Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar Bremiymau Treth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor nes 23:59 ar nos Sul 29/10/2023.
Gallwch weld yr ymgynghoriad a chyflwyno ymateb ar wefan y cyngor.
Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'w weld isod, a gellwch ei ddefnydido fel sail i'ch hymateb chi.
Ymateb Rhanbarth Ceredigion i Ymgynghoriad ar Bremiymau Treth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor
Mae Cymdeithas yr Iaith yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i Gyngor Ceredigion gynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi’r sir, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a lleihau’r allfudiad o’r sir, yn enwedig ymysg yr ifanc.
Mae’r argyfwng tai yn ffactor sy'n cyfrannu'n fawr at yr allfudiad am fod pobl yn methu fforddio rhentu neu brynu cartref yn eu cymuned. Mae’r allfudo hyn yn cael effaith mawr a niweidiol ar y Gymraeg, ein cymunedau, yr economi a’r gallu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Rhwng 2011 a 2019, mae’r data sydd ar gael o Lywodraeth Cymru yn dangos bod 22% o bobl yn grŵp oedran 16-24 wedi symud o Geredigion i rannau eraill o’r DG bob blwyddyn, ar gyfartaledd. O’r rhain, roedd tua 13.9% wedi symud i Loegr a 8.1% i rannau eraill o Gymru. Mae’r 22% yn cymharu’n anffafriol â gweddill siroedd Arfor.
Mae’r effaith ar y Gymraeg yn syfrdanol. Mae’r cwymp yn y ganran sy’n medru’r Gymraeg yn parhau a bellach mae llai na hanner poblogaeth y sir yn medru’r Gymraeg yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf. Mae hyn yn peryglu cyfraniad Ceredigion at y targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn arbennig am fod gymaint yn allfudo i Loegr lle nad oes llawer o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg nac addysg Gymraeg ar gyfer eu plant. Mae cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith feunyddiol yn hynod bwysig i barhad y Gymraeg fel iaith fyw ond maen nhw prysur yn diflannu, yn arbennig yng Ngheredigion.
Mae’r allfudo yn cael effaith ofnadwy ar ein cymunedau hefyd. Mae’n tanseilio gwead y gymdeithas, yn arwain at golli gweithgareddau a chymdeithasau o fewn ein cymunedau ac yn tanseilio hyfywedd asedau a gwasanaethau cymunedol. Mae gwaethygu sefyllfa economaidd ysgolion wedi arwain at gau gofodau cymunedol dros y blynyddoedd ac mae gwasanaeth bysiau yn cael eu lleihau.
Mae'r holl bethau hyn yn ei gwneud yn fwy anodd ac yn llai deniadol i bobl aros yn yr ardal hefyd.
Mae effeithiau niweidiol economaidd hefyd. Gyda llai o breswylwyr parhaol, llai o weithlu a mwy o dai sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, mae gweithgarwch economaidd y sir wedi bod yn dirywio. Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn cael trafferthion yn recriwtio, yn arbennig siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn creu problemau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys rhai’r Cyngor Sir, ac yn tanseilio gallu sefydliadau i gynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg.
O ystyried bod prisiau tai yng Ngheredigion yn tua deg gwaith y cyflog ar gyfartaledd, sydd ymhlith y gymhareb waethaf yng Nghymru, mae’n hawdd gweld pam fod allfudo yn gymaint o broblem – yn syml, mae pobl yn cael eu hallgau o’r farchnad tai ac yn ei chael hi’n amhosib aros o fewn y sir. Mae anghyfartaledd economaidd sylfaenol yn ei gwneud yn gymharol hawdd i bobl o ardaloedd cyfoethog fel de ddwyrain Lloegr i brynu ail dŷ tra bod pobl yng Ngheredigion methu prynu un, sy’n sylfaenol annheg. Mae’r sefyllfa yn arwain at brisiau sy'n rhy uchel i bobl ar gyflog lleol eu fforddio. Am hynny, mae angen dybryd i’r Cyngor Sir fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Ngheredigion.
Mae’r premiwm treth cyngor yn arf pwerus y gellid ei defnyddio i daclo’r argyfwng. Yng Ngwynedd, lle mae’r premiwm wedi cael ei gynyddu i 150%, mae llawer o adroddiadau o ail dai yn mynd ar y farchnad, gan ryddhau rhan sylweddol o’r stoc tai ar gyfer pobl leol. Yng Ngheredigion, mae’r premiwm wedi bod yn 25% ers amser ac mae Ceredigion wedi cwympo tu ôl i lawer o siroedd eraill. O dan bwysau gan gynghorau ac ymgyrchwyr mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i gynghorau gynyddu’r premiwm hyd at 300% ond prin bod Cyngor Ceredigion wedi defnyddio’r pwerau a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Cynigiwn fod Cyngor Ceredigion yn arwain y ffordd i gynghorau eraill yn hytrach na chwympo tu ôl iddynt, trwy godi’r premiwm i 300%.
Mae'r nifer o ddyddiau sy'n rhai i dŷ gwyliau fod ar gael i'w logi er mwyn ei gofrestru fel busnes wedi cynyddu. Bu'n broblem yn y gorffennol bod perchnogion ail dai gofrestru cartref fel busnes er mwyn osgoi'r dreth, ond gan fod hynny'n fwy anodd mae'n gyfle i'r cyngor fanteisio ar hynny.
Mae cynghorau eraill sydd wedi cynyddu’r premiwm wedi creu llif incwm da er mwyn ei fuddsoddi i gynlluniau tai fydd yn cynorthwyo pobl leol i rentu neu brynu tai ac i brosiectau cymunedol. Rydym yn awyddus i weld yr arian mae Cyngor Ceredigion yn ei gael o’r premiwm yn mynd at ddibenion o'r math hwn. Mae'n gyfnod o doriadau a'r arian a ddaw gan lywodraethau yn lleihau, mae’r llif incwm hwn yn rhy bwysig i’w wrthod.
Felly galwn ar Gyngor Ceredigion i gynyddu’r premiwm i 300%.
Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith
Hydref 2023