Croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno fframwaith y Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith y Gymraeg i gyd-fynd â Bil y Cwricwlwm ond yn galw am wneud y fframwaith hwnnw yn statudol yng Nghyfnod 4 y Bil, sy’n digwydd heddiw (Dydd Mawrth, 9 Mawrth). 

Fe ymrwymodd y Llywodraeth i gyflwyno fframwaith o’r fath yn ystod Cyfnod 3 Bil y Cwricwlwm ddydd Mawrth diwethaf, gyda’r Gweinidog Addysg yn dweud: “Rwy’n hapus i ddatgan eto heddiw y byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu fframwaith o’r fath i gefnogi gwelliant addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng-Saesneg.” 

Roedd y Gweinidog eisoes wedi awgrymu y byddai cyflwyno fframwaith o’r fath yn opsiwn ond erbyn hyn mae “ymrwymiad clir” i wneud hyn. Daeth sylwadau’r Gweinidog yn dilyn llythyr a anfonwyd gan chwe mudiad iaith - Cymdeithas yr Iaith, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg a Dyfodol i’r Iaith - at y Gweinidog Addysg ar 26 Chwefror. Dywed y llythyr:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg Ail Iaith ers 2015. Bydd y continwwm yn sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu a’r addysgu ar draws y cwricwlwm ac yn arbennig wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd.

“Mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn gam pwysig tuag at sefydlu continwwm dysgu Cymraeg. Rydym yn siomedig gyda’r penderfyniad i wrthod y gwelliant i'r Bil fyddai wedi sicrhau Cod Addysgu’r Gymraeg ar un Continwwm. Fodd bynnag croesawn eich awgrym i lunio Fframwaith Iaith Gymraeg statudol a fyddai’n rhoi arweiniad clir a chanllawiau pellach ar weithredu’r continwwm.

“...Tybiwn fod angen cyfeirio at y Fframwaith ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau statws statudol, ac er mwyn rhoi arwydd clir i’r sector addysg a gynhelir a nas gynhelir ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau y gweithredir y continwwm yn effeithiol.”

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:

“Ry’n ni’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflwyno fframwaith iaith, gan y bydd cyflwyno fframwaith o’r fath yn gwbl angenrheidiol os ydyn ni am wireddu un continwwm addysg Gymraeg i bawb. Bydd Cymdeithas yr Iaith a’r mudiadau iaith eraill yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Gweinidog Addysg i ddatblygu fframwaith o’r fath.

“Mae’n bwysig fod y fframwaith yn glir ac yn gryf - yr unig ffordd o sicrhau hyn yw drwy ei wneud yn statudol ar wyneb y Bil. Dyma gyfle euraidd i roi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru allu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg, ac mae’n hollbwysig fod y Llywodraeth felly’n mynd ati yn y ffordd gywir er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon; os na fydd y fframwaith yn cael ei wneud yn statudol ar wyneb y Bil yna byddwn yn colli’r cyfle hwn ac yn gwneud cam â phlant Cymru. Felly mae angen i’r Llywodraeth heddiw, os ydynt o ddifrif ynghylch cyflwyno fframwaith, roi eu cynllun ar bapur ac mewn statud.”

Ychwanegodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC: 

“Wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, mi fydd yn hanfodol bod disgwyliadau clir yn cael eu gosod nid yn unig o ran y cynnydd y disgwylir i ddisgyblion ei wneud yn y Gymraeg - cynnydd yr un mor gadarn ac uchelgeisiol ag mewn pynciau eraill - ond, yn ogystal, y cynnydd y disgwylir i ysgolion ei wneud ar hyd continwwm iaith, a pha gefnogaeth fydd ar gael iddynt wneud hynny. Mae’n glir i ni mai Fframwaith Iaith Gymraeg statudol yw’r ffordd orau o wneud hynny.”

AtodiadMaint
2021-02 Llythyr mudiadau at y Gweinidog - terfynol (pdf).pdf152.18 KB