Dogfennau a Erthyglau

Ymateb McDonalds

Staff Cymraeg:

    Mae McDonalds yn cyflogi 4,000 o weithwyr yng Nghymru.

    Maeír canran oír staff syín siarad Cymraeg, i bob pwrpas, yn newid gyda chanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

    Mae McDonalds Caernarfon yn cyflogi 47 o
    weithwyr ñ mae 40 ohonynt yn Gymry Cymraeg.

Arwyddion Dwyieithog:

Strong Language: Does Wales need a new Welsh language act – and is direct protest the only way of getting it?

Tudalen 9 – 10: Chwefror 27 – Mawrth 5ed 2006

Mae'r erthygl hon ar gael fel ffeil PDF (260kb).

Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd Cynllunio'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi bod yn cyfarfod yn gyson er mwyn cynorthwyo a bwydo syniadau i gadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Robin Williams, a fydd dros yr wythnosau nesaf yn paratoi adroddiad ac yn ei gyflwyno i Jane Hutt erbyn yr haf.

Ar raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith. Yn ei farn ef mae'r Gorchymyn wedi cael ei wella yn ystod y broses ac nad oedd e'n awyddus i weld 'burden of regulation' ar fusnesau preifat ac mae'n credu fod busnesau wedi gwneud cymaint eisoes drwy ewyllys da.

Bil Cynllunio - cyfle i greu cymunedau cynaliadwy

Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Darlith a draddodwyd yn fyw ar y we gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y Gell, Blaenau Ffestiniog ar Ionawr 15fed 2011, bron i hanner can mlynedd ar ôl darlledu darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis ar y radio. Y nod oedd rhannu gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar sut i sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy.

Amlinelliad bras o araith Menna Machreth

Deg mlynedd ar hugain yn ôl, llwyddodd cannoedd o bobl, os nad miloedd, i ennill ymgyrch er mwyn i ni allu gweld a chlywed y Gymraeg ar y teledu. Fe wnaeth llawer ohonyn nhw aberthu llawer; achosion llys, carchar (buodd un dyn yn y carchar am dair mlynedd.) A'r cyfan er mwyn cael sianel Gymraeg annibynnol. Y cyfan er mwyn i wylwyr Cymru allu gael gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar y cyfryngau. Ac yn y diwedd, fe drechon nhw'r Llywodraeth Doriaidd.

Siom oedd bod yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ddiweddar a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith yng Nghaerfyrddin. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, fe heriwyd panel o siaradwyr - a oedd yn cynnwys aelodau amlwg o'r Bwrdd, ynghyd a'i Brif Weithredwr newydd, Meirion Prys Jones - i egluro pam nad oeddent yn gweld yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Yn anffodus roedd eu hatebion yn boenus o ystradebol.