Ysgol Abersoch
Lôn Gwydryn
Abersoch
Gwynedd
LL53 7EA
Tachwedd 8fed, 2021
Swyddfa Moderneiddio Addysg
Adran Addysg Cyngor Gwynedd
Annwyl Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yr Adran Addysg,
Ysgrifennwn atoch ar ran Corff Llywodraethu Ysgol Abersoch i gymryd y cyfle olaf hwn i fynegi ein gobaith gwirioneddol yr ailystyria’r Cabinet ei benderfyniad ar ddyfodol Ysgol Abersoch ddydd Mawrth, Tachwedd 9fed.
Pleidleisiodd y Cabinet dros gau’r ysgol ar Fedi 28ain, 2021. Ar yr union ddiwrnod, cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer gwesty a swyddi newydd yn Abersoch. Yn ogystal, mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu 112 o dai ym Mhenrhos. Mae’r rhain yn swyddi, tai a gwasanaethau y dylai’r Cyngor eu cefnogi a’u darparu ar eu cyfer ac, mae’n amlwg, fod y penderfyniad i gau ysgol gynradd leol yn groes i gynnydd yn y boblogaeth a datblygiad.
Credwn y cynydda niferoedd disgyblion yn yr ardal hon wrth i swyddi a thai newydd ddod i Abersoch a Phenrhos. Yn y cyd-destun hwn, mae’n hollol amlwg fod yr amcanestyniadau a gynhwysir yn yr adroddiad yn ddiffygiol gan nad adlewyrchant effaith y cynlluniau hyn. Mae hwn yn bwynt eithriadol bwysig oherwydd rhoddwyd cryn bwyslais ar y ffigurau hyn trwy gydol y broses ac fe’i defnyddir fel y prif reswm dros gau Ysgol Abersoch.
Ni ellir derbyn niferoedd amcanestynedig disgyblion yr ysgol a’r ardal leol a gyflwynwyd gan y Cyngor heb eu hystyried ymhellach fel ag y maent oherwydd gwyddom fod galw am ein gwasanaethau. Yn naturiol, mae llanw a thrai yn niferoedd disgyblion ym mhob ysgol ond, teimlwn fod parhau â’r bwriad o gau ar bwynt isel heb roi’r cyfle i sefydlu ein mentrau yn anwybyddiad ar ran y Cyngor.
Dyma enghreifftiau o ymholiadau a dderbyniwyd oddi wrth tri ddarpar-riant yr wythnos hon yn unig (ar gyfer pedwar o blant) yn holi amdan cychwyn yn Ysgol Abersoch:
• “Fel rhiant plentyn ifanc sy'n byw yn Abersoch, ac sydd â chysylltiadau teuluol a chymunedol cryf ag Abersoch a'r ysgol, rwy'n bwriadu anfon fy mab i Ysgol Abersoch. Mae'r ysgol yn berffaith i ni ac o ystyried ei fod eisoes wedi bod yn y Cylch Meithrin, mae'n ddilyniant naturiol iddo fynd i Ysgol Abersoch."
Paul Evans,
Rhiant a Pherchennog busnes lleol, Abersoch
• “Ysgrifennaf yn y gobaith y gwyrdroir y penderfyniad o gau’r ysgol yn Abersoch. Mae gen i blentyn a hoffwn iddo fynychu’r ysgol pan fydd yn dair oed y flwyddyn nesaf a buasai’n berffaith iddo.
Diolch."
Carron Noon (a elwir hefyd yn Wright)
Trigolyn a Pherchennog busnes lleol
Ymhle mae’r dystiolaeth o feddwl strategol unedig eangfrydig? Mae’r penderfyniad o gau Ysgol Abersoch yn cael ei drin ar wahân ac yn ynysig. Fel yr amlygwyd gennym o’r blaen, deil Ysgol Llanbedrog fod dros gapasiti ac, eto, fe’i caniatawyd i dderbyn plant all-ddalgylch ar draul ysgolion cylchynol, yn groes i bolisi Gwynedd ei hun.
Ni chyflwynwyd eglurhad boddhaol i hyn ar wahân i’r datganiad nad yw Ysgol Llanbedrog yn rhan o’r ymgynghoriad. Nid yw’n briodol ystyried pob ysgol ar wahân ac, yn amlwg, mae addysg yn ei gyfanrwydd yn rhan hanfodol o’r jig-so sy’n cynnwys gwasanaethau, tai a swyddi.
Credwn yn bendant y dylid ystyried y darlun ehangach. Yn amlwg, ni dderbynia Abersoch, a’r hyn mae’n ei gynrychioli, gefnogaeth deilwng y Cyngor. Fodd bynnag, mae’n gymuned hynod weithgar a bywiog sy’n ymladd i gynnal ei hunaniaeth. Mae Abersoch yn cyfrannu mwy na’i siâr at incwm cyllid y Cyngor, un sy’n fodlon derbyn ond, am roi dim yn ôl. Mae’r rôl y chwaraea’r ysgol yn y gymuned a’i dylanwad ar ddirnadaeth a chynaladwyedd y Gymraeg a’r diwylliant yn aruthrol bwysig – rhywbeth na ellir ei amnewid na’i ail-greu ar ôl ei ddileu. Methodd yr Adran Addysg yn gyson ag ateb cwestiynau ar sut gall Ysgol Sarn Bach atgynhyrchu’r berthynas hon – mae’n hollol amlwg oherwydd, mewn gwirionedd, ni all.
Yr wythnos diwethaf, cerddodd disgyblion Ysgol Abersoch o amgylch y pentref i ddosbarthu llythyrau i siopau a busnesau’r pentref i’w gwahodd i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth addurno ffenestri Nadolig blynyddol – derbyniont dros ugain ymgais. Dilyna hyn eu taith yr wythnos flaenorol i ddathlu a hyrwyddo Diwrnod Shw’mae Su’mae ar y strydoedd ac yn y siopau â’r trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Bu hon yn daith hir ac emosiynol – pob cam ohoni. Ni theimlwn y gwrandawyd arnom, i’r gwrthwyneb o’r hyn a honna’r Adran Addysg, ac ni roddwyd ystyriaeth deg i’n hawgrymiadau ac ni ddilynwyd proses deg. Clust fyddar a gafwyd i’n ymresymiad neu wrthbwynt a gyflwynid gennym ac fe’u hanwybyddwyd â datganiadau ‘copi a gludo’ cyffredinol. Gohebiaeth druenus a fu rhwng yr Adran Addysg a’r Corff Llywodraethu. Ni dderbyniwyd unrhyw neges ar wahân i’r e-bost cyffredinol a dderbyniodd pob ymatebwr i’r ymgynghoriad. Yr enghraifft ddiweddaraf o hyn, hyd yn oed ar ôl penderfyniad sylweddol y Cabinet o gau’r ysgol a wnaed ar Fedi 28ain, nas derbyniwyd unrhyw ohebiaeth oddi wrth yr Adran Addysg tan Hydref 15fed pan hysbyswyd ni o ddyddiad y Pwyllgor Craffu – arwydd o ddiffyg parch a diffyg cwrteisi.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gefnogaeth diwyro a dderbyniom oddi wrth gymaint o unigolion a busnesau, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith a’n Haelod Lleol, Cynghorydd Dewi Roberts. Tynnodd Ffred Ffransis sylw at nifer o argymhellion ymarferol posibl sydd angen sylw ac ymgynghori gofalus. Ar ddau achlysur, llwyddodd Cyng. Roberts alw penderfyniadau’r Cabinet yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ac i’r Pwyllgor hwnnw ddychwelyd y penderfyniad i’r Cabinet – profa hyn bryder a chryfder y teimlad na ddilynwyd y broses yn deg.
Fe’n brawychwyd o glywed Cyng. Cemlyn Williams, yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Craffu diweddar, wrth ymateb i ymholiad, yn datgan mai ‘cyfarfodydd cyhoeddus’ oedd y rhai anffurfiol a gynhaliwyd â’r rhieni, staff a llywodraethwyr – yn sicr, ac amlwg, nid oeddynt! Nid oedd y cyfarfodydd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol ac, yn sicr, ni hysbysebwyd hwy i gymuned ehangach Abersoch. Dim ond un enghraifft yw hon o'r ffordd y mae'n ymddangos, ar bob cyfle, fod yr ymgyrch a'r penderfyniad o gau Ysgol Abersoch yn cael ei gorfodi ar bob cyfrif a bod camddehongli ffeithiau yn parhau er anfantais i'r broses ddemocrataidd.
Gweithredodd yr Adran Addysg yn groes i’w pholisi ei hun wrth ddatrys problemau trafnidiaeth un disgybl na fyddai’n gallu mynychu blwyddyn Meithrin Ysgol Sarn Bach. Er ei bod yn galonogol nad amddifadir y disgybl hwn o’i addysg, mae’n ddiddorol, yn yr achos hwn, y bodlona’r Cyngor dorri ei reolau ei hun i’w siwtio ei hun tra, ar yr un pryd, yn creu cynsail i blant eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Pe caeir Ysgol Abersoch, a ydym i dderbyn y darparir trafnidiaeth am ddim i unrhyw ysgol i blant Meithrin y dyfodol? Beth yw goblygiadau hirdymor y plygu hael a hyblyg hwn o bolisi’r Cyngor ei hun pan y’i gweithredir ar draws Gwynedd? Dylid nodi, yn arbennig, yr ymddengys polisïau’r Cyngor yn anhyblyg iawn pan fo eisiau dod o hyd i ffordd o gadw Ysgol Abersoch ar agor.
Fel Llywodraethwyr, ymdrechom i gydweithio â’r Cyngor o ddechrau’r broses hon. Daeth yr Adran Addysg atom i chwilio am syniadau i geisio gwyrdroi’r sefyllfa, ynghyd â dweud y byddai yn ein cynorthwyo i ddarganfod ffordd o gadw Ysgol Abersoch ar agor. O ganlyniad, er gwaethaf yr amseroedd digynsail a heriol hyn, bachodd Ysgol Abersoch ar y cyfle a chyflwynodd yn eglur fesuriadau cynaliadwy i fynd i’r afael â niferoedd disgyblion isel. Ffrydia’r Cylch Ti a Fi a’r Cylch Meithrin yr ysgol, gan ddarparu parhad i rieni a’u plant o’u geni hyd at wyth oed. Gwelodd y Mudiad Meithrin, yr arbenigwr blynyddoedd cynnar uchel ei barch, yn dda drwy ymddiried yn Ysgol Abersoch a buddsoddi yn y mentrau cymunedol hyn. Anwybyddodd yr Adran Addysg bwysigrwydd y rhain ar niferoedd disgyblion – esgeulustod difrifol ar ei rhan. Yn yr un modd, diystyrwyd ein cynlluniau i gofrestru fel Ysgol Draeth. Gobeithiwn y gall y Cyngor achub ar y cyfle newydd hwn o elwa o’n hadnoddau naturiol.Mae’r rhain yn gyfleoedd blaenllaw i arddangos yma ferion addysgol sydd mor addas i’r cwricwlwm newydd.
Mae’r penderfyniad o gau Ysgol Abersoch am newid gwead cymdeithasol ein cymuned er gwaeth am byth. Peidied aelodau’r Cabinet â meddwl na chaiff cau Ysgol Abersoch effaith niweidiol ar sawl lefel – i’r disgyblion, staff a’u teuluoedd, y gymuned leol ac ehangach, yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, heb sôn am amgyffrediad o Gyngor Gwynedd, Plaid Cymru a’r broses ymgynghori yn gyfan gwbl. Mae goblygiadau'r ymgynghoriad dadleuol hwn yn denu dilynwyr cyfryngol fel gwelwyd ar The One Show, Y Byd ar Bedwar a rhaglen radio Jason Mohammad ar BBC Radio Wales yn ddiweddar, i enwi ond rhai. Mae gan y penderfyniad hwn effaith pellgyrhaeddol, a effeithia nid yn unig ar Ysgol Abersoch a’i chymuned ond, hefyd, ysgolion eraill yn lleol ac ar hyd a lled Cymru.
Cyflwyna Ysgol Abersoch addysg unigryw a llwyddiannus mewn lleoliad unigryw, dan amgylchiadau eithriadol. Mae’n ddoth olwyn i’r iaith Gymraeg a diwylliant, sy’n arddangos ein treftadaeth heddiw a sicrhau ei pherthnasedd yn y dyfodol. Galwn arnoch i achub ar y cyfle i brofi y gwnaethoch wrando a deall llais ac ewyllys y bobl a gynrychiolwch, a’ch annog i ailystyried y mater hwn a phleidleisio dros ddyfodol positif i’n hysgol, cymuned a chenedlaethau’r dyfodol.
Yr eiddoch yn gywir,
MARGOT JONES AC EIFIONA WOOD
Ar ran Corff Llywodraethol Ysgol Abersoch