Diogelwn

Cynllun i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir

Cynllun newydd yw DIOGELWN sy'n bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a phobl Cymru.

Rydym yn gweld enwau Cymraeg ar dai a thir fel eiddo cymunedol ac fel rhan annatod o gyd-dreftadaeth y Cymry y dylid eu diogelu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ neu dir ag enw Cymraeg (hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd):

  1. Os ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir: gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu a'r trosglwyddiad er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.

  2. Os nad ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir ar hyn o bryd: gallwch lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith â chymorth eich cyfreithiwr/trawsgludwr, a gofyn iddo/iddi gwblhau'r cytundeb hwnnw a'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eich Ewyllys chi a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.

Mae’n cyfreithwyr ni wedi paratoi cymalau a dogfennau y mae croeso i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr eu defnyddio:

Gofynnwn i chi ddarllen y Telerau Defnyddio hefyd.

Gweler y Nodiadau ar gyfer Cyfreithwyr a Thrawsgludwyr.

Mae fersiwn Saesneg o'r dudalen hon yma (English version of the page here).

Cynllun i annog pobl yng Nghymru sy'n bwriadu gwerthu tŷ/tir ag enw Cymraeg i gymryd camau cyfreithiol i ddiogelu'r enw hwnnw
Cynllun i annog pobl yng Nghymru sy'n berchen ar dŷ/tir ag enw Cymraeg ond nad yw'n bwriadu'i werthu eto i gymryd camau i ddiogelu'r enw ar gyfer y dyfodol