac ysgol newydd o gategori ieithyddol arall yn cael effaith negyddol.
-
Nid pob sir yng Nghymru sy’n agor ysgolion newydd yn rheolaidd, ac yn y siroedd sydd wrthi’n gwneud hynny (yn bennaf, mewn ardaloedd mwy poblog lle mae llai o siaradwyr Cymraeg) gwyddom, ar sail degawdau o dystiolaeth ar y model, y caiff ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd effaith drawsnewidiol ar yr iaith yn lleol, profiadau teuluoedd a chyfleoedd disgyblion.
-
Yn ogystal, yn yr achosion y cyfeirir atynt lle mae uno ysgolion, dylai’r Bil osod rheol y bydd disgwyl i’r ysgol newydd fod mewn categori uwch.
Pennod 4: Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg
-
Rydyn ni’n croesawu creu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer dysgu Cymraeg gydol oes gyda gweledigaeth 10 mlynedd ac adolygiad bob tymor seneddol,
-
Mae addysg Gymraeg yn bwysig i ddysgwyr o bob oed, ac mae’n hollbwysig felly cynnwys y cyfnod cyn-statudol yn y Cynllun Cenedlaethol hefyd. Mae caffael iaith yn hynod bwysig yn y cyfnod hwn, a chyn dechrau addysg statudol mae plant yn derbyn amrywiaeth o ddarpariaeth gan awdurdodau lleol, cwmnïau gofal plant preifat a darparwyr fel Mudiad Meithrin. Fan leiaf mae angen cynnwys darpariaeth cyn-ysgol sy’n cael ei darparu neu ei hariannu gan awdurdodau lleol a thrwy’r Llywodraeth yn y Bil.
-
Rydyn ni’n cytuno bod angen dod â’r asiantaethau addysg ac awdurdodau lleol ynghyd i weithredu’r cynllun, er mwyn sicrhau cydweithrediad a llwyddiant.
-
Rydyn ni’n croesawu hefyd y bwriad mai Gweinidogion Cymru fydd yn gosod targedau i awdurdodau lleol o ran cynyddu’r niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg.
-
Er ein bod yn croesawu’r bwriad i osod targedau cenedlaethol ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu trwy’r Gymraeg, credwn fod angen i‘r targedau ddeillio o’r ddeddfwriaeth ei hun, gyda grym statudol iddynt, yn hytrach na chyfyngu at osod dyletswydd ar Weinidogion i’w cynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol. Yn ogystal, rhaid i’r targedau’r gweithlu a osodir ar awdurdodau lleol fod yn statudol hefyd.
-
Rhaid gosod targedau statudol hefyd ar golegau hyfforddiant cychwynnol athrawon, consortia addysg a Chyngor y Gweithlu Addysg i gynyddu’r nifer sy’n hyfforddi i ddysgu trwy’r Gymraeg. Nid yw’r cynnig y bydd disgwyl i’r asiantaethau hyn ‘rhoi sylw’ yn unig i’r targedau wrth gynllunio addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol yn ddigonol o bell ffordd. Gwyddom ar sail blynyddoedd o brofiad erbyn hyn nad yw’r drefn bresennol, sydd heb dargedau cadarn, statudol ar y sefydliadau hyn, yn gweithio i ddarparu’r gweithlu sydd ei angen.
-
Ni ddylai targedau gael eu cyfyngu i athrawon a dylai targedau ar gyfer y gweithlu addysg gynnwys cymorthyddion, staff cefnogol sy’n gwneud gwaith gweinyddol a staff sy’n gofalu am blant yn ystod amser cinio ac oddi allan i oriau addysg statudol fel clybiau brecwast ac ar ôl ysgol, gan fod yr aelodau eraill o staff hyn hefyd yn bwysig o ran eu hymwneud â disgyblion.
Pennod 5: Cynllunio’r Gymraeg mewn addysg mewn awdurdodau lleol
-
Cytunwn yn gryf gyda’r bwriad o gael gwared ar gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg — cyfundrefn sydd wedi hen fethu, fel y casglodd Bwrdd Cynghori annibynol y Llywodraeth.
-
Un o brif fethiannau’r CSGA’au yw nad ydynt yn statudol, ac nad oes unrhyw ganlyniadau o fethu cyrraedd targedau, a bod targedau yn aml yn cael eu lleihau os nad ydynt yn cael eu cyrraedd. Mae’n hanfodol felly y byddai’r CGCA’au arfaethedig yn rhai statudol.
-
Rydyn ni’n croesawu’n fawr felly’r bwriad mai Gweinidogion Cymru yn genedlaethol fydd yn gosod targedau ar awdurdodau lleol, eu bod yn dargedau statudol ac y bydd dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i gyrraedd y targedau.
-
Mae’n hollbwysig mai’r bwriad yw cynyddu targedau’r CGCA’au wrth i’r targedau hynny gael eu cyrraedd, gyda’r bwriad o annog cynnydd parhaus a bod pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg dros amser. Ni ddylai targed aros yr un peth am gyfnod hir wedi iddo gael ei gyrraedd.
-
Nid ydym o’r farn bod cadw’r saith deilliant sydd yn y CSGAu presennol yn ddigonol, a chredwn fod angen i’r targedau fod yn rhai meintiol clir, gyda rhagor ohonynt, yn cynnwys targedau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn benodol.
-
Dylai fod targedau meintiol ar gyfer nifer y plant meithrin neu dair oed a mwy o blant dosbarth derbyn neu bump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, fel y nododd Cymdeithas yr Iaith mewn ymateb i’r rheoliadau newydd yn 2019, nid yw rhain ar eu pen eu hunain yn ddigonol, ac mewn gwirionedd, roedd newid prif darged y Cynlluniau Strategol i flwyddyn 1 (pan fo mwyafrif y plant naill ai'n 5 neu'n 6 mlwydd oed) yn hytrach na’r hen ddeilliant 7 mlwydd oed yn golygu gostwng y targedau twf addysg cyfrwng Cymraeg cenedlaethol.
-
Nid yw’r targedau ar gyfer dosbarth derbyn a Blwyddyn 1 yn mynd i fod yn ddigonol i wella darpariaeth nifer o gynghorau yn y Gorllewin, yn enwedig Gwynedd a Môn, lle mae diffyg dilyniant yn broblem, gan nad oes targedau meintiol ar gyfer normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ym mhob ysgol nac ychwaith o ran canran y grwpiau oedrannau hŷn sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg.
-
Credwn felly bod rhaid i’r CGCAau gynnwys targedau meintiol ychwanegol er mwyn sicrhau bod pob awdurdod yn cyflawni i’r graddau sydd ei angen, yn enwedig ar gyfer blynyddoedd hŷn a diwedd blwyddyn 3, diwedd blwyddyn 6 a diwedd blwyddyn 9 yn benodol.
-
Bydd darpariaeth trochi hwyr yn rhan bwysig o wireddu amcanion y Bil, felly dylid cynnwys deilliant yn ymwneud â chynnal ac ehangu darpariaeth trochi hwyr yn y CGCAau.
-
Mae cyfnod o 10 mlynedd ar gyfer CGCAau yn rhoi cyfle ar gyfer cynllunio hirdymor, ac mae ychwanegu adolygiad 5 mlynedd ac adroddiad blynyddol yn helpu i sicrhau cynnydd. Gyda chyfnod o 10 mlynedd, bydd angen mecanwaith cadarn sy’n sicrhau atebolrwydd allanol annibynnol, cymhellion clir a gweithredu parhaus.
-
Rhaid i’r adolygiad 5 mlynedd fod yn drylwyr, gan arwain at gynyddu’r targedau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf os yw awdurdod wedi gwneud cynnydd da, a gweithredu mesurau arbennig os nad oes cynnydd wedi bod. Dylai’r adroddiad blynyddol hefyd fod yn sail i ymyrraeth os nad oes cynnydd digonol.
-
Ar ôl 5 mlynedd, credwn fod angen arolygiad ffurfiol annibynnol gan Estyn o bob cynllun er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gyfredol ac y bydd yn cyflawni’r targedau.
-
Er ein bod yn cytuno bod angen gwarchod rhag shifft iaith, gwrthwynebwn y syniad o ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol er mwyn gosod disgwyliadau uwch mewn ardaloedd penodol. Ategwn ein sylwadau blaenorol y dylai fod un nod cyffredin ar draws Cymru, sef addysg Gymraeg i bawb ymhen amser. Bydd modd gosod targedau uwch o’r dechrau mewn rhai ardaloedd, ond wrth gyrraedd targed dylai hwnnw gael ei godi.
-
Cytunwn gyda’r cynigion i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio eu gweithlu a chynyddu’r nifer sy’n gallu addysgu trwy’r Gymraeg, ond rhaid i’r targedau hyn fod yn rhai meintiol, statudol i adlewyrchu’r targedau cenedlaethol. Credwn hefyd fod angen targedau i gynyddu nifer y gweithlu addysg ehangach, fel cymorthyddion dosbarth hefyd.
-
Credwn yn ogystal y dylai fod hawl yn y Bil i drafnidiaeth am ddim i addysg cyfrwng Cymraeg, gyda dyletswydd newydd a chyllid i awdurdodau lleol i ddarparu trafnidiaeth am ddim i ysgolion, colegau ac addysg cyn-ysgol. Gellir cyflawni hyn drwy ddiwygio Mesur Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
-
Rydyn ni’n croesawu’r bwriad i osod dyletswyddau ar awdurodau lleol a Gweinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiadau cynnydd yn erbyn y targedau a osodir, er mwyn sicrhau tryloywder, gwella craffu a chymell cynnydd.
-
Cytunwn gyda’r cynnig i alluogi Estyn i gynnal adolygiad o awdurdodau lleol a chynnig argymhellion.
-
Cytunwn y dylid rhoi grym i Weinidogion Cymru i orfodi awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun newydd i’w gymeradwyo, a chytunwn hefyd gyda’r cynnig i roi’r gallu i Weinidogion Cymru gomisiynu adolygiad allanol o’r CGCA arfaethedig os oes patrwm o dangyflawni.
-
Yn ogystal â mesurau monitro a gorfodi, rhaid hefyd sicrhau system sy’n cymell newid o fewn awdurdodau lleol i gynyddu eu darpariaeth addysg Gymraeg. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant, canllawiau, cyngor ac adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau addysg eraill.
-
Mae hefyd angen system ariannu newydd ar gyfer awdurdodau lleol, ac mae rhai cymhellion ariannol yr ydym yn eu ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod hirdymor a thargedau cenedlaethol.
-
Dylai arian cyfalaf Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gyfer adeiladau newydd i gyd gael ei glustnodi i addysg cyfrwng Cymraeg. Yn y cyfamser, dylid parhau a chynyddu'r gronfa bresennol sy'n cynnig 100% o'r arian cyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau penodedig Cymraeg.
-
Credwn ymhellach bod modd ystyried yn ogystal â neu yn lle'r uchod:
-
Lle nad yw awdurdod lleol yn cyrraedd eu targedau statudol i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylid trosglwyddo’r arian refeniw i gonsortia neu ysgolion unigol sy'n dangos cynnydd ar sail cynllun strategol.
-
Parhau â chronfa gyfalaf ar wahân sydd â maint digonol er mwyn cyrraedd targedau/nod hirdymor y ddeddfwriaeth.
Pennod 6: Dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol
Hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg
-
Rydyn ni’n croesawu’r cynnig i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr. Credwn fod rhaid i hyn fod yn ddyletswydd statudol ar wyneb y Bil.
-
Rhaid i’r ddyletswydd gwmpasu gwaith hyrwyddo fyddai’n cychwyn yn gynharach na rhai misoedd cyn y dyddiad cofrestru ar gyfer dosbarth derbyn. Gwyddom fod rhieni’n gwneud penderfyniadau am addysg a iaith y cartref yn gynnar, yn aml ymhell cyn i’w plant fynd i’r ysgol feithrin neu’r ysgol.
-
Credwn hefyd y dylai’r Bil gynnwys dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni a gofalwyr ar lefel genedlaethol ac yn y gefnogaeth a ddarperir i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd. Dylai hyn gynnwys mesurau megis cyhoeddi canllawiau ac adnoddau; cyllid i awdurdodau lleol, asiantaethau addysg a mudiadau Cymraeg; cydweithio gyda gwasanaethau iechyd i rieni sy’n disgwyl a rhieni newydd; a hyfforddiant a chyllid arbennig i weithgareddau hamdden a theuluol trwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Dylai’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ganolbwyntio’n benodol ar gyfleu’r polisi newydd yn y Ddeddf a’r bwriad i symud pob ysgol ar hyd y continwwm, esbonio beth yw addysg Gymraeg a’r buddion mae’n eu cynnig, gan ddechrau yn y cyfnod cyn-ysgol a thargedu rhieni newydd a’r rhai sy’n disgwyl.
-
Dylid cyllido rhaglen benodol i hyrwyddo a hwyluso mynediad grwpiau sy’n fwy tueddol o gael eu heithrio o addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl sydd wedi symud i Gymru, cymunedau difreintiedig a dosbarth gweithiol, a lleiafrifoedd ethnig.
Darpariaeth trochi hwyr
-
Rydyn ni’n croesawu’r polisi clir a amlinellir i gynyddu darpariaeth trochi hwyr a’r gydnabyddiaeth o’i phwysigrwydd mewn tyfu addysg Gymraeg a’i hymestyn i deuluoedd newydd.
-
Dylai’r Bil wneud canolfannau trochi yn ddarpariaeth statudol ym mhob sir er mwyn i bob plentyn sy’n symud i’r ardal ddysgu Cymraeg at lefel ddigonol i allu dilyn addysg cyfrwng Cymraeg ac i hwyluso trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg Gymraeg. Credwn felly y dylai’r Bil osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu canolfannau trochi hwyr a’u hyrwyddo’n rhagweithiol. Dylai darpariaeth drochi hefyd fod yn rhan o’r targedau yn y CCGAau.
-
Dylai’r ddarpariaeth trochi hwyr fod ar fodel Gwynedd, cyn iddi gael ei hail-strwythuro yn 2019, a dysgu o’r hyn sy’n gweithio mewn gwahanol siroedd lle bydd pwyslais a chynulleidfaoedd gwahanol sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
-
Rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth trochi hwyr ymhob sir yn adlewyrchu’r angen ar gyfer trochi yn y cynradd a’r uwchradd, ac yn cael ei hyrwyddo’n rhagweithiol i deuluoedd a disgyblion mewn gwahanol sefyllfaoedd, yn cynnwys disgyblion sy’n symud o ardal sy’n cynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg neu o’r tu allan i Gymru, a disgyblion sy’n trosi i ysgol Gymraeg o ysgol Saesneg yn y cynradd neu’r uwchradd.
-
Rhaid parhau i warchod a chynyddu’r cyllid dynodedig i ddarpariaeth trochi hwyr ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn diwallu’r angen am fwy o ddarpariaeth.
Pennod 7: Cefnogaeth i wireddu amcanion y Bil
-
Cytunwn fod angen cefnogaeth ar ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg, a bydd angen amrywio lefel y gefnogaeth yn dibynnu ar sefyllfa’r ardal leol ac ysgolion unigol. Bydd angen cefnogaeth ariannol i wireddu amcanion y Bil, ond bydd angen hyfforddiant arbenigol ac adnoddau i ysgolion hefyd.
-
Mae angen gwneud dysgu trwy’r Gymraeg yn haws ac yn rhywbeth mae athrawon yn dymuno ei wneud. Ar hyn o bryd mae adnoddau cyfrwng Cymraeg yn brin, yn enwedig ar lefelau uwch. Yn ogystal â gwneud gwaith athrawon sy’n dysgu trwy’r Gymraeg yn fwy anodd mae’n rhoi disgyblion dan anfantais. Mae adnoddau Cymraeg yn hanfodol felly, ac mae angen i’r Llywodraeth wella adnoddau presennol a’u comisiynu o’r newydd lle nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd.
-
Rydyn ni’n gweld budd canoli darpariaeth dysgu Cymraeg, a bod hynny’n digwydd trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu ddarparwr arall. Mae gwahaniaethau rhwng dysgu plant neu bobl ifanc a dysgu oedolion felly mae’n bosibl y byddai angen ailstrwythuro yn y ganolfan i sicrhau arbenigedd yn maes dysgu plant a phobl ifanc.
-
Os oes bwriad ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol byddai angen cynyddu’r gyllideb yn sylweddol a rhoi pob cefnogaeth i’r gwasanaeth wrth iddo ehangu.
-
Yn ogystal, credwn y dylid cynyddu adnoddau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn gallu datblygu ei rhaglen waith i ganolbwyntio ar feysydd strategol o bwys, yn cynnwys y gweithlu addysg, rhaglenni Cymraeg yn y teulu, iechyd a gofal.
-
Cytunwn fod angen gwella sefydlogrwydd hirdymor dysgu Cymraeg, ac y dylai fod dyletswydd ar weinidogion i sicrhau fod ddigon o ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gael i gefnogi dysgwyr o bob oed yng Nghymru, a dyletswydd i sicrhau bod strwythurau addas yn cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi dysgu’r Gymraeg.
-
Byddai rhoi cyllideb ddigonol a sefydlogrwydd hirdymor i’r sector o gymorth i ddarparwyr er mwyn gallu cynllunio’n well, a rhoi sicrwydd i ddarparwyr, i diwtoriaid a dysgwyr; rydyn ni felly’n cefnogi ymestyn y cyfnod tendro, fel nad oes raid cyflwyno tendr bob blwyddyn.
-
Mae modelau a darparwyr eraill o ddysgu Cymraeg hefyd wedi ennill eu plwyf dros y blynyddoedd diweddar, a dylai’r Llywodraeth fod yn annog a chefnogi darpariaeth eang ac amrywiol o ffurfiau gwahanol o ddysgu, ynghyd ag annog cydweithio rhwng dysgwyr a darparwyr.
-
Mae gan bawb yng Nghymru’r hawl i ddysgu Cymraeg, waeth pa oedran, a dylid gwarantu fod pawb yn gallu gwneud hynny trwy ddarpariaeth ddigonol o gyrsiau a mesurau ychwanegol i gefnogi dysgwyr. Yn benodol dylid:
-
sicrhau gwersi Cymraeg ar bob lefel am ddim i bawb, boed drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu ddarparwr arall
-
buddsoddi mewn rhaglenni Cymraeg yn y teulu i annog rhieni i ddysgu’r iaith gyda’u plant a sicrhau trosglwyddiad iaith mewn teuluoedd
-
ymestyn cwmpas Safonau’r Gymraeg er mwyn sicrhau eu bod yn creu’r hawl i bob gweithiwr ddysgu’r Gymraeg yn y gweithle
-
sicrhau yr hawl i ddysgu neu loywi Cymraeg dwys i bawb am ddim, er mwyn sicrhau bod ystod ehangach o bobl yn gallu dod yn rhugl yn yr iaith. Byddai hyn yn sicr o gymorth o safbwynt y gweithlu addysg
-
gosod amodau ar grantiau cyhoeddus i estyn y Gymraeg i grwpiau sydd wedi’u heithrio o’r iaith ar hyn o bryd. Byddai hyn o gymorth mawr, er enghraifft, i rieni sengl sydd â’u plant yn derbyn addysg Gymraeg ond nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain
-
creu darpariaeth eang o drafnidiaeth, bwyd a gofal plant am ddim er mwyn hwyluso mynediad at wersi Cymraeg yn agos at bobl yn eu cymunedau yn ogystal â darpariaeth ar-lein yn unig i’r rhai sy’n dymuno hynny.
Amlinelliad o gostau ac effeithiau
-
Er ein bod yn croesawu'r agwedd y dylid ystyried cyllid ar gyfer gweithredu'r Bil fel gwariant ar y system addysg, yn hytrach na gwariant ar gyflwyno polisi’r Gymraeg, mae angen iddi fod yn glir i awdurdodau lleol y bydd cefnogaeth ariannol ar gael i gyflawni amcanion y Bil.
-
Mae sicrhau gweithlu digonol yn allweddol i wireddu cynigion y Bil, a bydd hyfforddi ac uwchsgilio yn rhan bwysig o hynny. Os mai'r bwriad yw bod arian ar gyfer hyfforddi arweinwyr ysgol, uwchsgilio a chostau cyflenwi yn dod yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol trwy Grant y Gymraeg mewn Addysg a’r Grant dysgu proffesiynol, mae angen cynyddu’r grantiau hynny’n sylweddol, a chaniatáu rhagor o gyllid mewn ardaloedd lle bydd angen mwy o waith i ddatblygu'r gweithlu.
-
Anghytunwn yn gryf fod gwariant ychwanegol o £1.845 miliwn yn 2022/23, £500,000 yn 2023/24 a £2 miliwn yn 2024/25 ar Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn ddigonol o ystyried yr her sydd yn y maes a diffygion y Cynllun ei hun. Rydyn ni wedi argymell gwariant o £10 miliwn yn flynyddol er mwyn gwireddu cynlluniau ar gyfer Cymreigio’r gweithlu addysg, y manylir arnynt isod.
-
Y gweithlu addysg
-
Y brif her wrth sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus yw cyflenwad digonol o’r gweithlu addysg sy'n gallu gweithio trwy'r Gymraeg.
-
Mae’n hanfodol felly cynnwys targedau statudol cenedlaethol a lleol i gynyddu cyfran y gweithlu sy’n medru addysgu trwy’r Gymraeg a chynnwys targedau i ddarparwyr hyfforddiant a Chyngor y Gweithlu Addysg i gynyddu nifer yr hyfforddeion sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg yn y Bil. Heb y targedau hyn, ni fydd modd cyflawni amcanion y Bil.
-
Nid yw Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg y Llywodraeth yn gwneud hanner digon i gynyddu nifer y gweithwyr addysg sy’n siarad Cymraeg i’r graddau sydd eu hangen, nac yn gweithredu ar ddigon o frys. Credwn fod angen cryfhau’r cynllun a chyflwyno sawl mesur polisi ychwanegol yn y maes hwn.
-
Yn gyntaf, er mwyn sicrhau gweithlu Cymraeg ar gyfer y dyfodol mae angen addasu hyfforddiant athrawon sy'n cymhwyso trwy ymestyn y cwrs hyd at flwyddyn ychwanegol, ar gyfer dysgu a/neu gloywi eu sgiliau er mwyn iddynt allu gweithio trwy'r Gymraeg yn hyderus.
-
Mewn amser dylai cymhwyster ieithyddol, fel y Dystysgrif Sgiliau Cymraeg sydd ar waith mewn Addysg Uwch, fod yn hanfodol i athrawon newydd, a dylid cynnig cymhwyster cyffelyb i athrawon sydd eisoes mewn swydd.
-
Rhaid cynnwys darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn y targedau a’r camau polisi hefyd. Ar hyn o bryd, mae darpariaeth megis cefnogaeth ar gyfer dyslecsia a disgyblion byddar yn cael ei hystyried yn ddarpariaeth iechyd, felly mae perygl, o beidio cynnwys darpariaeth arbenigol o’r fath, y bydd rhai plant yn methu cael addysg Gymraeg, gan eu rhoi dan anfantais bellach.
-
Rhaid gwella a datblygu’r cynllun sabothol i fod yn gynllun cenedlaethol eang fyddai’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, dilyniant a gwerthusiad i staff o’r cynradd a’r uwchradd.
-
Wrth gyflwyno unrhyw gynllun hyfforddiant, sabothol neu fel arall, mae angen sicrhau bod gweithwyr yn cael eu rhyddhau o’u gwaith, a bod hyfforddiant iaith yn cael ei flaenoriaethu. Rhaid wrth adnoddau a chefnogaeth ychwanegol i ysgolion gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth er mwyn iddynt allu rhyddhau staff yn haws.
-
Mae angen rhaglen hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol ar gyfer arweinwyr a phenaethiaid ysgolion fydd yn cynnwys modiwl ar hyrwyddo datblygu’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion.
-
Galwn hefyd am sefydlu Cronfa Datblygu’r Gweithlu Addysg Gymraeg o £10 miliwn y flwyddyn dros 5 mlynedd er mwyn datblygu gallu’r gweithlu addysg. Cynigiwn y dylid defnyddio’r cyllid yma ar ar gyfer:
-
-
Ceisiadau traws-awdurdod gan awdurdodau lleol i hyfforddi'r gweithlu, a allai ddigwydd mewn timau ar draws ardal mewn cydweithrediad ag athrawon bro, ar gyfer:
-
y blynyddoedd cynnar/meithrin
-
ysgolion, er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a sicrhau dilyniant o'r cynradd i'r uwchradd
-
y sector ôl-16, er mwyn sicrhau dilyniant CA4, Addysg Uwch ac Addysg Bellach
-
hyfforddiant i gymorthyddion dosbarth ar draws pob oedran, staff ategol a staff addysg allgyrsiol e.e. cerddoriaeth, chwaraeon, drama ac ati
-
canolfannau trochi
-
Cronfa benodol i ysgolion i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol i:
-
symud ar hyd y continwwm ieithyddol a chefnogi ysgolion sydd eisiau arloesi ac arwain yn y maes hwn
-
datblygu medrau iaith athrawon ac adrannau mewn ysgol a rhyddhau staff ar gyfer dysgu’r Gymraeg
-
targedu rhieni a theuluoedd trwy raglen ddysgu ar y cyd mewn ysgolion cynradd
-
darparu hyfforddiant mewn swydd ysgol-gyfan trwy ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd statudol
-
Rydyn ni’n deall nad pob gweithiwr addysg fydd yn dymuno dysgu iaith newydd at lefel ei defnyddio yn y gwaith, ni fyddai unrhyw un yn dymuno gweld gweithwyr addysg yn cael eu diswyddo, na bod gwahaniaethu yn erbyn rhywun di-Gymraeg. Gyda chynllunio gofalus, a chynnydd dros amser, rydym yn hyderus na fydd rhaid i hynny ddigwydd. Mae’n bwysig felly bod ystyried cynlluniau adleoli ar gyfer athrawon wrth ddechrau’r daith at addysg Gymraeg i bawb, a sicrhau bod pawb yn gweld dysgu’r Gymraeg fel mantais a chyfle, yn hytrach nag yn her neu yn fwrn ychwanegol. Dylid rhoi ymrwymiad y bydd hyfforddiant a chefnogaeth ddigonol i bob gweithiwr addysg i wella eu sgiliau Cymraeg.
-
Wrth osod targedau ar gyfer y gweithlu sy’n medru’r Gymraeg dylid cynnwys cymorthyddion, staff cefnogol sy’n gwneud gwaith gweinyddol a staff sy’n gofalu am blant yn ystod amser cinio ac oddi allan i oriau addysg statudol fel clybiau brecwast ac ar ôl ysgol.
-
Yn gyffredinol, rhaid hefyd codi cyflogau athrawon a gwella eu hamodau gwaith os ydy’r Llywodraeth o ddifrif am ddenu a chadw rhagor o weithwyr i’r proffesiwn. Mae’r broblem sylweddol sydd o ran y gweithlu yn gyffredinol yn effeithio ar y sector i gyd, ond gydag effaith niweidiol ddwys ar y sector Cymraeg, gan fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol. Ni fyddwn yn datrys yr her heb y mesurau sylfaenol hyn.
-
Cymwysterau a’r cwricwlwm
-
Mae’n bryder mawr nad oes unrhyw sôn yn y cynigion am greu un cymhwyster gydag un continwwm dysgu ac asesu. Rhaid i’r Bil Addysg Gymraeg sefydlu un cymhwyster Cymraeg cyfun mewn statud erbyn 2030 fan bellaf. Fel arall, methiant fydd gweithrediad yr holl ddeddfwriaeth.
-
Ar hyn o bryd mae bwlch rhwng disgwyliadau a chyraeddiadau mewn Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith, sy'n gosod nenfwd ar gyrhaeddiad disgyblion sy'n dilyn cwrs Cymraeg ail iaith, ac yn golygu bod 80% o blant yn gadael yr ysgol yn methu siarad y Gymraeg yn hyderus. Bydd hyn yn parhau heb gyflwyno un cymhwyster i bawb.
-
Oherwydd natur ein system addysg, sy’n golygu mai canlyniadau arholiadau disgyblion yw’r prif allbwn sy’n cael ei ddefnyddio i fesur llwyddiant ysgolion, byddai cyflwyno un cymhwyster yn gyrru newid yn y system drwyddi draw trwy gymell athrawon a phrifathrawon i godi safonau a gwella dysgu Cymraeg. Dyma sut fydd sicrhau bod pawb yn gadael ysgol yn siaradwr hyderus, heb nenfwd ar gyrhaeddiad.
-
Cynigiwn y dylid datblygu dyfarniad fyddai cyfwerth â dau gymhwyster TGAU, wedi ei ddyfarnu trwy ddau bapur, sef papur Cymraeg a phapur haen uwch. Byddai'r dyfarniad yn glir bod yr asesiad yn seiliedig ar ddisgwyliadau cyrhaeddiad ar hyd yr un continwwm iaith.
-
Rydyn ni'n cynnig bod pob disgybl yn sefyll dau bapur arholiad:
-
-
Papur arholiad cyffredinol Cymraeg/Cymraeg Uwch; byddai safonau cyrhaeddiad yn y papur yma yn ymestyn o radd B Cymraeg Uwch i radd F Cymraeg; a naill ai
-
Papur arholiad Cymraeg Uwch, graddau safon Cymraeg Uwch fel y nodir uchod; neu
-
Papur arholiad Cymraeg, graddau safon Cymraeg fel y nodir uchod.
-
Byddai’r dyfarniad gradd terfynol yn seiliedig ar ganlyniad y ddau bapur. Mantais hyn yw y byddai’r disgwyliadau ar gyfer y naill bapur a’r llall yn gwbl glir ac yn gorgyffwrdd. Er bod yna ddau asesiad, mae’r gorgyffwrdd yn golygu bod un continwwm asesu yn seiliedig ar yr egwyddor o un continwwm iaith.
-
Byddai model fel hyn yn cynnig cyfle i ddisgyblion uwch eu gallu yn y Gymraeg, ond sy’n sefyll arholiad ‘Cymraeg’, gyrraedd gradd B ‘Cymraeg Uwch’ a chael cydnabyddiaeth am hynny.
-
Dylai pob disgybl adael yr ysgol yn gwybod beth yw lefel eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. Byddai creu un continwwm yn cynnig yr eglurder hwnnw i rieni, prifysgolion, cyflogwyr a’r disgyblion.
-
Ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod bod angen newid y system fel ag y mae a symud tuag at un cymhwyster yn y dyfodol, ond yn dal i gynllunio ar gyfer dau gymhwyster, heb unrhyw orgyffwrdd, sy’n barhad o’r drefn bresennol sydd wedi methu. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd clir, diamwys i Gymwysterau Cymru ddatblygu un cymhwyster cyfun o fewn amserlen clir.
-
Blynyddoedd cynnar
-
Mae bwlch mawr yn y papur gwyn, gan nad yw’n cyfeirio at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Mae addysg cyn-statudol yn faes hanfodol gan fod rhieni yn dewis cyfrwng iaith addysg eu plant ar sail lleoliad ysgol a darpariaeth cyn-ysgol.
-
Ategwn ein sylwadau blaenorol bod angen cynnwys darpariaeth cyn-statudol yn y Bil felly, gyda thargedau cenedlaethol a lleol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
-
Yn ogystal, credwn y dylid:
-
-
darparu 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim i bob teulu drwy gyfrwng y Gymraeg
-
mabwysiadu cynllun i symud yr holl sector blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gofal plant a meithrinfeydd, i fod yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unig
-
buddsoddi’n helaeth yn sgiliau’r gweithlu drwy’r gronfa gweithlu newydd fydd yn werth £100 miliwn dros ddegawd
-
buddsoddi mewn rhaglenni Cymraeg yn y teulu i annog rhieni i ddysgu’r iaith gyda’u plant a sicrhau trosglwyddiad iaith mewn teuluoedd
-
sefydlu rhaglen sydd â chymhellion ariannol i’w chynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y cyd â’r Mudiad Meithrin i drosi meithrinfeydd Saesneg yn feithrinfeydd Cymraeg
-
Addysg ôl-16
-
Bwlch mawr arall yn y papur yw’r diffyg cyfeiriad at ddarpariaeth ôl-statudol.
-
Mae darpariaeth addysg uwch a phellach yn allweddol i sicrhau dilyniant addysg Gymraeg, cadw sgiliau Cymraeg a chreu gweithlu Cymraeg ar draws gwahanol feysydd. Dyma faes o bwys felly, lle mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol yn llawer rhy isel. Credwn felly y dylai’r Bil gynnwys darpariaethau ar gyfer addysg ôl-statudol, yn cynnwys targedau statudol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.
-
Dylid hefyd cynnwys cymal yn y Bil yn gwarantu trafnidiaeth am ddim i addysg ôl-statudol cyfrwng Cymraeg, gan fod diffyg darpariaeth trafnidiaeth i golegau ac addysg bellach yn rhwystr i nifer o bobl ifanc ar hyn o bryd.
-
I ddechrau ar y gwaith o ddarparu addysg ôl-statudol cyfrwng Cymraeg cynigiwn y dylid blaenoriaethu rhai meysydd allweddol fel gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol — meysydd sydd o bwys strategol i amcanion y Bil a strategaeth iaith y Llywodraeth.
-
-
Diweddglo
-
Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad clir y Llywodraeth i sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol, ond nid yw’r cynigion yn y papur gwyn fel y mae yn ddigonol er mwyn sicrhau hynny. Rhaid eu cryfhau.
-
Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid ein system addysg a sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru — beth bynnag eu cefndir, ble bynnag maen nhw’n byw — yn tyfu i fyny i siarad yr iaith sy’n hawl ac yn etifeddiaeth iddynt, ein hiaith genedlaethol ni. Erfyniwn ar y Llywodraeth i beidio â cholli’r cyfle hwnnw.
-
-
Gwybodaeth bellach
Am unrhyw wybodaeth bellach, neu i drafod y materion a godwyd yn yr ymateb hwn, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.
Dogfennau
-
Deddf Addysg Gymraeg i Bawb - fersiwn derfynol a nodiadau esboniadol (2023)
-
Mwy na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb - dogfen weledigaeth etholiad 2021 (2020)
-
Ymateb i adolygiad Bwrdd Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (2018)
-
Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr (2016)
-
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Reoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (2019)
-
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i’r ymgynghoriad ar Genhedaeth ein Cenedl: Cwricwlwm i Gymru (2019)
Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith
Mehefin 2023