2006 - Blwyddyn Deddf Iaith

Aneurin Bevan Am 2 o'r gloch heddiw bydd Rali-brotest Deddf Iaith yn cael ei chynnal ar Stryd y Frehnines, Caerdydd (cychwyn ger cerflun Aneurin Bevan). Bwriad y rali yw crisialu holl ymgyrchoedd gwahanol Cymdeithas yr Iaith a fu’n tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Bydd y Gymdeithas yn tynnu sylw at ddiffyg darpariaeth Gymraeg mewn siopau ffôn symundol, banciau a chymdeithasau adeiladu, archfarchnadoedd a siopau cadwyn. Ymhlith y siaradwyr yn y Rali, bydd Steffan Webb o Mentrau Iaith Cymru a Steffan Cravos, Cadeirydd y Gymdeithas.Meddai Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mai eleni yn flwyddyn hollbwysig i’r Gymraeg. Bwriad y Rali yw tynnu sylw at yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr sydd yn mynd i’r afael ag anghenion pobl Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.""Daw’r rali heddiw yng nghanol cyfnod prysur o achosion llys i aelodau’r Gymdeithas ac ar gychwyn cyfnod o drafodaeth ac ymgynghori gwleidyddol trawsbleidiol ynghylch pa fath o ddeddf iaith newydd sydd ei angen.""Yn sgil penderfyniad Rhodri Morgan a’i lywodraeth benderfynu diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae’r drafodaeth yma yn un holl bwysig. Ni all Prif Weinidog Cymru anwybyddu yr angen am drafodaeth sydd yn codi yn sgil ei benderfyniadau ef ei hun."*Nodiadau*Cynhelir ymgynghoriad ar yr angen am Deddf Iaith Newydd ar y 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd am 7 o’r gloch. Yn cadeirio bydd y cyfreithiwr a’r arbenigwr ieithyddol Emyr Lewis. Hefyd yn siarad fe fydd Colin Williams, aelod o fwrdd yr Iairh Gymraeg ac arbenigwr ieithyddol rhyngwladol a John Elfed Jones, Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg.