Mae mudiad iaith wedi collfarnu'r awgrym gan y Gweinidog Lesley Griffiths y bydd hi'n caniatáu adeiladu 366 o dai ym Mangor.
Meddai Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n warthus bod Llywodraeth Cymru wedi ochri efo cwmni o Lannau Merswy yn hytrach na pharchu'r broses ddemocrataidd a barn Cyngor Gwynedd ar fater y tai ym Mangor. Nid oes lle i ragor o blant yn Ysgol y Garnedd fel ag y mae, mae rhoi caniatâd i 366 o dai ychwanegol yn golygu y bydd bygythiad anferth i'r Gymraeg yn y rhan hon o Wynedd. Mae Llywodraeth Cymru a Lesley Griffiths wedi dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o'r sefyllfa leol, ac wedi gwrthod ystyried y Gymraeg fel ffactor cynllunio - unwaith eto.
"Mae hyn yn codi cwestiynau am ymrwymiad Lesley Griffiths i'r Gymraeg. Byddwn ni'n ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ni ac eraill i herio hyn. Mae'n rhyfedd fod y Gweinidog yn gallu dod o hyd i amser i niweidio'r Gymraeg yn lleol yn y fath fodd, ond mae hi wedi bod yn oedi rhag cyhoeddi'r canllawiau cynllunio iaith ers dros flwyddyn. A dyw hi heb esbonio'r oedi yna. Mae'n dangos nad oes ots gyda hi am gyflwr y Gymraeg."