Ymateb i Nodyn Cyngor Technegol 20

[Cliciwch yma i weld ein hymateb i'r Nodyn Cyngor Technegol 20 drafft]

Nodyn Cyngor Technegol 20 (Argraffiad 8)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.Cyflwyniad

1.1.Croesawn ddiwygiadau a wnaed i gyfraith cynllunio gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy'n cynnig cyfle i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru. Cyflwynom ni nifer fawr o argymhellion yn ystod y broses honno, ac ers cyhoeddi ein Deddf Eiddo a Chynllunio amgen ein hunain yn 2014, rydyn ni wedi datblygu ein polisi ymhellach.

1.2. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu am ymhell dros chwarter canrif am drefn gynllunio a fyddai’n rhoi buddiannau’r Gymraeg, yr amgylchedd a chymunedau Cymru yn gyntaf.

2. Prif Sylwadau

2.1.Credwn y dylid sefydlu 'continwwm datblygu'r Gymraeg' sy'n cynnwys, ar wahanol lefelau neu gategorïau, holl diriogaeth Cymru, yn hytrach na sefydlu ardaloedd o 'sensitifrwydd' iaith. Fel y nodwyd yn strategaethau iaith Llywodraeth Cymru, mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r wlad. Bydd continwwm datblygu'r Gymraeg yn galluogi pob rhan o Gymru i dyfu a/neu ddiogelu ei defnydd o'r Gymraeg yn hytrach nag amddifadu rhai rhannau o Gymru o'r cyfle i fod yn rhan o wlad wirioneddol ddwyieithog.

2.2. Mae angen newid y geiriad am asesiadau effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg fel eu bod yn atgoffa swyddogion a chynghorwyr bod modd ystyried effaith datblygiad ar y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru ac o dan amryw o sefyllfaoedd. Hefyd, ni ddylid awgrymu bod angen cyfyngu asesiadau effaith datblygiadau ar y Gymraeg i rai sefyllfaoedd ac i rai ardaloedd yn unol â'r Cynllun Datblygu. Mae'r geiriad presennol yn rhoi'r argraff na fyddai modd cynnal asesiad o dan unrhyw amgylchiadau os yw'r tir wedi ei ddosrannu o dan y Cynllun Datblygu Lleol yn barod. Nid yw canllaw o'r fath yn gyson â geiriad nac ysbryd y ddeddfwriaeth na safbwynt polisi'r Llywodraeth.

2.3. Mae'n hollbwysig bod y canllawiau yn nodi nad yw ystyriaeth berthnasol newydd y Gymraeg, a sefydlwyd gan adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, yn cyfyngu ystyriaeth o'r Gymraeg i rai ardaloedd oherwydd natur y Cynllun Datblygu Lleol. Mae angen nodi bod modd i ystyriaeth berthnasol, fel y Gymraeg, gymryd blaenoriaeth dros y Cynllun Datblygu Lleol lle bo'n briodol, a hynny ym mhob rhan o'r wlad yn hytrach na rhai ardaloedd daearyddol yn unig.

Sylwadau Cyffredinol Eraill

2.4. Mae nifer o fesurau lliniaru yn fesurau a ddylai fod yn ofynion sylfaenol er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg; nid ydynt yn gyfystyr â mesurau lliniaru. Er enghraifft, ym mharagraff 2.5.2, datgenir bod "cyfeirio safleoedd strategol i gymunedau lle ceir tystiolaeth sy’n awgrymu y cânt effaith debygol bositif ar y defnydd o’r Gymraeg neu os ydy’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd yr effaith yn debygol o fod yn ddrwg, bod yna fesurau i liniaru’r effeithiau hynny". Mae'r mesurau lliniaru a amlinellir yn adran Lliniaru 2.8 yn gamau y dylid eu cymryd beth bynnag. Credwn fod yr enghreifftiau yn cryfhau'r achos dros sefydlu continwwm ar gyfer Cymru gyfan a allai osod fframwaith holistaidd a rhagor o gysondeb.

2.5. Pryderwn fod awgrym na fydd pob awdurdod cynllunio yn mabwysiadu polisi ynghylch y Gymraeg yn eu Cynllun Datblygu Lleol er enghraifft "2.10.2. Lle bo polisïau yn y CDLl sy’n ymwneud â’r Gymraeg". Mae'n rhaid bod yn glir bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Cynllunio yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth ym mhob rhan o Gymru.

2.6. Dylid cyhoeddi rhestr o ofynion sylfaenol, neu isafswm, sy'n berthnasol i ardaloedd ledled Cymru megis arwyddion, cynllunio ar gyfer twf neu ddiogelu addysg cyfrwng Cymraeg, tai fforddiadwy i bobl leol a materion eraill y dylid eu mabwysiadu a fyddai'n llesol i'r Gymraeg. Dylid rhestru'r rhain yn y canllawiau.

2.7. Nid oes sôn am darged tai yr awdurdod na'r effaith bosibl y gallai'r targed ei chael ar gyflwr y Gymraeg. Er bod sôn am leoliad a'r math o ddatblygiad ym mharagraff 3.5 ar dudalen 17, nid oes sôn am y grym i gwestiynu'r twf neu'r targedau tai ar lefel sirol.

2.8. Dylid sôn am 'fesurau hybu' yn y ddogfen yn hytrach na 'lliniaru'. Ymddengys fel arall ei bod yn anochel y caiff unrhyw ddatblygiad effaith negyddol ar y Gymraeg. Yn hytrach, dylid edrych am gyfleoedd i gynyddu defnydd y Gymraeg drwy bob cais cynllunio a'r cynllun datblygu lleol ym mhob rhan o'r wlad.

2.9. Cytunwn y dylai fod rôl gan Gomisiynydd y Gymraeg yn yr holl brosesau sy'n ymwneud â'r Gymraeg fel yr amlinellir yn y Nodyn Cyngor Technegol drafft. Credwn y dylai fod swyddogaeth bwysig gan y Comisiynydd o ran safoni, comisiynu a rhoi cyngor ar asesiadau effaith ar y Gymraeg a sefydlu categorïau o fewn 'Continwwm Datblygu'r Gymraeg'.

3. Continwwm Datblygu, nid ardaloedd o 'sensitifrwydd'

3.1. Rydym yn ffafrio sefydlu continwwm datblygu'r Gymraeg sy'n dynodi holl dir Cymru ar gontinwwm o gryfhau neu ddiogelu defnydd y Gymraeg. Amlinellwyd syniadau am hyn gennym ar adeg pasio'r Ddeddf Cynllunio y llynedd. Bellach, rydym wedi cael cyfle i fanylu ymhellach ar y syniadau hynny.

3.2. Credwn ei bod yn hynod o bwysig bod ymdrin â'r Gymraeg fel iaith genedlaethol Cymru. Mae perygl wrth ddefnyddio system categoreiddio ddeuaidd, lle mae'r Gymraeg un ai yn 'sensitif/arwyddocaol' neu 'ddim yn sensitif/arwyddocaol', gan y gallai arwain awdurdodau i edrych ar y system mewn ffordd amddiffynnol yn unig. Byddai hefyd yn hepgor rhan helaeth o dir Cymru. Nid yw'n glir chwaith bod ystyr i'r ardaloedd hynny y tu hwnt i alluogi asesiad effaith iaith. Mae angen awgrymiadau pendant ar awdurdodau cynllunio o ran ystyr effaith y categoreiddio.

3.3. Rydym yn gwrthwynebu'r cysyniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol gan fod perygl iddo eithrio'r rhan helaeth o gymunedau Cymru o ystyriaeth ddigonol (neu unrhyw ystyriaeth o gwbl) o ran anghenion y Gymraeg yn eu hardaloedd. Yn wir, byddai sefydlu ardaloedd o'r fath yn groes i'r holl symudiad polisi cenedlaethol ynghylch y Gymraeg ers datganoli, sef bod y Gymraeg yn berthnasol, ac yn iaith swyddogol, ym mhob rhan o Gymru. Yn hytrach na normaleiddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad, mae'r cysyniad o 'ardaloedd o sensitifrwydd' yn creu risg o wneud y Gymraeg yn rhywbeth abnormal sy'n berthnasol i gymunedau prin mewn rhai ardaloedd yn unig.

3.4. Cwyd nifer o gwestiynau ymarferol yn ogystal â rhai athronyddol ynghylch y cysyniad deuaidd o ardaloedd o sensitifrwydd:

  • Os yw'r Gymraeg i dyfu, a fydd rhaid bod mwy o ardaloedd 'arwyddocaol'? Ai dyna'r nod tymor hir?

  • Onid yw'r Gymraeg yn arwyddocaol ym mhob rhan o Gymru?

  • Beth yw'r goblygiadau sy'n deillio o fod yn ardal 'sensitif'? Yr unig un a restrir yn y nodyn cyngor technegol drafft yw eithriad i'r rheol na chaiff asesiad effaith ar y Gymraeg ei gynnal yn yr ardal honno os nad ystyrir y mater yn y cynllun datblygu lleol.

  • A fyddai'n deg dweud bod sefyllfa'r Gymraeg yn 'sensitif' neu'n 'arwyddocaol' lle mae'r Gymraeg wedi diflannu i bob pwrpas ac felly bod angen camau brys i'w hadfer?

  • A fyddai'n gywir dweud mai dim ond ardaloedd lle caiff defnydd helaeth o'r Gymraeg ei wneud a gaiff y statws 'sensitif' hwn, yn hytrach na photensial i dyfu'r Gymraeg yn gyflym i fod yn gymuned Cymraeg?

3.5. Nid yw'r canllawiau yn ateb y cwestiynau hyn, ond credwn ei bod yn debygol mai dull amddiffynnol a ddefnyddir yn unig, fyddai'n berthnasol i ychydig iawn o ardaloedd o Gymru yn unig. Credwn felly y byddai'n llawer callach sefydlu 'Continwwm Datblygu'r Gymraeg'.

 

3.6. Dylid cynnwys 'continwwm datblygu'r Gymraeg' sy'n categoreiddio pob ardal o Gymru ar wahanol lefelau. Byddai pob categori yn sicrhau y byddai awdurdodau cynllunio yn cymryd camau rhagweithiol i gryfhau defnydd y Gymraeg yn eu hardaloedd. Byddai'r dull yma o weithredu yn gweddu'n llawer iawn gwell i bwyslais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ran peidio amddifadu'r genhedlaeth nesaf, lle bynnag y maent yn byw, o'r Gymraeg. Mae hynny'n golygu y dylid anelu at adfer y Gymraeg fel prif iaith y gymuned ym mhob rhan o Gymru. Fel arall, mae'r canllawiau yn awgrymu'n gryf na fydd y system gynllunio, mewn nifer fawr o ardaloedd o Gymru, yn cymryd unrhyw gamau i hybu defnydd y Gymraeg ar lefel gymunedol.

3.6. Er mwyn symud y ddadl ymlaen, rydym wedi amlinellu ein cynigion amgen llawn ar gyfer "Continwwm Datblygu'r Gymraeg" isod yn Atodlen I.

4. Asesiadau Effaith Iaith

4.1. Anghytunwn gyda geiriad paragraff 3.1.3 gan y byddai'n cyfyngu'n ddifrifol ar yr amgylchiadau lle cynhelir asesiadau effaith iaith.

"3.1.3 Ni ddylid fel rheol cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu gwaith yr AoG a phrosesau dewis safleoedd y CDLl. Ni fyddai asesu’r effaith yn ystod y broses ymgeisio yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth bellach na’r hyn oedd ar gael wrth baratoi’r CDLl. Byddai asesiad felly’n faich diangen ac yn ddi-fudd. Fe amlinellir yr unig eithriad i’r rheol hon isod ym mharagraff 3.3."

4.2. Credwn fod angen gwneud yn glir wrth gynghorwyr bod modd iddynt gynnal asesiad effaith iaith ar unrhyw achlysur. Mae adran 31 y Ddeddf Cynllunio yn golygu ei bod yn bwysig bod y canllawiau yn glir ynghylch hynny gan y gallai'r geiriad arfaethedig presennol arwain at ddryswch am y sefyllfa gyfreithiol gan awgrymu bod yr ystyriaeth berthnasol i'r Gymraeg yn gyfyngedig i rai ardaloedd yn unig gan ddibynnu ar eu statws yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol. Fel gŵyr y Llywodraeth, nid dyna'r sefyllfa gyfreithiol, ac mae'n gamarweiniol i'r Llywodraeth awgrymu fel arall.

4.3. Mae angen bod yn glir hefyd bod cynlluniau datblygu lleol yn gallu dyddio a bod sefyllfa'r Gymraeg yn gallu newid, ac y gallai ffactorau newydd godi, o ran sefyllfa'r Gymraeg neu ffactorau eraill nas rhagwelwyd yn y cynllun.

4.4. Awgrymwn, yn lle paragraff 3.1.3. fel y'i dyfynnir uchod, y dylai'r canllawiau ddatgan y canlynol:

"3.1.3 Mae'n bwysig nodi bod Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol, a hynny ym mhob rhan o'r wlad, felly dylid gofyn am asesiad effaith ar y Gymraeg ar unrhyw gais os gwelir bod angen y dystiolaeth, yn enwedig mewn achos lle bo materion am yr iaith wedi newid neu fod materion am y cais a allai gael effaith benodol ar yr iaith na chawsant eu rhag-weld, eu trafod neu eu hystyried o'r blaen. Fodd bynnag, nid oes rhwystr ar gynnal asesiad o effaith cais ar y Gymraeg o dan unrhyw amgylchiadau. Nid oes rhaid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg ar bob achlysur, yn enwedig pe bai hynny’n dyblygu gwaith yr AoG a phrosesau dewis safleoedd y CDLl. Gweler ym mharagraff 3.3 fanylion am un math o sefyllfa lle byddai rheswm pendant dros gynnal asesiad iaith ."

4.5. Eto, ym mharagraff 3.2.1, gwneir yr un camgymeriad o atal cynnal asesiad ar sail cynnwys y Cynllun Datblygu – cynllun a allai fod dros ddeng mlwydd oed mewn rhai achosion:

"Gan fod pob CDLl wedi neilltuo lwfans ar gyfer safleoedd sydd heb eu dyrannu (hap-safleoedd) ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygu, ni ddylid cynnal asesiad pellach o effaith safleoedd sydd heb eu neilltuo ar y Gymraeg. "

4.6. Ymhellach, anghytunwn yn llwyr â'r frawddeg ym mharagraff 3.3.1: "Dyma’r unig fath o sefyllfa lle gall asesiad o’r effaith ieithyddol fod yn addas." Nid dyma'r unig sefyllfa, a chredwn fod y geiriad yn debygol o arwain at ddryswch, camddealltwriaeth o'r sefyllfa gyfreithiol, ac yn y pen draw, mwy o heriau cyfreithiol. Dylid dileu'r frawddeg felly. Gallai'r sefyllfa ym mharagraff 3.3.2 fod yn enghraifft o'r math o sefyllfa lle dylid cynnal asesiad effaith iaith. Yn lle paragraff 3.3.1 felly, dylid llunio rhestr o sefyllfaoedd enghreifftiol lle byddai'n debygol y dylid cynnal asesiad effaith iaith gan atgoffa cynghorwyr a swyddogion o'u hawl diamod i gynnal asesiad lle bo sefyllfa'r cais neu'r ardal yn cyfiawnhau hynny.

4.7. Awgrymwn fewnosod paragraff fel a ganlyn yn lle:

"Mae amryw o sefyllfaoedd lle byddai'n briodol cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg, gan gynnwys: [mewnosod rhestr o enghreifftiau]"

Swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg ac Asesiadau Effaith Datblygiadau ar y Gymraeg

4.8. O dan gyfundrefn lle bydd angen asesiadau o effaith datblygiadau unigol a chynlluniau datblygu ar y Gymraeg, mae gwir angen sefydlu a chynnal cyfundrefn asesu gyson, drylwyr, y gall y cyhoedd ymddiried ynddi.

4.9. Croesawn y ffaith nad yw'r Llywodraeth yn cynnig unrhyw rôl i ddatblygwyr o ran ariannu, comisiynu nac ariannu asesiadau effaith iaith. Credwn ei bod yn hollbwysig bod y broses yn gwbl annibynnol ar y datblygwyr.

4.10. Yn ystod y trafodaethau ynghylch darpariaethau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, buon ni'n dadlau mai Comisiynydd y Gymraeg ddylai gomisiynu'r asesiadau effaith iaith. Nodwn fod y Llywodraeth yn cynnig y dylai awdurdodau cynllunio gynnal yr asesiadau. Deallwn fod swyddogion y Llywodraeth yn teimlo bod angen perchnogaeth leol dros y broses.

4.11. Pryderwn fod profiad dros y blynyddoedd yn dangos nad yw'r gallu na'r arbenigedd gan gynghorau lleol i gynnal y broses. Byddem yn ffafrio dau opsiwn:

(i) Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am gomisiynu'r asesiadau; neu

(ii) Cynghorau yn gyfrifol am gomisiynu'r asesiadau gan gyrff (nad ydynt yn ddatblygwyr) sydd wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i wneud gwaith asesu iaith

4.12. Waeth beth yw penderfyniad y Llywodraeth o ran pwy sy'n cynnal neu gomisiynu'r asesiadau, credwn ei bod yn gwbl hanfodol mai Comisiynydd y Gymraeg sy'n cynnig arweiniad o ran y drefn, sefydlu methodoleg a goruchwylio'r broses.

4.13. Rydym ar ddeall bod 'British Standard' ar gyfer asesu effaith datblygiadau ar fioamrywiaeth. Dylai fod safon gyfatebol ar gyfer asesu effaith datblygiadau a chynlluniau datblygu ar y Gymraeg. Dylai Comisiynydd y Gymraeg arwain ar y gwaith o sefydlu cyfundrefn o'r fath.

4.14. Rydym ar ddeall ymhellach fod Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ddatganiadau gan ddatblygwyr wrth gyflwyno cais datblygu er mwyn gwirio bod gofynion sylfaenol o ran y Gymraeg, megis statws ac ystyriaethau eraill, yn rhan o unrhyw gais. Byddai modd i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried sut y gellid defnyddio hynny'n ehangach yn y system.

4.15. Bydd angen adnoddau ychwanegol arni hi er mwyn gwneud hynny. Fan leiaf, dylai'r Llywodraeth roi grant prosiect i'r Comisiynydd er mwyn ei galluogi i sefydlu'r gyfundrefn newydd hon gyda grant parhaol ar gyfer goruchwylio'r drefn wedi iddi ei sefydlu.

5. Y Sefyllfa Gyfreithiol ac Ystyriaeth berthnasol - datganiadau camarweiniol

5.1. Credwn fod angen eglurder yn y Nodyn Cyngor Technegol am y sefyllfa gyfreithiol, a allai greu trafferthion. Dylai'r nodyn nodi bod modd caniatáu neu wrthod cais ar sail ei effaith ar y Gymraeg waeth beth yw cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol oherwydd adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

5.2. Credwn fod y llythyr gan Neil Hemmington at awdurdodau a swyddogion cynllunio dyddiedig 7fed Rhagfyr yn enghraifft o'r datganiadau camarweiniol a ailadroddir mewn gwahanol ffyrdd yn nifer o adrannau'r Nodyn Cyngor Technegol 20 arfaethedig. Dywed y llythyr:

"Yr Iaith Gymraeg....

"Nid oes yna ddarpariaethau trosiannol neu arbed ar gyfer Adran 31, sy’n golygu bydd y pŵer yn gymwys i unrhyw gais cynllunio fyddwch yn eu hystyried o 04 Ionawr 2016 ymlaen, pryd bynnag y cyflwynwyd y cais. Nid yw’r darpariaethau yn rhoi unrhyw bwys ychwanegol i’r Iaith Gymraeg o’i gymharu ag ystyriaethau perthnasol eraill. Mae p’un a yw’r Iaith Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol neu beidio mewn unrhyw gais cynllunio yn dibynnu’n llwyr ar ddisgresiwn yr awdurdod cynllunio lleol, a dylai eich penderfyniad i ystyried materion mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg neu beidio fod yn seiliedig ar yr ystyriaeth a roddwyd gennych i’r Iaith Gymraeg fel rhan o broses baratoi’r CDLl." - Llythyr Neil Hemmington, 7fed Rhagfyr 2015

5.3. Mae'r geiriad a danlinellir uchod yn gamarweiniol ac yn debygol o arwain at ansicrwydd a heriau cyfreithiol. Dylai'r Nodyn Cyngor Technegol fod yn gwbl glir am y sefyllfa gyfreithiol. Nid oes cyfyngiad ar yr ystyriaeth berthnasol a sefydlir gan Adran 31, Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i rai ardaloedd yn unig. Nid oes cyfyngiad ar yr ystyriaeth berthnasol honno I'r ystyriaeth flaenorol a roddwyd i'r Gymraeg wrth lunio'r cynllun datblygu lleol ychwaith. Mae'r geiriad uchod yn awgrymu'n wahanol, ac yn debygol iawn o greu dryswch. Mae'r broblem honno yn rhedeg drwy Nodyn Cyngor Technegol 20 yn ogystal, felly mae angen cywiro'r camargraff hwnnw.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

5.4. Ym mharagraff 1.5.3., dywed y drafft: "Dylai polisïau CDLl helpu’r awdurdod i gyflawni mwy o lesiant ac i ddatblygu’n gynaliadwy yn lleol, gan gynnwys sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu."

5.5. Mae'r Nodyn Technegol yn crynhoi'r ddeddf honno'n gywir, ond dylid nodi nad oes cyfyngiad daearyddol ar y Ddeddf. Nid yw'r Ddeddf yn awgrymu mai dim ond mewn rhai ardaloedd y dylid gwneud darpariaeth ar gyfer y Gymraeg. I'r gwrthwyneb, mae hyn yn nod llesiant cenedlaethol mae'n rhaid i bob awdurdod cynllunio ym mhob rhan o Gymru ymateb iddo. Yn hynny o beth, nid yw'r cysyniad deuaidd o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol yn cyd-fynd â'r Ddeddf oherwydd mae'n rhaid cynllunio ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym mhob ardal, felly dylai pob ardal gymryd camau drwy'r system gynllunio i wneud hynny. Perygl y cysyniad deuaidd o ardaloedd 'sensitif' yw y byddai cynghorwyr, swyddogion ac eraill sy'n ymwneud â'r system gynllunio yn cymryd felly nad yw'r Gymraeg yn ystyriaeth o gwbl mewn ardaloedd eraill.

6.Sylwadau ar Asesiad Effaith Iaith Llywodraeth Cymru o'r Nodyn Cyngor Technegol

6.1. Dadleuir y canlynol yn asesiad effaith iaith y Nodyn Cyngor Technegol drafft:

"Mae TAN 20 yr un mor gymwys i ardaloedd lle siaredir y Gymraeg yn eang yn iaith gyntaf i’r gymuned ag i ardaloedd lle nad yw’n cael ei siarad mor eang ‒ mae’n galluogi ac yn annog ACLlau i weithredu mewn modd sy’n gymesur ac yn briodol i nodweddion yr ardal leol. "

"Mae Llywodraeth Cymru am weld system gynllunio sy’n deg ac sy’n gweithredu mewn ffordd gyson"

"Bydd ymgynghoriad am y newidiadau arfaethedig i TAN 20 yn helpu i ddangos a fydd y modd y bwriedir gweithredu yn rhoi’r hyblygrwydd i ACLlau ymateb yn briodol i sefyllfaoedd lleol, a bydd hefyd, ar yr un pryd, a lle bo modd, yn hyrwyddo dulliau cyson o weithredu ledled Cymru."

"Mae’r canllawiau’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ddatblygu dulliau sy’n amrywio rywfaint, drwy benderfynu’n lleol ar yr hyn a olygir wrth ardal o sensitifrwydd neu arwyddocâd ieithyddol."

6.2. Mae'r dyfyniadau uchod yn amlygu anghysondeb wrth wraidd yr asesiad effaith iaith sy'n amlygu gwendid yn y Nodyn Cyngor Technegol drafft. Hynny yw, nid yw'r cysyniad o greu ardaloedd o sensitifrwydd, neu arwyddocâd ieithyddol, yn gosod trefn eglur a chyson ar draws y wlad.

6.3. Dadleuir bod hyn yn cynnig hyblygrwydd, ond, mewn gwirionedd, cysyniad deuaidd yw hwn sy'n gorfodi dewis rhwng ardaloedd lle caiff y Gymraeg ystyriaeth arbennig ac ardaloedd lle nad yw. Mae'n amlwg bod angen cysyniad, sef Continwwm Datblygu'r Gymraeg, sy'n cynnig hyblygrwydd yn hytrach na dau opsiwn yn unig.

7.Arwyddion a Hysbysebion

7.1. Credwn y dylai adran 4 ar dudalen 11 fod yn gryfach ynghylch arwyddion a hysbysebion.

7.2. Yn gyntaf, credwn y dylai fod cydnabyddiaeth fod statws swyddogol y Gymraeg a'r egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn caniatáu i awdurdodau ffafrio arwyddion uniaith Gymraeg, yn ogystal â rhai dwyieithog neu amlieithog sy'n cynnwys y Gymraeg.

7.3. Yn ail, credwn y dylai fod yn ofynnol i ddatblygiadau gael arwyddion a hysbysebion Cymraeg. Mae'n rhyfedd nad yw'r Llywodraeth yn gweld hyn fel gwaelodlin syml ar gyfer pob datblygiad yn hytrach nag fel dewis i awdurdodau, yn enwedig o ystyried statws swyddogol y Gymraeg a'r Safonau a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) Cymru.

7.4. Felly, credwn y dylai paragraff 4.1.1 ddarllen fel a ganlyn:

"4.1.1. Gall arwyddion gael effaith weledol drom ar gymeriad ardal, gan gynnwys ei chymeriad ieithyddol. Maent hefyd yn un ffordd o hybu diwylliant unigryw Cymru, sy'n arwyddocaol o safbwynt hunaniaeth gwahanol gymunedau a'r diwydiant twristiaeth. Dylai'r awdurdodau roi sylw dyladwy i statws swyddogol y Gymraeg a'r egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn amodol ar reoli cynllunio, dylai polisïau Cynlluniau Datblygu Unedol sy'n ymwneud ag arwyddion a hysbysebion hybu darparu arwyddion Cymraeg, boed yn arwyddion uniaith Gymraeg neu'n Gymraeg ynghyd ag iaith/ieithoedd eraill."

8. 'Mesurau hybu' yn lle 'mesurau lliniaru'

8.1. Fel crybwyllir uchod, credwn fod angen symud i ffwrdd o'r syniad fod angen 'mesurau lliniaru' ar gyfer datblygiadau. Yn wir, mae'n chwerthinllyd bod 'arwyddion dwyieithog' yn cael eu gweld fel 'mesurau lliniaru' - nid mesur lliniaru ydynt ond gofyniad cwbl sylfaenol a ddylai fod yn ddisgwyliad ar gyfer pob datblygiad.

8.2. Yn lle hynny, credwn y dylid edrych i ofyn am 'fesurau gwella' neu 'fesurau hybu'r Gymraeg', a hynny ar gyfer pob datblygiad. Rydym ar ddeall mewn cyd-destunau eraill yn ymwneud â chynefin, megis ystlumod, y gofynnir am 'fesurau gwella' ('enhancement measures'). Dylid mabwysiadu'r un math o gysyniad ar gyfer y Gymraeg, sef ceisio gwella cyflwr yr iaith drwy bob un datblygiad – boed hynny yn ei gwella o ran ei statws, darpariaeth addysg, lleihau allfudo neu ffyrdd eraill. Credwn fod y math hwnnw o gyfundrefn yn fwy addas i'r Gymraeg, yn enwedig o ystyried y newidiadau deddfwriaethol a wneir drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Cynllunio (Cymru) a Safonau'r Gymraeg, yn enwedig y Safonau Llunio Polisi, a grëwyd yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

9.Cwestiynau'r Ymgynghoriad

 

C1 Ydych chi'n cytuno bod goblygiadau adran 11 ac adran 31 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) yn cael eu hesbonio'n glir yn y TAN 20 diwygiedig?

Nac ydyn, credwn fod aneglurder yn y Nodyn Cyngor Technegol am y sefyllfa gyfreithiol a allai greu trafferthion. Dylai'r nodyn nodi bod modd caniatáu neu wrthod cais ar sail ei effaith ar y Gymraeg waeth beth yw cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol oherwydd adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Nid yw'r canllawiau yn gwneud yn glir bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol ledled y wlad yn hytrach na rhai ardaloedd yn unig. Nid oes digon o ystyriaeth o oblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ychwaith.

Am ragor gweler adran 5 uchod.

C2 Ydych chi'n cytuno y dylai awdurdodau cynllunio lleol, yng nghyd-destun ceisiadau ar hap, fedru clustnodi yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol, ardaloedd lle mae'r iaith yn fater arbennig o sensitif?

Nac ydyn, rydym yn credu y dylai fod 'Continwwm Datblygu'r Gymraeg' yn lle'r cysyniad o ardaloedd o 'sensitifrwydd'. Mae'r cysyniad deuaidd yn creu nifer o beryglon ymarferol yn ogystal â bod yn groes i statws swyddogol y Gymraeg ledled y wlad a'r nod o hybu'r Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad.

Am ragor gweler adran 3 uchod.

C3 Mae'r canllawiau'n annog awdurdodau cynllunio lleol i weithio gyda sefydliadau megis swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a'r Mentrau Iaith wrth nodi ardaloedd sydd o sensitifrwydd neu arwyddocâd ieithyddol. Ydych chi'n cytuno â hynny?

Dylid gweithio gyda'r mudiadau hynny, ond ar y cysyniad o 'gontinwwm datblygu'r Gymraeg' nid y cysyniad o ardaloedd o 'sensitifrwydd'.

C4 Ydych chi'n cytuno ei bod yn dderbyniol cynnal Asesiadau o'r Effaith ar yr Iaith wrth ystyried ceisiadau annisgwyl am ddatblygiadau preswyl mawr ar safleoedd ar hap mewn ardaloedd arbennig o sensitif a ddiffinnir yn y CDLl?

Dylai'r canllawiau nodi'n glir bod hawl gan gynghorwyr a swyddogion cynllunio gomisiynu asesiadau o'r effaith ar y Gymraeg ar gyfer ceisiadau ym mhob rhan o'r wlad.

Mae'r cynnig i gyfyngu asesiadau o'r effaith ar y Gymraeg i'r ardaloedd o 'sensitifrwydd' yn unig yn groes i adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy'n sefydlu'r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol ym mhob rhan o Gymru, nid yn rhai rhannau yn unig.

Er mwyn ystyried y Gymraeg mae'n rhaid i gynghorwyr a swyddogion gael tystiolaeth – un o'r prif ffyrdd o gasglu'r dystiolaeth honno yw drwy gomisiynu asesiad. Wrth reswm felly, mae'r gyfraith yn rhoi'r hawl i gynghorwyr a swyddogion gomisiynu yn ôl eu disgresiwn hwy, nid yn unig o dan yr un sefyllfa a ganiateir yn y canllawiau. Credwn y bydd cyfyngiad o'r fath yn y canllawiau, gan nad ydynt yn adlewyrchu'r gyfraith newydd, yn creu dryswch ac yn arwain at heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau.

Gweler ein sylwadau pellach yn adran 4 uchod.

C5 Ydych chi'n cytuno mai'r awdurdodau cynllunio lleol ddylai fod yn gyfrifol am baratoi Asesiadau o'r Effaith ar yr Iaith?

Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg fod yn gyfrifol am gomisiynu asesiadau effaith a hynny gan gwmnïau neu ymgynghorwyr allanol. Fel arall, gallai cynghorau gomisiynu asesiadau gan gwmnïau neu ymgynghorwyr allanol sy'n gymwys i wneud y gwaith yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mae gennym amheuon am allu awdurdodau lleol i baratoi'r asesiadau yn iawn. Mae perygl mawr y bydd asesiadau yn troi'n arfer tic mewn blwch yn unig os yw awdurdodau cynllunio yn gyfrifol amdanynt.

Ni ddylai datblygwyr fod yn rhan o'r gwaith o gynnal na chomisiynu'r asesiadau effaith iaith.

Gweler ein hymateb llawn i'r cwestiwn hwn ym mharagraffau 4.8 i 4.13 uchod.

C6 Yn y ddogfen ddrafft a baratowyd at ddibenion ymgynghori, mae'r cyngor polisi a roddir yn TAN 20 yn cael ei gyfuno â'r canllawiau ymarferol pellach, sydd heb fod yn rhai rhagnodol. Ydych chi’n cytuno â hynny?

Credwn y gall fod manteision i gyfuno'r holl ganllawiau mewn un ddogfen. Anghytunwn â'r syniad na ddylai'r canllawiau ymarferol fod yn rhai rhagnodol. Credwn y dylai fod camau i wella neu hybu'r Gymraeg ar gyfer y datblygiad ac y dylen nhw gael eu rhagnodi yn Nodyn Cyngor Technegol 20.

C7 Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yng nghyswllt y newidiadau i TAN 20 (gweler Atodiad B). Ydych chi'n cytuno bod yr asesiad hwnnw’n gywir o ran y modd y mae’n amlinellu'r effaith y bydd y canllawiau'n ei chael ar y Gymraeg?

Credwn fod yr asesiad yn amlygu gwendid difrifol y cysyniad deuaidd o ardaloedd o 'sensitifrwydd'. Gweler ein sylwadau pellach yn adran 6 uchod.

C8 Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw, mae croeso ichi roi gwybod inni.

Gweler ein sylwadau uchod.

 

10.Casgliadau

10.1. Croesawn y ffaith bod y Llywodraeth yn ymgynghori ar y Nodyn Cyngor Technegol hwn.

10.2. Mae angen sefydlu continwwm, yn hytrach na'r cysyniad deuaidd o ardaloedd sensitifrwydd, sy'n golygu bod pob ardal o Gymru yn cael ystyriaeth ddigonol er mwyn sicrhau y cymerir camau i'w chryfhau ym mhob rhan o Gymru.

10.3. Credwn fod nifer o ddatganiadau sydd angen eu cywiro sy'n creu'r perygl y bydd awdurdodau cynllunio yn camddeall llythyren ac ysbryd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mawrth 2016

 

 

 

 

 

Atodlen I - Nodyn Cyngor Technegol 20 amgen:

Continwwm ar gyfer diogelu a chryfhau'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru

 

Sylfeini Cyfreithiol a Pholisi

Dylai awdurdodau cynllunio nodi a rhoi sylw dyladwy i'r ffaith:

  • bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol ym mhob rhan o Gymru, yn sgil pasio adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac nad yw'r ystyriaeth statudol honno yn gyfyngedig i rai ardaloedd daearyddol yn unig

  • bod y Gymraeg yn iaith swyddogol ledled Cymru yn sgil pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

  • bod camau o fewn y system gynllunio y gellir eu cymryd i gryfhau cyflwr y Gymraeg, a hynny ym mhob rhan o Gymru

  • bod ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith y gymuned yn hynod o bwysig i ffyniant y Gymraeg, fel nodir yn Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru "Iaith Fyw: Iaith Byw" a bod angen rhagor ohonynt os yw'r Gymraeg i ffynnu yn y tymor hir

  • bod potensial gan bob cymuned i adfer neu ddiogelu'r Gymraeg fel ei bod yn dod neu'n parhau i fod yn brif iaith y gymuned: cysyniad sy'n ymhlyg yn ieithwedd y Llywodraeth wrth ddisgrifio'r Gymraeg fel iaith genedlaethol i bawb ym mhob rhan o Gymru

  • bod y nod llesiant "ffyniant y Gymraeg" yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol i bob rhan o Gymru ac nad yw'n gyfyngedig i rai ardaloedd daearyddol yn unig.

Egwyddorion

Argymhellwn y dylid defnyddio'r canlynol fel egwyddorion ar gyfer y canllawiau newydd:

(i) Sefydlu Continwwm Datblygu'r Gymraeg a fydd yn cynnwys pob ardal o Gymru ac yn anelu at gryfhau sefyllfa'r Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad.

(ii) Cynnwys rhestr o faterion sylfaenol sy'n effeithio ar y Gymraeg y dylid delio â nhw ym mhob rhan o Gymru.

(iii) Yn hytrach na dau gategori ('sensitif' neu beidio), dylai fod, fan leiaf, dri neu bedwar categori y mae'n rhaid i bob ardal o'r wlad fod yn un ohonynt, a bydd pob un yn golygu ystyriaeth i'r Gymraeg ar wahanol raddfeydd.

(iv) Gall fod awgrymiadau o ran sut i bennu'r ardaloedd hyn, ond byddai'n rhaid rhoi hyblygrwydd, megis dewis rhwng niferoedd (a all fod yn fwy perthnasol o fewn ardaloedd trefol) a chanrannau fel maen prawf o ran penderfynu lle mae cymuned yn eistedd o fewn y continwwm.

(v) Dylai fod rôl glir gan Gomisiynydd y Gymraeg i roi cyngor i awdurdodau cynllunio o ran sut i gategoreiddio cymunedau.

 

Continwwm Datblygu'r Gymraeg

Credwn y dylid sefydlu continwwm datblygu'r Gymraeg gan fabwysiadu nod tymor hir y drefn gynllunio ym mhob rhan o Gymru i gyrraedd sefyllfa lle mai’r Gymraeg fydd y brif iaith gymunedol.

Credwn y dylai pob awdurdod cynllunio lleol, drwy ei gynllun datblygu lleol, gategoreiddio pob un ardal o Gymru maent yn gyfrifol amdanynt.

Awgrymwn y gellid ystyried sefydlu pedwar categori megis y canlynol:

(a) Cymunedau Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn brif iaith

(b) Cymunedau o Ddwyieithrwydd Cyfochrog a Chyflawn

(c) Cymunedau gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg

(ch) Cymunedau hawliau sylfaenol y Gymraeg

Bydd rhaid mabwysiadu nod bod ardaloedd yn symud lan y categorïau dros amser.

Credwn fod dadl dros ystyried ychwanegu at y categorïau hyn hyd at oddeutu chwe chategori.

Credwn y dylai fod dewis gan gymunedau lleol rhwng y gwahanol opsiynau. Bydd yn bwysig rhoi'r hyblygrwydd o edrych ar ardaloedd teithio i'r gwaith yn ogystal â niferoedd neu ganrannau er mwyn pennu ym mha gategori mae pob cymuned yn eistedd orau.

Diffinio'r Ardaloedd a'u Hystyr:

Continwwm – Fframwaith i Hybu'r Gymraeg ledled Cymru

Gallai cynghorau ystyried y fframwaith canlynol fel ffordd o ymdrin â'r Gymraeg wrth ystyried pob cais cynllunio.

 

Argymhellir mai lleiafswm yw'r isod o ran y camau y mae'n rhaid eu cymryd o fewn y categorïau, ond na ddylai'r camau y gellir eu cymryd fod yn gyfyngedig i'r lleiafswm.

 







Ffactorau i'w hystyried

Manylion

Categori A: prif iaith

Categori B: dwyieithrwydd cyflawn

Categori C: defnydd sylweddol

Categori Ch: hawliau Sylfaenol

Statws

Enwau stryd, datblygiad, nodwedd tir yn Gymraeg

Ie

Ie

Ie

Ie

 

Gwahardd dileu enwau Cymraeg

Ie

Ie

Ie

Ie

 

Arwyddion uniaith Gymraeg neu Gymraeg

Uniaith Gymraeg

Uniaith Gymraeg

Ie ac annog uniaith Gymraeg

Ie

 

Datblygiadau masnachol uniaith Gymraeg neu Gymraeg

Uniaith Gymraeg

Ie ac annog uniaith Gymraeg

Ie

Ie

Addysg

Datblygiadau addysg newydd

Cyfrwng Cymraeg yn unig

Cyfrwng Cymraeg yn unig

Rhagdybiaeth cyfrwng Cymraeg

Rhagdybiaeth cyfrwng Cymraeg

Budd Cynllunio

Rôl Menter Iaith

-

Rhedeg unrhyw gronfa

Amod datblygwr i gydweithio

Amod datblygwr i gydweithio

 

Cyfran y 'budd cynllunio' sy'n ariannu prosiectau cyfrwng Cymraeg

100%

75%

50%

25%

Tai

Marchnata / hysbysebu tai'n lleol

Yn lleol yn unig

Yn lleol yn unig

Yn lleol yn unig am dri mis

Ie, amod cynllunio

 

Datblygu safle cam-wrth-gam

Opsiwn

Opsiwn

Opsiwn

Opsiwn

 

Amod pobl leol yn unig

Ie

Ie

Cyfran 50%

-

 

Canran o'r tai sy'n fforddiadwy i bobl leol*

100%

100%

50%

25%

 

Targedau tai i adlewyrchu twf naturiol y boblogaeth leol*

Ie

Ie

Ie

Ie

Gwasanaethau

Amod ynghylch defnydd y Gymraeg**

Ie

Ie

Ie

Ie

Asesiadau Effaith

Asesiad neu ddatganiad effaith ar y Gymraeg

Asesiad

Asesiad

Asesiad

Datganiad, asesiad yn opsiynol

 

Nodiadau Esboniadol:

Ardaloedd Categori Ch - Cymunedau hawliau sylfaenol y Gymraeg

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Sicrhau bod enw Cymraeg ar bob datblygiad, enw stryd a nodwedd tir

  • Sicrhau bod holl arwyddion datblygiadau yn Gymraeg

  • Rhagdybio bod unrhyw sefydliadau addysg a adeiledir fel rhan o ddatblygiad yn gyfrwng Cymraeg yn bennaf

  • Disgwyliad bod gan ddatblygiadau masnachol arwyddion Cymraeg

  • Gwahardd dileu enwau stryd, tai, nodweddion tir a datblygiadau Cymraeg

  • Budd cynllunio i gael ei ddosbarthu mewn cydweithrediad â'r fenter iaith leol

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 25% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Sicrhau y caiff tai eu marchnata yn lleol

  • Sicrhau bod math a nifer y tai yn ymateb i dwf naturiol y boblogaeth leol a'i hanghenion yn unig

 

Ardaloedd Categori C - Cymunedau gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd Ch

  • Annog enwau ac arwyddion uniaith Gymraeg ar ddatblygiadau

  • Amod ar bob datblygiad lleol bod cyfle cyntaf i bobl leol eu prynu

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 50% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Marchnata’r tai yn lleol yn unig am gyfnod penodol e.e. 3 mis cyn eu rhoi ar y farchnad agored.

  • Datblygu’r safle gam wrth gam er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg o ganlyniad i adeiladu tai ar raddfa / cyfradd sy'n fwy na’r angen lleol

 

Ardaloedd Categori B - Cymunedau o Ddwyieithrwydd Cyfochrog a Chyflawn

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd C a Ch

  • Enwau ac arwyddion uniaith Gymraeg ar ddatblygiadau

  • Siopau stryd i fod ag arwyddion uniaith Gymraeg

  • Unrhyw gais i newid defnydd i gynnwys amod arwyddion uniaith Gymraeg

  • Datblygiadau addysg newydd i fod yn rhai cyfrwng Gymraeg yn unig

  • Nod y bydd yr holl stoc dai yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm cyfartalog yr ardal

  • Sicrhau bod cyfran o ddim llai na 75% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg neu brosiectau gyda'r prif nod o hyrwyddo'r Gymraeg

  • Amod bod rhaid I'r holl dai newydd fod yn fforddiadwy i bobl leol

 

Ardaloedd Categori A - Cymunedau Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn brif iaith

Yn yr ardaloedd hyn, mae'n rhaid gwneud y canlynol (heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Popeth a wneir yn ardaloedd B, C a Ch

  • Amod y gwerthir tai newydd i bobl leol yn unig

  • Sicrhau bod 100% o unrhyw 'fudd cynllunio' o dan adran 106 yn mynd at brosiectau cyfrwng Cymraeg

 

Nodiadau:

*Ystyr “pobl leol” fel y'i defnyddir uchod yw:

(a) pobl sydd wedi byw neu wedi gweithio yn yr ardal am gyfnod o gyfanswm o 10 mlynedd allan o’r 20 mlynedd diwethaf;

(b) pobl sy’n gyflogedig neu sydd â chontract am wasanaethau, boed hynny mewn un neu fwy o swyddi parhaol, sy’n gyfystyr ag oriau gwaith amser llawn yn yr ardal;

(c) pobl sy’n hunangyflogedig, boed hynny mewn un neu fwy o swyddi, sy’n gyfystyr ag oriau gwaith amser llawn yn yr ardal; neu

(ch) pobl sydd wedi byw yn yr ardal am o leiaf cyfanswm o 10 mlynedd yn ystod eu hoes.

** Disgwylir y bydd pob datblygiad masnachol yn gorfod cydymffurfio ag amod tebyg i amod Llywodraeth Cymru o ran grantiau: "Pan fo’r dibenion yn cynnwys neu’n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau neu ddeunydd ysgrifenedig (gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein) yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn y Gymraeg, oni fyddai’n afresymol neu’n anghymesur gwneud hynny."