Cynllun i warchod enwau Cymraeg ar dai
Cynllun newydd yw DIOGELWN, sy’n bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a phobl Cymru.
Rydym yn gweld enwau Cymraeg ar dai fel eiddo cymunedol ac fel rhan annatod o gyd-dreftadaeth y Cymry y dylid eu diogelu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ ag enw Cymraeg (hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd):
- Os ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ: gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu a'r trosglwyddiad er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ yn y dyfodol.
- Os nad ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ ar hyn o bryd: gallwch lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith â chymorth eich cyfreithiwr/trawsgludwr, a gofyn iddo/iddi gwblhau'r cytundeb hwnnw a'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eich Ewyllys chi a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ yn y dyfodol.
Mae’n cyfreithwyr ni wedi paratoi cymal a dogfen y mae croeso i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr eu defnyddio:
-
Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau): i’w ddefnyddio os ydych yn gwerthu tŷ a leolir yng Nghymru.
-
Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi): i’w defnyddio os ydych yn berchen ar dŷ a leolir yng Nghymru ac yn awyddus i lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith ynghylch y tŷ hwnnw.
Gofynnwn i chi ddarllen y Telerau Defnyddio hefyd.
Mae fersiwn Saesneg o'r dudalen hon yma.