Lambastio “Nu-kip”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lambastio grŵp o dri Aelod Senedd sydd yn arwain dadl Ddydd Mercher nesaf (3/3/21) ar gefnogi ysgolion pentrefol. Bydd Caroline Jones AS ar ran "Grŵp Annibynnol dros Ddiwygio" (sef cyn-aelodau UKIP a Phlaid Brexit) yn agor y ddadl yn siambr y Senedd.

Mewn ymateb, dywed Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Polisiau adain-dde, yn ffafrio cyfoethogion ar y farchnad agored, sydd wedi tanseilio ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol a dyma'r brif berygl i gynladwyedd yr ysgolion, ac felly mae'n eironig eu bod nhw'n datgan cefnogaeth yn awr, a bydd cefnogaeth ganddyn nhw'n gelyniaethu llawer o rai eraill. Fe eglurodd y Gweinidog Addysg llynedd nad oes raid cau unrhyw ysgol er mwyn denu cyllid i ddatblygu ysgol arall, ac y gellir defnyddio'r gyllid o Gronfa Ysgolion yr 21ain ganrif at ddiben adeiladu ysgolion newydd, adeiladau newydd, neu uwchraddio adeiladau presennol. Mae angen cadw at, a gweithredu, y polisi hwn - yn Ynys Môn, Gwynedd a Sir Gâr. Dylen ni anwybyddu pleidiau fel y Plaid Brexit, UKIP a Nu-kip gan nad oes ganddyn nhw fuddiannau pobl a chymunedau Cymru mewn golwg.”