Ymholiad Iechyd Comisiynydd y Gymraeg

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

Diolch am y cyfle i ymateb i Ymholiad Iechyd Comisiynydd y Gymraeg ynghylch Gofal Sylfaenol drwy Gyfrwng y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn grŵp pwyso sydd wedi brwydro dros hawliau iaith pobl Cymru ers dros 50 mlynedd.

Does dim dwywaith bod angen cryfhau gwasanaethau Cymraeg. Yn sicr mae meysydd gofal sylfaenol yn gyffredinol wedi esgeuluso’u dyletswydd tuag at siaradwyr Cymraeg. Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod y sefyllfa yn gwbl annigonol, ac mai tameidiog os o gwbl yw’r ddarpariaeth yn y rhan fwyaf o Gymru. Mae nifer o enghreifftiau yn ein Llyfr Du diwethaf o’r math o broblemau sy’n bodoli yn ogystal â’r math canlynol o achosion:

“...mae fy mhlant wedi cael profion clyw gan rywun di-Gymraeg, diffyg hyder meddai hi, dydy fy mhlant ddim yn medru'r Saesneg, ro’n i'n [gorfod bod yn] gyfieithydd, doedd fy mhlant ddim yn deall y sefyllfa. Mae mab cefnder fy ngŵr wedi gweld therapydd lleferydd gan nad yw e'n medru dweud 'r', ond Saesnes oedd hi nad oedd yn medru dweud 'r'. Mae fy mam-gu mewn cartref henoed lle nad oedd neb yn medru'r Gymraeg, mae un yno nawr yn medru'r Gymraeg. Mae fy meddygfa newydd benodi person yn y dderbynfa nad yw hi'n medru'r Gymraeg, yn Llandysul! Mae'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn yn agored i niwed ac mewn sefyllfa o wendid ble mae angen cyfathrebu gyda nhw yn y modd mwyaf effeithiol, hynny yw yn eu mamiaith. Nid ydynt ychwaith mewn sefyllfa y maen nhw'n gallu cwyno.” Heledd ach Gwyndaf

“Rwy’n methu derbyn dim byd fel gwasanaeth Cymraeg yn fy meddygfa leol, does neb ar y dderbynfa yn siarad Cymraeg, mae bron pob un arwydd yn uniaith Saesneg, a does dim nyrs yn medru’r iaith chwaith.”  Di-enw, Caerdydd

Malan Wilkinson: Nid oedd unrhyw seicolegwyr cyfrwng Cymraeg ar gael iddi, tra roedd hi mewn ysbyty meddwl.

Claf di-enw, Meddygfa Padarn, Aberystwyth: Peiriant cofrestru yn yr adeilad newydd yn Saesneg yn unig.”

Aled Mann a Alys Mann: "Methu credu bod fferyllfa Morrisons Bangor wedi gwrthod derbyn presgripsiwn fy mab Harley i drin ei chest infection, am ei fod yn Gymraeg. Gwarth a ninnau yn byw yng Nghymru."

1. Pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r camau sy’n cael eu dilyn er mwyn sicrhau gwasanaethau gofal sylfaenol yn y Gymraeg.

Mae pobl yn amharod i gwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yn y meysydd hyn yn arbennig, a hynny oherwydd bod pobl sy’n dod i gysylltiad â’r gwasanaethau hyn yn aml yn fregus ac yn dibynnu ar y darparwr gwasanaeth mewn rhyw ffordd. Oherwydd hir arfer â diffyg gwasanaethau yn Gymraeg a diffyg statws hanesyddol yr iaith, mae disgwyliadau pobl hefyd yn isel iawn. Yn aml nid yw pobl yn sylweddoli bod hawl ganddynt - neu y dylai fod hawl ganddynt - i gael gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain, ac felly maen nhw’n derbyn sefyllfa sy’n eu rhoi o dan anfantais wrth dderbyn gwasanaethau gofal.

Mae’n hanfodol felly bod gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bawb sy’n dod i gysylltiad â’r gwasanaethau hyn. Mae angen cydnabyddiaeth mai mater o angen yn hytrach na dim ond dewis yw darparu gwasanaethau Cymraeg i lawer o bobl yng nghyd-destun gofal sylfaenol. Mae iaith yn elfen allweddol o ofal, ac mae iaith gofal hefyd yn angen gofal.

Rydym am weld hawl gan bobl Cymru i ofal drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o hawliau ieithyddol sylfaenol pobl Cymru. Credwn y dylid cynnwys yr hawliau hynny yn y safonau iaith newydd a fydd yn cael eu gosod ar y gwasanaethau iechyd yn ystod y misoedd nesaf fel rhan o weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Nid oes modd rhoi cyfrifoldeb ar ddefnyddwyr a’u teuluoedd i ofyn am wasanaethau Cymraeg, mae’n rhaid i’r ‘cynnig’ fod yn un rhagweithiol. Mae’n rhaid cynnwys y cwestiwn agoriadol ‘Hoffech chi derbyn y gwasanaeth hwn (i) drwy gyfrwng y Gymraeg (ii) yn ddwyieithog neu (iii) yn Saesneg?’ ar bob ffurflen/proses ymrestru gychwynnol. (Cynhwysir y gair ‘dwyieithog’ yn fan hyn gan fod tystiolaeth yn dangos, mewn perthynas â lefelau hyder isel rhai siaradwyr/dysgwyr Cymraeg, bod angen i ddefnyddwyr wybod bod croeso iddynt newid o un iaith i’r llall fel yr ydynt yn dymuno).

Mae’n rhaid i sefydliadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg a’i gwneud yn amlwg bod y gwasanaeth hwnnw ar gael. Fodd bynnag, mae’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig ym maes gofal cychwynnol ac yn rhoi arweiniad blaengar a digyfaddawd i’r cyrff perthnasol.

Byddai pwyslais ar wasanaethau rheng flaen yn ddigon naturiol. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall bod popeth yn gyd-gysylltiedig. Bydd sicrhau gwasanaethau rheng flaen digonol yn ddibynnol ar statws a defnydd y Gymraeg fel iaith y gwasanaethau gofal sylfaenol yn eu cyfanrwydd. Mae’r sefyllfa bresennol, lle mae holl weithredu mewnol y gwasanaethau hyn yn digwydd yn Saesneg fel mater o drefn, yn golygu mai Saesneg yw’r iaith ‘arferol’, a bod unrhyw ymgais i ddefnyddio’r Gymraeg yn mynd i fod yn ymdrech ac yn eithriad o’r drefn bresennol. Problem gysylltiedig, er enghraifft, yw bod systemau technoleg gwybodaeth yn uniaith Saesneg ar hyn o bryd ac mai dim ond yn Saesneg y caiff gwybodaeth am gleifion/cleientiaid ei chofnodi. Mae angen datrys materion fel hyn yn ogystal â gwasanaethau amlwg rheng flaen, oherwydd fel arall mae’r holl drefn fewnol yn milwrio yn erbyn defnyddio’r Gymraeg.

Mae Strategaeth “Mwy na Geiriau” gosod amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, ond er mwyn gwireddu’r amcanion hyn mewn gwirionedd, mae angen chwyldroi’r holl drefn a buddsoddi’n sylweddol er mwyn symud, gam wrth gam, tuag at droi’r gwasanaethau gofal sylfaenol yn rhai a fydd yn gweithredu drwyddynt yn ddwyieithog a drwy gyfrwng y Gymraeg.

2. Digonolrwydd a gweithrediad deddfwriaeth, polisïau, safonau a chodau ymarfer perthnasol i ofal sylfaenol yng nghyd-destun y Gymraeg a darpariaeth gofal sylfaenol yng Nghymru.                        

Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod mwyafrif y darparwyr gofal sylfaenol ledled Cymru yn gweithredu fel pe na bai unrhyw orfodaeth na chanllawiau sy’n eu cymell i weithredu gydag ystyriaeth i anghenion iaith siaradwyr Cymraeg. Fel y nodwyd yn rhai o’r sylwadau sydd wedi eu dyfynnu, yn aml iawn nid oes staff dwyieithog yn cael eu penodi, ac nid yw arwyddion sylfaenol yn ddwyieithog hyd yn oed. Nid yw cyfundrefn Deddf Iaith 1993 wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth Cymraeg derbyniol i bobl yn y gwasanaeth iechyd.

3. Ffactorau sydd yn ganolog i ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol yn y Gymraeg, er enghraifft, cyflunio gwasanaethau; y gweithlu; addysg a hyfforddiant; comisiynu; rheoleiddio; ymchwil; technoleg; arweinyddiaeth; diogelwch cleifion; urddas a pharch.

(i) Gweithlu/capasiti

Mae angen polisi recriwtio blaengar i sicrhau gwasanaeth cyflawn Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd, a chredwn y dylai’r gwasanaeth iechyd edrych ar Heddlu Gogledd Cymru fel enghraifft o’r math o bolisi sydd angen i sicrhau gwelliant. Os yw’r Gymraeg yn rhan hanfodol o bob elfen o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bydd rhaid i’r Gymraeg fod yn sgil addysgol hanfodol i bob un o’r gweithwyr ynddi.  Mae hynny’n golygu bod angen ei gwneud yn hanfodol i bob aelod o staff fedru rhywfaint o Gymraeg, gan adeiladu ar hynny dros y blynyddoedd fel bod staff yn dod yn gynyddol rugl er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Mae nifer gynyddol o gyrff cyhoeddus yn mabwysiadu polisïau o’r fath, ac mae’n angen i hynny ddigwydd ym maes gofal sylfaenol yn fwy nag unrhyw faes arall.

(ii) Comisiynu gwasanaethau

Mae’r sector breifat i’w gweld yn gynyddol ym maes gofal, ac un o’r problemau gyda hynny yw diffyg ewyllys a gallu cwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Enghraifft o hyn yw’r stori ddiweddar a fu yn y wasg am fferyllfa Morrisons yn y gogledd y byddwch yn ymwybodol ohoni. I gwmniau preifat elw ariannol yw’r flaenoriaeth. Pan fydd darparwyr sector preifat yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol felly mae’n rhaid sicrhau bod amodau mewn cytundebau neu dendrau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn.

4. Y berthynas rhwng ansawdd gofal a defnyddio’r Gymraeg

Credwn fod gwasanaethau Cymraeg yn y maes hwn yn hawl sylfaenol i bawb sy’n byw yng Nghymru. Wedi dweud hynny, o gydnabod pa mor bell yw’r gwasanaeth presennol o’r sefyllfa honno, rydym hefyd o’r farn bod angen blaenoriaethu rhai grwpiau a sicrhau fod gwasanaethau ar gael yn Gymraeg ar fyrder i’r grwpiau canlynol: plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, a phobl ag anhwylderau iechyd meddwl. Mae’r grŵpiau hyn o bobl yn arbennig o fregus ac felly mae’n arbennig o bwysig bod gwasanaethau Cymraeg cyflawn yn cael ei ddarparu i’r bobl hyn ar y cyfle cyntaf posibl.

Wedi dweud hynny, gall unrhyw un ddioddef o afiechyd a fydd yn eu gwneud yn arbennig o fregus - er enghraifft strôc, clefyd Alzheimer - ac rydym i gyd yn eithaf bregus wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal. Rhaid gofalu felly bod gwasanaethau cyflawn drwy’r Gymraeg yn flaenoriaeth i’r gwasanaethau hyn ar gyfer pob grŵp o’r boblogaeth, ac mae’n hanfodol sicrhau nad yw canolbwyntio ar rai carfanau yn golygu colli golwg ar bobl eraill, oherwydd fel nodwyd, mae pawb yng Nghymru â hawl i wasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg, ac mae’n bryd gweithredu gyda’r egwyddor honno mewn golwg.

Ni ellir gorbwysleisio mor annigonol yw’r sefyllfa ar hyn o bryd: yn y rhan fwyaf o Gymru, nid oes fawr ddim darpariaeth yn Gymraeg fel mater o drefn ym maes gofal sylfaenol; damwain a hap yw unrhyw ddarpariaeth sydd ar gael. Mae maint y dasg o fynd i’r afael â’r sefyllfa, felly, yn enfawr, ac angen buddsoddiad amser ac arian i newid holl ethos y gwasanaethau dan sylw. Rydym yn clywed yn ddyddiol am yr anhawsterau sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg yng ngwasanaeth iechyd Cymru.

Un o’r elfennau pwysicaf oll yw cynyddu capasiti adnoddau dynol digonol i gynnig darpariaeth ddwyieithog. Bydd angen i Safonau Mesur y Gymraeg ei gwneud yn ofynnol gosod targedau o fewn amserlen bendant yn y gwasanaeth iechyd er mwyn adeiladu gweithluoedd iechyd a gofal sydd â chapasiti digonol, a hynny drwy hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle, recriwtio bwriadus a chynllunio strategol, gan adeiladu ar hynny’n barhaus.

5. Newidiadau arfaethedig wrth ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg

(i) Y sefyllfa bresennol a’r newid sydd ei angen

Mae Strategaeth “Mwy na Geiriau” Llywodraeth Cymru yn cynnig dadansoddiad teg o’r sefyllfa bresennol, sefyllfa sy’n gwbl annigonol, ac yn cyflwyno tystiolaeth helaeth dros yr angen am newidiadau sylfaenol yn y maes. Mae’r Strategaeth fwy neu lai yn gydnabyddiaeth gan y Llywodraeth o fethiant strategol o ran y Gymraeg mewn iechyd a gofal ers 1999, ac mae’n amlygu bylchau dybryd. Mae’r paragraff yma, er enghraifft, yn syml ond yn ddadlennol tu hwnt:

“Yn gyffredinol Saesneg yw’r norm wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a dim ond drwy hap a damwain y mae defnyddwyr yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain”

Rhaid canmol gonestrwydd y Llywodraeth yn hyn o beth, a does dim dwywaith na fydd darllen Strategaeth Llywodraeth Cymru “Mwy na Geiriau” yn fuddiol i rai nad ydynt yn deall yr anawsterau sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg mewn iechyd, gofal a gwasanaethau, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaethau hynny o ran unioni’r sefyllfa. Fel strategaeth gan y Llywodraeth, mae hynny ynddo’i hun yn rhywbeth i’w groesawu, ac mae dadansoddiad o’r gwendidau presennol yn fan cychwyn da er mwyn creu newid. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod yr hyn sy’n dilyn hynny yn asesiad realistig o faint y dasg o fynd i’r afael â’r gwendidau, a bod adnoddau digonol yn cael eu neilltuo i’r gwaith. Yr unig gasgliad y gellir dod iddo ar sail y dystiolaeth bresennol yw bod angen gweithredu radical iawn er mwyn dod â gwasanaethau iechyd a gofal i sefyllfa dderbyniol o safbwynt y Gymraeg. Nid oes tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd sy’n agos at fod yn radical ers cyhoeddi Mwy na Geiriau -- i’r gwrthwyneb, mae’n ymddangos nad oes dim symud wedi bod ar unrhyw fater o bwys.

(ii) Prif ffrydio

Er mwyn i siaradwyr Cymraeg gael chwarae teg yn y meysydd hyn, mae angen i ddarparwyr gwasanaeth fod yn gwbl eglur ynghylch yr hyn sy’n ofynnol ganddynt. Unwaith eto mae strategaeth Mwy na Geiriau yn amlygu diffyg prif ffrydio ar hyn o bryd:

“Er bod enghreifftiau o ddulliau systematig o brif-ffrydio gwasanaethau Cymraeg fel rhan o gynllunio a darparu gwasanaethau, nid yw hyn yn norm ar draws Cymru. Ceir hefyd lefelau gwahanol o ddealltwriaeth ymysg y gweithlu ynglŷn â phwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel un o hanfodion gofal. Arwain hyn at ddiffyg cysondeb yn agweddau’r gweithlu tuag at y Gymraeg, ynghyd ag anghysondeb yn narpariaeth gwasanaethau.”

Mae hyn yn amlygu’r angen am arweiniad oddi uchod. Daw hyn â ni yn ôl at gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, sef yr unig gorff a all gynnig arweiniad polisi cadarn Cymru gyfan ar y materion hyn, fel nad oes cwestiwn o ddiffyg dealltwriaeth am bwysigrwydd y Gymraeg ym maes gofal sylfaenol. Credwn y bydd angen i’r safonau iaith newydd creu hawliau clir i bobl Cymru dderbyn holl wasanaethau iechyd a ddarperir yn y wlad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nodwyd yn barod bod angen i sefydliadau ddilyn diffiniad Llywodraeth Cymru o brif ffrydio’r Gymraeg. Awgrymwn fod llawer o waith gan y Llywodraeth ei hun i’w wneud yn hynny o beth. Mae Mesur Iechyd Meddwl 2010 yn enghraifft o ddeddfwriaeth berthnasol y dylai’r Gymraeg fod wedi bod yn rhan ohono heb os nac oni bai. Mae’n amlygu’r angen i edrych yn fanwl ar brif ffrydio’r Gymraeg ym mholisi’r Llywodraeth yn gyffredinol, ac ym meysydd iechyd a gofal yn benodol.

(iii) Cynnig rhagweithiol

Mae symud tuag at gynnig rhagweithiol yn gam hanfodol bwysig. Mae’n golygu y bydd defnyddwyr yn cael cynnig defnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg (neu’r ddwy iaith) wrth ddechrau defnyddio’r gwasanaeth, yn hytrach na bod tybiaeth dros ddefnyddio’r Saesneg a bod rhaid i ddefnyddiwr ofyn am wasanaeth Cymraeg; dylai’r dewis hwnnw wedyn gael ei barchu drwy gydol y gwasanaeth. Gall pawb wneud y cynnig hwnnw wrth gwrs, p’un a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio.

(iv) Addysg

Mae’n bwysig ystyried ble yn y gyfundrefn addysg i ganolbwyntio. Mae angen canolbwyntio yn arbennig ar hyfforddiant penodol mae gweithwyr gofal sylfaenol yn ei gael. Credwn ei bod yn bwysig yn hynny o beth i sgiliau dwyieithog cael eu meithrin a’u cydnabod fel rhan o gymwysterau proffesiynol gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd.

Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Ionawr 2014