‘Na’ i ganoli ysgolion Môn yn ystod argyfwng Covid

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, yn galw ar y cyngor i adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ac i ddileu ei gynlluniau i gau ysgolion pentre fel mater o frys.

Esbonia’r llythyr fod ‘argyfwng Covid-19 wedi dangos na bydd am y dyfodol gweladwy yn addas i gau ysgolion pentre, ac anfon llawer o blant ar fysus i ysgolion mawr canolog’, gan fynd ymlaen i ofyn i’r Cyngor ‘roi arweiniad’ mewn ymateb i’r argyfwng iechyd ‘drwy roi heibio cynlluniau ad-drefnu a bygwth cau ysgolion.’

Ychwanega’r llythyr: ‘Nid yn unig y dylid trysori'r ysgolion pentrefol lleol hyn a'u datblygu yn nhymor yr hydref, ond dylid hefyd ystyried, dros dro beth bynnag, ailagor rhagor o ysgolion neu neuaddau pentre er mwyn osgoi teithio di-angen i'r plant a gofod diogel wrth eu haddysgu.’

MAE’N RHAID I BOPETH NEWID

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar y Cyngor yn y llythyr i adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir yn Llangefni fel mater o frys, am resymau ‘diogelwch yn ogystal ag am resymau addysgol’, gan bwysleisio y byddai’r adeilad ‘yn barod erbyn hyn heblaw am yr holl ddadlau am ad-drefnu addysg.’

Tanlinellir yn y llythyr y gallai’r Cyngor ennill consensws ‘yn rhwydd iawn’ ymysg trigolion yr ynys:   

 ‘Ar adeg argyfwng, fe gewch chi gonsensws yn rhwydd iawn i roi cais diwygiedig i mewn mor fuan â phosib am gyllid i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Corn Hir ac addasiad ar gyfer Ysgol y Graig - a hynny ar gyfer y nifer cynyddol o blant tref Llangefni ei hun. Yr un pryd gellwch roi sicrwydd am ddyfodol Ysgol Bodffordd (sy'n llawn ac angen estyniad bach) ac Ysgol Talwrn (sydd ond 4 o dan capasiti). O roi heibio'r dadlau, gall pawb gydweithio'n rhwydd i sicrhau'r atebion gorau ar gyfer y plant ar adeg argyfwng.’ 

Meddai Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ysgolion gwledig: 

‘Mae argyfwng Covid-19 yn dangos yn gliriach nag erioed fod ysgolion gwledig yn asedau i'w trysori, a bod angen rhoi terfyn ar gynlluniau i ganoli addysg, cynlluniau sydd sydd yn bygwth cymunedau gwledig. Mae gwirioneddol angen i Gyngor Sir Ynys Môn wrando ar drigolion yr ynys ac ymrwymo i gefnogi, nid datgymalu, ein cymunedau. Nid yn unig hyn, fe ddylai’r Cyngor hefyd symud yn gyflym i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Corn Hir Llangefni mor fuan â phosib; mae Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi ailgychwyn gwaith adeiladu ysgol a does yna ddim rheswm pam na allwn ddilyn eu hesiampl nhw yma yn Ynys Môn. Nid ydy’r sefyllfa bresennol Ysgol Corn Hir yn deg ar y disgyblion, nac ychwaith ar y rhieni a’r athrawon.