Beirniadu geiriau gwag Llywodraeth Cymru ar ail dai

Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu ymateb y Gweinidog Tai, Julie James, i gwestiynau yn y Senedd ddoe gan Weinidog Cysgodol Tai Plaid Cymru, Delyth Jewell, ynghylch yr argyfwng ail dai.  Pan holodd Delyth Jewell AS a fyddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gau’r bwlch cyfreithiol - neu ‘loophole’ - sy’n galluogi i berchnogion ail dai osgoi talu trethi domestig a’r premiwm treth cyngor, atebodd y Gweinidog drwy ddweud “nad ydw i’n siŵr fy mod yn cytuno ei fod yn ‘loophole’”, cyn mynd ymlaen i egluro fod Llywodraeth Cymru yn y broses o “edrych i weld beth ellir ei wneud” i ddelio â’r argyfwng fyddai’n osgoi unrhyw “ganlyniadau anragweldadwy ar y farchnad dai”. 

 

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Nid Yw Cymru Ar Werth Cymdeithas yr Iaith, Osian Jones:
 

“Tra roedd y Gweinidog yn ymddangos yn eithaf cydymdeimladol ar y mater, y gwir amdani yw na all eiriau clên brynu tŷ. Mae Julie James yn Weinidog mewn llywodraeth, ac mae gan Lywodraeth Cymru, yn yr achos hon, nifer o bwerau sydd eu hangen i weithredu’n awr er budd ein cymunedau, ond am ryw reswm maent yn dewis peidio eu defnyddio. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’n gyson am gyfres o fesurau y dylid eu cymryd i unioni’r argyfwng, gan gynnwys rhoi grymoedd i awdurdodau lleol daclo’r argyfwng tai. Beth sydd ei angen gan y Llywodraeth ydi gweithredu, nid rhagor o eiriau gwag - yn enwedig o ystyried fod y broblem hon wedi bodoli ers degawdau! 

“Mae ymgais y Gweinidog i israddio’r argyfwng, gan ddweud na fyddai hi’n defnyddio’r term ‘loophole’ i ddisgrifio’r bwlch gyfreithiol sy’n galluogi i berchnogion ail dai beidio talu premiwm treth cyngor yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad o realiti’r arfgywng ar lawr gwlad.”

Ychwanegodd: 

“Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod ein deiseb ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ar y 9fed o Chwefror; rydym yn galw ar y pwyllgor hwnnw i benderfynu rhoi’r mater yn nwylo’r Senedd gyfan mewn cyfarfod llawn cyn cynted â phosib. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod fod yr argyfwng tai yn argyfwng sy’n effeithio ar Gymru gyfan a mynd ati’n ragweithiol i flaenoriaethu buddiannau cymunedau, nid cyfalafiaeth.”