400 mewn parti i ddathlu strategaeth iaith Sir Gâr

Daeth dros 400 o bobl i barti Cymdeithas yr iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw i ddathlu fod y Cyngor wedi cyhoeddi amserlen gweithredu ei strategaeth iaith newydd.

Cafwyd perfformiadau gan fandiau o Sir Gar a oedd wedi bod yn ymgyrchu - Bromas, Y Banditos a Castro - a gan Dewi Pws a Kariad y Klown. Mewn sesiwn "Munud dros Sir Gar" datganodd enwogion lleol am funud yr un pam bod hwn yn ddatblygiad mor bwysig. Yn eu plith yr oedd y ddau gynghorydd a arweiniodd y gweithgor ( Cefin Campbell - Plaid ) a Callum Higgins - Llafur ), yr actorion Andrew Teilo a Gwyn Elfyn, y darlledydd Iola Wyn a chyn-arweinydd UMCA Mared Ifan.

Eto i gyd, cafodd potel mawr o champagne ei anfon yn ôl o'r parti a dangosodd aelodau'r Gymdeithas yn dangos posteri i bwysleisio eu bod yn cadw "Llygad Barcud" ar y Cyngor Sir. Esboniodd cadeirydd y Gymdeithas yn Nghaerfyrddin, Sioned Elin:

"Am unwaith mae gwir achos i ddathlu gan fod y Cyngor Sir yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan o ran y strategaeth iaith newydd a'r amserlen i'w gweithredu. Haeddant glod am ymateb i bobl ledled y sir a oeddent wedi dychryn o weld ffigurau'r Cyfrifiad o ran dirywiad y siaradwyr Cymraeg. Eto i gyd rydyn ni'n ymwybodol fod rhai swyddogion tu fewn i'r Cyngor sy'n debyg o geisio arafu'r broses a chyfyngu ar unrhyw newidiadau. Rydym yn ymwybodol hefyd fod angen i'r Pwyllgor newydd wneud gwaith ychwanegol i sicrhau parhad i gymunedau Cymraeg yn hytrach na byd addysg Gymraeg yn unig.

"Felly rydyn ni wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus "Dydd y Cyfri" Sadwrn 18ed Ionawr i ddadansoddi a fydd y Cyngor erbyn hynny wedi cymryd camau mawr i weithredu'r polisiau newydd ac fe gadwn y champagne tan y diwrnod hwnnw ! Mae'r diwrnod hwnnw yn union ddwy flynedd ar ol y rali fawr yng Nghaerfyrddin, ac yn naw mis union wedi i'r Cyngor fabwysiadu'r strategaeth iaith - digon o amser i esgor ar ddatblygiadau newydd ! Yn y cyfamser, byddwn yn cadw Llygad Barcud ar y Cyngor ac yn trafod gyda swyddogion gwahanol adrannau. Ond cyfle i ddathlu sydd heddiw fod y llwybr hwn wedi agor."