Lansio cynllun i ddiogelu enwau tai Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith heddiw (22 Chwefror) yn lansio DIOGELWN, sef cynllun  newydd i warchod enwau tai Cymraeg. 

 

Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi cyhoeddi dogfennau cyfreithiol y mae modd eu lawrlwytho a’u defnyddio gan unrhyw berson yng Nghymru sydd eisiau diogelu enw Cymraeg eu cartref, boed nhw’n bwriadu gwerthu eu tŷ neu beidio.

 

Dywedodd ein cadeirydd cenedlaethol, Mabli Siriol:

 

“Bwriad y cynllun cyffrous hwn yw diogelu enwau Cymraeg ar dai er mwyn cenedlaethau’r dyfodol. Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ ag enw Cymraeg. Mae enwau tai Cymraeg yn aml yn ystyrlon, gyda llawer ohonyn nhw’n cynnwys cyfeiriad at ddaearyddiaeth leol yr ardal, neu at ddarn o hanes sy’n bwysig i’r teuluoedd sy’n byw ynddynt; maen nhw’n agwedd bwysig o wead diwylliannol Cymru a’r Gymraeg.

 

“Mae wastad yn anffodus felly pan fo’r enwau hyn yn cael eu cyfnewid am enwau Saesneg sy’n aml yn gwbl ddiystyr. Dylid gwarchod enwau tai a lleoedd eraill Cymraeg yn statudol a byddwn yn parhau i ymgyrchu dros hyn, ond yn y cyfamser, gobeithiwn yn fawr y bydd cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiogelu enwau Cymraeg eu cartrefi trwy ymuno â’r cynllun.”

 

Trwy ddefnyddio dogfennaeth gyfreithiol Diogelwn, gall y sawl sydd ar fin gwerthu ofyn i'w cyfreithiwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol. A gall y sawl nad ydynt yn bwriadu gwerthu ddiogelu’r enw trwy lofnodi a chofrestru cytundeb (gyda chymorth eu cyfreithiwr) er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eu hewyllys a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol. Gellir defnyddio’r dogfennau cyfreithiol o'n gwefan fel templed i’w defnyddio ar gyfer y dibenion hyn. 

Dywedodd Siân Northey, sydd yn y broses o werthy ei thŷ a’r person cyntaf fydd yn cymryd rhan yn y cynllun: 

“Dwi’n falch iawn o allu cymryd rhan yn y cynllun hwn. Mae’n gynllun digon syml i ddiogelu enwau tai Cymraeg ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth i fwy a mwy o bobl gymryd rhan er mwyn diogelu’n hetifeddiaeth ieithyddol. Adeiladwyd fy nghartref yn yr 17eg ganrif ac mae enw Cymraeg wedi bod arno erioed - byddai’n torri ’nghalon pe byddai enw Cymraeg gyda chymaint o hanes yn cael ei ddileu yn gwbl fympwyol ac enw Saesneg yn cael ei roi yn ei le. Gobeithiaf y bydd llwyddiant y cynllun yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn diogelu enwau tai a lleoedd Cymraeg ar draws y wlad.”