Ymgynghoriad Ysgol Plasdŵr
Ymateb Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith
-
Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru. Cell Caerdydd yw cangen leol y Gymdeithas yn y brifddinas.
-
Gallwn grynhoi prif bwyntiau ein hymateb i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:
-
Credwn taw ysgol benodedig Gymraeg gyda dwy ffrwd cyfrwng Cymraeg ddylai’r ysgol newydd fod ym Mhlasdŵr, nid ysgol ddwyieithog.
-
Cefnogwn y cynnig o sefydlu darpariaeth feithrin ar y safle ynghyd â’r ysgol, ond credwn taw meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn unig ddylai hon fod.
-
Cefnogwn y cynnig i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, megis clybiau brecwast a gwyliau, a chredwn taw gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ddylai’r rhain fod.
-
Credwn ymhellach y dylai pob un o’r ysgolion newydd fydd yn cael eu hagor fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, er mwyn sichrau bod pob person ifanc yn y gymuned yn tyfu lan yn siarad Cymraeg.
-
Er mwyn i Gaerdydd wneud y cyfraniad sydd ei angen tuag at y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen i’r ddinas wneud cynnydd dramatig a chyflym yng nghanran y plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, ac felly ysgol benodedig Gymraeg sydd ei hangen ym Mhlasdŵr.
-
-
Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai hwn yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu’n gyflym y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a dechrau normaleiddio addysg Gymraeg yn y ddinas. Drwy beidio defnyddio’r cyfalaf ariannol sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth hwn i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, byddai’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yn yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.
-
Mewn trydariad ym mis Medi 2018, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Nid yw’n glir i ni pam felly y gwnaeth Cabinet y Cyngor benderfynu ymgynghori ar y cynnig i sefydlu ysgol ddwyieithog, a thorri’r addewid cyhoeddus hwn gan yr arweinydd.
-
Mewn sylwadau a roddwyd i’r BBC, ceisiodd yr arweinydd gyfiawnhau’r penderfyniad trwy ddweud nad oedd y Cyngor “eisiau ehangu [addysg Gymraeg] yn rhy gyflym i ddisefydlogi rhai o'r ysgolion cynradd Cymraeg sy'n lleol i'r ysgol newydd a dyna fydd y peryg o agor dwy ffrwd uniaith Gymraeg.” Fodd bynnag, nid yw’r rhesymeg hwn yn dal dŵr.
-
Yn enwedig mewn cyd-destun lle mae poblogaeth leol yn tyfu’n aruthrol o achos datblygiad enfawr newydd, mae’r ddadl y byddai agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig yn yr achos yma yn niweidio ysgolion Cymraeg eraill yn afresymegol. Mae’r boblogaeth yn mynd i dyfu’n aruthrol, a thueddiad y rhan helaeth o bobl fydd yn byw yn yr ardal fydd anfon eu plant i'r ysgol agosaf waeth beth yw'r cyfrwng. Dyma gyfle euraidd felly i wneud addysg cyfrwng Cymraeg yn norm i'r gymuned newydd hon trwy agor ysgol benodedig Gymraeg fel yr ysgol gyntaf, a’r ysgolion eraill newydd fydd yn dilyn hefyd.
-
Nid ydym chwaith yn derbyn rhesymeg y Cyngor am sgiliau ieithyddol disgyblion yr ysgol ddwyieithog arfaethedig. Dim ond trwy sefydlu ysgol benodedig Gymraeg y bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg - nid yw ysgolion dwyieithog yn sicrhau rhuglder plant yn y Gymraeg yn yr un modd. Gyda’r cynnig hwn, byddai’r Cyngor ar yr un pryd yn amddifadu disgyblion y ffrwd cyfrwng Saesneg o ruglder yn y Gymraeg, a hefyd yn peri risg i amgylchedd ieithyddol a defnydd y Gymraeg yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg.
-
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, mae Cell Caerdydd wedi cyflwyno deiseb i’r Cyngor gyda llofnodion 876 o bobl yn cefnogi’r alwad i agor ysgol benodedig Gymraeg ddwy ffrwd, yn lle ysgol ddwyieithog. Rydym wedi cael cannoedd o sgyrsiau gyda thrigolion Caerdydd o bob cefndir cymdeithasol ac ieithyddol, a’r mwyafrif helaeth ohonynt yn gefnogol o’r alwad i agor ysgol benodedig Gymraeg. Nid yw cynnig y Cyngor yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref ac eang ymysg dinasyddion Caerdydd i weld y Gymraeg yn ffynnu, a phob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg.
-
Er mwyn cyrraedd y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, mae'n hanfodol bod cynghorau sir yn cynyddu eu darpariaeth o addysg Gymraeg nawr, ac fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd rôl allweddol i'w chwarae os ydym am gyrraedd y nod.
-
Mae dadansoddiad ystadegol a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith wedi dangos bod yn rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg, er mwyn cyfrannu at greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r dadansoddiad yn dangos faint o blant saith mlwydd oed Caerdydd ddylai fod mewn addysg Gymraeg er mwyn gwneud y cyfraniad sydd angen gan Gaerdydd at y targed:
Blwyddyn |
2025 |
2030 |
2035 |
2040 |
% plant 7 mlwydd oed mewn addysg Gymraeg |
32.8% |
43% |
56.4% |
71.8% |
-
Yn 2014, dim ond 15.1% o blant saith oed Caerdydd oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n glir felly bod agor nifer o ysgolion Cymraeg newydd, ynghyd â Chymreigio ysgolion presennol y ddinas, yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau Caerdydd i gyfrannu at y nod cenedlaethol.
-
Byddai agor ysgol benodedig Gymraeg fel ysgol gyntaf y datblygiad enfawr hwn yn hwb mawr i’r Gymraeg yn yr ardal a Chaerdydd i gyd - gan osod cynsail i agor ysgolion penodedig Cymraeg mewn datblygiadau newydd eraill a normaleiddio addysg Gymraeg ym mhob cymuned - a hynny nid yn unig yn y brifddinas ei hun, ond fel esiampl i’w dilyn gan siroedd eraill yng Nghymru sy’n gweld twf yn eu poblogaeth a datblygiadau tai newydd tebyg. Dyma gyfle i Gaerdydd arwain y ffordd.
-
Yn ein barn ni, mae achosion fel hyn yn dangos yr angen am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fyddai'n sicrhau mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r norm yn ein system addysg ledled y wlad, trwy ddisodli’r system bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda thargedau lleol a chenedlaethol statudol, di-droi’n-ôl. Nid yw'n iawn parhau â'r system bresennol sy'n amddifadu'r rhan helaeth o bobl ifanc o'u hawl i'r Gymraeg o achos penderfyniadau mympwyol cynghorau sir.
-
Credwn fod y Gymraeg yn hawl i bob plentyn yng Nghaerdydd, o ba gefndir bynnag. Mae angen i Gyngor Caerdydd ddangos uchelgais a gwireddu’r hawl hon i bob person ifanc ym mhrifddinas Cymru trwy agor ysgolion penodedig Cymraeg yn unig ym Mhlasdŵr, ac ar draws holl gymunedau’r ddinas yn ystod y blynyddoedd i ddod.
-
Gwybodaeth bellach:
-
Deg ysgol Gymraeg i Gaerdydd: papur briffio (2017) cymdeithas.cymru/10ysgolcaerdydd
-
Targedau addysg lleol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg - Dadansoddiad ystadegol interim (2017) (cymdeithas.cymru/sites/default/files/Targedau%20Addysg%20Lleol2.pdf)
-
Yr achos dros ddeddf addysg Gymraeg i bawb (2019) (cymdeithas.cymru/achosdeddfaddysg)
-
-
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn a’r materion sy’n codi ohono, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 02920 486469.
Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith
Hydref 2019