Mae ymateb llawn y Gymdeithas i'w weld yma [lawr-lwytho pdf]
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Rydyn ni’n cytuno gydag Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fel mae’r ymgynghoriad yn ei nodi mae angen lliniaru newid hinsawdd ac addasu i’r newidiadau i’r hinsawdd, ac mae rhan gan bob sector ei chwarae, gan gynnwys y sector amaeth. Mae’n allweddol er hynny nad yw’r pwyslais ar y sector amaeth, sydd eisoes yn rhoi mesurau ar waith i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Er mai Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n cael ei gyflwyno, yn anffodus, nid yw’n mynd i’r afael â chynaladwyedd na chryfhau y diwydiant ei hun a’n cymunedau gwledig. Mae datblygu cynaliadwy’n golygu dysgu sut i fyw o fewn terfynau adnoddau cyfyngedig y Ddaear ar yr un pryd â chadw adeiledd ein cymdeithas a’i wella. Ni ellir diystyru cynaladwyedd y diwydiant a chymunedau.
Mae adran 2 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi bod datblygu cynaliadwy yn cynnwys gwella llesiant diwylliannol y wlad:
“Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).”
Credwn fod rhai sectorau economaidd yn allweddol i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg ac sydd â’r potensial i gyfrannu tuag at greu cymunedau hyfyw i’r dyfodol.
Un o’r sectorau allweddol hynny yw amaethyddiaeth, ond mae’n un a welodd wasgfa sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r wasgfa hon wedi cyfrannu at ddiboblogi ein cymunedau gwledig a newid patrwm cymdeithas.