Ymgynghoriad Ysgol Plasdŵr - Ymateb Cell Caerdydd

Ymgynghoriad Ysgol Plasdŵr

Ymateb Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith

  1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru. Cell Caerdydd yw cangen leol y Gymdeithas yn y brifddinas. 

  1. Gallwn grynhoi prif bwyntiau ein hymateb i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:

    • Credwn taw ysgol benodedig Gymraeg gyda dwy ffrwd cyfrwng Cymraeg ddylai’r ysgol newydd fod ym Mhlasdŵr, nid ysgol ddwyieithog. 

    • Cefnogwn y cynnig o sefydlu darpariaeth feithrin ar y safle ynghyd â’r ysgol, ond credwn taw meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn unig ddylai hon fod.

    • Cefnogwn y cynnig i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, megis clybiau brecwast a gwyliau, a chredwn taw gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ddylai’r rhain fod. 

    • Credwn ymhellach y dylai pob un o’r ysgolion newydd fydd yn cael eu hagor fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, er mwyn sichrau bod pob person ifanc yn y gymuned yn tyfu lan yn siarad Cymraeg.

    • Er mwyn i Gaerdydd wneud y cyfraniad sydd ei angen tuag at y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen i’r ddinas wneud cynnydd dramatig a chyflym yng nghanran y plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, ac felly ysgol benodedig Gymraeg sydd ei hangen ym Mhlasdŵr.

  1. Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai hwn yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu’n gyflym y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a dechrau normaleiddio addysg Gymraeg yn y ddinas. Drwy beidio defnyddio’r cyfalaf ariannol sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth hwn i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, byddai’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yn yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.

  2. Mewn trydariad ym mis Medi 2018, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Nid yw’n glir i ni pam felly y gwnaeth Cabinet y Cyngor benderfynu ymgynghori ar y cynnig i sefydlu ysgol ddwyieithog, a thorri’r addewid cyhoeddus hwn gan yr arweinydd. 

  3. Mewn sylwadau a roddwyd i’r BBC, ceisiodd yr arweinydd gyfiawnhau’r penderfyniad trwy ddweud nad oedd y Cyngor “eisiau ehangu [addysg Gymraeg] yn rhy gyflym i ddisefydlogi rhai o'r ysgolion cynradd Cymraeg sy'n lleol i'r ysgol newydd a dyna fydd y peryg o agor dwy ffrwd uniaith Gymraeg.” Fodd bynnag, nid yw’r rhesymeg hwn yn dal dŵr.

  4. Yn enwedig mewn cyd-destun lle mae poblogaeth leol yn tyfu’n aruthrol o achos datblygiad enfawr newydd, mae’r ddadl y byddai agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig yn yr achos yma yn niweidio ysgolion Cymraeg eraill yn afresymegol. Mae’r boblogaeth yn mynd i dyfu’n aruthrol, a thueddiad y rhan helaeth o bobl fydd yn byw yn yr ardal fydd anfon eu plant i'r ysgol agosaf waeth beth yw'r cyfrwng. Dyma gyfle euraidd felly i wneud addysg cyfrwng Cymraeg yn norm i'r gymuned newydd hon trwy agor ysgol benodedig Gymraeg fel yr ysgol gyntaf, a’r ysgolion eraill newydd fydd yn dilyn hefyd. 

  5. Nid ydym chwaith yn derbyn rhesymeg y Cyngor am sgiliau ieithyddol disgyblion yr ysgol ddwyieithog arfaethedig. Dim ond trwy sefydlu ysgol benodedig Gymraeg y bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg - nid yw ysgolion dwyieithog yn sicrhau rhuglder plant yn y Gymraeg yn yr un modd. Gyda’r cynnig hwn, byddai’r Cyngor ar yr un pryd yn amddifadu disgyblion y ffrwd cyfrwng Saesneg o ruglder yn y Gymraeg, a hefyd yn peri risg i amgylchedd ieithyddol a defnydd y Gymraeg yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg.

  6. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, mae Cell Caerdydd wedi cyflwyno deiseb i’r Cyngor gyda llofnodion 876 o bobl yn cefnogi’r alwad i agor ysgol benodedig Gymraeg ddwy ffrwd, yn lle ysgol ddwyieithog. Rydym wedi cael cannoedd o sgyrsiau gyda thrigolion Caerdydd o bob cefndir cymdeithasol ac ieithyddol, a’r mwyafrif helaeth ohonynt yn gefnogol o’r alwad i agor ysgol benodedig Gymraeg. Nid yw cynnig y Cyngor yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref ac eang ymysg dinasyddion Caerdydd i weld y Gymraeg yn ffynnu, a phob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. 

  7. Er mwyn cyrraedd y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, mae'n hanfodol bod cynghorau sir yn cynyddu eu darpariaeth o addysg Gymraeg nawr, ac fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd rôl allweddol i'w chwarae os ydym am gyrraedd y nod.

  8. Mae dadansoddiad ystadegol a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith wedi dangos bod yn rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg, er mwyn cyfrannu at greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r dadansoddiad yn dangos faint o blant saith mlwydd oed Caerdydd ddylai fod mewn addysg Gymraeg er mwyn gwneud y cyfraniad sydd angen gan Gaerdydd at y targed:






Blwyddyn

2025

2030

2035

2040

% plant 7 mlwydd oed mewn addysg Gymraeg

32.8%

43%

56.4%

71.8%

  1. Yn 2014, dim ond 15.1% o blant saith oed Caerdydd oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n glir felly bod agor nifer o ysgolion Cymraeg newydd, ynghyd â Chymreigio ysgolion presennol y ddinas, yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau Caerdydd i gyfrannu at y nod cenedlaethol.

  2. Byddai agor ysgol benodedig Gymraeg fel ysgol gyntaf y datblygiad enfawr hwn yn hwb mawr i’r Gymraeg yn yr ardal a Chaerdydd i gyd - gan osod cynsail i agor ysgolion penodedig Cymraeg mewn datblygiadau newydd eraill a normaleiddio addysg Gymraeg ym mhob cymuned - a hynny nid yn unig yn y brifddinas ei hun, ond fel esiampl i’w dilyn gan siroedd eraill yng Nghymru sy’n gweld twf yn eu poblogaeth a datblygiadau tai newydd tebyg. Dyma gyfle i Gaerdydd arwain y ffordd. 

  3. Yn ein barn ni, mae achosion fel hyn yn dangos yr angen am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fyddai'n sicrhau mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r norm yn ein system addysg ledled y wlad, trwy ddisodli’r system bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda thargedau lleol a chenedlaethol statudol, di-droi’n-ôl. Nid yw'n iawn parhau â'r system bresennol sy'n amddifadu'r rhan helaeth o bobl ifanc o'u hawl i'r Gymraeg o achos penderfyniadau mympwyol cynghorau sir.

  4. Credwn fod y Gymraeg yn hawl i bob plentyn yng Nghaerdydd, o ba gefndir bynnag. Mae angen i Gyngor Caerdydd ddangos uchelgais a gwireddu’r hawl hon i bob person ifanc ym mhrifddinas Cymru trwy agor ysgolion penodedig Cymraeg yn unig ym Mhlasdŵr, ac ar draws holl gymunedau’r ddinas yn ystod y blynyddoedd i ddod. 

  5. Gwybodaeth bellach:

  1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn a’r materion sy’n codi ohono, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 02920 486469.

Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith

Hydref 2019