Mae ymgyrchwyr iaith yng Ngheredigion wedi rhybuddio y byddai torri rhagor o swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ‘ergyd i’r Gymraeg’ yn y sir.
Ers dros ddegawd, gwnaed toriadau mewn termau real i grant y Llyfrgell Genedlaethol a leolir yn Aberystwyth. Y llynedd, argymhellodd adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, bod angen cynnydd i grant y Llyfrgell er mwyn cynnal eu gwasanaethau a swyddi.
Mewn llythyr at y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Dafydd Elis-Thomas AS, ysgrifennodd Tamsin Davies ar ran rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
“… mae’n anodd peidio â dehongli eich ymosodiadau, beirniadaeth ac esgeulustod o anghenion ein Llyfrgell Genedlaethol yn ddim llai na phenderfyniadau bwriadol i’w danseilio. Mae’n ddrwg gennym adrodd felly ein bod wedi colli hyder ynoch fel Gweinidog i wneud yr hyn sy’n iawn i’n treftadaeth, ein hiaith a’n cymunedau. Yn anffodus, eich gwaddol fel Gweinidog fydd diwylliant a threftadaeth dlotach."
“Erfyniwn arnoch i ail-ystyried eich ymosodiadau bwriadus, ac, yn lle, i gynyddu’r grant i’r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn sicrhau bod swyddi a gwasanaethau yn cael eu hamddiffyn er lles treftadaeth a diwylliannau Cymru.
Ychwanegodd Tamsin Davies:
“Mae’r Llyfrgell yn un o’r sefydliadau llawer rhy brin yng Nghymru sy’n gweinyddu’n fewnol yn Gymraeg. Fel sefydliad, mae’n parhau i weithio drwy’r Gymraeg, a hynny heb gefnogaeth na chydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru am bwysigrwydd effaith iaith hynny. Ymhellach, mae statws y Llyfrgell fel corff sy’n gweithio drwy’r Gymraeg wedi cael ei fygwth o ganlyniad i’ch penderfyniad chi fel Gweinidog. Rydych chi wedi ceisio pwyso ar y Llyfrgell i beidio dynodi swyddi fel rhai lle mae’r Gymraeg yn sgìl hanfodol, a hynny er gwaethaf pwysigrwydd gweithio drwy’r Gymraeg i ddefnydd yr iaith ar lawr gwlad. Byddai parhau â’r toriadau mewn termau real hyn, heb amheuaeth, yn ergyd arall i’r Gymraeg yng Ngheredigion.
“Yn ogystal, gresynwn eich penderfyniad i wrthod derbyn argymhelliad adroddiad annibynnol - adroddiad a gomisiynwyd gennych fel llywodraeth - i gynyddu ei chyllideb.
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn enghraifft brin o sefydliad cenedlaethol a leolir tu allan i Dde-ddwyrain y wlad. Mae’n gwneud cyfraniad diwylliannol ac economaidd hynod o bwysig mewn ardal lle mae eisoes prinder swyddi.”
Atodiad | Maint |
---|---|
Achub Swyddi’r Llyfrgell Genedlaethol.pdf | 43.92 KB |