Flwyddyn dyngedfennol i'r Gymraeg yn siroedd Gwynedd a Môn

Ar gychwyn y flwyddyn newydd, mae aelodau o'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg yn rhybuddio y gall 2014 fod yn flwyddyn dyngedfennol i ddyfodol y
Gymraeg yn siroedd Gwynedd a Môn.

Yn ystod y flwyddyn mi fydd Cynghorau Sir Gwynedd a Môn yn penderfynu cymeradwyo
neu beidio eu Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, cynllun sydd am weld adeiladu
bron i 8,000 o dai rhwng y ddwy sir yn ystod y deg mlynedd nesaf.

Mae'r mudiad iaith yn cwestiynu dilysrwydd y Cynllun Datblygu (fydd yn cael ei
gyhoeddi yn ystod y Gwanwyn) am amryw o resymau, ac yn gweld bod yr ychydig
hynny o gymunedau 70% sydd ar ôl mewn perygl o ddiflannu am byth, os caniateir
i'r cynllun fynd yn ei flaen.

Dywedodd Meirion Llywelyn, aelod o Bwyllgor Gweithredol Cynllun Datblygu Lleol
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Dyma'r amser i ni fel caredigion yr iaith ddeffro i'r hyn sydd ar droed yma yn
y gogledd orllewin. Mewn ychydig o fisoedd bydd cynllun i adeiladu 8,000 o dai
yn mynd gerbron cynghorwyr yn siroedd Gwynedd a Môn. Mae'r ddau Gyngor wedi
datgan eu hunain na fydd codiad sylweddol ym mhoblogaeth y ddwy sir yn ystod y
10 mlynedd nesaf, felly rhaid gofyn o ddifrif, tai i bwy fydd y rhain?”

“Rydym yn bryderus iawn am yr hyn fydd yn cael ei gynnig, ac yn gweld y cynllun
yma fel y ffactor pwysicaf ers degawdau, i ddyfodol y Gymraeg fel iaith
gymunedol. Mae'r holl broses o lunio'r Cynllun Datblygu yn ddiffygiol, ac rydym
yn grediniol bod amryw o gamau pwysig heb eu dilyn.”

“Yn gyntaf, o be allwn ddeall, nid oes unrhyw waith ymchwil manwl wedi ei
gwblhau er mwyn mesur yr angen lleol am dai gan y ddau Gyngor. Yn ail, mae'r
ddau Gyngor wedi derbyn amcangyfrifon poblogaeth Llywodraeth Cymru am y ddeg
mlynedd nesaf heb gwestiwn. Mae mynd rhagddi i lunio Cynllun Datblygu heb
ymgymryd ar camau hanfodol hyn yn wallgofrwydd, ac yn dangos diffyg gweledigaeth
sylfaenol y ddau Gyngor am ddyfodol y Gymraeg, a dyfodol cymunedau Cymraeg”.

“Os am sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei
chadarnleoedd, rhaid canfod atebion sydd yn caniatáu i'r cymunedau hynny fyw, yn
hytrach na'i boddi gyda miloedd o dai diangen”

“Dyna paham felly ein bod ni fel pwyllgor wedi cysylltu â phob Cyngor Cymuned yn
y ddwy sir, yn gofyn iddynt wrthod cydweithio, tan y bydd y ddau Gyngor Sir yn
cyhoeddi eu canfyddiadau o'r hyn sydd wedi ei gyflawni ganddynt er mwyn mesur yr
angen lleol am dai, yr angen am dai cymdeithasol, a'r angen am dai i'r henoed.

Ychwanegodd Angharad Tomos, aelod Bwyllgor Gweithredol Cynllun Datblygu Lleol
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mi fydd 2014 yn flwyddyn hynod o bwysig i'r Gymraeg, rydym fel Cymdeithas wedi
sefydlu pwyllgor gweithredol sydd yn ymgyrchu yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol,
byddwn hefyd fel mudiad yn cyhoeddi ein bil cynllunio ein hunain yn fuan yn y
flwyddyn newydd, gan osod dyheadau a dyfodol ein cymunedau fel blaenoriaeth yn
ein bil.”

“Rydym hefyd yn symud yr ymgyrch weithredol yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol yn
ei blaen, yn gyntaf byddwn yn cyfarfod a Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd yn ystod
mis Ionawr er mwyn trafod ein pryderon am y cynllun. Byddwn hefyd yn cyfarfod a
swyddogion cynllunio yn y ddau Gyngor yn fuan”

“Rydym hefyd yn y broses o greu cysylltiadau gydag amryw o gymunedau ar draws y
ddwy sir, er mwyn creu ffrynt unedig a chryf yn erbyn y cynllun anghynaladwy
hwn”

“Yn ystod misoedd y Gwanwyn byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus er
mwyn codi ymwybyddiaeth bobol o be fydd adeiladu 8,000 o dai yn ei olygu, ac i
drafod ein syniadau ni am drefn gynllunio decach i Gymru”

“Byddwn hefyd yn cynnal Rali boblog yng Nghaernarfon ar Fawrth 26 ain, fydd yn
gyfle i gannoedd os nad miloedd ddod allan ar y strydoedd i leisio barn yn erbyn
y cynllun, rydym hefyd yn gobeithio trefnu rali debyg yn Llangefni ar gychwyn yr
haf.”

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ein safiad yn erbyn dadfeiliad ein cymunedau
Cymraeg, dyma'r ymgyrch bwysicaf i ni ei gwynebu ers degawdau, ac rydym yn mawr
obeithio y bydd gan gynghorwyr Gwynedd a Môn y clustiau i glywed a'r llygaid i
weld na fydd dyfodol i'r Gymraeg heb y cymunedau hynny sydd yn ei chynnal hi.”