Mewn rali yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 17eg Medi bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed wrth weithredu ei addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymuned eu hunain.
Esboniodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali:
"Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali yn Llangefni Ynys Môn i lansio cam nesaf ymgyrch Nid yw Cymru ar werth. Ein bwriad yw annog awdurdodau lleol fel Ynys Môn, Gwynedd, Conwy i ddefnyddio'r grymoedd newydd y mae Llywodraeth Cymru am gynnig iddynt reoli ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn.
"Rydyn ni wrth gwrs yn falch o weld y bydd Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghori ar godi premiwm o 300% ar ail dai wythnos nesa, gan mai yng Ngwynedd mae'r nifer o uchaf o ail dai yng Nghymru. Gobeithio y bydd cynghorau eraill ar draws Cymru yn gwneud yr un peth. Ond bydd mesurau eraill ar gael i awdurdodau lleol o fis Ebrill felly dylai'r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau hefyd."
Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghori ar godi treth ychwanegol ar ail dai a thai gweigion ddydd Mawrth 13 Medi.
Ond o fis Ebrill 2023 bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd (prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr), ac awdurdodau yn gallu mynnu caniatâd cynllunio i newid defnydd o un dosbarth i'r llall, lle mae tystiolaeth bod angen hynny.
Yn ogystal bydd modd i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a'r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
Ychwanegodd Osian Jones:
"Deallwn fod Llywodraeth Cymru'n llusgo eu traed ac nad oes unrhyw ganllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni'r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol eto. Bydd dosbarthu eiddo i gategorïau fel bod modd gweithredu'r cynnig pwysig o fynnu caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd yn waith sylweddol; fel y bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth am yr angen am ganiatâd cynllunio.
"Gallai'r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau, felly mae angen iddyn nhw fod ar gael i'w defnyddio yn syth a byddwn ni yn galw yn y rali ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys fel nad yw pobl yn gweld y cynigion yn addewidion gwag.
"Rydyn yn falch o gyhoeddi felly y bydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, yn siarad yn y rali a fydd yn cychwyn wrth swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni, ac yn diweddu yno wedi gorymdaith trwy'r dref. Fe gawn ni weld a ddaw unrhyw newyddion pellach gan y Llywodraeth erbyn hynny."
Hefyd yn annerch y rali yn Llangefni fydd y cynghorwyr sir Arfon Wyn (Ynys Môn) ac Aaron Wynne (Conwy); yr ymgyrchydd Angharad Tomos o Wynedd a'r digrifwr Tudur Owen sy'n enedigol o Ynys Môn.
Bydd y Gymdeithas yn pwyso ar awdurdodau lleol i alw ar y Llywodraeth am Ddeddf Eiddo gyflawn hefyd, gan nad yw problemau tai yn cael eu hachosi gan ail gartrefi a llety gwyliau yn unig.