Cydnabyddwn fod llawer o ddeunydd o werth am adfywio canol y trefi hyn, yn seiliedig yn bennaf ar brofiad yr ymgynghorwyr ar adfywio trefi eraill, rhai mewn gwledydd eraill. Ond mae angen ailedrych ar y cynlluniau yn eu hanfod, yn hytrach na diwygio cynnwys, gan eu bod wedi methu mewn nifer o amcanion sylfaenol:
1) Nid oes unrhyw ymdrech i drafod pa ffurf ar ddatblygiadau a fyddant yn cynnal ac yn cryfhau'r trefi a'r ardaloedd hyn yn gymdeithasol/diwylliannol ac yn arbennig o safbwynt cynaladwyedd y Gymraeg ynddynt. Anwybyddwyd hyn yn llwyr. Mae cwmni "The Means" yn arbennig wedi cyhoeddi'r cynlluniau am y trefi unigol yn uniaith Saesneg, ac heb eu ffurfio o bersbectif Cymreig na Chymraeg o gwbl. Cyfeirir at "Llandovery" fel "rural ... U.K. town" a dywedir fod atyniadau i haneswyr fel y "poet" Williams Pantycelyn, a'r "Welsh Robin Hood" Twm Siôn Cati. A hyn oll yn y drerf lle cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 2022.
2) Nid oes chwaith unrhyw ymdrech, fel ag a addawyd, i edrych ar ddatblygiad yr ardaloedd gwledig o gwmpas y trefi, sydd hefyd mor bwysig i gynaladwyedd y Gymraeg. Edrychwyd ar ganol y trefi eu hunain yn unig, heb ystyried y rhyngweithiad deinamig rhwng y trefi a'r cylchoedd o brif bentrefi a mân bentrefi o'u cwmpas.
3) Derbyniwn mai heriol oedd cynnal trafodaethau yn ystod y pandemig, ond efallai mai'r prif reswm am y diffygion hyn yw na bu cysylltiad ystyrlon gyda sefydliadau, mudiadau ac unigolion sy'n ymwneud â datblygu ieithyddol na datblygu gwledig nac amaethyddol. O ganlyniad, nid oes unrhyw gyswllt cydlynus rhwng y cynlluniau-drafft hyn ac adroddiadau cyfochrog er enghraifft gan y Mentrau Iaith, na chyda'r Cynllun Datblygu Lleol drafft.
Mae'r ymgynghoriad ei hun yn ddryslyd. Ymddengys mai ymgynghoriad gan y ddau gwmni o ymgynghorwyr preifat sydd, nid ymgynghoriad gan y Cyngor Sir. Adroddodd y Cyngor Sir wrth y Fforwm Iaith Sirol ar ddechrau Mawrth mai yn Ebrill y byddai ymgynghoriad ar Gynlluniau Drafft y Ddeg Tref ac yn cynhelid cyfarfod arbennig o'r fforwm i'w trafod. Ar wefan y Cyngor, foddbynnag, dywedir fod yr ymgynghoriad wedi cychwyn ers dechrau Mawrth ac yn gorffen yr wythnos hon ar Ebrill 16eg. Fodd bynnag, mae gwefan Owen Davies Consulting (y mae'r Cyngor Sir yn cyfeirio ymatebwyr iddi) yn dweud fod y Cynlluniau Drafft "yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus tan y 19eg o Fawrth" ac nid yw gwefan "The Means"(sef y cwmni arall y mae'r Cyngor am ein cyfeirio ato) yn rhoi unrhyw ddyddiad ar gyfer ymgynghoriad o gwbl, dim ond ebost cyffredinol ar gyfer y 3 chynllun!
Ni ellir trwy'r ymgynghoriad dryslyd hwn gyflawni'r amcanion a osodwyd, ond nid ydym chwaith yn awgrymu y dylid anwybyddu'r syniadau unigol yn y Cynllun drafft. Argymhellwn yn hytrach fod cyflwyno'r cynllun drafft yn ddeunydd i fforwm trafod ehangach yn cynnwys (a) cynrychiolwyr y cylchoedd o gwmpas y trefi e.e. Undebau amaeth, Ffermwyr Ifainc, Cynghorau Bro, Masnachwyr yn y pentrefi, a (b) sefydliadau a mudiadau sy'n ymwneud â chynaladwyedd y Gymraeg e.e. Mentrau Iaith a byddwn ni yng Nghymdeithas yr Iaith yn barod i gyfrannu'n greadigol. Os nad yw o fewn maes arbenigedd yr ymgynghorwyr i gyflawni'r orchwyl, dylai'r Cyngor Sir gymryd drosodd y gwaith yn uniongyrchol er mwyn sicrhau fod llunio strategaethau a allant gael eu rhoi ar waith yn gydlynus â datblygiadau eraill.