Cynllun i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir
Cynllun newydd yw DIOGELWN sy'n bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a phobl Cymru.
Rydym yn gweld enwau Cymraeg ar dai a thir fel eiddo cymunedol ac fel rhan annatod o gyd-dreftadaeth y Cymry y dylid eu diogelu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ neu dir ag enw Cymraeg (hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd):
-
Os ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir: gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu a'r trosglwyddiad er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.
-
Os nad ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir ar hyn o bryd: gallwch lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith â chymorth eich cyfreithiwr/trawsgludwr, a gofyn iddo/iddi gwblhau'r cytundeb hwnnw a'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eich Ewyllys chi a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.
Mae’n cyfreithwyr ni wedi paratoi cymalau a dogfennau y mae croeso i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr eu defnyddio:
-
Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir): i’w ddefnyddio os ydych yn gwerthu tŷ (naill ai gyda thir neu heb dir) a leolir yng Nghymru.
-
Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir): i’w defnyddio os ydych yn berchen ar dŷ (naill ai gyda thir neu heb dir) a leolir yng Nghymru ac yn awyddus i lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith ynghylch y tŷ hwnnw.
-
Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno): i’w ddefnyddio os ydych yn gwerthu darn o dir (na fu adeiladu arno) a leolir yng Nghymru.
-
Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno): i’w defnyddio os ydych yn berchen ar ddarn o dir (na fu adeiladu arno) a leolir yng Nghymru ac yn awyddus i lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith ynghylch y darn o dir hwnnw.
Gofynnwn i chi ddarllen y Telerau Defnyddio hefyd.
Gweler y Nodiadau ar gyfer Cyfreithwyr a Thrawsgludwyr.
Mae fersiwn Saesneg o'r dudalen hon yma (English version of the page here).