5 am 5 ym Mar 5! - Cymdeithas yn cyhoeddi ychwanegiadau i Lineups y 'Steddfod

gigs-steddfod-abertawe.jpgBydd cyfle i fynychwyr gigs yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe weld hyd yn oed mwy o fandiau'n perfformio yn y brifwyl eleni. I gyd-fynd â hyn bydd y thema '5' yn amlwg iawn hefyd wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi y bydd 5 band yn perfformio am 5 noson yn eu canolfan Bar 5 yng nghanol Abertawe.

Llwyddodd y Gymdeithas i gipio gwobr 'Digwyddiad Byw'r Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am eu gigs yn Eisteddfod 2005, ac o edrych ar bwy sy'n chwarae eleni ac ar y lleoliadau gwych, ni fyddai'n syndod eu gweld yn cystadlu am y wobr eto eleni.Yn ogystal a dod a pherfformwyr mwyaf poblogaidd y sin i Abertawe, mae'r Gymdeithas hefyd yn ymfalchio yn ei hamcanion o gynnig gwerth am arian a rhoi cyfle i fandiau newydd. Un o aelodau Pwyllgor Adloniant Lleol y Gymdeithas eleni yw David Bryer. Meddai:"Wedi i griw'r gogledd flasu llwyddiant cystal llynedd roeddem yn benderfynol i geisio gwneud sioe dda ohoni eleni yma yn Abertawe. Mae cymaint o fandiau Cymraeg o gwmpas ar hyn o bryd a phob un yn ysu i chwarae yn y 'Steddfod, sy'n uchafbwynt y calendr cerddoriaeth Cymraeg, roedd rhaid i ni geisio gwasgu gymaint â phosib i mewn i'n nosweithiau.""Mae'n bosib iawn na fyddai artistiaid fel Radioflyers, Gola Ola a Lowri Evans yn cael cyfle i berfformio yn y 'Steddfod fel arall ac rydym yn awyddus iawn i hybu talent newydd."Roedd tim lleol y Gymdeithas hefyd yn awyddus i gynnal nosweithiau yng Nghanol dinas Abertawe i ddangos i ymwelwyr cystal noson allan sydd i'wchael yno yn ogystal â rhoi adloniant Gymraeg ar stepen drws y trigolion lleol. Mae Bar 5 yn rhan o glwb nos Barons, sy'n enwog fel lleoliad ffilmio golygfeydd y ffilm Twin Town, a ni ellid fod yn fwy canolog o ran bwrlwm bywyd nos y ddinas. Ychwanegodd David"Mae Bar 5 yn berffaith o ran lleoliad gan ei fod mor agos i holl fwrlwm Stryd Wind, sef 'y lle' i fynd allan i fwynhau. Mae'n glwb nos o safon, sydd yn boblogaidd iawn gyda thrigolion y ddinas ers cryn amser nawr."Yn ôl yr hen ddywediad, 3 ydy'r rhif hud, ond mae'r Gymdeithas yn credu heb os mai 5 fydd y rhif hud i'r rhai sydd yn edrych ymlaen at y gigs yn Abertawe eleni.Pwyswch yma i ymweld â gwefan: Gigs Steddfod Abertawe 2006