Llythyr at y Gweinidog Addysg - Bil y Cwricwlwm

02.06.2020

Annwyl Weinidog Addysg, Kirsty Williams AS,

Ysgrifennwn i fynegi ein pryder difrifol ynglŷn â Bil y Cwricwlwm, fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Rydym ar ddeall bod y Bil yn ei ffurf bresennol yn gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm, ac yn cynnwys cymal fydd yn golygu bod y Gymraeg a'r Saesneg yn orfodol yn ddiofyn, ond yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion i ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn 7 oed yn eu hysgol nhw.

Mewn cyfarfod gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ddoe (1/06/2020), cadarnhaodd y Gweinidog mai dyma oedd y bwriad, gan ddweud wrthym “pe na byddai’r Saesneg yn orfodol yn y Bil, a dim ond y Gymraeg, byddai ffỳs mawr gan yr 80% o’r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg.”

Ni roddwyd unrhyw reswm arall dros y penderfyniad i wneud Saesneg yn orfodol, ac mae’n syfrdanol mai hyn yw’r cyfiawnhad. Mae’n dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau dysgu ieithoedd lleiafrifol, statws y Gymraeg o gymharu â’r Saesneg ac agwedd nawddoglyd tuag at y mwyafrif o bobl yng Nghymru sydd ddim yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno gweld ein plant yn gadael yr ysol yn rhugl eu Cymraeg. Nid yw codi bwganod fel hyn yn sail gall ar gyfer polisi fydd yn effeithio ar brofiadau addysgol cenhedlaeth o blant.

Fel y gwyddoch eisoes, rydym yn gwrthwynebu’n gryf y cynnig i wneud Saesneg yn orfodol am sawl rheswm. Yn gyntaf, yn ymarferol, nid oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg. Mewn gwirionedd, mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol.

Yn ail, yn y cyd-destun ieithyddol presennol, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad. Rydym yn rhannu eich nod o sicrhau bod holl blant Cymru yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, yn y cyd-destun ieithyddol sydd ohoni, a’r cyd-destun rhagweladwy am y degawdau i ddod, mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.

Nid yw'r Llywodraeth wedi cynnig tystiolaeth i gyfiawnhau'r cynnig hwn nad oedd yn rhan o argymhellion Donaldson. Rydym yn ymwybodol na wnaeth yr un arbenigwr, rhanddeiliad na chorff gyflwyno tystiolaeth i gynnig hyn yn ystod y gwaith ymgynghori. Mae hynny'n wahanol iawn i weddill y cwricwlwm newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth arbenigwyr ac eraill. Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi gallu darparu unrhyw reswm cyfreithiol dros y cynnig. Mae’n annerbyniol i'r Llywodraeth gyflwyno cynnig o'r fath heb dystiolaeth na chyfiawnhad.

Byddai gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu. Nid yw cadw Saesneg yn y ddeddf fel gofyniad cyffredinol ond gwneud eithriad ar gyfer y sector 'Cymraeg' yn ddigonol. O ystyried y dymuniad i ysgolion symud i fyny'r continwwm ieithyddol, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion sydd angen ond tynnu Saesneg yn llwyr o'r ddeddfwriaeth.

Mae’r cynnig o ‘optio mewn’ i’r cyfnod trochi gan ysgolion unigol yn peri risg sylweddol i addysg Gymraeg. Mae’n dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau trochi, sydd mor allweddol i lwyddiant addysg Gymraeg, ac yn peryglu eu parhad ar draws y wlad. Mae’n golygu byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethol a gwadu hawl disgyblion i addysg Gymraeg. Bydd yn rhwystro felly unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg a gweithredu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Os ydym am gyrraedd y miliwn, mae angen cynnydd mawr mewn addysg Gymraeg, gan symud at ddysgu’r Gymraeg ar un continwwm a Chymreigio ysgolion ar draws y wlad. Bydd y cynnig hwn yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Roeddem yn falch o’ch clywed chi’n dweud mewn cyfarfod gyda ni y llynedd mai eich bwriad chi gyda Bil y Cwricwlwm oedd codi statws y Gymraeg, a’ch bod yn agored i ollwng gorfodaeth Saesneg os oedd rhesymau da dros wneud hynny. Roeddem yn falch hefyd i chi gadarnhau mewn llythyr atom yn dilyn y cyfarfod hwnnw (21/06/19):

Nidyw’r cynnig fel y mae wedi’i fynegi yn y Papur Gwyn, sef rhoi dyletswydd ar bob ysgol a lleoliad meithrin a gyllidir i addysgu Saesneg, yn adlewyrchu’n bwriad. Byddai gwneud hynny’n arwain at oblygiadau anfwriadol i ysgolion cyfrwng Cymraeg a gyllidir a lleoliadau meithrin a gyllidir, megis y Cylchoedd Meithrin sy’n trochi plant yn y Gymraeg.

Felly, i fod yn hollol glir: ein cynnig yw y bydd y cwricwlwm newydd yn parhau i alluogi ysgolion a lleoliadau fel y Cylchoedd meithrin i drochi plant yn y Gymraeg. Byddaf yn sicrhau bod unrhyw gynigion deddfwriaethol yn ymwneud â Saesneg yn y cwricwlwm newydd yn adlewyrchu hyn.”

Nid ydym yn deall felly pam mae’r Bil yn cadw gorfodaeth o Saesneg ac yn cynnwys y cymal ‘optio mewn’. Pryderwn yn dilyn sylwadau Gweinidog y Gymraeg mai penderfyniad gwleidyddol yn unig yw hwn, heb gyfiawnhad addysgol, strategol na chyfreithiol.

Bydd y Bil yn y ffurf hon yn tanseilio addysg Gymraeg ar draws y wlad. Mae’n mynd yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth o weithredu un continwwm dysgu’r Gymraeg a’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae’r strategaeth Cymraeg 2050 yn ymrwymo’r Llywodraeth i sicrhau bydd 70% o blant yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg ni fydd hyn yn bosib os ydy’r Bil yn cael ei weithredu fel y mae.

Gwyddom o’n trafodaethau buddiol gyda chi eich bod yn llwyr gefnogol o addysg Gymraeg a’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle hanesyddol i sefydlu cwricwlwm fydd am y tro cyntaf yn ateb anghenion Cymru a chreu system addysg fydd yn sicrhau nad oes yr un plentyn yn colli allan ar yr etifeddiaeth sy’n hawl iddynt ein hiaith genedlaethol unigryw ni. Rydym yn erfyn arnoch i beidio â cholli’r cyfle hwn.

Edrychwn ymlaen at dderbyn sicrwydd gennych na fydd gorfodaeth o Saesneg yn rhan o’r Bil, ac nad penderfyniad i ysgolion unigol fydd gweithredu’r cyfnod trochi neu beidio.

Yn gywir,

Mabli Siriol
Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith

 

AtodiadMaint
200602 Llythyr KW.pdf97.58 KB