Ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan i Ddarlledu yng Nghymru

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan i Ddarlledu yng Nghymru

Mae pdf ar gael i'w lawrlwytho yma
 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

Dechreuodd yr ymgyrchu dros sianel deledu Gymraeg â galwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ ag ‘awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru’.

Dydy’r alwad honno ddim wedi ei gwireddu o hyd, er i S4C gael ei sefydlu yn 1982.

Yn y cyfnod ers sefydlu S4C, nid yw’r ddarpariaeth Gymraeg sy'n cael ei darlledu wedi symud ymlaen rhyw lawer a phrin fu datblygiad cylch gorchwyl S4C, er gwaethaf datblygiadau sylweddol ar lwyfannau darlledu eraill.

Mae'n amlwg felly, os ydy S4C i ddatblygu a ffynnu, na ellir parhau â'r sefyllfa bresennol ac y dylid datganoli grym rheoleiddio ym maes darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded, i Senedd Cymru, ac y dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianel a llwyfannau Cymraeg fydd yn cynyddu ar raddfa nad yw’n llai na chwyddiant, er mwyn rhoi sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu Cymraeg.

Rydyn ni'n awgrymu datganoli fesul cam:

1. Datganoli grymoedd i ddeddfu dros reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu er mwyn galluogi sefydlu cyfundrefn reoleiddio i Gymru;

2. Datganoli arian ffi’r drwydded a grymoedd i godi trethi er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus;

3. Trosglwyddo grymoedd dros radio masnachol, cymunedol a theledu lleol.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru banel arbenigol i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru. Mae'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn datgan cefnogaeth i ddatganoli darlledu, felly mae'n glir bod awydd i rym gael ei drosglwyddo i Gymru, a’i bod yn bryd i hynny ddigwydd.
Gan mai Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yw dwy brif blaid y Senedd yng Nghymru, mae mandad clir ganddynt i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli darlledu.
 

Ymhellach, dangosodd arolwg barn YouGov yn 2017 bod dros 60% o bobl Cymru o blaid datganoli grymoedd darlledu yn eu cyfanrwydd i Gymru.

Credwn hefyd fod angen creu ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ i reoleiddio’r cyfryngau yng Nghymru yn lle Ofcom. Mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac yn parhau i fethu.
Dros y blynyddoedd, caniatawyd i gwmnïau Prydeinig brynu gorsafoedd annibynnol, lleol fel Radio Ceredigion. Caniataodd Ofcom i Radio Ceredigion leihau darpariaeth Gymraeg yr orsaf o 50% o’r cynnwys i 10%.
Prynwyd gorsafoedd radio yr hen Ddyfed gan Nation Radio, a symudodd bresenoldeb y gorsafoedd o’r gorllewin i dde-ddwyrain Cymru a disodlwyd rhaglenni lleol eu naws â darpariaeth gyffredinol sydd i’w chlywed ar orsafoedd eraill Nation Radio ar draws Cymru a Lloegr.
 

Dydy Ofcom chwaith ddim wedi gwneud dim byd i geisio sicrhau neu gynyddu cynnwys Cymraeg ar sianeli teledu rhanbarthol na chynnwys digidol y sianeli hynny.

Mae’n glir felly bod angen rheoleiddiwr cryfach â chylch gorchwyl sy’n cynnwys sicrhau bod cynnwys gwasanaethau lleol yn lleol ac yn Gymraeg.
 

Ymhellach, credwn y byddai rheoleiddiwr annibynnol Cymreig mewn lle gwell i amddiffyn darlledu yng Nghymru. 

Ers 2010, mae'r sianel Gymraeg wedi bod yn dirywio o flaen ein llygaid, o ganlyniad i doriadau.

Mae toriadau wedi effeithio ar gynnwys S4C, mae llai o gynnwys newydd yn cael ei greu, gan fod ail-ddarlledu cynnwys gymaint yn rhatach.

Mae oriau darlledu S4C wedi cynyddu rywfaint ers 2001 ond bryd hynny, 43% o’r oriau roedd S4C yn eu darlledu oedd yn ail-ddarllediadau o’i chynnwys ei hun a chynnwys a ddarparwyd gan y BBC.
Erbyn 2010, roedd y ganran wedi codi i 54%. Yn 2020/21, roedd hynny wedi cynyddu ymhellach i 67.6%.

Mae’r canrannau yma’n uchel iawn, yn enwedig o gymharu â’r 5% o oriau ailddarllediadau ar brif sianeli BBC (y ganran yn 2015).

Yn 2015, rhybuddiodd Prif Weithredwr S4C un o bwyllgorau’r Senedd y byddai toriadau yn golygu y byddai S4C yn dibynnu'n fwy helaeth ar ail-ddarlledu rhaglenni; eto i gyd, parhau i wynebu toriadau mae S4C, heb ystyriaeth i fodel cyllido cynaliadwy. Dydy hi’n ddim syndod felly bod y ganran o ailddarllediadau wedi parhau i dyfu.
 

Rydym yn bell o gael yr egwyddor o 'blwraliaeth' ar yr unig sianel Gymraeg yn y byd, heb sôn am blwraliaeth ar draws darparwyr Cymraeg. Dydy ailddarllediadau fel sydd ar hyn o bryd ddim yn gynaliadwy. Mae comisiynu cynnwys newydd yn hanfodol i iechyd y sianel, i gwmnïau cynhyrchu, a'r arlwy i wylwyr felly mae angen sicrhau cyllideb ddigonol i S4C gomisiynu amrywiaeth o gynnwys newydd.

Yn 2012, cyfeiriodd Cadeirydd Awdurdod S4C at doriadau fel y rheswm y daeth Clirlun i ben

Arwydd arall o broblemau cyllidebol yw'r arfer o greu fersiwn Saesneg ddi-angen o rai dramâu ar y cyd ag ariannwr arall, er bod nifer o actorion amlwg wedi cwestiynu hyn. 

Yn ôl Branwen Cennard yn 2021, mae’n: "Bizarre, diangen, hen ffasiwn, hen bryd i ni symud 'mlaen... Pan rydych chi'n rhoi hwnna mewn cyd-destun rhyngwladol mae'n ymddangos yn aruthrol o hen ffasiwn erbyn hyn." 

Dramâu sydd fwyaf costus i’w cynhyrchu, felly i arbed costau mae S4C wedi cydweithio â’r BBC i greu sawl drama sy’n cael eu creu yn Gymraeg ac yna yn Saesneg er mwyn eu dangos ar y BBC. Dylai fod cyllid digonol gan S4C i gomisiynu ei dramâu ei hun, yn uniaith Gymraeg.
 

Ymhellach, mae’r BBC, darlledwyr eraill a gwasanaethau tanysgrifio wedi dangos deunydd uniaith mewn ieithoedd tramor wedi ei is-deitlo yn gyson ers blynyddoedd, a ffigyrau gwylio yn dyst i boblogrwydd cyfresi fel The Killing. 

Mae S4C wedi gwerthu dramâu uniaith Gymraeg gydag is-deitlau ac wedi dangos bod modd cyrraedd cynulleidfa eang â deunydd Cymraeg wedi ei is-deitlo, felly mae’n amlwg mai diffyg arian sydd wedi arwain at ffilmio drama yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Byddai rheoleiddiwr annibynnol i Gymru hefyd yn diogelu dyfodol S4C fel darparwr darlledu cyhoeddus.
 

Wrth edrych i’r dyfodol, gallai unrhyw benderfyniad i breifateiddio Channel 4 osod cynsail ar gyfer preifateiddio darlledwyr cyhoeddus eraill. Gan y bydd cyllid S4C yn dod trwy’r ffi drwydded yn llwyr o’r flwyddyn nesaf ymlaen, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymbellhau oddi wrth S4C eisoes.

Mae darlledu cyhoeddus yn hanfodol i sicrhau bod cynnwys o bob math yn cyrraedd cynulleidfa eang, ac mae S4C ei hun wedi cyfrannu’n sylweddol at greu a datblygu sector diwydiannau creadigol cryf ers yr 80au, ac sydd wedi parhau’n gymharol gryf. 

Wrth roi tystiolaeth mewn cyfarfod o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd dywedodd Ruth McElroy o Brifysgol De Cymru i dros 90% o'r cynnwys a gomisiynwyd gan gwmnïau bach yng Nghymru yn 2020 ddod gan ddarlledwyr cyhoeddus.

Mae arferion gwylio pobl wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn parhau i newid. Mae nifer o gwmnïau a llwyfannau teledu yn cynnig gwasanaethau ar-alw ac mae setiau teledu clyfar wedi’u cysylltu â'r we ac â'n ffonau symudol.

Er y byddent yn gallu cynnig mwy o ddewis ac y byddent yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd yn haws, dydy darlledwyr sector cyhoeddus fel S4C ddim yn amlwg arnynt nac yn hygyrch i wylwyr.

Mae S4C ei hun wedi nodi bod sicrhau lle amlwg i S4C mewn canllawiau electronig sianeli yn gwneud gwahaniaeth i ffigyrau gwylio a bod rhoi rhaglenni ar iPlayer yn ogystal â Clic wedi arwain at gynnydd yn nifer y gwylwyr, gan fod defnydd mwy helaeth o iPlayer.

Yn wyneb newidiadau i lwyfannau gwylio, mae angen ehangu adrannau yn Neddf Cyfathrebu 2003 sy'n ymwneud ag amlygrwydd darlledwyr sector cyhoeddus ar lwyfannau teledu poblogaidd er mwyn iddynt gynnwys darpariaeth ar-alw yn ogystal er mwyn cyflawni eu goblygiadau.

Mae’r math o gynnwys sy’n cael ei wylio yn newid hefyd a chynnwys ar-lein yn unig yn tyfu mewn poblogrwydd, ymysg pobl ifanc yn enwedig. Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn weledol ar-lein, gan fod iaith deunydd ar-lein yn effeithio ar ddefnydd iaith yn ein cymunedau. Dylid ehangu cylch gorchwyl S4C felly i gynnwys gwasanaethu ar-lein a gwylio ar alw.

Ar hyn o bryd, ystyrir S4C fel cyfrwng teledu yn unig, does dim rheidrwydd ar y sianel i gynhyrchu cynnwys digidol i gydymffurfio â’i gylch gorchwyl. Dydy cynnwys digidol yn unig ddim chwaith yn cyfrannu at gydymffurfiaeth S4C â’i phwrpas.

Mae’n sefyll i reswm felly ei bod yn anos i’r darlledwr roi cyllid tuag at gynnwys digidol yn unig o dan y cylch gorchwyl presennol.
 

Byddai ehangu cylch gorchwyl S4C i gynnwys deunydd digidol yn ei dro yn cefnogi diwydiant ac economi greadigol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r diffyg Cymraeg ar lwyfannau ar-lein yn gweithio yn erbyn defnydd yr iaith yn ein cymunedau. Ond yn fwy na’r prinder deunydd Cymraeg ar-lein, mae'r ychydig ohono sydd ar gael yn cael ei foddi a’i golli. Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu llwyfannau newydd sy’n cyfateb â’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill a datblygu syniadau gwreiddiol ar eu cyfer.

Yng nghyd-destun twf llwyfannau ffrydio byd-eang, mae angen adnabod y corfforaethau penodol a'u nodweddion er mwyn cwestiynu pwy yn bennaf sy'n elwa o unrhyw dwf ac elw; pa mor gynaliadwy yw hyn yn y tymor hir, eu diffygion a beth sydd ddim yn cael ei ddarparu ganddynt. Ymhlith y llwyfannau mwyaf amlwg yng Nghymru mae Netflix, YouTube, ac Amazon Prime.

Mae sylwebwyr a gwleidyddion yn aml yn dyrchafu Netflix fel model ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. I'r gwrthwyneb, mae Netflix yn seiliedig ar hapchwarae buddsoddwyr cyfalafol. Fel corfforaeth Americanaidd, mae'n dewis ffafrio comisiynu a dosbarthu cynnwys Americanaidd yn Saesneg yn bennaf. Heblaw am ychydig o is-deitlau dydy'r gorfforaeth ddim wedi comisiynu'r un rhaglen na ffilm yn Gymraeg. Does dim newyddion na materion cyfoes yn rhan o'r arlwy - mae Netflix wedi dewis peidio cynnwys darpariaeth o’r fath. 

I fuddsoddwyr a chyfranddalwyr y mae cwmnïau o’r fath yn atebol, a chreu elw sy’n eu gyrru. 

Mae nifer o arbenigwyr wedi cyfeirio at gwymp tanysgrifwyr Netflix yn ddiweddar fel arwydd bod dyfodol yr arbrawf yn ansicr.

Dydy’r model ddim yn gynaliadwy ac mae’n dangos pwysigrwydd darlledwyr cyhoeddus.

Dydy YouTube, ar y llaw arall, ddim yn comisiynu llawer o’i gynnwys gwreiddiol ei hun, ac mae’n llwyr ddibynnol ar waith allanol gan y cyhoedd ac endidau eraill. Mewn achosion lle mae unrhyw fideo yn ennill nifer sylweddol o wylwyr, nid y cynhyrchwyr eu hunain sydd ar eu hennill, ond YouTube ei hun. Mae cerddorion proffesiynol yn enghraifft dda o weithwyr sy’n cael eu hecsbloetio gan YouTube.
Nid oes atebolrwydd i gynhyrchwyr na gwylwyr - mae YouTube yn atebol i Google a'i strategaeth gorfforaethol ehangach. Nifer gymharol fach o bobl, sef cyfranddalwyr Google, sy'n elwa'n ariannol o YouTube yn bennaf. Felly mae angen i gynhyrchwyr ganfod ffynonellau eraill o arian yn hytrach nag adeiladu ar 'lwyddiant' ar YouTube i fuddsoddi i gynhyrchu denuydd pellach.

Mae Amazon Prime yn rhannu rhai o nodweddion Netflix a amlinellwyd uchod, y model cyfalafol o gynhyrchu, y pwyslais Americanaidd Saesneg, y diffyg comisiynu Cymraeg, a'r diffyg atebolrwydd i wylwyr. Yn ogystal, mae Amazon fel corfforaeth yn ddrwg-enwog am ei harferion gwael megis anwybyddu hawliau gweithwyr ac osgoi trethi

Drwy fanteisio ar ddiffyg rheoleiddio, mae Amazon wedi defnyddio monopoli ar draws sawl categori o fusnes e-fasnach, i geisio sefydlu Prime.

Felly mae'r corfforaethau yma ymhell o fod yn fodelau i unrhyw wasanaeth cyhoeddus anelu at eu hefelychu.

Yn hytrach na dibynnu ar reoleiddiwr a'r farchnad gyfalafol yn unig, credwn fod angen creu Menter Ddigidol Gymraeg fyddai â'r nod o gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg, a normaleiddio a phrif-ffrydio'r Gymraeg, ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol.

Byddai’n adnabod y bylchau cynnwys, yn creu cynnwys ac yn galluogi eraill i greu cynnwys tra hefyd yn sicrhau cyrhaeddiad unrhyw ddeunydd. 

Byddai Menter Ddigidol Gymraeg hefyd yn gyfle i ail-ddychmygu defnydd o dechnoleg sydd ddim yn dibynnu’n llwyr ar hysbysebion, sydd ddim yn arwain at orddefnydd, caethiwed i'r corfforaethau, sarhad, hiliaeth, a newyddion ffug ac anghywir. Yn hytrach, byddai’r Fenter yn rhoi blaenoriaeth i dechnoleg sy'n ymateb i anghenion a dyheadau pobl a chymunedau, sy'n parchu preifatrwydd, ac sy'n arwain at greu gofodau diogel a chynhwysol.

Byddai angen buddsoddiad sylweddol i greu Menter Ddigidol Gymraeg; rydyn ni’n argymell buddsoddiad o £9 miliwn y flwyddyn yn y lle cyntaf.
Ond mater i Lywodraeth Cymru fyddai hyn, wedi i rymoedd dros ddarlledu gael eu datganoli.

Mae mwy am greu menter ddigidol Gymraeg yn ein papur trafod, Menter Ddigidol Gymraeg.
 

Mae dyfodol y ffi drwydded yn ansicr gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi codi cwestiynau am ‘werth am arian’ y ffi drwydded. Gan y bydd S4C yn cael ei hariannu yn uniongyrchol gan y BBC, sy’n ddibynnol ar y ffi drwydded, byddai unrhyw newid i’r ffi drwydded yn effeithio ar S4C. 

Nodwyd eisoes bod S4C wedi wynebu toriadau ers dros ddegawd. Mae mwy o bwysau nag erioed ar gyllideb y BBC hefyd, felly mae angen ystyried modelau cyllido newydd ar gyfer darlledu cyhoeddus mewn modd cynaliadwy. Yn sicr dydy ariannu sianel drwy sianel arall ddim yn gynaliadwy.

Yn y gorffennol, rydyn ni wedi argymell cyfuniad o bedwar posibiliad ar gyfer ariannu darlledu yng Nghymru:

1. Ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru - Fel systemau Gwlad y Basg a Chatalwnia, gallai cyfran statudol o gyllid corfforaeth ddarlledu ddatganoledig i Gymru ddod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
 

2. Datganoli’r ffi drwydded - Byddai ffi drwydded Gymreig yn gallu cyfrannu at ariannu rheoleiddiwr darlledu.
 

3. Treth ar wasanaethau rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu - Mae darparwyr rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu yn cynnig llwyfannau eang i wylio a defnyddio cynnwys cyfryngol ac yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn eu helw. 

Mae Gwlad Pwyl yn trafod gosod ardoll ar gwmni Netflix. Byddai'r arian a godir yn mynd i'r diwydiant teledu.
Byddai gosod ardoll ar drosiant neu elw’r darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a’r cwmnïau telathrebu yma yng Nghymru yn creu incwm i’w fuddsoddi mewn darlledu cyhoeddus.

Byddai model cyllido newydd yn creu posibiliadau ac yn gallu gwneud iawn am y modd y mae darlledu yng Nghymru wedi ei esgeuluso dros y blynyddoedd drwy greu system newydd uchelgeisiol dros amser. Rydyn ni wedi amlinellu model posib â thair sianel deledu a thair gorsaf radio mewn papur trafod, Yr achos dros bwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru.

Mae manylion pellach ac opsiynau eraill yn ein papur, Ariannu Darlledu Cymraeg: Treth newydd i ariannu darparwr aml-gyfryngol Cymraeg newydd

Mae arian o hysbysebu yn dod i S4C hefyd, ac yn hynny o beth mae chwaraeon yn dod â refeniw i mewn.

Mae chwaraeon yn bwysig i S4C fel darlledwr, mae’n tynnu pobl at S4C ac yn rhoi cyfle i'r sianel ddangos cynnwys arall er mwyn ceisio denu pobl i wylio rhaglenni eraill. Mae nifer o bobl na fydden nhw’n ystyried gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C fel arfer, ond o’u gweld drwy hysbysebion neu ragflas yn ystod chwaraeon mae'n bosibl y byddent yn gwylio.

Byddai colli hawliau i ddarlledu gemau rhyngwladol yn Gymraeg ar S4C yn effeithio ar y Gymraeg hefyd ac yn gam yn ôl o ran normaleiddio'r Gymraeg.

Mae tîm pêl-droed Cymru, er enghraifft, wedi gwneud peth defnydd o'r Gymraeg drwy ddiolch i'w cefnogwyr yn Gymraeg a thrwy fabwysiadu 'Yma o Hyd' yn anthem answyddogol.

Mae'n debygol bod y ffaith i gemau gael eu darlledu gyda sylwebaeth Gymraeg ar S4C wedi cyfrannu at greu amgylchedd i alluogi hynny a normaleiddio'r Gymraeg yn y gêm.

Petai chwaraeon o Gymru yn cael eu dangos ar sianeli eraill, mae'n debygol na fyddai'r un rhyddid a chwarae teg i wneud pethau o'r fath, sydd, er yn fach, wedi effeithio ar feddylfryd Cymry o bob cefndir.

Yn ogystal, mae rhoi hawliau chwaraeon i wasanaeth tanysgrifio yn rhoi mwy o rym yn nwylo cwmnïau preifat ac yn amddifadu pobl o allu gwylio chwaraeon. Mae'r enghraifft ddiweddar o  S4C yn colli llawer o gemau rygbi i Amazon Prime yn gosod cynsail peryglus.

Mae cost uchel i hawliau chwaraeon, felly mae'n anodd i'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd fod ar gael ar wasanaethau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus heb gymhorthdal. Rydym yn argymell bod y Llywodraeth yn sicrhau swm digonol dan y setliad presennol gyda’r BBC er mwyn i S4C allu cystadlu am hawliau i ddangos chwaraeon, a gallu cynnig sylwebaeth Gymraeg.

Yn sgil newidiadau sylweddol ym maes darlledu, does dim dwywaith na all y system ddarlledu yng Nghymru barhau fel y mae, mwy nag y gall system darlledu unrhyw wlad.
Mae cyfle felly i gynllunio er mwyn datblygu trefn fydd yn gwasanaethu pobl Cymru yn well ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith
Awst 2022