50 diwrnod i fynd meddai'r Gymdeithas wrth y Cyngor

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd cannoedd o bobl yn dod ynghyd i ddigwyddiad mawr yn uned y cyngor ar faes yr Eisteddfod bum deg diwrnod i heddiw (2pm Gwener 8ed Awst). Bydd dirprwyaeth o'r Gymdeithas yn cyfarfod ag arweinydd y Cyngor, Cyng kevin Madge, am 12.00 Ddydd Gwener y 4ydd o Orffennaf i geisio sicrwydd fod y Cyngor o ddifri am weithredu strategaeth iaith newydd.
 
Esboniodd Sioned Elin:
"Ein hawydd yw cael parti mawr ar faes yr Eisteddfod i ddathlu fod y Cyngor Sir yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan gyda strategaeth iaith newydd. Ond rydyn ni'n ymwybodol fod dros 3 blynedd wedi mynd heibio ers y Cyfrifiad, 18 mis ers ein rali fawr yng Nghaerfyrddin, ac nad yw'r Cyngor wedi gwneud unrhyw beth ers mabwysiadu'r strategaeth newydd a benderfynwyd ei derbyn dros y Pasg. Os bydd raid, fe gyhoeddwn nad yw'r Cyngor o ddifri a throi parti yn brotest ar faes y Steddfod."
 
Ym mis Ebrill eleni fe wnaeth y Cyngor dderbyn adroddiad ac argymhellion Gweithgor y Gymraeg, a ffurfiwyd gan y Cyngor yn Ionawr 2013, fel ymateb i'r dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn ôl Cyfrifiad 2011. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i roi amserlen yn ei lle i weithredu'r argymhellion hynny ac i wneud gwaith pellach ym maes cynllunio ac i roi ystyriaeth bellach i sut i gryfhau cymunedau'r sir a newid gweinyddiaeth fewnol y Cyngor i'r Gymraeg.
 
Fel symbol o'r dewis sy'n wynebu'r Cyngor, gwnaeth aelodau o'r Gymdeithas heddiw glymu balŵns lliwgar addas i ddathliad i un ochr o fynedfa Neuadd y Sir, a balŵns du mwy difrifol ar yr ochr arall o'r fynedfa.
 
Y stori yn y wasg: